Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 29: cofrestru arwystlon cyfreithiol a gweithredoedd amrywio arwystl

Diweddarwyd 17 April 2023

Applies to England and Wales

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

1. Cyflwyniad

Mae modd gwneud arwystl ar ffurflen CH1 yn unol â rheol 103 o Reolau Cofrestru Tir 2003. Nid yw’r ffurflen hon yn benodedig a gall rhoddwyr benthyg ddefnyddio arwystl wedi ei deilwrio i’w gofynion arbennig eu hunain.

2. Ffurfiau arwystl cymeradwy

Gall rhoddwyr benthyg gael eu holl ffurfiau arwystl wedi eu cymeradwyo gan yr Adran Trefniadau Masnachol ym Mhrif Swyddfa Cofrestrfa Tir EF. Daw’r manteision canlynol o gymeradwyo arwystlon.

  • Nid oes angen ffurflen RX1 ar wahân i gofrestru cyfyngiad safonol y gwneir cais amdano yn yr arwystl
  • Nid oes angen ffurflen CH2 ar wahân i gofrestru ymrwymiad i roi benthyciadau pellach y gwneir cais amdano yn yr arwystl
  • Byddwn yn creu codau cyfrifiadurol ar gyfer rhoddwyr benthyg sydd â ffurfiau arwystl cymeradwy a fydd yn sicrhau bod eu henwau a chyfeiriad(au) ar gyfer gohebu y cytunwyd arnynt a chofnodion cyfyngiadau ac ymrwymiad priodol yn cael eu cofnodi’n gywir yn y gofrestr bob amser

Gweler cyfarwyddyd ymarfer 30: cymeradwyo dogfennau morgais am fanylion y broses gymeradwyo.

3. Cais i gofrestru arwystl

Dylai cais i gofrestru arwystl gynnwys y canlynol:

Os yw’r arwystl gan endid tramor, bydd yn rhaid iddo gydymffurfio â’r gofynion yn Neddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodaeth) 2022. I gael gwybodaeth am y Ddeddf hon a thystiolaeth y mae’n rhaid ei darparu i Gofrestrfa Tir EF, gweler cyfarwyddyd ymarfer 78: endidau tramor.

Rhaid i arwystl o ran gynnwys cynllun yn nodi’r eiddo, oni bai y gellir ei adnabod yn glir ar gynllun teitl yr arwystlwr, pryd gellir ei ddisgrifio trwy gyfeirio at y cynllun teitl hwnnw. Os yw’r arwystl yn cynnwys cynllun, rhaid i’r cymerwr benthyg lofnodi’r cynllun. Dylai’r ceisydd gwblhau’r ail opsiwn ym mhanel 3 y ffurflen AP1 hefyd, a ffurflen RX1 lle bo’n berthnasol.

Sylwer y diwygiwyd ffurflen CH1 ar 1 Awst 2022 gan Reolau Cofrestru Tir (Newidiad) 2022 i’w gwneud yn ofynnol i ddarparu rhif adnabod endid tramor wrth wneud cais i gofrestru arwystl cyfreithiol gan endid tramor. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am hyn yng nghyfarwyddyd ymarfer 78 hefyd. Pan fo arwystl ar ffurf arwystl y rhoddwr benthyg ei hunan, rhaid cynnwys rhif adnabod endid tramor y cymerwr benthyg gyda’r cais.

Nid oes angen ichi gyflwyno unrhyw ddogfennau morgais corfforedig trwy gyfeiriad yn yr arwystl ei hunan (er enghraifft, rheolau cymdeithas adeiladu, amodau morgais, neu gytundeb benthyciad).

Trefn arwystlon cofrestredig, rhyngddynt eu hunain, yw’r drefn y cânt eu cofnodi mewn cofrestr unigol (adran 48(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, rheol 101 o Reolau Cofrestru Tir 2003). Fodd bynnag, mae hyn yn ddarostyngedig i “gofnod yn y gofrestr unigol i’r gwrthwyneb”. Os ydych am i ni wneud cofnod wrth gofrestru arwystl i’r perwyl bod gan yr arwystl flaenoriaeth dros arwystl cofrestredig sy’n bodoli, dylech nodi’n glir yn y cais (ar ffurflen AP1 yn ddelfrydol) eich bod am wneud cofnod o’r fath fel rhan o’r cais. Mae’r canlynol yn enghraifft pryd y byddech, o bosibl, am wneud cofnod o’r fath.

  • Mae arwystl A yn cael ei greu cyn arwystl B (felly mae gan arwystl A flaenoriaeth dros arwystl B, fel y cyntaf o ran amser – adran 28(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).
  • Caiff rhybudd ei gofnodi yn y gofrestr o ran arwystl A.
  • Wedi hynny, y mae arwystl B yn cael ei gwblhau trwy gofrestriad – bryd hyn, effaith nodi arwystl A yw bod ei flaenoriaeth yn cael ei gwarchod fel pe bai yn erbyn arwystl B (adran 29(2)(a)(i) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).
  • Yn hwyrach, mae arwystl A hefyd yn cael ei gwblhau trwy gofrestriad.

Gellir dadlau bod cadw’r rhybudd o ran arwystl A gyfwerth â “chofnod yn y gofrestr unigol i’r gwrthwyneb” ac felly’n caniatáu i arwystl A gadw ei flaenoriaeth dros arwystl B. Ond efallai yr hoffech hefyd, wrth wneud cais i gofrestru arwystl A, wneud cais am gofnod sy’n darparu’n benodol i arwystl A gael blaenoriaeth dros arwystl B. Mae’n debygol y byddwn yn anfon rhybudd o wrthwynebiad ar berchennog arwystl B cyn gwneud cofnod o’r fath.

Ni fyddwn yn tynnu ymaith y rhybudd o ran arwystl yn awtomatig wrth gwblhau grant yr arwystl hwnnw trwy gofrestriad wedi hynny, ond byddai’n ddoeth, wrth wneud cais i gofrestru’r arwystl, i nodi’n glir bod y rhybudd i barhau yn y gofrestr, er mwyn i hyn ddigwydd; gweler cyfarwyddyd ymarfer 19: rhybuddion, cyfyngiadau a chofnodi buddion trydydd parti yn y gofrestr.

Os gwneir cais unigol i gofrestru dau arwystl neu ragor ar yr un pryd, i’w cofrestru gyda threfn flaenoriaeth sy’n wahanol i’w dyddiadau creu, sicrhewch eich bod yn nodi trefn y flaenoriaeth yn glir wrth wneud y cais. Mewn achosion o’r fath, bydd ein systemau gwaith cais yn gosod arwystlon yn nhrefn dyddiad, a chaiff trefn y flaenoriaeth ei hadlewyrchu gan y nodiadau sy’n cael eu hychwanegu at gofnodion yr arwystl i gadarnhau’r drefn mae’r arwystlon yn graddio rhyngddynt eu hunain (yn unol â rheol 101 Rheolau Cofrestru Tir 2003).

4. Arwystlon gan gwmnïau a phartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig yn y Deyrnas Unedig

Ar gyfer arwystlon a grëwyd gan gwmnïau a phartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig yn y Deyrnas Unedig ar neu ar ôl 6 Ebrill 2013, a lle y cyflwynir y cais gan drawsgludwr, yn ychwanegol at y ffurflen gais AP1, rhaid ichi gyflwyno’r canlynol hefyd:

  • copi ardystiedig o arwystl. Ni ddylid golygu’r arwystl (na’r copi) mewn unrhyw ffordd
  • copi o’r dystysgrif cofrestru a roddwyd gan Dŷ’r Cwmnïau. Copi electronig fydd hwn os cyflwynir y cais trwy e-DRS (Gwasanaeth Cofrestru Dogfen electronig) neu gopi papur pan gaiff ei anfon trwy’r post. Nid oes yn rhaid ardystio copi papur
  • cadarnhad ysgrifenedig neu dystysgrif gan y cwmni, rhoddwr benthyg neu drawsgludwr mai’r arwystl a gyflwynwyd i’w gofrestru yw’r:
    • copi ardystiedig o’r arwystl gwreiddiol, o’r hwn y ffeiliwyd copi ohono (neu gopi golygedig o dan adran 859G o Ddeddf Cwmnïau 2006) yn Nhŷ’r Cwmnïau
    • copi ardystiedig o’r arwystl y mae’r dystysgrif cofrestru a amgaewyd yn berthnasol iddo

Os nad ydych yn cyflwyno’r dystysgrif cofrestru briodol yn Nhŷ’r Cwmnïau a’r cadarnhad ysgrifenedig neu dystysgrif ychwanegol, byddwn yn gwneud nodyn i’r cofnod yn y gofrestr yn datgan bod yr arwystl yn ddarostyngedig i ddarpariaethau adran 859A o Ddeddf Cwmnïau 2006 (rheol 111 o Reolau Cofrestru Tir 2003).

Os nad yw trawsgludwr yn cyflwyno’r cais, bydd angen copi o’r arwystl a gynhyrchwyd gan Dŷ’r Cwmnïau arnom hefyd, gyda’r cod adnabod unigryw ar gyfer yr arwystl arno, a ddylai gyfateb â’r cod ar y dystysgrif cofrestru.

4.1 Arwystlon sy’n cynnwys cynlluniau

Os yw’r arwystl yn cynnwys cynllun, dim ond cynllun o faint A4 y bydd Tŷ’r Cwmnïau yn ei dderbyn i’w ffeilio’n electronig. Lle y mae’r cynllun yn fwy, bydd yn rhaid ichi leihau maint y cynllun a atodwyd at y copi o’r arwystl a ffeiliwyd yn Nhŷ’r Cwmnïau. O dan yr amgylchiadau hyn, gallwch newid eich datganiad ysgrifenedig neu dystysgrif i ddweud mai’r arwystl a gyflwynwyd i’w gofrestru yw’r:

  • arwystl gwreiddiol o’r hwn y mae copi (neu gopi golygedig o dan adran 859G o Ddeddf Cwmnïau 2006) wedi ei ffeilio yn Nhŷ’r Cwmnïau, ac eithrio bod y cynllun a ffeiliwyd wedi ei leihau mewn maint i gwrdd â gofynion ffeilio Tŷ’r Cwmnïau
  • arwystl i’r hwn y mae’r dystysgrif cofrestru a amgaewyd yn gysylltiedig

4.2 Arwystlon sydd wedi eu heithrio rhag cofrestriad yn Nhŷ’r Cwmnïau

Nid yw’r gofyniad i gofrestru yn Nhŷ’r Cwmnïau yn gymwys i:

  • arwystl o blaid landlord ar flaendal ariannol a roddir fel sicrwydd ar brydles tir
  • arwystl a grëwyd gan aelod o Lloyd’s (o fewn ystyr Deddf Lloyd’s 1982) i sicrhau ei ymrwymiadau mewn perthynas â’i fusnes yswiriant yn Lloyd’s
  • arwystl na chafodd ei gynnwys yng nghais adran 859A o Ddeddf Cwmnïau 2006 neu o dan unrhyw Ddeddf arall

(Sylwer: Nid oes yn rhaid cofrestru arwystlon a grëwyd gan gwmnïau tramor ar neu ar ôl 1 Hydref 2011 yn Nhŷ’r Cwmnïau ac ni fydd darpariaethau rheol 111A o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn gymwys chwaith.)

5. Cais i gofnodi cyfyngiad

Rhaid gwneud cais am gyfyngiad ar ffurflen RX1 oni bai fod y cais am ffurf safonol o gyfyngiad ac yn cael ei wneud ym mhanel 8 ffurflen CH1, neu ei fod am ffurf safonol o gyfyngiad ar ffurf arwystl cymeradwy (rheol 92 o Reolau Cofrestru Tir 2003). Nid oes ffi yn daladwy o ran y cyfyngiad os cyflwynir y cais i’w gofnodi gyda’r cais i gofrestru’r arwystl y mae’n berthnasol iddo.

Yn gyffredinol, bydd unrhyw gofnod cyfyngiad sy’n ymwneud yn benodol â’r arwystl sy’n cael ei ryddhau gennych yn cael ei ddileu’n awtomatig pan gaiff yr arwystl ei ryddhau. Fodd bynnag, os nad yw cyfyngiad o blaid y rhoddwr benthyg yn cyfeirio’n benodol at yr arwystl sy’n cael ei ryddhau, rhaid tynnu’r cyfyngiad hwnnw’n ôl ar wahân ar ffurflen RX4 gyda’r cais i gofrestru’r rhyddhad. Os na chyflwynir ffurflen RX4, bydd y cyfyngiad yn aros yn y gofrestr.

6. Cais i nodi yn y gofrestr ymrwymiad rhoddwr benthyg i roi benthyciadau pellach

Rhaid gwneud cais i nodi ymrwymiad i roi benthyciadau pellach mewn arwystl nad yw’n gymeradwy neu nad yw ar ffurflen CH1 ar ffurflen CH2 neu banel 8 o ffurflen (rheol 108 o Reolau Cofrestru Tir 2003). Rhaid i’r rhoddwr benthyg neu ei drawsgludwr wneud y cais. Nid oes ffi yn daladwy os cyflwynir y cais i nodi ymrwymiad rhoddwr benthyg gyda chais i gofrestru’r arwystl y mae’n berthnasol iddo.

7. Cais i nodi’r swm uchaf a gytunwyd mewn arwystl

O dan reol 109 o Reolau Cofrestru Tir 2003, gallwch wneud cais i nodi cytundeb yn y gofrestr am y swm uchaf a gytunwyd mewn arwystl.

Hyd yn oed os caiff swm o’r fath ei ddatgan yn yr arwystl ei hun, heb ystyried a gafodd yr arwystl ei gymeradwyo’n flaenorol gennym ni, neu mewn gweithred amrywio ddilynol, rhaid ichi wneud cais i nodi’r swm uchaf ar ffurflen CH3.

Os yw cytundeb diweddarach yn cael ei wneud i newid y swm uchaf a nodwyd yn y gofrestr, gallwch gyflwyno cais pellach ar ffurflen CH3, ynghyd â’r ffi briodol. Byddwn yn gwneud cofnod ychwanegol yn y gofrestr o ran y swm newydd, ond bydd y cofnod gwreiddiol yn aros ar y gofrestr.

8. Cydgrynhoi arwystl

Os yw arwystl yn cynnwys hawl cydgrynhoi gydag arwystl penodol arall, ni fyddwn yn gwneud cofnod ar y gofrestr, oni bai eich bod yn gwneud cais penodol gan ddefnyddio ffurflen CC yn unol â rheol 110 o Reolau Cofrestru Tir 2003.

9. Ffurflen gais AP1

Dylech lenwi’r ffurflen hon yn y ffordd arferol, ond dylech nodi’r pwyntiau canlynol.

9.1 Panel 3

Ystyriwch a yw’r arwystl yn effeithio ar y cyfan neu ran o’r teitl ac yn achos yr olaf, rhowch ddisgrifiad byr o’r rhan yr effeithir arni ar ôl yr ail ddewis, gan gyfeirio at gynllun os oes angen.

9.2 Panel 5

Dylech gwblhau panel 5 o ran y dogfennau sy’n cael eu cyflwyno gennych gyda’r cais. Dim ond copïau ardystiedig o weithredoedd neu ddogfennau yr ydych yn eu hanfon atom gyda cheisiadau Cofrestrfa Tir EF sydd eu hangen arnom. Unwaith y byddwn wedi gwneud copi o’r dogfennau a anfonir atom, byddwn yn eu dinistrio. Mae hyn yn wir am y gwreiddiol a chopïau ardystiedig. Os ydych yn cyflwyno’ch cais yn electronig, rhaid i chi sicrhau bod y cyfeirnod ‘MD’ sydd wedi ei argraffu ar yr arwystl yn ymddangos yn glir ar y copi a sganiwyd.

9.3 Panel 10

Rhaid cwblhau panel 10 gyda’r canlynol.

  1. Enw llawn a chyfeiriad y rhoddwr benthyg, gan gynnwys y cod post. Os ydym wedi cymeradwyo ffurf yr arwystl a chytuno ar gyfeiriad gyda’r rhoddwr benthyg, byddwn yn defnyddio’r cyfeiriad hwnnw. Caniateir hyd at 3 chyfeiriad ar gyfer gohebu. Rhaid i un o’r rhain fod yn gyfeiriad post, ond nid oes rhaid iddo fod o fewn y Deyrnas Unedig. Os oes angen, gallwch roi ail a thrydydd cyfeiriad, a all fod yn gyfeiriadau post ychwanegol o fewn neu oddi allan i’r Deyrnas Unedig; rhif blwch cyfnewid dogfennau o fewn y Deyrnas Unedig; neu gyfeiriad electronig
  2. Os yw’r rhoddwr benthyg yn gwmni, Rhif Cofrestru’r Cwmni
  3. Os yw’r rhoddwr benthyg yn bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, ei rif cofrestredig
  4. Os yw’r rhoddwr benthyg yn gwmni tramor, oni bai y gwnaed trefniant gyda ni eisoes, rhaid i chi ddatgan tiriogaeth eu corffori, rhif cofrestredig yn y DU gan gynnwys unrhyw ragddodiad a chopi o ddogfennau cyfansoddiadol y cwmni gyda’r cais. Rhaid ichi ddarparu cyfieithiad os nad yw’r dogfennau hyn yn y Gymraeg neu’r Saesneg. Fel arall, gallwch anfon tystysgrif yn Ffurf 7 atom gan gyfreithiwr cymwys sy’n ymarfer yn y diriogaeth y’i corfforwyd

10. Ffïoedd

Mae ffi yn daladwy yn ôl y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol (gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru).

Nid oes dim i’w dalu os caiff yr arwystl ei gyflwyno ar yr un pryd neu cyn cwblhau rhai mathau o geisiadau lle talwyd eisoes. Mae rhagor o wybodaeth am hyn yn y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir.

11. Dogfennau a gyhoeddir wrth gwblhau

Yr unig ddogfennau y byddwn yn eu cyhoeddi wedi cwblhau cais i gofrestru arwystl yw:

  • copi swyddogol o’r gofrestr yn dangos y cofnodion sydd yn y gofrestr wrth gwblhau eich cais
  • “taflen cwblhau’r gofrestr” sy’n cadarnhau y cwblhawyd eich cais ac sy’n egluro pwysigrwydd cadw gwybodaeth y gofrestr yn gyfredol

12. Gohiriad arwystl

I wneud cais i gofrestru gohiriad arwystl, rhaid ichi gyflwyno ffurflen AP1 a chopi ardystiedig o’r llythyr neu weithred ohirio.

12.1 Gohirio trwy lythyr

Rhaid i’r llythyr gohirio fod:

  • ar bapur pennawd y rhoddwr benthyg sy’n gohirio ei arwystl
  • wedi ei lofnodi gan y rhoddwr benthyg sy’n gohirio ei arwystl
  • wedi ei gyfeirio at naill ai Cofrestrfa Tir EF neu at y rhoddwr benthyg y mae ei arwystl yn ennill blaenoriaeth.

Nid oes yn rhaid i’r llythyr gael ei lofnodi naill ai gan y rhoddwr benthyg y mae ei arwystl yn ennill blaenoriaeth neu berchennog cofrestredig y tir.

Gweler isod am lofnodwyr derbyniol.

Rhoddwr benthyg Llofnodwyr derbyniol
Banc neu gymdeithas adeiladu Dylai’r llofnodwr roi ei statws neu safle a ddylai fod yn gyfarwyddwr, ysgrifennydd, cyfreithiwr neu reolwr. Byddwn hefyd yn derbyn y llythyr os yw’r llofnodwr yn cadarnhau ei fod yn llofnodwr awdurdodedig.
Cwmni Dylai’r llofnodwr fod yn ysgrifennydd y cwmni, cyfarwyddwr neu gyfreithiwr y cwmni.
Y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol Dylai’r llofnodwr fod yn berson sy’n dal safle, neu safle gyfwerth â Gradd 7 neu uwch y Gwasanaeth Sifil.
Awdurdod lleol Y Prif Weithredwr ddylai lofnodi, neu gyfreithiwr neu rywun sy’n cadarnhau bod ganddo awdurdod wedi ei ddirprwyo i lofnodi o dan benderfyniad gan yr awdurdod lleol a dyddiad yr awdurdod a ddirprwywyd.

12.2 Gohirio trwy weithred

Rhaid i’r weithred gael ei chyflawni’n ddilys gan y rhoddwr benthyg y mae ei arwystl yn cael ei ohirio. Nid oes yn rhaid iddo gael ei gyflawni gan y rhoddwr benthyg y mae ei arwystl yn ennill blaenoriaeth neu berchennog cofrestredig y tir.

12.3 Ffioedd

Mae ffi sefydlog yn daladwy o dan y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir oni bai bod y gohiriad yn cael ei gyflwyno ar yr un pryd â chais y talwyd ffi ar raddfa neu ffi sefydlog ar ei gyfer (gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru).

12.4 Cydsynio i gyfyngiad

Os oes cyfyngiad Ffurf P yn y gofrestr o blaid y rhoddwr benthyg sy’n gohirio, nid oes angen caniatâd ar wahân i gofrestru:

  • y gohiriad ei hun
  • cofrestriad arwystl newydd sy’n cymryd blaenoriaeth yr arwystl sy’n cael ei ohirio.

Mae caniatâd yn cael ei ymhlygu trwy lofnodi neu weithredu’r gohiriad. Mae’r rhan fwyaf o gyfyngiadau arwystlai ar Ffurf P.

Os oes cyfyngiad yn y gofrestr o blaid y rhoddwr benthyg sy’n gohirio ar Ffurf N neu Ffurf T:

  • lle y mae’r cyfyngiad yn gofyn am ganiatâd ysgrifenedig unigolyn penodol (ysgrifennydd neu drawsgludwr yr arwystlai fel arfer), mae gohiriad wedi ei gyflawni neu wedi ei lofnodi gan yr unigolyn hwnnw’n dderbyniol fel tystiolaeth o ganiatâd. Os yw’r gohiriad yn cael ei gyflawni neu ei lofnodi gan unigolyn gwahanol, mae angen caniatâd ar wahân
  • lle y mae’r cyfyngiad wedi ei eirio fel ei fod yn gofyn am ganiatâd ysgrifenedig “wedi ei lofnodi gan [enw’r cwmni] o [cyfeiriad]” nid oes angen caniatâd ar wahân os yw’r cwmni a enwyd yn y cyfyngiad wedi cyflawni neu lofnodi’r gohiriad.

12.5 Cofnodion y gofrestr

12.5.1 Gohirio un arwystl cofrestredig i un arall

Mae blaenoriaethau’r arwystlon dyddiedig [dyddiad] [o blaid ……] a [dyddiad] [o blaid … ..] y cyfeirir atynt uchod wedi cael eu newid gan [llythyr/gweithred] dyddiedig [dyddiad].

12.5.2 Gohirio arwystl a gytunwyd neu arwystl unochrog sy’n gwarchod budd ariannol i arwystl cofrestredig dilynol

Mae’r blaenoriaethau rhwng yr arwystl cofrestredig dyddiedig [dyddiad] [o blaid ….] y cyfeirir ato uchod a’r [math o fudd, er enghraifft “arwystl ecwitïol”] o blaid [enw’r buddiolwr] sy’n cael eu gwarchod gan y rhybudd y cyfeirir at uchod hefyd wedi cael eu newid gan [llythyr/gweithred] dyddiedig [dyddiad].

12.5.3 Gohirio – Gweithred Blaenoriaeth Cymorth Prynu

Mae’r blaenoriaethau rhwng yr arwystlon dyddiedig [dyddiad] [o blaid ….] a [dyddiad] [o blaid …] y cyfeirir atynt uchod wedi cael eu newid gan [llythyr/gweithred] dyddiedig [dyddiad] a ysgogwyd gan femorandwm cais dyddiedig [dyddiad].

12.5.4 Gohirio arwystl disgownt

Mae’r blaenoriaethau rhwng yr arwystl disgownt y cyfeirir ato uchod a’r arwystl dyddiedig [dyddiad] [o blaid …] y cyfeirir ato uchod wedi cael eu newid gan [llythyr/gweithred] dyddiedig [dyddiad].

13. Gweithredoedd amrywio arwystl cofrestredig

13.1 Cyffredinol

Dylech wneud cais i gofrestru gweithred amrywio o dan ffurflen gais AP1, gan amgáu copi ardystiedig o’r weithred.

Bydd ein Hadran Trefniadau Masnachol ym Mhrif Swyddfa Cofrestrfa Tir EF yn cymeradwyo gweithredoedd amrywio ar gais. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 30: cymeradwyo dogfennau morgais i gael rhagor o wybodaeth.

Ni allwch wneud cais am gyfyngiad nac am gofnod i ddangos bod ymrwymiad ar roddwr benthyg i roi benthyciadau pellach mewn gweithred amrywio. Os oes angen y cofnodion hyn arnoch, rhaid ichi wneud ceisiadau ar wahân ar ffurflen RX1 a ffurflen CH2 yn ôl eu trefn.

13.2 Cyflawni

Er bod yn rhaid i’r cymerwr benthyg gyflawni’r weithred amrywio, nid oes unrhyw ofyniad bod y rhoddwr benthyg yn gwneud yr un fath. Byddwn yn derbyn y bydd y rhoddwr benthyg yn rhwym o dan delerau’r amrywiad os yw naill ai’r rhoddwr benthyg neu ymarferydd yn gweithredu ar ran y rhoddwr benthyg yn cyflwyno’r weithred.

Mae’n ofynnol o dan reol 113 o Reolau Cofrestru Tir 2003 eich bod yn gwneud cais i gofrestru gweithred amrywio gyda chaniatâd perchennog unrhyw arwystl cofrestredig (a pherchennog unrhyw is-arwystl sy’n deillio’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol o’r arwystl) o flaenoriaeth gyfartal neu is na’r arwystl sy’n cael ei amrywio, os yw telerau’r amrywiad yn effeithio’n niweidiol ar y rhoddwr benthyg arall, oni bai fod y perchennog hwnnw wedi cyflawni’r weithred eu hunan neu os nad oes angen y caniatâd o dan delerau ei arwystl neu is-arwystl.

Ein barn yw nad yw newidiadau i’r mathau canlynol yn effeithio’n niweidiol ar arwystl (a’r is-arwystl ohono) sydd â blaenoriaeth gyfartal neu is.

  • gostyngiad yn y gyfradd log
  • gostyngiad yn y ddyled gyfalaf

Fodd bynnag, ystyriwn fod unrhyw newidiadau sydd naill ai’n:

  • cynyddu’r gyfradd log
  • cynyddu’r cyfalaf
  • ymestyn cyfnod yr arwystl ac unrhyw is-arwystl ohono cynharach
  • creu ymrwymiad i roi benthyciadau pellach, o fath all effeithio er gwaeth ar unrhyw arwystl (ac unrhyw is-arwystl ohono) gyda blaenoriaeth gyfartal neu is

O dan yr amgylchiadau hyn, rhaid i berchennog unrhyw arwystl (ac is-arwystl) sy’n cael ei effeithio er gwaeth gyflawni’r weithred; neu roi caniatâd ysgrifenedig i gofrestru’r weithred amrywio. Rhaid ichi gyflwyno’r caniatâd, neu dystysgrif trawsgludwr ei fod yn dal y caniatâd gofynnol, gyda’r cais am weithred amrywio.

Fel arall, gall perchennog unrhyw arwystl o’r fath ddarparu llythyr yn cadarnhau nad yw’n ystyried bod telerau’r amrywiad yn effeithio er gwaeth ar ei arwystl neu is-arwystl ac, o ganlyniad, ei fod yn teimlo nad oes angen iddo gyflawni’r weithred na chyflwyno caniatâd. Fodd bynnag, yn absenoldeb unrhyw dystiolaeth, ni fyddwn yn gwneud ymholiad. Yn lle hynny, byddwn yn gwneud cofnod heb warant yn y gofrestr fel a ganlyn:

“Mae gweithred ddyddiedig __ a wnaed rhwng __ yn mynegi newid telerau’r Arwystl dyddiedig __ y cyfeiriwyd ato uchod.

NODYN: Copi yn y ffeil”.

13.3 Ffïoedd

Mae ffi yn daladwy yn ôl y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol (gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru).

14. Morgeisi digidol

Gweithred morgais sydd wedi ei chreu, ei llofnodi a’i dyddio’n electronig gan ddefnyddio gwasanaeth morgais digidol Cofrestrfa Tir EF, sy’n rhan o rwydwaith Cofrestrfa Tir EF o dan adran 92 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, yw morgais digidol. Gwneir y morgais digidol o dan adran 91 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, a (chyn 6 Ebrill 2018) o dan Reolau Cofrestru Tir (Trawsgludo Electronig) 2008. Ar 6 Ebrill 2018 ac ar ôl hynny, di-rymir y Rheolau hynny, a bydd rheolau 54A i D o Reolau Cofrestru Tir 2003 (fel y’u diwygiwyd) yn berthnasol. Mae hyn yn golygu y bydd y morgeisi digidol a grëir trwy’r gwasanaeth morgais digidol yn cael eu hystyried ar gyfer pob diben deddfwriaethol fel gweithredoedd.

Ni fydd angen tystio morgeisi digidol, gan fod y broses llofnod electronig, i bob pwrpas, yn gweithredu fel system notarïol ar-lein. Caiff hunaniaeth y cymerwr benthyg ei gwirio cyn ei llofnodi a chaiff y llofnod ei ardystio.

Er bod y weithred morgais digidol yn gwbl electronig, bydd modd cael copïau swyddogol o’r weithred ar ffurf PDF, unwaith y bydd wedi ei chofrestru. Mae gweithred morgais ddigidol yn wahanol i weithred morgais ar bapur mewn sawl ffordd:

  • mae ganddi’r pennawd ‘Digital Mortgage Deed’
  • mae’n cynnwys y datganiad: “This charge takes effect when the registrar receives notification from [enw’r trawsgludwr] that the charge is to take effect” a’r dyddiad y daeth y weithred i rym
  • mae’n cynnwys cynrychiolaeth deipograffyddol o lofnod digidol y cymerwr benthyg, megis: “Signed by Jane Louise Smith”

14.1 Y gwasanaeth morgais digidol

Mae’r gwasanaeth morgais digidol yn wasanaeth sy’n galluogi trawsgludwr i greu gweithred morgais ddigidol. Gellir ei ddefnyddio i greu ail-forgeisi ar eiddo sy’n bodoli cymerwr benthyg yn unig.

Bydd cymerwr benthyg yn gallu cael gafael ar ei weithred morgais digidol gan ddefnyddio gwefan ‘Sign Your Mortgage Deed’. Bydd angen i’r cymerwr benthyg brofi ei hunaniaeth gan ddefnyddio GOV.UK Verify. Unwaith y bydd hunaniaeth y cymerwr benthyg wedi ei chadarnhau, bydd yn gallu llofnodi ei weithred yn electronig. Mae hyn yn cynnwys cadarnhau ei fod yn llofnodi ei weithred trwy gofnodi cod sydd wedi ei anfon at ei ffôn symudol. Unwaith y bydd y cymerwr benthyg wedi llofnodi’r weithred, gall y trawsgludwr gwblhau’r trafodiad a gwneud cais i gofrestru.

Mae defnyddio GOV.UK Verify yn wiriad hunaniaeth ychwanegol ar adeg llofnodi. Nid yw defnyddio’r gwasanaeth yn newid y gofynion i drawsgludwr ymgymryd â’u gwiriadau hunaniaeth eu hunain yn unol â chyfarwyddyd ymarfer 67: tystiolaeth hunaniaeth.

14.2 Sut i ddefnyddio’r gwasanaeth morgais digidol

Rhaid i drawsgludwyr fod wedi cofrestru i ddefnyddio Business Gateway ac wedi llofnodi Cytundeb Mynediad i’r Rhwydwaith Cofrestrfa Tir EF er mwyn defnyddio’r gwasanaeth. Bydd angen iddynt hefyd fod wedi datblygu’r gallu TG perthnasol i ddefnyddio’r gwasanaeth.

Bydd rhoddwr benthyg sy’n ymgymryd â’i drawsgludo’n fewnol yn gallu defnyddio’r gwasanaeth hefyd. Er mwyn defnyddio’r gwasanaeth, bydd angen cymeradwyo gweithred morgais ddigidol y rhoddwr benthyg ymlaen llaw, a chael cyfeirnod e-MD.

15. Pethau i’w cofio

Gwnewch yn siwr:

  • bod yr arwystl ar ffurf sy’n gymeradwy i ni
  • os nad yw, ac os nad yw’r arwystl ar ffurflen CH1:
    • dylai eich cais gynnwys ffurflen RX1 i gofnodi cyfyngiad hefyd
    • dylai eich cais gynnwys ffurflen CH2 i nodi ymrwymiad i roi benthyciadau pellach hefyd
    • dylai paneli 5 a 10 ar ffurflen gais AP1 fod wedi eu cwblhau ac, os yw’n briodol, dylai eich cais gynnwys copi o gyfansoddiad y rhoddwr benthyg yn y Gymraeg neu’r Saesneg
  • os mai endid tramor yw’r cymerwr benthyg, eich bod wedi cydymffurfio â’r gofynion yn Neddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodaeth) 2022
  • eich bod wedi amgáu ffurflen CH3 os oes angen cofnod yn y gofrestr i nodi’r swm uchaf a gytunwyd mewn arwystl
  • os yw eich cais yn cynnwys gweithred amrywio, bod yr holl bartïon gofynnol wedi cyflawni’r weithred a’ch bod wedi cynnwys y caniatâd angenrheidiol
  • eich bod wedi amgáu’r ffi briodol

Sylwer, efallai na fydd Cofrestrfa Tir EF yn gallu prosesu ceisiadau sy’n anghyflawn neu’n ddiffygiol, a bydd eich cais mewn perygl o golli ei flaenoriaeth os byddwn yn gorfod ei ddychwelyd atoch – gweler cyfarwyddyd ymarfer 49: dychwelyd a gwrthod ceisiadau i gofrestru am ragor o wybodaeth.

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.