Skip to main content
Canllawiau

Rhifyn mis Hydref 2026 o Fwletin y Cyflogwr

Cyhoeddwyd 21 Hydref 2026

TWE

Diweddariadau treth a newidiadau i’r arweiniad

Gwybodaeth gyffredinol a chymorth i gwsmeriaid

Cymorth CThEF i gwsmeriaid y mae angen mwy o help arnynt 

Mae egwyddorion cymorth CThEF i gwsmeriaid y mae angen mwy o help arnynt yn amlinellu ein hymrwymiad i helpu cwsmeriaid yn ôl eu hanghenion, ac maent yn tanategu Siarter CThEF. 

Dysgwch sut i gael help, ac am y cymorth ychwanegol sydd ar gael.

TWE

Talu buddiannau drwy’r gyflogres — diweddariad ar eithriadau ar gyfer cyflogai sy’n symud yn fyd-eang a chyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A

Yn rhifyn mis Awst 2026 o fwletin y cyflogwr, gwnaeth CThEF rhoi gwybod i chi am gamau y gallwch eu cymryd i baratoi ar gyfer y broses o dalu buddiannau a threuliau drwy’r gyflogres yn orfodol (yn agor tudalen Saesneg) a fydd yn cael eu cyflwyno fesul cam o 6 Ebrill 2027 ymlaen.

Bydd Cam 1 yn berthnasol i geir cwmni, tanwydd ceir, faniau, tanwydd faniau a buddiannau meddygol sydd wedi’u rhoi gan gyflogwyr.

Dylai cyflogwyr ddechrau paratoi nawr ar gyfer adrodd mewn amser real am Dreth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ar gyfer y buddiannau (BiKs) a’r treuliau trethadwy hyn, gan ddefnyddio’r system cyflogres o fis Ebrill 2027 ymlaen.

Rydym bellach yn eich hysbysu am ddau ddiweddariad a gyhoeddwyd gan y llywodraeth a allai effeithio arnoch chi a’ch cyflogeion.

Achosion eithriadol — Cyflogeion sy’n symud yn fyd-eang

Bydd gan gyflogwyr yr opsiwn i esemptio cyflogeion sy’n symud yn fyd-eang, yn wirfoddol, rhag y broses orfodol o dalu drwy’r gyflogres o 6 Ebrill 2027 ymlaen.

Bwriedir yr eithriad cyflogeion symudol yn fyd-eang ar gyfer cyflogeion y mae eu trefniadau gweithio symudol yn fyd-eang yn creu anawsterau ymarferol gwirioneddol wrth gyfrifo neu adrodd am fuddiannau drwy’r gyflogres mewn amser real.

Bydd angen i chi roi gwybod i ni pa cyflogeion sy’n symud yn fyd-eang cymwys y dylid eu heithrio rhag talu buddiannau drwy’r gyflogres gorfodol drwy gyflwyno ffurflen ar-lein (G-Form) i CThEF. Bydd y ffurflen hon ar gael o fis Tachwedd 2026 ymlaen.

Ar ôl i chi gyflwyno’r G-form, bydd y trefniadau canlynol yn berthnasol ar gyfer adrodd am fuddiannau ar gyfer cyflogeion sy’n symud yn fyd-eang sydd wedi’u heithrio. Dylech wneud y canlynol:

  • gadael buddiannau cyflogeion sy’n symud yn fyd-eang allan o dalu buddiannau drwy’r gyflogres gorfodol o 6 Ebrill 2027 ymlaen

  • parhau i ddefnyddio’r broses adrodd ar ddiwedd y flwyddyn bresennol drwy ffurflenni P11D a P11D(b) ar gyfer y cyflogeion hyn

Mae’r wybodaeth ddiweddarach am talu buddiannau a threuliau drwy’r gyflogres yn orfodol (yn agor tudalen Saesneg) arweiniad yn cynnwys gwybodaeth am y canlynol:

  • y broses esemptio ar gyfer cyflogeion sy’n symud yn fyd-eang

  • Ceisiadau G-Form

  • diffiniad cyflogeion sy’n symud yn fyd-eang ac sy’n gymwys ar gyfer yr esemptiad

Caiff yr arweiniad hwn ei ddiweddaru ymhellach yn hydref 2026.

Beth ddylech ei wneud nawr

Er na fydd y newidiadau hyn yn dod i rym tan fis Ebrill 2027, bydd yn rhaid i chi ddechrau paratoi nawr.

Dylech wneud y canlynol:

  • adolygu’r buddiannau (BiKs) rydych yn eu darparu i’ch cyflogeion

  • ystyried unrhyw newidiadau i’ch prosesau cyflogres, Adnoddau Dynol a chyllid

  • siarad â’ch darparwr meddalwedd gyflogres, eich darparwr cyflogres neu’ch asiant os yw’n eich helpu i reoli’ch cyflogres

  • nodi unrhyw gyflogeion yn eich gweithlu a allai fod yn gymwys ar gyfer y broses eithrio

  • ystyried sut y byddwch yn rhoi gwybod i’ch cyflogeion am y newidiadau hyn

  • gwirio GOV.UK yn rheolaidd am ddiweddariadau ac arweiniad pellach

Cyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYG) Dosbarth 1A os ydych yn talu buddiannau (BiKs) eraill drwy’r gyflogres yn wirfoddol

O 6 Ebrill 2027 ymlaen, lle caiff buddiannau eu talu drwy’r gyflogres yn wirfoddol, mae’n rhaid hefyd adrodd ar unrhyw gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A cysylltiedig a’u talu drwy’r gyflogres mewn amser real. Ni allwch ddewis i dalu Treth Incwm drwy’r gyflogres ac adrodd ar y cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A cysylltiedig ar wahân ar ddiwedd y flwyddyn dreth.

O fis Tachwedd 2026 ymlaen, gallwch gofrestru i dalu buddiannau nad oes angen adrodd amdanynt yn orfodol drwy’r gyflogres yn wirfoddol ar gyfer blwyddyn dreth 2027 i 2028. 

Os ydych eisoes wedi cofrestru i dalu buddiannau nad oes angen adrodd amdanynt yn orfodol drwy’r gyflogres yn wirfoddol, bydd eich cofrestriad yn parhau’n awtomatig ar gyfer blwyddyn dreth 2027 i 2028.

Os nad ydych am barhau i dalu buddiannau nad oes angen adrodd amdanynt drwy’r gyflogres yn wirfoddol, bydd angen i chi dynnu’ch cofrestriad yn ôl erbyn 5 Ebrill 2027 a pharhau i ddefnyddio Ffurflenni P11D a P11D(b) i adrodd ar eich treth incwm a’ch cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A.

Bydd rhagor o wybodaeth am gofrestru gwirfoddol yn cael ei chynnwys yn y ddogfen ddwygiedig talu buddiannau a threuliau drwy’r gyflogres yn orfodol (yn agor tudalen Saesneg) arweiniad yn hydref 2026.

Offer TWE Sylfaenol (BPT) ― Newidiadau i gymorth Apple

Mae CThEF yn ymwybodol bod Apple yn bwriadu dod â’r cymorth i gymwysiadau Intel-based ar gyfer Macs Apple Silicon i ben o hydref 2027 ymlaen. Bydd Offer TWE Sylfaenol (BPT) yn parhau i weithredu fel arfer drwy gydol blwyddyn dreth 2026 i 2027.

Mae CThEF yn asesu effaith y newid hwn ar gyfer datganiadau yn y dyfodol.

Mae’r dudalen argaeledd a materion gwasanaeth Offer TWE Sylfaenol (yn agor tudalen Saesneg) wedi’i diweddaru gyda’r neges hon, ac rydym yn argymell bod cyflogwyr yn ymweld â’r dudalen hon os byddant yn profi unrhyw broblemau gyda BPT.

Arweiniad i gyflogwyr ar rwymedigaethau adrodd Gwybodaeth Amser Real (RTI )ar gyfer taliadau a wneir yn gynnar adeg y Nadolig

Mae angen i rai cyflogwyr dalu eu cyflogeion yn gynharach na’r arfer ym mis Rhagfyr. Gall hyn fod am sawl rheswm, fel busnesau sy’n cau yn ystod cyfnod yr ŵyl ac angen talu gweithwyr yn gynt na’r arfer. Mae hyn er mwyn eich atgoffa o’r hawddfraint barhaol ar adrodd am Gwybodaeth Amser Real (RTI) sy’n berthnasol yn ystod y cyfnod hwn.

Os byddwch yn talu’n gynnar dros gyfnod y Nadolig, mae’n rhaid i chi roi gwybod am eich dyddiad talu arferol neu gontractiol ar eich Cyflwyniad Taliadau Llawn (FPS).

Er enghraifft, os ydych yn talu ar 19 Rhagfyr ond eich dyddiad talu arferol yw 31 Rhagfyr, rhowch wybod i’r dyddiad talu ar 31 Rhagfyr. Yn yr enghraifft hon, bydd angen anfon y FPS ar neu cyn 31 Rhagfyr.

Bydd gwneud hyn yn helpu i ddiogelu cymhwystra’ch cyflogai ar gyfer budd-daliadau ar sail incwm fel Credyd Cynhwysol, gan y gallai taliad cynnar effeithio ar hawliau nawr ac yn y dyfodol. 

Dyddiad cau ar gyfer talu drwy ddull electronig yn syrthio ar benwythnos

Ym mis Tachwedd, mae’r dyddiad cau ar gyfer talu drwy ddull electronig yn syrthio ar 22 Tachwedd 2026. Er mwyn sicrhau bod eich taliad ar gyfer y mis hwn yn ein cyrraedd mewn pryd, bydd angen bod gennych arian wedi’i glirio yng nghyfrif banc CThEF erbyn 20 Tachwedd 2026, oni bai eich bod yn gallu trefnu talu gan ddefnyddio’r gwasanaeth taliadau cyflymach.

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod eich taliadau’n cael eu gwneud mewn pryd ac, os yw’ch taliad yn hwyr, mae’n bosibl y codir cosb arnoch.

Cyn gwneud eich taliad, gwiriwch derfynau gwerth eich trafodion dyddiol unigol a therfynau amser eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod pryd i gychwyn eich taliad, fel ei fod yn cyrraedd CThEF mewn pryd.

Mae rhagor o wybodaeth am dalu TWE cyflogwyr ar gael.

Gwnewch eich taliad Cytundeb Setliad TWE (PSA) erbyn 22 Hydref 2026

Mae Cytundeb Setliad TWE (PSA) yn caniatáu i chi wneud un taliad blynyddol ar gyfer yr holl dreth ac Yswiriant Gwladol sy’n ddyledus ar dreuliau neu fuddiannau trethadwy bach neu afreolaidd ar gyfer eich cyflogeion.

Mae’n rhaid i unrhyw daliadau electronig ar gyfer Cytundeb Setliad TWE am y flwyddyn dreth a ddaeth i ben ar 05 Ebrill 2026 glirio i gyfrif banc CThEF erbyn 22 Hydref 2026. Os daw eich taliad i law’n hwyr, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu cosb neu log am dalu’n hwyr.

I dalu, bydd angen i chi ddefnyddio’r cyfeirnod Cytundeb Setliad TWE, er enghraifft — XA123456789012, o’r slip cyflog a anfonasom atoch. Os nad oes gennych hyn, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF am gyngor.

Peidiwch â defnyddio’ch cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon TWE, er enghraifft 123PA12345678, i wneud eich taliad Cytundeb Setliad TWE. Bydd taliadau a ddaw gyda’ch cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon TWE yn cael eu dyrannu i’ch cyfrif TWE arferol, a byddwch yn parhau i gael nodynnau atgoffa ar gyfer y Cytundeb Setliad TWE er eich bod wedi talu.

P11D a P11D(b) ar gyfer y flwyddyn dreth 2025 i 2026

Dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno P11D a P11D(b) a thalu

Roedd y dyddiad cau i chi roi gwybod ni ar-lein am unrhyw gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A sy’n ddyledus gennych ar gyfer y flwyddyn dreth sy’n dod i ben ar 5 Ebrill 2026 ar 6 Gorffennaf 2026. Os nad ydych wedi gwneud hyn o hyd, mae angen i chi gyflwyno heb oedi er mwyn osgoi unrhyw gosbau pellach y gellir eu rhoi.

Mae’n rhaid bod unrhyw Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A sydd arnoch wedi’i dalu erbyn 22 Gorffennaf 2026.

Mae nifer o weminarau byw ar gael sy’n cwmpasu cyflwyno’ch P11D a P11D(b) (yn agor tudalen Saesneg).

Mae arweiniad pellach ar gael ar sut i lenwi P11D a P11D(b).

Sut i gyflwyno ffurflenni P11D a P11D(b) ar-lein

Gallwch ddefnyddio’r dulliau ar-lein canlynol:

Mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch holl ffurflenni P11D a P11D(b) gyda’i gilydd, mewn un cyflwyniad ar-lein.

Yr hyn i’w gyflwyno

Os ydych wedi talu unrhyw fuddiannau neu dreuliau nad ydynt wedi’u heithrio (neu’r ddau), neu os ydych wedi talu unrhyw fuddiannau drwy’r gyflogres, bydd angen i chi gyflwyno ffurflen P11D(b). Cofiwch gynnwys cyfanswm y buddiannau sy’n agored i Gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A, hyd yn oed os ydych wedi trethu rhai ohonynt – neu bob un – drwy gyflogau’ch cyflogeion.

Defnyddir y P11D(b) i roi gwybod am rwymedigaeth cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A unrhyw gyflogwr.

Mae angen i chi gyflwyno ffurflen P11D ar gyfer pob cyflogai sy’n cael buddiannau a threuliau nad ydynt wedi’u heithrio, oni bai eich bod wedi cofrestru gyda ni ar-lein cyn 06 Ebrill 2025 i’w trethu trwy’ch cyflogres. Os na wnaethoch gofrestru ar-lein ond yna aethoch ymlaen i drethu rhai buddiannau – neu bob un – drwy’ch cyflogres, mae’n dal i fod yn rhaid i chi gyflwyno ffurflen P11D ar-lein ar gyfer yr holl fuddiannau na chawsant eu talu drwy’r gyflogres. 

Dim byd i’w ddatgan

Does dim angen i chi roi gwybod i ni nad oes angen i chi gyflwyno ffurflen P11D(b), oni bai ein bod wedi anfon hysbysiad i gyflwyno ffurflen P11D(b) atoch yn electronig neu lythyr yn eich atgoffa i gyflwyno ffurflen P11D(b). Gallwch ddatgan nad ydych yn cyflwyno ffurflen cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A.

Camgymeriadau cyffredin wrth gwblhau ffurflen P11D neu P11D (b) 

Mae rhai camgymeriadau cyffredin i fod yn wyliadwrus ohonynt yn cynnwys:

  • nodi 6 Ebrill 2025 fel y dyddiad dechrau neu 5 Ebrill 2026 fel y dyddiad dod i ben ar gyfer ceir cwmni, oni bai mai dyma’r dyddiadau gwirioneddol y cafodd y cyflogai y car neu y dychwelodd y car

  • cyflwyno’ch Ffurflenni P11D a P11D(b) dros nifer o ddyddiau — mae’n rhaid eu cyflwyno gyda’i gilydd; felly, peidiwch â’u cyflwyno nes bod yr holl Ffurflenni P11D a’r Ffurflen P11D(b) wedi’u lenwi

  • heb gynnwys y ffigur allyriadau CO₂ cymeradwy wrth roi gwybod am gar trydan llawn

  • heb gynnwys y milltiredd allyriadau sero cymeradwy wrth roi gwybod am gar hybrid sydd ag allyriadau CO₂ cymeradwy rhwng 1 a 50g/km

  • cyflwyno mwy nag un P11D(b) ar gyfer cynllun — dim ond un P11D(b) sydd i’w gyflwyno, yn dangos cyfanswm y swm sy’n ddyledus ar gyfer yr holl gyflogeion a chyfarwyddwyr; bydd unrhyw P11D(b) ychwanegol yn cael ei drin fel diwygiad

Gwiriwch y ffurflen P11D(b) i weld a oes angen i chi ddefnyddio’r adran ‘addasiadau’.

Cyfrifiannell treth car cwmni

Mae fersiwn newydd y cyfrifiannell treth car cwmni ar gael. Ar gyfer unrhyw newidiadau i gar y mae cyflogai’n eu gwneud o fewn y Flwyddyn Dreth, mae’n rhaid cyflwyno P46  ffurflen P46 car.

Diweddariadau treth a newidiadau i’r arweiniad

Diweddariad ar arweiniad cwnsela lles

Mae CThEF wedi diweddaru ei arweiniad ar y modd y caiff cwnsela lles a ddarperir gan gyflogwyr ei drin at ddibenion treth, er mwyn ei gwneud yn haws i gyflogwyr ddeall sut mae’r esemptiad presennol yn gymwys.

Mae’r esemptiad ar gyfer cwnsela lles yn galluogi cyflogwyr i ddarparu gwasanaethau cwnsela penodol i gyflogeion heb i unrhyw rwymedigaeth dreth godi. Nid yw’r arweiniad diwygiedig yn newid y ddeddfwriaeth nac yn ymestyn cwmpas yr esemptiad. Mae’n cynnwys enghreifftiau ychwanegol a chysylltiadau cliriach at arweiniad cysylltiedig i helpu cyflogwyr i gymhwyso’r rheolau cyfredol yn gywir.

Fel rhan o’r diweddariad, mae enghreifftiau newydd wedi’u hychwanegu i ddangos y math o gymorth a allai ddod o dan yr esemptiad ar gyfer cwnsela lles, gan gynnwys:

  • cymorth iechyd meddwl

  • cymorth menopos

Bwriad yr enghreifftiau hyn yw adlewyrchu’r mathau o gymorth lles a ddarperir yn gyffredin mewn gweithleoedd modern, a helpu cyflogwyr i ddeall sut y gallai’r esemptiad presennol fod yn berthnasol yn ymarferol.

Mae’r arweiniad diwygiedig hefyd yn darparu cysylltiadau cliriach ag esemptiadau eraill sy’n ymwneud ag incwm o gyflogaeth ac a allai fod yn berthnasol pan fydd cyflogwyr yn darparu cymorth iechyd a lles, gan gynnwys:

  • triniaeth feddygol a argymhellir, a ddarparwyd i roi cymorth i ddychweliad cyflogai i’r gwaith

  • sgrinio iechyd ac archwiliadau meddygol

  • rhaglenni cymorth ar gyfer cyflogeion

Gallai cyflogwyr sy’n darparu cwnsela lles, cymorth iechyd a lles, neu raglenni cymorth i gyflogeion fod eisiau adolygu’r arweiniad wedi’i ddiweddaru yn EIM21845 — Particular benefits: exemption for welfare counselling (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn sicrhau eu bod yn cymhwyso’r driniaeth dreth gywir.

Helpu’ch cyflogeion i gynllunio a pharatoi ar gyfer ymddeoliad gydag ap CThEF

Gan fod Wythnos Ymwybyddiaeth Pensiwn mis diwethaf wedi canolbwyntio ar gynllunio ar gyfer ymddeoliad, mae’n amser gwych i helpu’ch cyflogeion i gymryd camau syml nawr i baratoi ar gyfer eu dyfodol.

Nid yw byth yn rhy gynnar i gynllunio ymlaen llaw, a gyda ap CThEF, gall eich cyflogeion reoli eu harian yn ddiogel ar unrhyw adeg.

Yn yr ap, gallant wneud y canlynol:

  • gweld rhagolwg o’u Pensiwn Gwladol

  • gwirio am fylchau yn eu cofnod Yswiriant Gwladol, a gwneud cyfraniadau gwirfoddol os oes angen

  • gweld eu dyddiad ymddeol arfaethedig

Gellir lawrlwytho ap CThEF yn rhad ac am ddim o’r App Store a Google Play Store, gan roi’r gallu i ddefnyddwyr ddod o hyd i bopeth sydd ei angen arnynt yn ymwneud â’u Pensiwn y Wladwriaeth a’u hymddeoliad mewn un lle.

Gallant hefyd ddod o hyd i arweiniad ar dalu treth ar Bensiwn y Wladwriaeth ar Magu’ch Hyder o ran Treth

I’r rhai sydd am ddatblygu eu gwybodaeth ymhellach, mae Magu’ch Hyder o ran Treth yn cynnig arweiniad clir a syml ar dreth a phensiynau. Mae Magu’ch Hyder o ran Treth yn eu cefnogi i ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o faterion treth a phensiwn, gan eu helpu i deimlo’n fwy gwybodus ac yn fwy hyderus wrth gynllunio ar gyfer ymddeoliad.

Rhannwch y neges hon â’ch cyflogeion i’w helpu i deimlo’n gwbl barod ar gyfer y dyfodol.

Mae cofrestru gorfodol fel ymgynghorydd treth ar gyfer asiantau’r gyflogres yn agor ar 18 Tachwedd 2026

Os ydych yn darparu gwasanaethau cyflogres neu TWE ac yn cyfathrebu â CThEF ar ran cleientiaid fel rhan o’ch busnes, efallai y bydd angen i chi gofrestru o dan ofynion gorfodol CThEF ar gyfer cofrestru ymgynghorwyr treth.

Mae’r cyfnod cofrestru ar gyfer asiantau cyflogres yn agor ar 18 Tachwedd 2026. Nid oes angen i chi gofrestru eto, ond nawr yw’r amser da i wirio a yw’r gofyniad yn berthnasol i chi ac i ddeall pa gamau y bydd angen i chi eu cymryd pan fydd eich cyfnod yn agor.

Defnyddiwch ein offeryn gwirio i weld a oes angen i chi gofrestru, a phryd (yn agor tudalen Saesneg).

Rydym hefyd wedi ychwanegu amrywiaeth o adnoddau cyfathrebu i’ch helpu i ddeall y newidiadau a rhannu gwybodaeth gyda chydweithwyr a chleientiaid (yn agor tudalen Saesneg).

Gwybodaeth gyffredinol a chymorth i gwsmeriaid

Newidiadau i gyfraith undebau llafur — yr hyn y mae angen i gyflogwyr ei wybod

Fel rhan o’r broses barhaus o weithredu’r Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 2025, mae nifer o ddiwygiadau sy’n ymwneud â chyfraith undebau llafur yn cael eu cyflwyno dros y misoedd nesaf. Mae’r erthygl hon yn egluro’r prif newidiadau sy’n effeithio ar gyflogwyr, gan gynnwys mesurau a fydd yn dod i rym ar 30 Hydref 2026.

Bydd y ddyletswydd newydd ar gyflogwyr i roi gwybod i weithwyr am eu hawl i ymuno ag undeb llafur bellach yn dod i rym ar 1 Ionawr 2027, yn hytrach nag ym mis Hydref 2026 fel y rhagwelwyd yn wreiddiol. Mae manylion y gofyniad newydd hwn wedi’u nodi tuag at ddiwedd y bwletin hwn.

Mae rhagor o wybodaeth am y diwygiadau i undebau llafur (yn agor tudalen Saesneg) yn yr erthygl hon, ac am newidiadau eraill i gyfraith cyflogaeth, ar gael yn yr adran hawliau cyflogaeth newydd – arweiniad i fusnesau a gweithwyr ar wefan business.gov. 

Mae gwefan Acas yn darparu arweiniad ar y canlynol:

Hawl Mynediad Undebau Llafur

Cyflwynodd Deddf Hawliau Cyflogaeth 2025 hawl gyfreithiol newydd i undebau llafur annibynnol gael mynediad at weithleoedd ac ymgysylltu â gweithwyr, naill ai wyneb yn wyneb neu’n ddigidol.

O 30 Hydref 2026 ymlaen, bydd cyflogwyr ac undebau yn gallu trafod cytundebau mynediad o dan fframwaith statudol a nodir yn Neddf Hawliau Cyflogaeth 2025. Pan na ellir dod i gytundeb, gall y Pwyllgor Cyflafareddu Canolog (CAC) wneud penderfyniad.

Mae’r prif newidiadau sy’n dod i rym ar 30 Hydref 2026 yn cynnwys:

  • bydd undebau llafur annibynnol yn gallu cyflwyno cais ffurfiol i gyflogwyr i gael mynediad at eu gweithleoedd

  • bydd mynediad yn gorfforol, yn ddigidol, neu gyfuniad o’r ddau

  • os na ellir dod i gytundeb, bydd y naill barti neu’r llall yn gallu gwneud cais i’r CAC

  • bydd cyflogwyr sy’n cyflogi llai na 21 o weithwyr ar draws eu holl weithleoedd wedi’u hesemptio o’r darpariaethau hyn

  • bydd y CAC yn gyfrifol am oruchwylio a gorfodi cytundebau mynediad statudol a gall roi dirwyon am dorri cytundeb

Cod ymarfer

Bydd cod ymarfer statudol ar gael ar GOV.UK, sy’n darparu arweiniad a gwybodaeth bellach ar sut y dylai mynediad weithredu’n ymarferol.

Cyflwynwyd cod ymarfer diwygiedig (yn agor tudalen Saesneg) ynghylch mynediad ac arferion annheg yn ystod y broses gydnabod a dad-gydnabod gerbron y Senedd ar 6 Gorffennaf 2026. Yn amodol ar gymeradwyaeth seneddol, bydd yn dod i rym o 30 Hydref 2026 ymlaen.

Newidiadau i gydnabyddiaeth undebau llafur

Os nad yw cyflogwr yn cydnabod undeb llafur yn wirfoddol at ddibenion cydfargeinio – sef y broses lle mae undebau llafur yn trafod gyda chyflogwyr ar ran eu haelodau – gall yr undeb wneud cais i’r Bwyllgor Cyflafareddu Canolog (CAC) am gydnabyddiaeth statudol i’r undeb.

Ym mis Ebrill 2026, diwygiodd Deddf Hawliau Cyflogaeth 2025 y broses gydnabod statudol drwy wneud y canlynol:

  • dileu’r gofyniad i undebau gael cefnogaeth o leiaf 40% o’r gweithlu yn yr uned bargeinio arfaethedig mewn pleidlais cydnabod undebau llafur — dim ond mwyafrif syml o’r rhai sy’n pleidleisio sydd ei angen ar undebau i ennill

  • dileu’r gofyniad i undeb ddangos, wrth wneud cais i’r CAC, ei fod yn debygol o ennill pleidlais gydnabod — dim ond dangos i’r CAC bod ganddo aelodaeth o 10% yn yr uned negodi arfaethedig y mae angen i undebau ei wneud er mwyn i’w cais am gydnabyddiaeth gael ei dderbyn gan y CAC

O 30 Hydref 2026 ymlaen, bydd y Ddeddf yn diwygio’r broses gydnabod statudol ymhellach drwy wneud y canlynol:

  • ymestyn y ddeddfwriaeth a’r Cod Ymarfer ynghylch mynediad ac arferion annheg yn ystod y broses gydnabod a dad-gydnabod, fel eu bod yn gymwys o’r pwynt lle mae’r CAC yn derbyn cais gan undeb

  • pennu amserlen glir ar gyfer trafodaethau ynghylch mynediad rhwng y cyflogwr a’r undeb, o fewn 20 diwrnod gwaith i’r pwynt y mae’r CAC yn derbyn cais am gydnabod undeb llafur — Os na cheir cytundeb, bydd gan y CAC 10 diwrnod gwaith i bennu cytundeb mynediad rhesymol

  • caniatáu 5 diwrnod gwaith ar ôl cau’r bleidlais gydnabod i gwynion gael eu cyflwyno i’r CAC lle honnir bod arfer annheg wedi digwydd

  • ei gwneud yn haws penderfynu ar gwynion o’r fath drwy ei gwneud yn ofynnol i’r CAC ystyried yn unig a fu arfer annheg, heb ystyried yr effaith a gafwyd o bosibl

  • atal cyflogwyr rhag gwanhau aelodaeth undeb drwy recriwtio torfol drwy rewi’r uned fargeinio unwaith y cyflwynir cais cydnabod CAC, gan sicrhau bod recriwtiaid newydd yn cael eu heithrio o’r broses gydnabod ac unrhyw bleidlais gydnabod

Cod ymarfer ac arweiniad

Mae cod ymarfer diwygiedig (yn agor tudalen Saesneg) wedi’i lunio i adlewyrchu’r newidiadau deddfwriaethol uchod yn y Ddeddf Hawliau Cyflogaeth o ran mynediad ac arferion annheg yn ystod y broses gydnabod a dad-gydnabod. Yn ogystal, mae’r canlynol yn wir:

  • mae’r cod yn cynyddu amlder cyfarfodydd mynediad yr undeb a awgrymir i unwaith bob 5 diwrnod gwaith yn ystod y broses gydnabod a dad-gydnabod

  • mae’r cod yn cynyddu hyd lleiaf awgrymedig cyfarfodydd mynediad yr undeb i 45 munud yn ystod y broses gydnabod a dad-gydnabod

  • mae’r cod yn darparu arweiniad mwy manwl ar fynediad digidol a chyfathrebu digidol undebau llafur

Mae’r cod ymarfer diwygiedig (yn agor tudalen Saesneg) ar fynediad ac arferion annheg yn ystod y broses o gydnabod a dad-gydnabod undebau llafur wedi’i gyhoeddi ar ffurf drafft. Yn amodol ar gymeradwyaeth seneddol, bydd yn dod i rym ar 30 Hydref 2026.

Cyhoeddir arweiniad wedi’i ddiweddaru ar y broses statudol ar gyfer cydnabod undebau ar GOV.UK. Bydd y CAC hefyd yn cyhoeddi ei ganllawiau diwygiedig i’r partïon.

Hawliau a diogelwch newydd i gynrychiolwyr undebau llafur

O 30 Hydref 2026 ymlaen, bydd gan gyflogeion sy’n gynrychiolwyr undebau llafur yn y gweithle hawliau cryfach i amser rhydd â thâl ac i gyfleusterau i gyflawni eu dyletswyddau. Yn amodol ar gymeradwyaeth seneddol, bydd Cod Ymarfer diwygiedig ar amser i ffwrdd ar gyfer dyletswyddau a gweithgareddau undebau llafur yn dod i rym.

Cyflwynwyd y drafft diwygiedig o God Ymarfer Acas sydd ar gael ar wefan Acas (yn agor tudalen Saesneg) ynghylch amser i ffwrdd ar gyfer dyletswyddau a gweithgareddau undebau llafur gerbron y Senedd ar 6 Gorffennaf. Yn amodol ar gymeradwyaeth seneddol, disgwylir i’r Cod hwn gael ei gyhoeddi a dod i rym o 30 Hydref 2026 ymlaen.

Anfanteision yn sgil gweithredu diwydiannol

O 30 Hydref 2026 ymlaen, yn amodol ar gymeradwyaeth seneddol, gwaharddir cyflogwyr rhag trin gweithwyr yn annheg – a elwir hefyd yn gosod anfanteision – os mai’r prif ddiben yw cosbi’r gweithiwr, neu ei atal neu ei rwystro rhag cymryd camau diwydiannol gwarchodedig.

Mae’r newid hwn yn helpu i amddiffyn gweithwyr tra’n dal i ganiatáu i gyflogwyr gymryd camau i ymateb i weithredu diwydiannol lle nad yw’r mesurau hynny’n unig i gosbi, atal neu rwystro gweithwyr.

Gall cyflogwyr ddal i atal cyflog yn gymesur am yr amser y mae gweithiwr yn ei dreulio yn gweithredu’n ddiwydiannol.

Dyletswydd newydd ar gyflogwyr i roi gwybod i weithwyr am eu hawl i ymuno ag undeb llafur

Bydd gofyn i gyflogwyr roi datganiad ysgrifenedig i weithwyr, a ddarperir gan y llywodraeth, yn eu hysbysu o’u hawl i ymuno ag undeb llafur. Dim ond i ychwanegu gwybodaeth benodol am y gweithle lle bo angen neu ganiateir y dylai cyflogwyr ddiwygio’r datganiad.

O 1 Ionawr 2027 ymlaen, mae’n rhaid darparu’r datganiad i weithwyr newydd yn uniongyrchol ar ddechrau eu cyflogaeth, ar yr un pryd â’r datganiad ysgrifenedig o fanylion cyflogaeth.

Erbyn 5 Ebrill 2027, bydd yn ofynnol i gyflogwyr ddarparu’r datganiad i weithwyr presennol gan ddefnyddio dulliau uniongyrchol neu anuniongyrchol.

Arweiniad a datganiad

Gallwch ddod o hyd i drosolwg o’r gofynion o ran dyletswyddau yn Diwygio undebau llafur (yn agor tudalen Saesneg) ar wefan business.gov.

Disgwylir i arweiniad manwl gael eu cyhoeddi ym mis Tachwedd 2026.

Diogelu rhag aflonyddu — arweiniad newydd gan Acas a’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC)

Ym mis Hydref 2024, daeth Deddf Diogelu Gweithwyr 2023 i rym, gan ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr ragweld y risg o aflonyddu rhywiol a chymryd camau rhesymol i’w atal.

Mae Deddf Hawliau Cyflogaeth 2025 yn cynnwys mesurau i gryfhau hwn ac amddiffyniadau eraill rhag aflonyddu.

Newidiadau deddfwriaethol allweddol

Bydd y newidiadau canlynol yn dod i rym o 30 Hydref 2026 ymlaen:

  • disgwylir i gyflogwyr gymryd ‘pob cam rhesymol’ i atal aflonyddu rhywiol ar eu cyflogeion

  • bydd rhwymedigaeth ar gyflogwyr i beidio â chaniatáu i drydydd partïon aflonyddu ar eu gweithwyr

Yr hyn sydd angen i gyflogwyr ei wneud

Dylai cyflogwyr adolygu’r arweiniad diweddaraf a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) ac Acas i gefnogi cyflogwyr i baratoi ar gyfer y mesurau newydd. Mae’r rhain ar gael ar y dudalen Aflonyddu rhywiol yn y gweithle ac aflonyddu gan drydydd parti ar wefan Business gov, ochr yn ochr ag arweiniad ac wybodaeth ehangach am y mesurau newydd.

Dylai cyflogwyr sicrhau bod eu polisïau cyfredol ar aflonyddu yn cyd-fynd â’r mesurau newydd sy’n dod i rym. Dylai hyn gynnwys eu gweithdrefnau rheoli risg, eu llwybrau adrodd a’r hyfforddiant ar aflonyddu a ddarperir i’w cyflogeion.

Yr Adroddiad Dweud Wrth ABAB 2026

Mae Adroddiad Dweud Wrth ABAB 2026 (yn agor tudalen Saesneg) bellach ar gael i’w ddarllen. Mae’r adroddiad yn cyflwyno canfyddiadau o Arolwg blynyddol ‘Dweud Wrth ABAB’, a gomisiynwyd gan y Bwrdd Cynghori ar Feichiau Gweinyddol (ABAB) annibynnol. Derbyniodd arolwg eleni’r nifer uchaf o ymatebion ers iddo ddechrau, gan ddarparu’r set ddata fwyaf hyd yma. Mae’r canfyddiadau’n cynnig mewnwelediadau ar brofiadau, heriau a blaenoriaethau busnesau bach ac asiantau treth wrth ryngweithio â system dreth y DU.

Mae ABAB yn gweithio i ddeall anghenion busnesau bach ac i ddarparu cyngor annibynnol i CThEF. Daw ei aelodau o amrywiaeth o gefndiroedd busnes a phroffesiynol, ac maent yn gweithio gyda CThEF i nodi cyfleoedd i wneud y system dreth yn symlach ac yn haws i fusnesau bach ei defnyddio.

Fel corff cynghori annibynnol, mae ABAB yn herio ac yn craffu ar wasanaethau a rhaglenni trawsnewid CThEF, gan gynnwys Troi Treth yn Ddigidol a gwelliannau ehangach i brofiad y cwsmer. Bob blwyddyn, mae ABAB yn cyhoeddi adroddiad i weinidogion y Trysorlys sy’n nodi ei asesiad o gynnydd CThEF o ran blaenoriaethau ac argymhellion y Bwrdd.

Hoffem ddiolch i bawb a gyfrannodd at arolwg eleni. Mae hyn yn cynnwys rhanddeiliaid a chydweithwyr a helpodd i hyrwyddo’r arolwg, a’r miloedd o fusnesau bach ac asiantau treth a dreuliodd amser i rannu eu barn.

Bydd yr adborth a ddaeth i law yn helpu ABAB i ddeall y materion sydd bwysicaf i gwsmeriaid ac yn cefnogi gwaith parhaus i leihau baich gweinyddol ar draws y system dreth. Bydd mewnwelediadau o lefel record o gyfranogiad eleni hefyd yn helpu i lywio trafodaethau ac argymhellion yn y dyfodol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr adroddiad, anfonwch e-bost at advisoryboard.adminburden@hmrc.gov.uk.

Fideo YouTube newydd — beth yw’r gyfundrefn incwm ac enillion tramor (FIG)

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i gyflogwyr sy’n cyflogi pobl o dramor.

O 6 Ebrill 2025 ymlaen, newidiodd y rheolau treth ar gyfer unigolion nad ydynt yn ddomisil yn y DU. Disodlwyd y sail drosglwyddo o ran trethi gan y gyfundrefn incwm ac enillion tramor (FIG).

Mae trosolwg o gyfundrefn FIG yn fideo YouTube newydd CThEF (yn agor tudalen Saesneg). Mae’n cwmpasu: 

  • beth sydd wedi newid 

  • pwy sy’n gymwys

  • y mathau o incwm ac enillion y gallwch gael rhyddhad arnynt

  • sut i hawlio

  • sut y gallai hawliad effeithio ar eich treth 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y daflen gymorth Hunanasesiad HS266 ar gyfer y gyfundrefn incwm ac enillion tramor (FIG) ac yn Llawlyfr CThEF i’r Gyfundrefn FIG a Mannau Preswylio (RFIG) (yn agor tudalen Saesneg).

Tâl Gofal Newyddenedigol (SNCP) ac Absenoldeb Gofal Newyddenedigol Statudol

Mae Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol (SNCP) ac Absenoldeb Gofal Newyddenedigol yn berthnasol i gyflogeion cymwys y mae eu babi yn cael ei eni ar neu ar ôl 6 Ebrill 2025 ac sydd angen gofal arbenigol i fabanod newyddenedigol. Mae’r ddwy hawl ar gael i gyflogeion yn Lloegr, yr Alban a Chymru. 

Gall cyflogeion fod â hawl i un wythnos o SNCP a Gwyliau Gofal Newyddenedigol am bob 7 diwrnod llawn yn olynol y mae eu babi yn eu treulio mewn gofal arbenigol i fabanod newyddenedigol, hyd at uchafswm o 12 wythnos, ar yr amod bod y babi wedi dechrau cael gofal arbenigol i fabanod newyddenedigol o fewn 28 diwrnod i’w eni.

Mae’r ddau, sef SNCP a Gwyliau Gofal Newyddenedigol, yn ychwanegol at hawliau statudol eraill o ran gwyliau a thâl teuluol, megis gwyliau mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu ac absenoldeb ar y cyd i rieni. 

Telir Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol ar y gyfradd statudol, neu 90% o enillion wythnosol cyfartalog, pa un bynnag sydd isaf. 

Mae’n rhaid i gyflogeion gymryd Absenoldeb Gofal Newyddenedigol ar ôl unrhyw Absenoldeb Mamolaeth Statudol neu Absenoldeb Mabwysiadu Statudol.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Tâl ac Absenoldeb Statudol ar gyfer Gofal Newyddenedigol — arweiniad i gyflogwyr.

Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) — sut i sicrhau bod eich datganiadau misol yn gywir

Rydym am eich helpu i gael eich datganiadau misol ar gyfer Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) yn gywir y tro cyntaf. Y camgymeriadau mwyaf cyffredin a welwn yw defnyddio’r gyfradd ddidynnu anghywir, anghofio cynnwys costau deunyddiau, a nodi ffigurau’n anghywir.

Defnyddio’r gyfradd ddidynnu CIS anghywir

Mae’n rhaid i chi wirio is-gontractwr (yn agor tudalen Saesneg) gyda CThEF cyn i chi eu talu am y tro cyntaf. Mae’n rhaid i chi hefyd eu dilysu eto os nad ydych wedi eu cynnwys ar ffurflen CIS yn y flwyddyn dreth bresennol neu’r ddwy flynedd dreth flaenorol. Bydd CThEF yn rhoi gwybod i chi pa gyfradd ddidynnu i’w defnyddio 30%, 20% neu 0%, os oes gan yr is-gontractwr statws taliadau gros.

Gall cyfradd didynnu is-gontractwr newid. Bydd CThEF yn ysgrifennu atoch os bydd hyn yn digwydd. Peidiwch â dibynnu ar gyfradd hen neu gyfradd a ddefnyddiwyd ar ffurflen flaenorol. Gwiriwch fod y gyfradd rydych yn ei defnyddio yn cyfateb i’r gyfradd ddiweddaraf a ddarparwyd gan CThEF.

Peidio â chofnodi cost y deunyddiau

Camgymeriad cyffredin arall yw hepgor costau deunyddiau o ddatganiad fisol y CIS. Gall hyn wneud i’r didyniad edrych yn anghywir, hyd yn oed os gwnaethoch ddefnyddio’r gyfradd ddidynnu gywir.

Mae didyniadau CIS fel arfer yn berthnasol i ran llafur anfoneb is-gontractwr, nid i gost y deunyddiau. Dylech gofnodi cost y deunyddiau ar wahân ar eich datganiad, fel bod y ffigurau ar gyfer taliadau, deunyddiau a didyniadau yn cyd-fynd â’ch cofnodion.

Nodi ffigyrau anghywir

Gall mân wallau wrth nodi data achosi problemau. Er enghraifft, gall nodi swm talu, cost deunydd neu swm didynnu anghywir wneud y datganiad yn anghywir. Gwiriwch bob ffigwr yn erbyn eich cofnodion cyflogres, anfonebau neu gyfrifyddu cyn i chi gyflwyno’r datganiad.

Beth ddylech ei wneud

Cyn i chi gyflwyno pob datganiad misol, dylech wneud y canlynol:

  • gwirio is-gontractwyr pan fo angen

  • defnyddio’r gyfradd ddidynnu ddiweddaraf a ddarparwyd gan CThEF

  • cofnodi cost y deunyddiau ar wahân lle mae deunyddiau wedi’u cynnwys ar yr anfoneb

  • gwirio’r ffigurau taliadau, deunyddiau a didyniadau yn erbyn eich cofnodion

  • cywiro unrhyw wallau cyn gynted â phosibl os byddwch yn darganfod camgymeriad

Darllenwch yr arweiniad yn Cynllun y Diwydiant Adeiladu 340 (yn agor tudalen Saesneg), sy’n esbonio cyfrifoldebau contractwyr a sut i ddiwygio datganiad.

Mae CThEF yn gwirio datganiadau CIS ac efallai y bydd yn cysylltu â chi os nad yw rhywbeth yn ymddangos fel pe bai’n cyd-fynd â chyfradd ddidynnu wedi’i dilysu is-gontractwr, neu os oes angen gwirio ffigurau eraill. Gall CThEF ofyn i chi adolygu’ch cofnodion er mwyn i ni allu deall sut y cwblhawyd y datganiad. Os oes angen rhagor o wybodaeth, bydd CThEF yn egluro beth sydd angen i chi ei wneud nesaf.

Gall CThEF gysylltu â chwsmeriaid drwy lythyr neu e-bost. Os nad ydych yn siŵr a yw neges yn ddilys, gallwch wirio rhestr o gysylltiadau dilys CThEF.

Mae amser o hyd i helpu’ch rhiant neu gyflogeion sy’n ofalwyr i gael y taliadau Budd-dal Plant y mae ganddynt hawl iddynt

Dylai unrhyw un sydd am barhau i gael Budd-dal Plant gymryd camau cyn 30 Tachwedd 2026 i gael eu hawl lawn.

I gwsmeriaid a fethodd y dyddiad cau ar 31 Awst 2026, bydd taliadau Budd-dal Plant wedi dod i ben yn awtomatig. Fodd bynnag, gellir ailgychwyn hawliadau a gellir ôl-ddyddio taliadau am hyd at dri mis.

Gall rhieni a gofalwyr ddiweddaru eu hawliad o fewn munudau drwy ap CThEF neu ar-lein, ac nid oes angen iddynt ffonio CThEF.

Gall rhieni a gofalwyr y mae eu plant yn parhau mewn addysg amser llawn barhau i gael Budd-dal Plant. Mae hyn yn cynnwys y rhai sydd:

  • sy’n astudio gartref oherwydd salwch neu anabledd

  • sydd mewn hyfforddiant cymeradwy

Os yw’r plentyn yn dechrau ail flwyddyn o gwrs addysg amser llawn nad yw’n addysg uwch, nid oes angen iddo gysylltu â ni.

Bydd unrhyw riant neu ofalwr sy’n ymestyn eu Budd-dal Plant, ac mae ganddyn nhw neu eu partner incwm o fwy na £60,000, yn agored i dalu’r Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel, y gellir ei dalu nawr trwy eu cod treth TWE.

Rhannwch y neges hon gyda’ch cyflogeion i’w hannog i ymestyn eu Budd-dal Plant ar-lein.

Fformat HTML bwletin y cyflogwr 

Ers mis Medi 2020, mae’n rhaid i ddeunydd a gyhoeddir ar GOV.UK neu ar wefannau eraill y sector cyhoeddus fodloni safonau hygyrchedd (yn agor tudalen Saesneg). Mae hyn er mwyn sicrhau y gall cynifer o bobl â phosibl eu defnyddio, gan gynnwys y sawl sydd â:

  • nam ar eu golwg 

  • anawsterau echddygol 

  • anawsterau gwybyddol neu anableddau dysgu 

  • trymder clyw neu nam ar eu clyw 

Erbyn hyn mae tudalen gynnwys, gyda chysylltiadau, ac mae modd sgrolio drwy’r dudalen yn llwyr. Mae’r erthyglau wedi’u rhoi mewn categorïau o dan benawdau, a hynny yn y Rhagarweiniad, er mwyn ei gwneud yn haws dod o hyd i’r diweddariadau a’r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddynt. 

Mae’r fformat HTML yn caniatáu i chi wneud y canlynol (yn dibynnu ar eich porwr gwe): 

  • argraffu’r ddogfen pe baech yn dymuno cadw ffeil ar bapur:

    • dewiswch y botwm ‘Argraffu’r dudalen hon’ o dan y rhestr cynnwys a gallwch argraffu’r ddogfen ar eich argraffydd lleol 
  • i gadw’r ddogfen fel PDF:

    • dewiswch y botwm ‘Argraffu’r dudalen hon’ a, chan ddefnyddio’r gwymplen ar yr argraffydd, dewis ‘Argraffu i PDF’ — sy’n caniatáu i chi gadw’r ddogfen fel PDF a’i ffeilio ar ffurf electronig

    • ar ddyfais symudol, gallwch ddewis y botwm ar gyfer rhagor o opsiynau, yna dewiswch yr opsiynau i allu cadw fel PDF

Cael rhagor o wybodaeth ac anfon adborth

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y diweddaraf am newidiadau drwy gofrestru i gael ein negeseuon e-bost hysbysu (yn agor tudalen Saesneg).

Gallwch hefyd ein dilyn ar X (Twitter) @HMRCgovuk (yn agor tudalen Saesneg). 

Anfonwch eich adborth am y bwletin hwn, neu rhowch wybod am erthyglau yr hoffech eu darllen, drwy e-bost at GRP128613644@hmrc.onmicrosoft.com.