Skip to main content
Canllawiau

Bwletin y Cyflogwr: Hydref 2026

Cylchgrawn a gyhoeddir bob deufis ar gyfer cyflogwyr ac asiantau, sy’n rhoi gwybodaeth i’r funud ynghylch materion y gyflogres.

Dogfennau

Manylion

Translated body - Mae CThEF yn cyhoeddi Bwletin y Cyflogwr 6 gwaith y flwyddyn. Mae’r Bwletin yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i gyflogwyr ac asiantau ynghylch materion a allai effeithio arnynt.  

Mae rhifyn mis Hydref o Fwletin y Cyflogwr yn cynnwys erthyglau ar y canlynol:  

  • Talu buddiannau drwy’r gyflogres — diweddariad ar eithriadau ar gyfer cyflogai sy’n symud yn fyd-eang a chyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A

  • Gwneud eich taliad Cytundeb Setliad TWE (PSA) erbyn 22 Hydref 2026

  • Mae cofrestru gorfodol fel ymgynghorydd treth ar gyfer asiantau’r gyflogres yn agor ar 18 Tachwedd 2026

  • Newidiadau i gyfraith undebau llafur — yr hyn y mae angen i gyflogwyr ei wybod

  • Adroddiad Dweud wrth ABAB 2026

  • Mae amser o hyd i helpu’ch rhiant neu gyflogeion sy’n ofalwyr i gael y taliadau Budd-dal Plant y mae ganddynt hawl iddynt

Gallwch gofrestru ar gyfer gwasanaeth hysbysu cyflogwyr drwy e-byst CThEF (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn cael e-byst oddi wrth CThEF sy’n rhoi gwybod i chi pan fydd y rhifyn diweddaraf ar gael.  

Gallwch ddarllen Bwletin y Cyflogwr ar y sgrin neu ei argraffu. Mae’n cyd-fynd â’r rhan fwyaf o becynnau meddalwedd darllen sgrin 

Argraffu'r dudalen hon