Cyfarwyddyd ymarfer 54: caffael tir trwy ddatganiad breinio cyffredinol o dan Ddeddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981
Diweddarwyd 16 Mawrth 2026
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.
I weld hanes diweddariadau’r cyfarwyddyd ymarfer hwn, gweler cyfarwyddyd ymarfer 54: hanes diweddariadau.
1. Cyflwyniad
O dan adran 1 o Ddeddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981 gall awdurdod lleol neu gorff cyhoeddus arall (“yr awdurdod”) gaffael tir trwy gyfrwng datganiad breinio cyffredinol. Mae’r darpariaethau manwl sy’n rheoli’r drefn hon i’w gweld yn rhannau II a IV ac Atodlen 1 i Ddeddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981, ac yn ddarostyngedig i’r darpariaethau trosiannol lle gallai rheoliadau blaenorol fod yn berthnasol, Rheoliadau Prynu Tir Gorfodol (Datganiad Breinio) (Lloegr) 2017 a Rheoliadau Prynu Tir Gorfodol (Datganiadau Breinio) (Cymru) 2017. Mae’r darpariaethau hyn yr un mor berthnasol i dir cofrestredig a digofrestredig.
Gwnaed newidiadau i’r drefn prynu gorfodol ac iawndal gan Ran 7 o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 a Deddf Cynllunio Cymdogaeth 2017. Nod hysbys y Ddeddf honno yw gwneud y system yn ‘gliriach, yn decach ac yn gynt’ wrth gadw amddiffyniadau ar gyfer perchnogion tir. Gwnaed newidiadau pellach gan Ran 5 o Ddeddf Cynllunio a Seilwaith 2025 gyda’r nod datganedig o alluogi cydosod tir yn fwy effeithiol trwy gynlluniau dan arweiniad y sector cyhoeddus.
Diwygiodd Deddf Tai a Chynllunio 2016 Ddeddf Caffael Tir 1981 fel ei bod nawr yn darparu bod cadarnhad a gwneud rhybuddion i gael eu hanfon gan yr awdurdod neu’r Gweinidog i’r Prif Gofrestrydd Tir ac y byddant yn bridiannau tir lleol. Pan fo’r tir yn y gorchymyn wedi’i leoli mewn ardal y mae’r awdurdod lleol yn parhau i fod yn awdurdod cofrestru ar gyfer pridiannau tir lleol (lle nad yw’r newidiadau a wnaed gan Rannau 1 a 3 o Atodlen 5 i Ddeddf Seilwaith 2015 wedi dod i rym yn yr awdurdod lleol hwnnw eto), bydd angen i’r awdurdod ac ati gydymffurfio â’r camau sy’n ofynnol gan adran 5 o Ddeddf Pridiannau Tir Lleol 1975 (cyn iddo gael ei ddiwygio gan Ddeddf Seilwaith 2015) i sicrhau bod yr arwystl yn cael ei gofrestru fel pridiant tir lleol gan yr awdurdod lleol fel yr awdurdod cofrestru. Awgrymwn eich bod yn siarad â chynghorwr cyfreithiol annibynnol os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon ynghylch gofynion cofrestru fel pridiant tir lleol.
Gwnaeth Deddf Cynllunio a Seilwaith 2025 newidiadau pellach i’r drefn prynu gorfodol, gan gynnwys darpariaethau iawndal a chaniatáu gwasanaeth electronig hysbysiadau gofynnol mewn rhai achosion, yn ogystal â chyflwyno’r weithdrefn gyflym ar gyfer breinio tir trwy ddatganiad breinio cyffredinol o dan adrannau 108 a 109 o’r Ddeddf hon. Daethpwyd ag adrannau 108 a 109 i rym ar gyfer Lloegr ar 18 Chwefror 2026. Fodd bynnag, nid ydynt mewn grym ar hyn o bryd ar gyfer Cymru.
Lle y mae’r awdurdod yn gwneud gorchymyn breinio gorfodol, ond yn caffael y tir trwy hysbysiad i drafod telerau wedi ei ddilyn gan drawsgludiad neu drosglwyddiad, dylid cofrestru’r gwarediad i’r awdurdod yn yr un ffordd â throsglwyddiad ar werthiant.
Bydd pwerau caffael yr awdurdod yn cael eu cynnwys yn y ddeddfwriaeth alluogi berthnasol, a fydd, efallai, wedi cael ei phasio’n benodol ar gyfer y datblygiad neu brosiect o dan sylw. Bydd yn bwysig ystyried darpariaethau penodol y ddeddfwriaeth, yn enwedig mewn perthynas â diddymu a hawddfreintiau gor-redol a chyfamodau sy’n effeithio ar y tir a gaffaelwyd.
2. Ymchwiliadau rhagarweiniol
2.1 Darganfod a yw tir yn gofrestredig
Ceir 2 ffordd ar hyn o bryd i ddarganfod a yw tir rhydd-ddaliol neu brydlesol neu rent-dâl yn gofrestredig ac a oes unrhyw rybuddiadau yn erbyn cofrestriad cyntaf wedi eu cofnodi.
2.1.1 MapSearch
Gwasanaeth digidol di-dâl i gwsmeriaid sy’n defnyddio’n e-wasanaethau busnes yw MapSearch. Gyda MapSearch gallwch:
- weld yn gyflym yw tir ac eiddo yng Nghymru a Lloegr yn gofrestredig
- edrych ar leoliad tir ac eiddo cofrestredig
- cael gafael ar rifau teitl, manylion daliadaeth rhydd-ddaliol neu brydlesol a buddion cofrestredig eraill
- arbed canlyniad MapSearch fel PDF gyda’n nodwedd Snapshot (mae hyn at ddibenion cyfeirio yn unig ac mae’n ddarostyngedig i hawlfraint).
Gweler MapSearch am ragor o wybodaeth.
2.1.2 Chwiliad o’r map mynegai
Nid yw MapSearch yn cynnig darpariaethau indemniad ar gyfer y wybodaeth a ddarperir. Os oes angen mantais darpariaethau indemniad arnoch, bydd yn rhaid ichi gynnal chwiliad gan ddefnyddio ein chwiliad o’r map mynegai. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 10: chwiliadau swyddogol am ragor o wybodaeth.
2.2 Archwilio’r gofrestr
Gallwch wneud cais am gopi swyddogol o’r gofrestr naill ai ar-lein trwy e-wasanaethau busnes neu ar ffurflen OC1 bapur. Mae’r ffi sy’n daladwy wedi ei phennu yn y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol (gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru). Os ydych yn defnyddio ffurflen bapur OC1, edrychwch ar gyfeiriad Cofrestrfa Tir EF i weld i ble y dylid anfon eich cais wedi ei gwblhau.
Os ydych am gael gwybod a wnaed cofnodion pellach ar y gofrestr ers dyddiad arbennig fel, er enghraifft, dyddiad cyhoeddi copi swyddogol diweddar o’r gofrestr, gallwch wneud cais am chwiliad swyddogol heb flaenoriaeth gan ddefnyddio ffurflen OS3. Caiff yr hyn sydd i’w dalu am chwiliad o’r gofrestr ei bennu yn y Gorchymyn Ffi.
3. Cais i gofrestru awdurdod fel perchennog tir cofrestredig
3.1 Sut i wneud y cais
Dylai awdurdod sydd wedi caffael tir cofrestredig trwy gyfrwng datganiad breinio cyffredinol wneud cais i’w gofrestru fel perchennog ar ffurflen AP1 ynghyd â’r canlynol:
-
copi ardystiedig o’r datganiad breinio cyffredinol gwreiddiol. Yn achos tir yn Lloegr, dylai hyn fod ar y ffurf a bennir gan Reoliadau Prynu Tir Gorfodol (Datganiadau Breinio) (Lloegr) 2017. (“the 2017 England Regulations”) ac o 18 Chwefror 2026, ffurf y datganiad breinio cyffredinol yn Rheoliadau Lloegr 2017 fel y’u diwygiwyd gan Reoliadau Prynu Tir Gorfodol (Datganiadau Breinio) (Lloegr) (Diwygio) 2026. Yn achos tir yn Lloegr, dylai hyn fod ar y ffurf a bennir gan Reoliadau Prynu Tir Gorfodol (Datganiadau Breinio) (Lloegr) 2017. Yn achos tir yng Nghymru, dylai hyn fod ar y ffurf a bennir gan Reoliadau Prynu Tir Gorfodol (Datganiadau breinio) (Cymru) 2017. Cyn 3 Chwefror 2017 (yn achos tir wedi ei leoli yn Lloegr) a 6 Ebrill 2017 (yn achos tir wedi ei leoli yng Nghymru) nodwyd ffurf y datganiad breinio cyffredinol yn Atodlen 1 i Reoliadau Prynu Tir Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1990 (efallai y bydd y ffurf yn berthnasol o hyd lle’r “awdurdodwyd” gorchymyn prynu gorfodol – term sy’n cael ei ddefnyddio yn y rheoliadau a grybwyllir uchod – cyn y dyddiadau hynny.
-
tystysgrif gadarnhau gan Brif Swyddog Gweithredol yr awdurdod neu ei drawsgludwr bod y rhybuddion angenrheidiol o dan adran 6 o Ran II o Ddeddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981 wedi eu hanfon ar ddyddiad penodol (dylid nodi’r dyddiad)
-
rhaid i’r ceisydd gadarnhau hefyd:
- nad yw’r awdurdod wedi anfon unrhyw rybudd mewn perthynas ag unrhyw eiddo a gynhwysir yn y datganiad breinio cyffredinol na chafodd ei dynnu’n ôl cyn cyflawni’r datganiad breinio cyffredinol; ac
- nad yw’r awdurdod wedi cael rhybudd o wrthwynebiad i holltiad (gweler Atodlen 1 i Ddeddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981), neu
- nid yw’r awdurdod wedi derbyn “gwrthrybudd” yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod brynu budd perchennog yn ei holl dir (gweler Atodlen A1 i Ddeddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981)
- tystysgrif yn cadarnhau a yw rhan II o Atodlen 2 i Ddeddf Caffael Tir 1981 neu unrhyw eithriad statudol arall o’r mwynfeydd a’r mwynau yn gymwys i’r gorchymyn prynu gorfodol ac os felly a yw’r mwynfeydd a’r mwynau wedi cael eu prynu’n benodol gan yr awdurdod (gweler Mwynfeydd a mwynau)
-
tystysgrif yn cadarnhau a yw’r gorchymyn prynu gorfodol yn cynnwys neu nid yw’n cynnwys tir categori arbennig (gweler Tir categori arbennig)
- ffi ar Raddfa 2 y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol ar sail gwerth y tir ymhob teitl cofrestredig (gweler hefyd Ffi Cofrestrfa Tir EF).
Os yw’r holl dir, neu ran o’r tir, y gwneir cais amdano, yn ddigofrestredig, gall yr awdurdod wneud cais am gofrestriad cyntaf teitl fel y disgrifir yn Cais am gofrestriad cyntaf teitl yr awdurdod.
Oni bai ei bod yn amlwg o’r dogfennau a gyflwynir, dylech gadarnhau yn y cais neu ohebiaeth gysylltiedig pa ddarpariaethau statudol y dibynnir arnynt i gaffael y tir. Os nad yw hyn yn glir, mae’n bosibl y byddwn yn anfon ymholiad.
3.2 Tystiolaeth o freinio
Rhaid i chi brofi, trwy gynnwys y manylion a bennir trwy statud yn y datganiad breinio cyffredinol a thystysgrif y Prif Swyddog Gweithredol, bod y datganiad wedi dod i rym a bod y tir wedi breinio yn yr awdurdod.
Rhaid i’r datganiad nodi’r tir trwy gyfeirio at ei rif teitl (rheol 212(3) o Reolau Cofrestru Tir 2003).
Os yw’r breinio o’r holl dir mewn teitl cofrestredig, cyfeirio at rif y teitl yw’r cyfan sydd ei angen.
Os yw’r datganiad yn berthnasol i ran o’r tir mewn teitl yn unig, rhaid iddo ddod gyda chynllun yn seiliedig ar fap yr Arolwg Ordnans (rheol 212(3) o Reolau Cofrestru Tir 2003). Dylid tynnu’r cynllun hwn ar raddfa o 1/2500 o leiaf, dangos ei ogwydd (er enghraifft pwynt y gogledd) a, lle bo angen, dangos trwy gyfrwng mesuriadau berthynas y rhan i’w throsglwyddo i’r nodweddion diriaethol presennol hynny yn y maes (fel cyffyrdd neu furiau neu ffensys) sydd hefyd yn cael eu dangos gyda llinellau duon cadarn ar y cynllun teitl.
Lle mae datganiad breinio cyffredinol yn cael ei gyflwyno heb rifau teitl wedi eu nodi yn yr atodlen i’r datganiad breinio cyffredinol bydd atodiad i’r datganiad breinio cyffredinol yn ofynnol sy’n nodi rhifau teitl yr eiddo cofrestredig sydd wedi eu cynnwys yn y datganiad breinio cyffredinol trwy gyfeirio at y rhifau llain yn yr atodlen a’r map sydd wedi ei atodi i’r datganiad breinio cyffredinol. Bydd angen i’r atodiad hwn gofnodi ei fod wedi cael ei baratoi fel atodiad i’r datganiad breinio cyffredinol a chael ei lofnodi gan Brif Weithredwr llofnodwr awdurdodedig yr awdurdod y bydd angen darparu ei statws a’i awdurdod. Nodwn nad yw’r ffurf ragnodedig gyfredol ar gyfer datganiadau breinio cyffredinol yn Lloegr (Rheoliadau Prynu Tir Gorfodol (Datganiadau Breinio) (Lloegr) 2017) a Chymru (Rheoliadau Prynu Tir Gorfodol (Datganiadau Breinio) (Cymru) 2017) yn ei gwneud yn ofynnol i rifau teitl gael eu nodi yn yr atodlen i’r datganiad breinio cyffredinol, fodd bynnag, mae hwn yn ofyniad at ddibenion cofrestru tir ac mae ei angen i fodloni gofynion rheol 212(3) o Reolau Cofrestru Tir 2003.
3.3 Teitl cofrestredig yn y datganiad breinio cyffredinol y mae’r awdurdod eisoes yn berchen arno
Lle mae’r ceisydd eisoes yn berchen ar deitl cofrestredig, dylai’r ceisydd wneud cais i dynnu’n ôl neu ddileu unrhyw gyfyngiadau, rhybuddiadau ac ati yn erbyn y teitl. Os nad yw tynnu’n ôl neu ddileu yn bosibl bydd y cofnodion yn cael eu dwyn ymlaen i’r teitl datganiad breinio cyffredinol newydd.
3.4 Cyfamodau cyfyngu a hawddfreintiau
Bydd cyfamodau cyfyngu a hawddfreintiau yn cael eu dwyn ymlaen i’r teitl newydd oni bai fod un o’r canlynol wedi ei gadarnhau:
- maent yn disgyn ar undod seisin
- maent wedi eu diddymu’n barhaol gan statud
- gellir dangos eu bod yn ddi-rym am nad ydynt wedi cael eu cofrestru fel pridiant tir
- nid ydynt yn effeithio ar y tir datganiad breinio cyffredinol.
3.4.1 Dileu cofnod cyfamod cyfyngu a hawddfraint
Gweler Dileu cofnod cyfamod cyfyngu a hawddfraint.
3.5 Rhybudd methdaliad a chofnodion methdaliad
Lle mae rhybuddion methdaliad neu gyfyngiadau methdaliad ar y teitl cofrestredig sy’n bodoli, mae angen i Gofrestrfa Tir EF fodlon ei hun bod yr awdurdod wedi dilyn y weithdrefn gywir mewn perthynas â’r gorchymyn prynu gorfodol a’r datganiad breinio cyffredinol a’i fod mewn grym i freinio’r ystad gyfreithiol yn yr awdurdod.
Bydd tystysgrif yn ofynnol gan yr awdurdod i gadarnhau bod y gorchymyn prynu gorfodol a’r weithdrefn datganiad breinio cyffredinol gywir wedi cael eu dilyn. Pan dderbynnir y dystysgrif bydd Cofrestrfa Tir EF yn cyflwyno rhybudd ar yr ymarferydd ansolfedd. Os nad oes gwrthwynebiad i’r rhybudd gellir tynnu’r rhybuddion neu’r cyfyngiadau methdaliad.
3.6 Rhybuddion unochrog
Bydd rhybuddion unochrog yn cael eu dwyn ymlaen i’r teitl newydd oni bai fod cais UN4 i ddileu neu gais UN2 i dynnu’r rhybudd unochrog yn cael ei gyflwyno gyda’r cais.
3.7 Rhybuddion a gytunwyd
Oni bai fod cais ar ffurflen CN1 yn cael ei gyflwyno gyda’r cais i gofrestru’r datganiad breinio cyffredinol bydd rhybudd ohono yn cael ei ddwyn ymlaen i’r teitl newydd.
3.8 Cyfyngiadau heblaw rhybuddion methdaliad
Bydd cyfyngiadau’n cael eu dwyn ymlaen i’r teitl newydd oni bai y cânt eu tynnu’n ôl gan y cyfyngwr trwy gyflwyno ffurflen RX4 neu eu dileu gan yr awdurdod trwy gyflwyno ffurflen RX3.
3.9 Cyfamodau personol
Ni fydd cyfamodau personol y cyfeirir atynt mewn cofrestr perchnogaeth yn cael eu dwyn ymlaen.
3.10 Rhybuddiadau
Os nad yw’r rhybuddiad o blaid yr awdurdod dylai’r cais nodi’r budd a warchodir. Os yw’r awdurdod yn cadarnhau bod budd y rhybuddiwr wedi cael ei gaffael neu ei ddiddymu, bydd Cofrestrfa Tir EF yn mynd ati i ddileu’r rhybuddiad ac yn cyflwyno rhybudd gwybodaeth ar y rhybuddiwr.
Lle nad yw’r awdurdod yn caffael budd rhybuddiad bydd rhybudd o wrthwynebiad yn cael ei gyflwyno ar y rhybuddiwr fel y cyfeirir ato yn cyfarwyddyd ymarfer 3: rhybuddiadau yn erbyn cofrestriad cyntaf.
3.11 Prydlesi a nodwyd
Gweler Prydlesi sy’n effeithio.
3.12 Rhent-daliadau a nodwyd
Gweler hefyd Prydlesi sy’n effeithio
Mae rhent-daliadau yn dod i rym fel ystad gyfreithiol mewn tir a chânt eu caffael gan y datganiad breinio cyffredinol pan fydd yr holl fuddion wedi eu caffael. Os yw’r rhent-dal a nodwyd yn ddigofrestredig, bydd Cofrestrfa Tir EF yn ei ddileu lle mae’r ceisydd wedi ei gaffael er y gallwn wneud cofnod gwarchodedig yn y gofrestr mewn perthynas ag unrhyw gyfamodau cyfyngu.
3.13 Rhent-daliadau cofrestredig
Os gellir cau neu gyd-doddi’r teitl â theitl rhydd-ddaliol/ei gyfuno yn y teitl datganiad breinio cyffredinol ac mae’r rhent-dal yn cynnwys cyfamodau cyfyngu gwneir cofnod ar y datganiad breinio cyffredinol mewn perthynas â’r rhain.
3.14 Arwystlon cyfreithiol
Ni fydd arwystlon cyfreithiol a gofrestrwyd yn y gofrestr arwystlon yn cael eu dwyn ymlaen i’r teitl datganiad breinio cyffredinol newydd oherwydd yn wahanol i arwystl ecwitïol mae arwystl cyfreithiol yn dod i rym fel budd cyfreithiol mewn tir a chaiff ei gaffael o dan y datganiad breinio cyffredinol.
Sylwer: ni fydd unrhyw gyfyngiad ar y teitl sy’n gysylltiedig â’r arwystl cyfreithiol yn cael ei ddwyn ymlaen i’r teitl datganiad breinio cyffredinol newydd hefyd.
3.15 Arwystlon ecwitïol
Bydd arwystlon ecwitïol yn cael eu dwyn ymlaen i’r teitl datganiad breinio cyffredinol newydd oni bai fod cais yn cael ei dderbyn i dynnu’r rhybudd unochrog (gweler Rhybuddion unochrog) neu’r rhybudd a gytunwyd (gweler Rhybuddion a gytunwyd).
3.16 Ffi Cofrestrfa Tir EF
Os pennwyd iawndal neu os cytunwyd ar werth y tir fel bod modd asesu ffi Cofrestrfa Tir EF, rhaid talu ffi ar Raddfa 2, yn seiliedig ar y gwerth hwnnw, wrth gyflwyno’r cais.
Os na phennwyd iawndal fel nad oes modd asesu ffi Cofrestrfa Tir EF, rhaid talu isafswm tuag at y ffi (fel y nodir yn y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol – £40 ar hyn o bryd) wrth gyflwyno’r cais a dylid cyflwyno ymgymeriad ar yr un pryd i dalu’r swm sy’n ddyledus, os oes, ar gais. Os yw’r ardal o dir a gaffaelwyd o fath a fyddai gyfwerth â chais ar raddfa fawr, dylech drafod y mater yn y lle cyntaf gyda chyswllt cais lluosog – gweler cyfarwyddyd ymarfer 33: ceisiadau graddfa fawr a chyfrifo ffïoedd.
4. Cais am gofrestriad cyntaf teitl yr awdurdod
4.1 Ystyriaeth gyffredinol
Nid yw caffael tir trwy drefn datganiad breinio cyffredinol yn drosglwyddiad o ystad sy’n gymwys o dan adran 4(1)(a) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Mae datganiad breinio cyffredinol yn gweithredu fel trosglwyddiad trwy weithrediad y gyfraith felly nid yw’n ennyn cofrestriad cyntaf. Felly, nid oes dyletswydd i wneud cais am gofrestriad cyntaf o’r teitl i dir o’r fath, er y gallwch wneud cais am gofrestriad cyntaf gwirfoddol (a bydd y ffi ostyngol ar gyfer cofrestriad cyntaf gwirfoddol yn berthnasol).
Sylwer: Bydd caffael tir digofrestredig o dan hysbysiad wedi ei ddilyn gan drawsgludiad neu drosglwyddiad y tir i’r awdurdod y mynegwyd ei fod am werth neu gydnabyddiaeth arall yn gofrestradwy trwy orfodaeth yn rhinwedd adran 4(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, a bydd darpariaethau adrannau 6-8 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn gymwys hefyd.
Ni ellir defnyddio rhybuddiad yn erbyn cofrestriad cyntaf i warchod datganiad breinio cyffredinol.
4.2 Sut i wneud y cais
Rhaid i’r awdurdod wneud cais am gofrestriad cyntaf teitl i dir rhydd-ddaliadol wedi ei gaffael trwy ddatganiad breinio cyffredinol i Gofrestrfa Tir EF ar ffurflen FR1 (edrychwch ar gyfeiriad Cofrestrfa Tir EF i weld i ble y dylid anfon eich cais wedi ei gwblhau) ynghyd â ffurflen DL yn ddyblyg a’r canlynol:
-
copi ardystiedig o’r datganiad breinio cyffredinol ar y ffurf benodedig (gweler Sut i wneud y cais)
-
tystysgrif gadarnhau gan Brif Swyddog Gweithredol yr awdurdod neu ei drawsgludwr bod y rhybuddion angenrheidiol o dan adran 6 o Ran II o Ddeddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981 wedi eu hanfon ar ddyddiad penodol (dylid nodi’r dyddiad)
-
rhaid i’r ceisydd gadarnhau mewn perthynas ag unrhyw dir wedi ei gynnwys yn y datganiad breinio cyffredinol:
- nad yw’r awdurdod wedi anfon unrhyw rybudd mewn perthynas ag unrhyw eiddo a gynhwysir yn y datganiad breinio cyffredinol na chafodd ei dynnu’n ôl cyn cyflawni’r datganiad breinio cyffredinol; ac
- nad yw’r awdurdod wedi cael rhybudd o wrthwynebiad i holltiad (gweler Atodlen 1 i Ddeddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981), neu
- nid yw’r awdurdod wedi cael “gwrth-rybudd” yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod brynu budd perchennog yn ei holl dir (gweler Atodlen A1 i Ddeddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981)
-
ffi ostyngol ar Raddfa 1 y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol (gweler hefyd Ffi Cofrestrfa Tir EF)
-
yr holl weithredoedd a dogfennau’n ymwneud â’r teitl sydd gan yr awdurdod yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth (gweler Absenoldeb gweithredoedd eiddo), a
-
manylion digonol, trwy gynllun neu fel arall, fel bod modd dynodi’r tir yn eglur ar fap yr Arolwg Ordnans a
-
tystysgrif yn cadarnhau a yw rhan II o Atodlen 2 i Ddeddf Caffael Tir 1981 neu unrhyw eithriad statudol arall o’r mwynfeydd a’r mwynau yn gymwys i’r gorchymyn prynu gorfodol ac os felly a yw’r mwynfeydd a’r mwynau wedi cael eu prynu’n benodol gan yr awdurdod (gweler Mwynfeydd a mwynau)
Oni bai ei bod yn amlwg o’r dogfennau a gyflwynir, dylech gadarnhau yn y cais neu ohebiaeth gysylltiedig pa ddarpariaethau statudol y dibynnir arnynt i gaffael y tir. Os nad yw hyn yn glir, mae’n bosibl y byddwn yn anfon ymholiad.
4.3 Absenoldeb gweithredoedd eiddo
Ni fydd y datganiad breinio cyffredinol fyth ohono’i hun yn diddymu hawddfreintiau neu gyfamodau cyfyngu sy’n gallu rhwymo’r tir yn nwylo pobl heblaw’r awdurdod. Felly, os na chaiff gweithredoedd yr eiddo eu cyflwyno ar adeg dyfarnu teitl llwyr, byddwn fel arfer yn gwneud cofnod ar y gofrestr y gall fod buddion fel hyn heb eu datgelu. Bydd y cofnod yn datgan bod y tir yn ddarostyngedig i’r fath hawddfreintiau a chyfamodau cyfyngu all fod wedi eu creu neu eu gosod cyn dyddiad y datganiad breinio cyffredinol ac sy’n dal i fodoli ac yn orfodadwy.
4.4 Cyfamodau cyfyngu a hawddfreintiau
Gyda phob cais am gofrestriad cyntaf, dylech ddarparu manylion llawn pob llyffethair sy’n effeithio ar y tir. Mae hyn yn cynnwys unrhyw gyfamodau cyfyngu a hawddfreintiau sy’n bodoli ar ddyddiad y caffael, hyd yn oed lle y mae’r prynwr yn gorff a chanddo bwerau caffael gorfodol. Rhaid inni nodi bodolaeth hawliau trydydd parti o’r fath yn y gofrestr, oherwydd hyd yn oed os yw cyfraith adeiladu’n awdurdodi datblygiad a defnyddio’r tir gan dorri’r hawliau, nid ydynt yn cael eu diddymu fel rheol a gallant ddod yn orfodadwy os yw’r tir yn peidio â chael ei ddefnyddio at y diben y cafodd y prynwr y pŵer i’w gaffael.
Byddwn yn hepgor cyfamodau cyfyngu a hawddfreintiau o’r gofrestr o dan yr amgylchiadau canlynol yn unig:
- os cânt eu diddymu’n barhaol trwy statud (gweler Dileu cofnod cyfamod cyfyngu a hawddfraint ar gyfer yr amgylchiadau lle efallai na fydd yn bosibl eu tynnu o’r teitl)
- os ceir tystiolaeth eu bod wedi cyd-doddi ar undod seisin o ganlyniad i gaffael y tir buddiol a’r tir llwythog cyfan. Yn achos cyfamodau cyfyngu, mae hyn yn anodd i’w brofi
- os gellir profi bod y cyfamodau cyfyngu yn ddi-rym oherwydd eu cofrestru fel pridiant tir.
- nid ydynt yn effeithio ar y tir yn y datganiad breinio cyffredinol
4.4.1 Dileu cofnod cyfamod cyfyngu a hawddfraint
Pan fo cyfamodau cyfyngu a hawddfreintiau’n destun cofnod rhybudd yn y gofrestr, dylech gadw mewn cof nad yw’r rhybudd yn gweithredu er mwyn rhoi dilysrwydd i’r budd a nodwyd (adran 32(3) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Os nad yw’r budd yn ddilys, nid oes gan fodolaeth y rhybudd unrhyw arwyddocâd cyfreithiol. Fodd bynnag, os yw’r budd yn ddilys, bydd y rhybudd yn gwarchod unrhyw flaenoriaeth (os o gwbl) a oedd gan y budd mewn ecwiti cyn iddo gael ei nodi yn y gofrestr.
Mae rhai statudau’n rhagamodi’n benodol y bydd yr arfer o brynu gorfodol gan awdurdod yn gweithredu er mwyn diddymu cyfamodau cyfyngu a hawddfreintiau. Bu hyn yn nodwedd o ddeddfwriaeth a basiwyd ar gyfer rhai prosiectau isadeiledd cyhoeddus mawr (er enghraifft safle Gemau Olympaidd Llundain 2012 a Crossrail). Fodd bynnag, yn dibynnu ar yr union ddarpariaethau statudol, efallai na fydd yn bosibl tynnu’r cofnodion yn ymwneud â buddion trydydd parti, cyfamodau cyfyngu a hawddfreintiau ymaith. Efallai y gwneir cofnod yn y gofrestr yn lle hynny i gyfeirio at y ffaith y caffaelwyd y tir o dan y ddeddfwriaeth berthnasol ac unrhyw orchymyn a wnaed yn unol â’r ddeddfwriaeth a bod unrhyw hawddfreintiau neu gyfamodau cyfyngu nad ydynt fel arall wedi eu nodi ar y teitl sy’n effeithio ar y tir ar ddyddiad cychwyn y ddeddfwriaeth neu orchymyn perthnasol wedi cael eu diddymu i’r graddau y darperir ar gyfer hynny yn y ddeddfwriaeth honno. Lle y mae buddion penodol wedi eu heithrio o freinio, efallai y gwneir cofnod pellach i nodi bod y tir yn ddarostyngedig i unrhyw fuddion yr unigolion a nodwyd yn y datganiad breinio cyffredinol fel yr eithriwyd gan y datganiad breinio cyffredinol.
4.5 Morgeisi neu arwystlon cyfreithiol
Ni fyddwn yn gwneud unrhyw gofnod mewn perthynas â morgeisi neu arwystlon cyfreithiol a gyflwynwyd neu y cyfeirir atynt yn y teitl dogfennol digofrestredig.
4.6 Teitl rhybuddiad
Os nad yw’r teitl rhybuddiad o blaid yr awdurdod dylai’r cais nodi’r budd gwarchodedig. Os cawn gadarnhad bod budd y rhybuddiwr wedi cael ei gaffael neu wedi ei ddiddymu, gallwn fynd ati i gyflwyno rhybudd gwybodaeth yn unig ar y rhybuddiwr.
Lle mae buddion y rhybuddiwr wedi eu heithrio o’r datganiad breinio cyffredinol, neu mewn unrhyw amgylchiadau eraill byddwn yn mynd ati i gyflwyno rhybudd o wrthwynebiad ar y rhybuddiwr.
4.7 Cyfamodau personol
Os cyfeirir at gyfamodau personol yn y teitl dogfennol digofrestredig ni fyddwn yn eu dwyn y rhain ymlaen i’r teitl datganiad breinio cyffredinol.
4.8 Prydlesi sy’n effeithio
Gellir dileu unrhyw brydlesi sy’n effeithio ar dir digofrestredig lle mae’r cais wedi caffael yr holl fudd o dan y datganiad breinio cyffredinol. Fodd bynnag, os nad yw’r prydlesi a effeithir yn cael eu cyd-doddi i’r teitl rifersiwn bydd hyn yn cyfrif fel cofrestriad cyntaf a rhaid darparu FR1 (os nad yw eisoes wedi ei gyflwyno ar gyfer tir arall).
4.9 Mwynfeydd a mwynau
Gweler Mwynfeydd a mwynau.
4.10 Rhent-daliadau
Gweler Rhent-daliadau a nodwyd.
4.11 Tystysgrifau teitl
Mae Cofrestrfa Tir EF wedi cytuno gyda llawer o’r awdurdodau lleol mwyaf y byddwn, o dan amgylchiadau a bennir, yn derbyn tystysgrif eu Prif Swyddog Gweithredol yn lle diddwytho teitl lle caiff tir ei gofrestru am y tro cyntaf. Yn achos caffaeliad o dan Ddeddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981, ni all awdurdod roi tystysgrif o’r fath fel arfer oni bai iddo allu cael gweithredoedd yr eiddo a chynnal archwiliad teitl arferol, y mae wedi ei gymeradwyo ar ôl ymchwiliad digonol.
5. Tir priffyrdd a gorchmynion cau
Fel rheol, nid yw’r amlinelliad coch ar gynllun teitl cofrestredig yn cynnwys stent unrhyw briffordd a all fod wedi ei chynnwys yn y teitl cyfreithiol i dir cyffiniol. Caiff tir ei gofrestru â therfynau cyffredinol yn unig (adran 60 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002) ac mae’r stent cofrestredig yn dawel o ran union linell y terfyn cyffredinol. Gall perchennog tir sy’n cyffinio â phriffordd berchen, neu beidio â pherchen, ar isbridd y briffordd, yn dibynnu a yw’r rhagdybiaeth ad medium filum yn gymwys neu a yw wedi ei gwrthbrofi trwy dystiolaeth i’r gwrthwyneb (er enghraifft, datganiad mewn trawsgludiad cynharach nad yw’r trawsgludiad yn cynnwys y briffordd).
Lle y mae awdurdod wedi caffael tir ar un neu 2 ochr o heol neu ffordd a’i fod yn dymuno cael y rhan o’r briffordd wedi ei chynnwys yn y teitl, dylai wneud cais ar ffurflen AP1 i newid y teitl cofrestredig i gynnwys rhan gyffiniol y briffordd yn y stent cofrestredig – i bob diben i ddangos terfyn cyffredinol y teitl cofrestredig mewn safle cywirach. Bydd angen tystiolaeth o deitl dogfennol i isbridd y briffordd, ynghyd â thystysgrif nad yw’r rhagdybiaeth ad medium filum wedi ei gwrthbrofi. Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, mae’n bosibl y gwneir cofnod bod y tir o dan sylw’n ddarostyngedig, neu’n ddarostyngedig o bosibl, i hawliau priffordd.
Lle y mae’r tir a gaffaelwyd ar 2 ochr heol neu ffordd sy’n ddarostyngedig i orchymyn cau ac mae’r tir a safle’r heol neu ffordd wedi eu cynnwys yn yr un datganiad breinio cyffredinol, dylech gynnwys yr heol neu ffordd yn y cais am gofrestriad, ynghyd â chopi ardystiedig o’r gorchymyn cau (yn cynnwys unrhyw gynllun a atodwyd iddo). Byddwn yn cadw’r copi o’r gorchymyn. Lle mai dim ond safle’r heol neu ffordd sydd wedi ei gynnwys mewn datganiad breinio cyffredinol ac mae’r awdurdod am gynnwys yr heol neu ffordd mewn un neu ragor o deitlau cofrestredig, rhaid gwneud cais ar ffurflen AP1 i newid y teitl(au) perthnasol i ddangos terfyn y teitl cofrestredig mewn safle cywirach, ynghyd â’r ffi benodedig ar gyfer newid a chopi ardystiedig o’r gorchymyn cau (yn cynnwys unrhyw gynllun a atodwyd). Unwaith eto, byddwn yn cadw’r copi o’r gorchymyn.
6. Caffael hawliau newydd mewn datganiad breinio cyffredinol (lle mae cymryd tir yn y datganiad breinio cyffredinol neu lle mae’r awdurdod eisoes yn berchen ar dir cyffiniol)
Lle mae hawliau newydd yn cael eu caffael o dan orchymyn gorfodol wedi ei ddilyn gan ddatganiad breinio cyffredinol gall yr hawliau fod yn hawddfreintiau cyfreithiol sy’n perthyn i’r tir a gafaelwyd o dan y datganiad breinio cyffredinol.
Bydd angen tystysgrif ar Gofrestrfa Tir EF i gadarnhau’r canlynol:
-
beth yw’r statud sy’n awdurdodi’r hawliau newydd
-
bod cyfeiriad penodol at yr hawliau newydd yn y gorchymyn prynu gorfodol a wnaed gan yr awdurdod, a
-
nodi ble y cyfeirir at yr hawliau newydd yn y datganiad breinio cyffredinol
Bydd cais ar ffurflen AP1 yn ofynnol er mwyn cofnodi’r hawddfreintiau buddiol (gan gynnwys yr hawliau newydd) fel rhai sy’n perthyn i’r tir a gaffaelwyd gan y datganiad breinio cyffredinol neu dir cyffiniol yr awdurdodau sy’n caffael. Rhaid iddynt nodi’r holl deitlau buddiol a llwythog.
7. Datganiad breinio cyffredinol o hawddfreintiau (dim cymryd tir)
Gellir gwneud cais i gofrestru datganiad breinio cyffredinol sydd dim ond yn cynnwys caffael hawliau/hawddfreintiau. Fel arfer mae hyn yn digwydd yn achos cwmnïau cyfleustodau.
Mae achosion RE Salvin’s Indenture [1938] All ER 498 a Bate V Affinity Water Limited [2019] EXHC 3425 yn sefydlu y gall ymgymeriad cwmni cyfleustodau greu rhandir trech. Mae dau wahanol fath o gais y gellir eu gwneud.
-
Gall y datganiad breinio cyffredinol gyfeirio at y teitl trech trwy gyfeirio at rif/au teitl tir cyffiniol neu gyfagos y cwmni cyfleustodau.
-
Gall y datganiad breinio cyffredinol gyfeirio at y teitl trech fel ymgymeriadau’r cwmni cyfleustodau.
Ym mhob achos bydd angen yr un dystysgrif ar Gofrestrfa Tir EF ag y cyfeirir ati yn Caffael hawliau newydd mewn datganiad breinio cyffredinol (lle mae cymryd tir yn y datganiad breinio cyffredinol neu lle mae’r awdurdod eisoes yn berchen ar dir cyffiniol).
8. Tir categori arbennig
Os yw’r datganiad breinio cyffredinol yn cynnwys tir categori arbennig o fewn ystyr adran 19 o Ddeddf Caffael Tir 1981 bydd yn ofynnol ichi:
-
gadarnhau bod y datganiad breinio cyffredinol yn cynnwys tir categori arbennig
-
darparu copi ardystiedig o’r dystysgrif a roddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 19 o Ddeddf Caffael Tir 1981 neu gadarnhad bod y caffaeliad wedi bod yn destun gweithdrefn seneddol arbennig a’r Offeryn Statudol perthnasol sy’n gymwys, a
-
darparu copi ardystiedig o orchymyn prynu gorfodol
9. Mwynfeydd a mwynau
Lle mae tir yn cael ei gaffael yn orfodol mae unrhyw fwynau sydd ynddo yn trosglwyddo i’r awdurdod, fodd bynnag, gellir eithrio mwynfeydd a mwynau o orchymyn prynu gorfodol trwy gymhwyso’r “cod mwyngloddio” yn rhan II o Atodlen 2 i Ddeddf Caffael Tir 1981 (sy’n ailddeddfu adrannau 77 i 85 o Ddeddf Cymalau Rheilffordd (Cydgrynhoi) 1845). Lle mae caffael gorfodol wedi digwydd o dan statud neu orchymyn prynu gorfodol sy’n ymgorffori’r rhain, oni bai ei fod wedi ei gynnwys yn benodol, ystyrir bod y trosglwyddiad/datganiad breinio cyffredinol i’r awdurdod yn eithrio’r mwynfeydd a’r mwynau.
Bydd angen tystysgrif ar gyfer pob cais i gofrestru datganiad breinio cyffredinol i gadarnhau a yw Rhan II o Atodlen 2 i Ddeddf Caffael Tir 1981 neu eithriad statudol arall o fwynfeydd a mwynau yn gymwys i’r gorchymyn prynu gorfodol a ddefnyddiwyd i wneud y datganiad breinio cyffredinol ac os felly, rhaid cadarnhau a yw’r mwynfeydd a’r mwynau wedi cael eu caffael yn benodol gan yr awdurdod.
10. Pethau i’w cofio
Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.