Canllaw cymorth gyda Chostau Byw
Costau gofal plant a mamolaeth
Darganfyddwch pa gymorth sydd ar gael gyda chostau gofal plant a mamolaeth yn Lloegr. Mae hyn yn cynnwys oriau gofal plant am ddim a phrydau ysgol am ddim.
Darganfyddwch am gymorth gyda chostau byw yng Nghymru, cymorth yn yr Alban a chymorth yng Ngogledd Iwerddon
Cefnogaeth y gallwch ei gael
Budd-dal Plant
Os ydych yn gyfrifol am blentyn o dan 16 oed (neu dan 20 os ydynt yn aros mewn addysg neu hyfforddiant cymeradwy) gallwch gael help gyda chostau sy’n gysylltiedig â phlant. Edrychwch a ydych yn gymwys i gael Budd-dal Plant.
Gofal Plant Di-dreth
Os ydych angen help gyda chostau gofal plant, edrychwch a ydych yn gymwys i gael Gofal Plant Di-dreth.
Gofal plant am ddim i blant rhwng 9 mis a 4 oed os ydych yn gweithio
Os ydych yn gweithio ac mae eich plentyn rhwng 9 mis a 4 oed, edrychwch a ydych yn gymwys i gael gofal plant am ddim.
15 awr o ofal plant am ddim yr wythnos i blant 3 i 4 oed
Gall pob plentyn 3 i 4 oed gael gofal plant am ddim. Darganfyddwch am 15 awr o ofal plant am ddim yr wythnos.
Gofal plant am ddim i blant 2 oed
Os ydych chi neu’ch plentyn yn cael cymorth ychwanegol, edrychwch a ydych yn gymwys i gael gofal plant am ddim i blant 2 oed.
Credyd Cynhwysol a gofal plant
Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol, gallwch hawlio rhai o’ch costau gofal plant yn ôl. Darganfyddwch am gymorth sydd ar gael gyda gofal plant os ydych ar Gredyd Cynhwysol.
Cefnogaeth gyda bwyd a llefrith i’ch plentyn
Prydau ysgol am ddim
Efallai y bydd eich plentyn yn gallu cael prydau ysgol am ddim. Edrychwch a yw’ch plentyn yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim ar wefan eich cyngor.
Dechrau Iach (bwyd a llefrith i’ch plentyn)
Os ydych yn fwy na 10 wythnos yn feichiog neu os oes gennych blentyn o dan 4 oed ac rydych yn cael budd-daliadau penodol, gallwch gael help i brynu bwyd iach a llefrith. Edrychwch a ydych yn gymwys i gael help i brynu bwyd a llefrith i’ch plentyn ar wefan y GIG.
Cymorth gyda chostau mamolaeth
Lwfans Mamolaeth
Efallai y byddwch yn gymwys i gael Lwfans Mamolaeth, os:
- rydych yn gyflogedig ond yn methu cael Tâl Mamolaeth Statudol (SMP)
- rydych yn hunangyflogedig
- rydych wedi rhoi’r gorau i weithio yn ddiweddar
Edrychwch a ydych yn gymwys i gael Lwfans Mamolaeth.
Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn
Os ydych chi neu’ch partner yn cael budd-daliadau penodol a’ch bod yn cael plentyn edrychwch a ydych yn gymwys i gael Grant Mamolaeth Cychwyn Gadarn.
Cymorth gyda chostau teithio
Cludiant o’r cartref i’r ysgol
Darganfyddwch a yw’ch plentyn yn gymwys i gael help gyda chostau cludiant o’r cartref i’r ysgol.
Cerdyn Rheilffordd Teulu a Ffrindiau
Os ydych yn teithio ar y trên gyda’ch plant edrychwch a ydych yn gymwys i gael Cerdyn Rheilffordd Teulu a Ffrindiau ar wefan National Rail.