Canllaw cymorth gyda Chostau Byw
Budd-daliadau, treth a gwaith
Darganfyddwch pa gymorth sydd ar gael yn Lloegr i helpu i gynyddu eich incwm. Mae hyn yn cynnwys Credyd Cynhwysol a Lwfans Gofalwr.
Darganfyddwch am gymorth gyda chostau byw yng Nghymru, cymorth yn yr Alban a chymorth yng Ngogledd Iwerddon.
Taliadau a budd-daliadau
Credyd Cynhwysol
Edrychwch i weld a ydych yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol i gael taliad rheolaidd i helpu gyda chostau byw os:
- rydych ar incwm isel
- rydych allan o waith
- ni allwch weithio
Lwfans Gofalwr
Os ydych yn gofalu am rywun sy’n cael budd-daliadau penodol am o leiaf 35 awr yr wythnos edrychwch i weld a ydych yn gymwys i gael Lwfans Gofalwr.
Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Dull Newydd (ESA)
Os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd sy’n effeithio ar faint y gallwch weithio neu os ydych angen cymorth i fynd yn ôl i’r gwaith, gallwch wneud cais am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.
Lwfans Ceisio Gwaith Dull Newydd (JSA)
Os ydych angen help pan fyddwch yn chwilio am waith edrychwch i weld a ydych yn gymwys i gael Lwfans Ceisio Gwaith Dull Newydd.
Mynediad at Waith
Os oes gennych gyflwr iechyd neu anabledd corfforol neu feddyliol gallwch edrych i weld a ydych yn gymwys i gael Mynediad at Waith. Mae hwn yn rhoi help i gael neu aros yn y gwaith.
Lleihau eich bil treth
Lwfans Priodas
Os ydych yn briod neu’n mewn partneriaeth sifil, gallwch edrych i weld a ydych yn gymwys i gael Lwfans Priodas. Mae hyn yn caniatáu i chi drosglwyddo rhywfaint o’ch lwfans treth bersonol i’ch partner os nad ydych yn talu Treth Incwm.
Rhyddhad treth ar dreuliau sy’n gysylltiedig â gwaith
Help arall y gallwch ei gael
Cyfrifiannell Isafswm Cyflog Cenedlaethol a Chyfrifiannell Cyflog Byw ar gyfer gweithwyr
Os ydych yn gyflogedig, gallwch ddefnyddio’r gyfrifiannell hon i edrych a ydych yn cael yr isafswm cyflog.
Benthyciad Trefnu
Edrychwch i weld a ydych yn gymwys i gael Benthyciad Trefnu neu Daliad Cyllidebu Ymlaen Llaw os ydych wedi bod yn cael un neu fwy o’r budd-daliadau hyn am y 6 mis diwethaf:
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (JSA)
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA)
- Credyd Pensiwn
- Credyd Cynhwysol
Gallech gael Taliad Cyllidebu Ymlaen Llaw hyd yn oed os nad ydych wedi bod yn cael un o’r budd-daliadau hyn am y 6 mis diwethaf os ydych chi ar Gredyd Cynhwysol ac angen yr arian i’ch helpu i ddechrau swydd newydd neu aros yn y gwaith.
Help i Gynilo
Os ydych yn cael budd-daliadau penodol ac rydych ar incwm isel, gallech gael bonws ar eich cynilion. Edrychwch i weld a ydych yn gymwys i gael cymorth gyda chynilion (Help i Gynilo).