Canllaw cymorth gyda Chostau Byw
Os ydych yn cael pethau'n anodd
Darganfyddwch gymorth os yw pryderon ariannol yn effeithio ar eich iechyd meddwl neu os ydych yn cael eich effeithio gan gam-drin domestig.
Siaradwch â meddyg teulu os yw problemau ariannol yn effeithio ar eich iechyd meddwl a’ch lles.
Cymorth gydag iechyd meddwl
Cael help brys gydag iechyd meddwl
Darganfyddwch sut i gael help ar wefan y GIG.
Cymorth gydag arian ac iechyd meddwl
Gallwch gael cefnogaeth ar wefan Mind, gan gynnwys trefnu eich cyllid, hawlio budd-daliadau a gofalu am eich iechyd meddwl pan fyddwch yn poeni am arian.
Samariaid
Ffoniwch y Samariaid i siarad â gwirfoddolwr hyfforddedig yn ddienw i gael cymorth cyfrinachol am ddim 24 awr y dydd.
Samariaid
Ffôn: 116 123
Gwasanaeth 24 awr
Am ddim i ffonio - darganfyddwch fwy am gostau galwad
Mae yna hefyd ffyrdd eraill o gysylltu â’r Samariaid.
Shout 85285 (cefnogaeth neges destun)
Gallwch anfon neges destun at wirfoddolwr hyfforddedig Shout 85285 yn ddienw am gymorth cyfrinachol am ddim 24 awr y dydd.
Shout 85285
Tecstiwch ‘SHOUT’ i 85258
Gwasanaeth 24 awr
Am ddim i anfon neges destun o’r rhan fwyaf o brif rwydweithiau symudol y DU
Cefnogaeth os ydych yn cael eich effeithio gan gam-drin domestig
Refuge
Os ydych yn ddynes neu blentyn sydd wedi profi cam-drin domestig cysylltwch â Refuge am gymorth.
Llinell Gymorth Cam-drin Domestig Genedlaethol
Ffôn: 0808 2000 247
Gwasanaeth 24 awr
Am ddim i ffonio - darganfyddwch fwy am gostau galwadau
Llinell Gyngor i Ddynion
Os ydych yn ddyn sydd wedi profi cam-drin domestig, cysylltwch â’r Llinell Gyngor i Ddynion am gyngor cyfrinachol, cymorth nad yw’n feirniadol a gwybodaeth ymarferol.
Llinell Cyngor i Ddynion
Ffôn: 0808 801 0327
Dydd Llun i ddydd Gwener, 10am i 8pm
Am ddim i ffonio - darganfyddwch fwy am gostau galwadau
Mae yna hefyd ffyrdd eraill o gysylltu â’r Llinell Cyngor i Ddynion.
Galop
Os ydych yn LGBT+ ac yn profi camdriniaeth neu drais cysylltwch â Galop am gymorth.
Galop Ffôn: 0800 999 5428
Dydd Llun i ddydd Iau, 10am i 8:30pm
Dydd Gwener, 10am i 4:30pm
Am ddim i ffonio - darganfyddwch fwy am gostau galwadau