Canllaw cymorth gyda Chostau Byw
Os ydych yn 60 oed neu drosodd
Darganfyddwch pa gymorth sydd ar gael os ydych yn 60 oed neu drosodd yn Lloegr. Mae hyn yn cynnwys gwirio a ydych yn gymwys ar gyfer Credyd Pensiwn, teithio am bris gostyngol a sut i wirio eich Pensiwn y Wladwriaeth.
Darganfyddwch am gymorth gyda chostau byw yng Nghymru, cymorth yn yr Alban a chymorth yng Ngogledd Iwerddon
Gwiriwch eich Pensiwn y Wladwriaeth
Gwiriwch eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth i ddarganfod yr oedran cynharaf y gallwch ddechrau cael eich Pensiwn y Wladwriaeth.
Gwiriwch eich Pensiwn y Wladwriaeth i ddarganfod faint y gallech ei gael, pryd y gallwch ei gael a sut i’w gynyddu.
Os ydych chi dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth
Credyd Pensiwn
Os ydych chi dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac ar incwm isel, gallwch wneud cais am Gredyd Pensiwn am help gyda’ch costau byw.
Budd-dal Tai
Os ydych chi wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth neu mewn llety â chymorth, llety cysgodol neu dros dro, gallwch edrych a ydych yn gymwys i gael Budd-dal Tai am help i dalu eich rhent.
Cymorth gyda chostau teithio
Tocyn bws i bobl hŷn
Os ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth neu’n hŷn, gallwch wneud cais am docyn bws i bobl hŷn i deithio ar y bws am ddim.
Cerdyn Rheilffordd i Bobl Hŷn
Gallwch brynu Cerdyn Rheilffordd i Bobl Hŷn ar wefan railcard i gael gostyngiad ar gost tocynnau rheilffordd.
Os ydych chi’n byw yn Llundain
Gallwch wneud cais am gerdyn â llun 60+ London Oyster ar wefan Transport for London TfL). Mae hyn yn eich galluogi i deithio am ddim neu ar bris gostyngol yn Llundain.
Help arall y gallwch ei gael
Cael help gyda phresgripsiynau’r GIG a chostau iechyd
Atebwch ychydig o gwestiynau i ddarganfod pa gymorth y gallwch ei gael i dalu am gostau iechyd fel presgripsiynau, gofal llygaid a deintyddol.
Trwydded deledu am ddim neu am bris gostyngol
Os ydych yn 75 oed neu’n hŷn ac rydych chi, neu’ch partner, yn cael Credyd Pensiwn, gallwch gael trwydded deledu am ddim. Os ydych mewn gofal preswyl neu mewn llety gwarchod, gallwch gael trwydded deledu am bris gostyngol. Gwiriwch a ydych yn gymwys am drwydded deledu am ddim neu am bris gostyngol.