Canllaw cymorth gyda Chostau Byw
Rheoli arian, cynilion a dyled
Darganfyddwch gyngor ar gyfer rheoli eich arian. Mae hyn yn cynnwys cyngor cyllidebu a chymorth gyda dyled.
Cyngor ar arian a phensiynau
Os ydych angen help gyda’ch dewisiadau arian a phensiwn, gallwch gael cyngor am ddim, cyfrinachol a diduedd ar wefan HelpwrArian.
Sut i gyllidebu
Gallwch gael cymorth i wneud cyllideb ar wefan Cyngor ar Bopeth i helpu i ddeall beth rydych yn ei ennill a’i wario a ble y gallech chi leihau costau.
Benthyciad Trefnu
Edrychwch i weld a ydych yn gymwys i gael Benthyciad Trefnu neu Daliad Cyllidebu Ymlaen Llaw os ydych wedi bod yn cael un neu fwy o’r budd-daliadau hyn am y 6 mis diwethaf:
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (JSA)
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA)
- Credyd Pensiwn
- Credyd Cynhwysol
Gallech gael Taliad Cyllidebu Ymlaen Llaw hyd yn oed os nad ydych wedi bod yn cael un o’r budd-daliadau hyn am y 6 mis diwethaf os ydych chi ar Gredyd Cynhwysol ac angen yr arian i’ch helpu i ddechrau swydd newydd neu aros yn y gwaith.
Help i Gynilo
Os ydych yn cael budd-daliadau penodol ac rydych ar incwm isel, gallech gael bonws ar eich cynilion. Edrychwch i weld a ydych yn gymwys i gael cymorth gyda chynilion (Help i Gynilo).
Delio â’ch dyledion
Atebwch ychydig o gwestiynau i ddod o hyd i ba opsiynau sydd ar gael os na allwch dalu’ch dyledion.