Cael gofal plant - sy’n rhad ac am ddim os ydych yn gweithio
Gwirio a ydych yn gymwys
Mae faint o ofal plant rhad ac am ddim y gallwch ei gael yn dibynnu ar y canlynol:
- oedran eich plentyn a’i amgylchiadau
- p’un a ydych yn gweithio (yn gyflogedig, yn hunangyflogedig, neu’n gyfarwyddwr)
- eich incwm (ac incwm eich partner, os oes gennych un)
- eich statws mewnfudo
Ni fyddwch yn gymwys os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn wir:
- nid yw’ch plentyn yn byw gyda chi fel arfer
- mae gennych chi neu’ch partner incwm net wedi’i addasu disgwyliedig o dros £100,000 yn y flwyddyn dreth bresennol
Oedran eich plentyn a’i amgylchiadau
Mae nifer yr oriau o ofal plant sy’n rhad ac am ddim a gewch yn dibynnu ar oedran eich plentyn.
Os yw’ch plentyn rhwng 9 mis a 2 flwydd oed
Ar hyn o bryd, mae plant rhwng 9 mis a 2 flwydd oed yn cael 15 awr o ofal plant sy’n rhad ac am ddim bob wythnos am 38 wythnos y flwyddyn. Bydd hyn yn cynyddu i 30 awr yr wythnos o fis Medi 2025 ymlaen.
Os yw’ch plentyn rhwng 3 a 4 blwydd oed
Gallwch gael 30 awr o ofal plant sy’n rhad ac am ddim bob wythnos am 38 wythnos y flwyddyn.
Os ydyn nhw’n cael eu maethu gennych
Gallwch hawlio gofal plant sy’n rhad ac am ddim os ydych yn gweithio, cyn belled â bod y canlynol yn berthnasol:
- rydych mewn gwaith am dâl y tu allan i’ch rôl faethu
- mae eich ‘incwm net wedi’i addasu’ o dan £100,000
Ni allwch ddefnyddio’r ffurflen gais ar-lein i gael gofal plant sy’n rhad ac am ddim. Siaradwch â’ch gweithiwr cymdeithasol a’ch awdurdod lleol (yn agor tudalen Saesneg) os ydych am wneud cais.
Os ydych yn gweithio
Fel arfer, gallwch gael gofal plant sy’n rhad ac am ddim i rieni sy’n gweithio os ydych chi (a’ch partner, os oes gennych un):
- yn gweithio neu’n dechrau swydd newydd
- ar absenoldeb salwch neu wyliau blynyddol
- ar absenoldeb ar y cyd i rieni, absenoldeb mamolaeth, absenoldeb tadolaeth neu absenoldeb mabwysiadu
Os nad ydych yn gweithio ar hyn o bryd
Efallai y byddwch yn dal i fod yn gymwys os yw’ch partner yn gweithio a’ch bod ar absenoldeb gofalwr (yn agor tudalen Saesneg) neu os ydych yn cael unrhyw un o’r canlynol:
- Budd-dal Analluogrwydd
- Lwfans Anabledd Difrifol
- Lwfans Gofalwr - Budd-dal Gallu Cyfyngedig i Weithio
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail cyfraniadau
Eich incwm
Dros y 3 mis nesaf mae’n rhaid i chi a’ch partner (os oes gennych un) ddisgwyl ennill o leiaf:
- £2,539 cyn treth os ydych chi’n 21 oed neu’n hŷn (yn gyfwerth â £195 yr wythnos)
- £2,080 cyn treth os ydych chi’n 18 i 20 oed (yn gyfwerth â £160 yr wythnos)
- £1,570 cyn treth os ydych chi’n 18 oed neu’n brentis (yn gyfwerth â £120 yr wythnos)
Dyma’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu’r Cyflog Byw Cenedlaethol am 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd.
Gallwch ddefnyddio cyfartaledd o faint rydych yn disgwyl ei ennill dros y flwyddyn dreth bresennol os yw’r canlynol yn wir:
- rydych yn gweithio drwy’r flwyddyn ond nid ydych yn cael eich talu’n rheolaidd
- rydych yn hunangyflogedig ac nid ydych yn disgwyl ennill digon yn ystod y 3 mis nesaf
Enghraifft
Rydych yn gymwys os ydych yn 21 oed neu’n hŷn a heb incwm rheolaidd, ond rydych yn ennill £10,158 y flwyddyn. Mae hyn yr un fath ag ennill £2,539 bob 3 mis ar gyfartaledd.
Os ydych yn hunangyflogedig, a wnaethoch ddechrau’ch busnes lai na 12 mis yn ôl
Gallwch ennill llai a dal i fod yn gymwys i gael gofal plant sy’n rhad ac am ddim i rieni sy’n gweithio.
Os oes gennych fwy nag un swydd
Gallwch ddefnyddio cyfanswm eich enillion i gyfrifo a ydych yn cyrraedd y trothwy. Mae hyn yn cynnwys:
- enillion o unrhyw gyflogaeth
- enillion o unrhyw hunangyflogaeth
Os ydych yn gyflogedig ac yn hunangyflogedig, os hoffech, gallwch ddefnyddio’ch incwm o hunangyflogaeth yn unig os byddai hynny’n eich gwneud chi’n gymwys.
Incwm nad yw’n cyfrif tuag at isafswm eich enillion
Ni fydd rhai mathau o incwm yn cyfrif tuag at yr isafswm y mae’n rhaid i chi ei ennill i fod yn gymwys.
Mae’r rhain yn cynnwys:
- difidendau
- llog
- incwm o fuddsoddi mewn eiddo
- taliadau pensiwn
Eich statws mewnfudo
Mae’n rhaid i chi (a’ch partner os oes gennych un) fod â rhif Yswiriant Gwladol.
Mae’n rhaid i’r person sy’n gwneud cais hefyd feddu ar o leiaf un o’r canlynol:
- dinasyddiaeth Brydeinig neu Wyddelig
- statws preswylydd sefydlog neu gyn-sefydlog (yn agor tudalen Saesneg), neu rydych wedi gwneud cais ac yn aros am benderfyniad
- caniatâd i gael mynediad at arian cyhoeddus - bydd eich cerdyn preswylio yn y DU yn dweud wrthych os na allwch wneud hyn
Os nad ydydch yn gymwys i gael gofal plant sy’n rhad ac am ddim i rieni sy’n gweithio
Mae’n bosibl y gallwch hefyd gael cymorth arall gyda chostau gofal plant.
Os yw eich plentyn rhwng 3 a 4 blwydd oed a’ch bod yn byw yn Lloegr, gallwch gael 15 awr o ofal plant sy’n rhad ac am ddim yr wythnos am 38 wythnos y flwyddyn.
Os ydych yn hawlio rhai budd-daliadau penodol, gallech fod yn gymwys i gael addysg a gofal plant sy’n rhad ac am ddim i blant 2 oed o dan gynllun ar wahân.