Cael gofal plant - sy’n rhad ac am ddim os ydych yn gweithio
Cadarnhau bod eich manylion cyswllt wedi’u diweddaru
Er mwyn parhau i gael gofal plant sy’n rhad ac am ddim os ydych yn gweithio, mae’n rhaid i chi fewngofnodi i’ch cyfrif gofal plant bob 3 mis a chadarnhau bod eich manylion yn gyfredol.
Byddwch wedyn yn cael cod 11 digid i’w roi i’ch darparwr gofal plant.
Gallwch hefyd ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i fewngofnodi i’ch cyfrif Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth i wneud y canlynol:
- talu arian i mewn i’ch cyfrif
- talu’ch darparwr gofal plant
- gwneud cais am blentyn newydd
Mae yna ffordd wahanol o fewngofnodi os ydych yn ddarparwr gofal plant.
Mewngofnodi
Mewngofnodi i gadarnhau bod eich manylion yn gyfredol.
Os nad ydych chi wedi gallu defnyddio’r gwasanaeth
Efallai y gallwch hawlio iawndal os ydych chi wedi cael problemau technegol gyda’ch cyfrif.