Cael gofal plant - sy’n rhad ac am ddim os ydych yn gweithio
Gwneud cais am ofal plant sy’n rhad ac am ddim
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wneud cais am ofal plant sy’n rhad ac am ddim os ydych yn gweithio ac yn byw yn Lloegr.
Os caiff eich cais ei gymeradwyo, byddwch yn cael cod 11 digid sy’n profi eich bod yn gymwys i gael gofal plant sy’n rhad ac am ddim. Bydd angen i chi roi’r cod hwn i’ch darparwr gofal plant.
Bydd CThEF yn gwirio a ydych yn gymwys i gael Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth pan fyddwch yn gwneud cais am ofal plant sy’n rhad ac am ddim os ydych yn gweithio.
Yr hyn sydd ei angen arnoch i wneud cais
Bydd angen y canlynol arnoch chi (ynghyd â rhai eich partner, os oes gennych un):
- rhif Yswiriant Gwladol
- Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR), os ydych chi’n hunangyflogedig (os oes gennych UTR)
Bydd angen y canlynol arnoch hefyd:
- cyfeirnod tystysgrif geni’r DU (os oes gennych un) ar gyfer unrhyw blentyn rydych yn gwneud cais ar ei gyfer
- y dyddiad y gwnaethoch ddechrau gweithio, neu’r dyddiad yr ydych yn bwriadu dechrau gweithio (gall y dyddiad hwn fod yn amcangyfrif os yw’n hirach na 3 mis yn ôl)
Os ydych yn gyfarwyddwr
Bydd angen i chi ddangos eich bod yn bodloni’r gofynion o ran isafswm incwm er mwyn bod yn gymwys. Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn ceisio gwirio hyn gan ddefnyddio’ch cofnodion TWE.
Os nad ydych yn cyflwyno gwybodaeth TWE yn rheolaidd, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi roi tystiolaeth i ddangos eich bod yn gweithio ac yn disgwyl bodloni’r gofynion o ran isafswm incwm am y 3 mis nesaf. Er enghraifft:
- slipiau cyflog
- cyfriflenni banc
- datganiad gan eich cyfrifydd
- copïau o anfonebau
Os nad ydych yn cael eich talu’n rheolaidd (er enghraifft, unwaith y flwyddyn) mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi anfon tystiolaeth arall i ddangos y byddwch yn bodloni’r gofynion o ran isafswm incwm, megis:
- slipiau cyflog blynyddol
-
y gyflogres ar ddiwedd blwyddyn
- llythyr gan eich asiant treth, neu’ch ymgynghorydd, yn cadarnhau bod eich cyflog wedi cael ei dalu a’i drethu
Bydd angen i chi wneud hyn pan fyddwch yn gwneud cais am y tro cyntaf, a phob tro y byddwch yn ail-gadarnhau eich bod yn gymwys.
Os oes gennych bartner
Mae’n rhaid i chi gynnwys eich partner yn eich cais os ydych naill ai:
- yn briod neu mewn partneriaeth sifil ac yn byw gyda’ch gilydd
- yn byw gyda’ch gilydd fel pe baech yn briod neu mewn partneriaeth sifil
Ni fydd ei gyflogaeth na’i incwm yn effeithio ar eich cymhwystra os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn berthnasol:
- mae’n absennol, neu mi fydd yn absennol, o’ch aelwyd am fwy na 6 mis
- mae’n garcharor
Ni allwch chi a’ch partner fod â chod ar gyfer yr un plentyn.
Os ydych wedi gwahanu
Mae angen i chi a’ch cyn-bartner benderfynu pwy ddylai wneud cais os ydych chi’n gyd-gyfrifol am eich plentyn.
Os na allwch benderfynu, bydd angen i’r ddau ohonoch wneud cais ar wahân a bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn penderfynu pwy fydd yn cael cod gofal plant.
Gwneud cais
I wneud cais, bydd yn rhaid i chi greu cyfrif gofal plant.
Fel arfer, mae’n cymryd 20 munud i wneud cais.
Os nad ydych chi wedi gallu defnyddio’r gwasanaeth
Efallai y gallwch hawlio iawndal os ydych chi wedi cael problemau technegol gyda’ch cyfrif.
Ar ôl i chi wneud cais
Fel arfer, byddwch yn cael gwybod ar unwaith a ydych yn gymwys, ond mae’n gallu cymryd hyd at 7 diwrnod.
Unwaith bydd eich cais wedi’i gymeradwyo
Byddwch yn cael cod 11 digid yn eich cyfrif gofal plant.
Bydd CThEF yn rhoi gwybod i chi drwy neges destun neu e-bost fod y cod yn eich cyfrif.
Rhowch y cod i’ch darparwr ynghyd â’r canlynol:
- eich rhif Yswiriant Gwladol
- dyddiad geni eich plentyn
Os nad ydych wedi clywed gan CThEF
Cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os gwnaethoch gais dros 7 diwrnod yn ôl ac nad ydych wedi clywed gan CThEF o hyd.
Ail-gadarnhau eich bod yn gymwys
Er mwyn parhau i gael gofal plant sy’n rhad ac am ddim, mae’n rhaid i chi gadarnhau bod eich manylion yn gyfredol drwy fewngofnodi i’ch cyfrif gofal plant bob 3 mis.
Os byddwch yn gwneud cais fwy na 3 mis cyn i’r tymor ddechrau, bydd yn rhaid i chi ail-gadarnhau eich bod yn gymwys yn eich cyfrif er mwyn cadw eich cod yn ddilys.