Pryd i wneud cais

Gwirio pryd i wneud cais am 30 awr o ofal plant sy’n rhad ac am ddim.

Gan fod y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am 15 awr o ofal plant sy’n rhad ac am ddim wedi mynd heibio, byddwch nawr yn gwneud cais am 30 awr yn lle hynny.

Os ydych eisoes yn cael 15 awr o ofal plant sy’n rhad ac am ddim, byddwch yn cael 30 awr o ofal plant sy’n rhad ac am ddim yn awtomatig o fis Medi ymlaen, cyn belled â’ch bod yn dal i fod yn gymwys. Bydd angen i chi gadarnhau bod eich manylion yn gyfredol yn y ffordd arferol a rhoi’r cod i’ch darparwr gofal plant.

Holwch eich darparwr gofal plant i gael gwybod yn union pryd bydd eich gofal plant sy’n rhad ac am ddim yn dechrau.

Pryd i wneud cais am 30 awr o ofal plant sy’n rhad ac am ddim

Gallwch wneud cais o’r adeg pan fydd eich plentyn yn 23 wythnos oed. Bydd y dyddiad pryd y cewch chi eich oriau yn dibynnu ar y dyddiad y bydd eich plentyn yn troi’n 9 mis oed.

Pryd bydd eich plentyn yn troi’n 9 mis oed  O ba bryd y gallwch gael eich oriau Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais
Rhwng 1 Medi a 31 Rhagfyr 1 Ionawr 31 Rhagfyr
Rhwng 1 Ionawr a 31 Mawrth 1 Ebrill 31 Mawrth
Rhwng 1 Ebrill a 31 Awst 1 Medi 31 Awst

Pryd i wneud cais os byddwch yn dychwelyd i’r gwaith ar ôl absenoldeb mamolaeth, absenoldeb tadolaeth, absenoldeb ar y cyd i rieni neu absenoldeb mabwysiadu

Bydd y dyddiad rydych yn dychwelyd i’r gwaith yn effeithio ar ba bryd y gallwch wneud cais am ofal plant sy’n rhad ac am ddim. 

Gallwch wneud cais o’r adeg pan fydd eich plentyn yn 23 wythnos oed. Bydd y dyddiad pryd y cewch chi eich oriau yn dibynnu ar y dyddiad y bydd eich plentyn yn troi’n 9 mis oed.

Dyddiad dychwelyd i’r gwaith O ba bryd y gallwch gael eich oriau Pryd i wneud cais 
Rhwng 1 Hydref a 31 Ionawr 1 Ionawr 1 Medi i 31 Rhagfyr
Rhwng 1 Chwefror a 30 Ebrill 1 Ebrill 1 Ionawr i 31 Mawrth
Rhwng 1 Mai i 30 Medi 1 Medi 1 Ebrill i 31 Awst

Os ydych ar absenoldeb ar y cyd i rieni ar gyfer y plentyn rydych yn gwneud cais amdano

Gallwch wneud cais os bydd un ohonoch yn dychwelyd i’r gwaith o fewn mis i ddechrau tymor yr hydref, y gwanwyn neu’r haf. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i un ohonoch ddychwelyd erbyn:

  • 30 Medi
  • 31 Ionawr 
  • 30 Ebrill 

Gall y rhiant arall aros ar absenoldeb ar y cyd i rieni tan ddyddiad diweddarach.

Pryd i wneud cais os byddwch yn dechrau swydd newydd

Gallwch wneud cais am ofal plant sy’n rhad ac am ddim os ydych yn dechrau swydd newydd. Bydd y dyddiad y byddwch yn dechrau yn effeithio ar ba bryd y gallwch gael gofal plant sy’n rhad ac am ddim. 

Gallwch wneud cais o’r adeg pan fydd eich plentyn yn 23 wythnos oed. Bydd y dyddiad pryd y cewch chi eich oriau yn dibynnu ar y dyddiad y bydd eich plentyn yn troi’n 9 mis oed.

Os ydych yn gwneud cais dros 31 diwrnod cyn i chi ddechrau eich swydd newydd, mae angen i chi gysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF i gael cymorth gyda’ch cais.

Dyddiad dechrau gweithio O ba bryd y gallwch gael eich oriau Pryd i wneud cais
Rhwng 1 Hydref i 31 Ionawr 1 Ionawr 1 Medi i 31 Rhagfyr
Rhwng 1 Chwefror a 30 Ebrill 1 Ebrill 1 Ionawr i 31 Mawrth
Rhwng 1 Mai i 30 Medi 1 Medi 1 Ebrill i 31 Awst