Cael gofal plant - sy’n rhad ac am ddim os ydych yn gweithio
Beth y byddwch yn ei gael
Mae nifer yr oriau o ofal plant sy’n rhad ac am ddim a gewch yn dibynnu ar oedran eich plentyn.
Os yw’ch plentyn rhwng 9 mis a 2 flwydd oed
Ar hyn o bryd, mae plant rhwng 9 mis a 2 flwydd oed yn cael 15 awr o ofal plant sy’n rhad ac am ddim bob wythnos am 38 wythnos y flwyddyn.
Bydd hyn yn cynyddu i 30 awr yr wythnos o fis Medi 2025 ymlaen. Gan fod y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am 15 awr o ofal plant sy’n rhad ac am ddim wedi mynd heibio, byddwch nawr yn gwneud cais am 30 awr yn lle hynny.
Efallai y byddwch yn gallu cael gofal plant sy’n rhad ac am ddim am fwy na 38 wythnos y flwyddyn os byddwch yn dewis llai o oriau dros fwy o wythnosau.
Holwch eich darparwr gofal plant i weld a yw hyn yn rhywbeth mae’n ei gynnig.
Os ydych eisioes yn cael 15 awr o ofal plant yn rhad ac am ddim
Byddwch yn cael 30 awr o ofal plant sy’n rhad ac am ddim yn awtomatig o fis Medi ymlaen, cyn belled â’ch bod yn dal i fod yn gymwys. Bydd angen i chi gadarnhau bod eich manylion yn gyfredol yn y ffordd arferol a rhoi’r cod i’ch darparwr gofal plant.
Os yw’ch plentyn rhwng 3 a 4 blwydd oed
Gallwch gael 30 awr o ofal plant yn rhad ac am ddim bob wythnos am 38 wythnos y flwyddyn.
Efallai y byddwch yn gallu cael gofal plant sy’n rhad ac am ddim am fwy na 38 wythnos y flwyddyn os byddwch yn dewis llai o oriau dros fwy o wythnosau.
Holwch eich darparwr gofal plant i weld a yw hyn yn rhywbeth mae’n ei gynnig.
Pethau efallai y bydd angen i chi dalu amdanynt
Er bod y gofal plant yn rhad ac am ddim, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu am rai costau ychwanegol, fel y canlynol:
- prydau bwyd
- cewynnau
- oriau ychwanegol
- gweithgareddau ychwanegol, megis teithiau
Ni ddylai’ch darparwr godi ffi gofrestru arnoch nad oes modd ei had-dalu nac unrhyw ffi atodol i dalu am gost eich gofal plant sy’n rhad ac am ddim.
Holwch eich darparwr ynghylch unrhyw gostau ychwanegol y bydd yn rhaid i chi eu talu.