Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn

Neidio i gynnwys y canllaw

Cymhwyster

Fel arfer, i gael Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn rhaid i chi beidio â chael unrhyw blant eraill o dan 16 oed. Rhaid i chi neu’ch partner hefyd gael un o’r budd-daliadau hyn:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm
  • Credyd Pensiwn
  • Credyd Treth Plant
  • Credyd Treth Gwaith sy’n cynnwys elfen anabledd neu anabledd difrifol
  • Credyd Cynhwysol

Efallai y byddwch hefyd yn gymwys os ydych yn cael benthyciad Cymorth ar gyfer Llog Morgais.

Os ydych yn byw yn yr Alban, ni allwch gael Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn. Gallwch wneud cais am Taliad Beichiogrwydd a Babanod yn lle hynny.

Os oes gennych blant dan 16 yn barod

Efallai y byddwch yn gallu cael grant os byddwch chi neu’ch partner yn cael un o’r budd-daliadau uchod neu mae unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn disgwyl genedigaeth luosog (fel efeilliaid)
  • mae’r plentyn rydych yn gofalu amdanynt yn blentyn i rywun arall (ond nid eich partner) ac roedd y plentyn dros 12 mis oed pan ddechreuodd y trefniant
  • bod gennych statws ffoadur, diogelwch dyngarol neu rydych wedi dod i’r DU o Afghanistan neu Wcráin
  • eich bod yn hawlio ar gyfer aelod o’r teulu sydd o dan 16 oed, neu’n 16 i 19 oed ac mewn mathau penodol o addysg neu hyfforddiant.

Os oes gennych statws ffoadur neu ddiogelwch dyngarol neu os ydych wedi gadael Wcráin neu Afghanistan

Gallwch gael grant ar gyfer eich plentyn cyntaf a aned yn y DU os yw un o’r canlynol yn wir:

  • mae gennych statws ffoadur neu ddiogelwch dyngarol
  • wnaethoch adael Afghanistan yn dilyn cwymp llywodraeth Afghan a ddigwyddodd ar 15 Awst 2021
  • roeddech yn breswylydd yn Wcráin yn union cyn 1 Ionawr 2022 ac y gadawoch y wlad yn dilyn ymosodiad Rwsia arni a ddigwyddodd ar 24 Chwefror 2022

Os ydych yn hawlio ar gyfer aelod o’r teulu sy’n byw gyda chi

Gallwch gael grant os ydych yn hawlio am aelod o’r teulu sy’n cario’u plentyn cyntaf ac sy’n byw gyda chi. Rhaid i’r aelod o’r teulu hwnnw fod naill ai:

  • dan 16 oed
  • 16 i 19 oed ac mewn addysg neu hyfforddiant ‘cymeradwy’

Rhaid i addysg gymeradwy fod yn llawn amser (mwy na chyfartaledd o 12 awr yr wythnos mewn astudiaeth dan oruchwyliaeth neu brofiad gwaith cysylltiedig â chwrs) a gall gynnwys:

  • Lefelau A neu debyg, er enghraifft Bagloriaeth Cyn-U neu Ryngwladol
  • Lefelau T.
  • NVQs a chymwysterau galwedigaethol eraill hyd at lefel 3
  • addysg gartref - os cychwynnodd cyn iddynt droi’n 16 neu ar ôl 16 os oes ganddynt anghenion arbennig
  • hyfforddeiaethau yn Lloegr

Ni chymeradwyir cyrsiau os telir amdanynt gan gyflogwr neu ‘uwch’, er enghraifft gradd prifysgol neu Dystysgrif Genedlaethol Uwch BTEC.

Dylai hyfforddiant cymeradwy fod yn ddi-dâl a gall gynnwys:

  • Prentisiaethau Sylfaenol neu Hyfforddeiaethau yng Nghymru
  • PEACE IV Plant a Phobl Ifanc 2.1, Hyfforddiant ar gyfer Llwyddiant, neu Sgiliau Bywyd a Gwaith yng Ngogledd Iwerddon

Ni chymeradwyir cyrsiau sy’n rhan o gontract swydd.

Os nad ydych yn rhoi genedigaeth

Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael grant os ydych yn mabwysiadu neu’n dod yn rhiant trwy fenthyg croth.

Rhaid i’r babi fod yn llai na flwydd oed ar y dyddiad gwneud cais. Rhaid i chi fod yn cael un o’r budd-daliadau uchod ac mae’n rhaid i un o’r canlynol hefyd fod yn berthnasol:

  • rydych wedi dod yn gyfrifol am y babi ac nid chi yw’r fam
  • gosodwyd y babi i chi i’w mabwysiadu
  • mae gennych ganiatâd i fabwysiadu babi o dramor
  • mae gennych orchymyn rhiant ar gyfer genedigaeth benthyg croth
  • rydych wedi’ch penodi’n warcheidwad
  • mae gennych orchymyn mabwysiadu neu orchymyn preswylio