Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel
Trosolwg
Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi neu’ch partner dalu’r Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel os yw’r naill neu’r llall ohonoch yn cael Budd-dal Plant a bod o leiaf un ohonoch yn ennill mwy na’r trothwy. Mae hyn yn golygu bod rhaid i chi dalu rhan o’ch Budd-dal Plant, neu’ch Budd-dal Plant yn gyfan gwbl, yn ôl.
Mae’n bosibl bydd y tâl yn berthnasol os yw rhywun arall yn cael Budd-dal Plant ar gyfer plentyn sy’n byw gyda chi a bod y person hwnnw’n cyfrannu swm sydd o leiaf yn gyfartal â’r swm rydych chi’n ei dalu tuag at gostau cynnal y plentyn.
Does dim ots os nad eich plentyn eich hun yw’r plentyn sy’n byw gyda chi.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Y trothwy
Mae incwm unigol dros y trothwy os yw’r canlynol yn berthnasol:
-
mae’r incwm dros £60,000 ar gyfer blynyddoedd treth yn cychwyn o 2024 i 2025
-
mae’r incwm dros £50,000 ar gyfer blynyddoedd treth hyd at a chan gynnwys 2023 i 2024
Yr hyn sy’n cyfrif fel incwm
Er mwyn cyfrifo a yw’ch incwm dros y trothwy, bydd yn rhaid i chi gyfrifo’ch ‘incwm net wedi’i addasu’.
Eich incwm net wedi’i addasu yw cyfanswm eich incwm trethadwy, sy’n cynnwys llog ar gynilion a difidendau. Fe’i cyfrifir cyn unrhyw Lwfansau Personol a llai o ryddhadau treth penodol, fel cyfraniadau pensiwn a Rhodd Cymorth.
Cyfrifo’r tâl treth
Gallwch ddefnyddio’r gyfrifiannell dreth ar gyfer Budd-dal Plant (yn agor tudalen Saesneg) i amcangyfrif y swm o’ch Budd-dal Plant y bydd angen i chi ei dalu yn ôl.
O flwyddyn dreth 2024 i 2025 ymlaen
Os ydych chi, neu’ch partner, yn ennill mwy na £60,000 y flwyddyn bydd angen i chi dalu rhan o’ch Budd-dal Plant yn ôl. Os ydych chi, neu’ch partner, yn ennill mwy na £80,000 y flwyddyn bydd angen i chi dalu eich Budd-dal Plant yn ôl yn gyfan gwbl.
Byddwch yn talu 1% o’ch budd-dal Plant yn ôl am bob £200 y byddwch yn ei ennill dros y trothwy.
Enghraifft
Eich incwm net wedi’i addasu ar gyfer 2024 i 2025 yw £67,600. Mae’r swm hwn £7,600 dros y trothwy o £60,000. Wrth rannu 7,600 â 200, fe gewch 38. Golyga hyn y byddwch yn talu 38% o’ch Budd-dal Plant yn ôl.
Ar gyfer blynyddoedd treth hyd at a chan gynnwys 2023 i 2024
Os gwnaethoch chi, neu’ch partner, ennill mwy na £50,000 y flwyddyn bydd angen i chi dalu rhan o’ch Budd-dal Plant yn ôl. Os gwnaethoch chi, neu’ch partner, ennill mwy na £60,000 y flwyddyn bydd angen i chi dalu eich Budd-dal Plant yn ôl yn gyfan gwbl.
Byddwch yn talu 1% o’ch budd-dal Plant yn ôl am bob £100 y byddwch yn ei ennill dros y trothwy.
Enghraifft
Eich incwm net wedi’i addasu ar gyfer 2023 i 2024 yw £56,700. Mae’r swm hwn £6,700 dros y trothwy o £50,000. Wrth rannu 6,700 â 100, fe gewch 67. Golyga hyn y byddwch yn talu 67% o’ch Budd-dal Plant yn ôl.
Pwy sy’n talu’r tâl treth
Os yw’r incwm net wedi’i addasu ar eich cyfer chi a’ch partner hefyd dros y trothwy, yna’r person sydd â’r incwm uchaf sy’n gyfrifol am dalu’r tâl treth.
Mae ‘partner’ yn golygu rhywun nad ydych wedi gwahanu oddi wrtho’n barhaol – rhywun yr ydych yn briod ag ef, mewn partneriaeth sifil ag ef, neu’n byw gydag ef fel pe baech yn briod neu mewn partneriaeth sifil.
Os yw’ch incwm dros y trothwy
Gallwch ddewis i wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:
-
cael Budd-dal Plant a thalu’r tâl treth
-
optio allan o gael taliadau a pheidio â thalu’r tâl treth
Ffyrdd o dalu’r tâl treth
Mae dwy ffordd o dalu’r tâl treth. Gallwch wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:
Fodd bynnag, mae’n rhaid i chi dalu’r tâl drwy Hunanasesiad os yw’r canlynol yn wir:
- mae angen i chi anfon Ffurflen Dreth am reswm arall, er enghraifft, gan eich bod yn hunangyflogedig neu yn ennill llog ar gynilion neu fuddsoddiadau
- mae’n hwyrach na 31 Ionawr yn y flwyddyn ar ôl y flwyddyn dreth yr oedd angen i chi dalu ar ei chyfer, mae’n rhaid i chi dalu’r tâl treth drwy Hunanasesiad.
Enghraifft
Mae angen i chi dalu’r tâl treth ar gyfer y flwyddyn dreth sy’n dechrau 6 Ebrill 2025. Os yw’n hwyrach na 31 Ionawr 2027, bydd yn rhaid i chi dalu drwy Hunanasesiad.
Os ydych wedi llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad yn ddiweddar er mwyn talu’r tâl treth yn unig, ac am ddim rheswm arall, gallwch ddewis talu’r tâl drwy TWE yn lle hynny. Er mwyn gwneud hyn, bydd angen i chi gysylltu â CThEF dros y ffôn er mwyn gwneud y canlynol:
- ymadael â Hunanasesiad
- cofrestru i dalu’r tâl drwy TWE
Optio allan o gael taliadau Budd-dal Plant
Os ydych yn optio allan o gael taliadau Budd-dal Plant, rydych yn parhau i fod wedi’ch cofrestru ar gyfer Budd-dal Plant ond nad ydych yn cael y taliadau.
Ni fyddai’n rhaid i chi dalu’r tâl treth, ond byddwch yn parhau i gael y canlynol:
-
credydau Yswiriant Gwladol sy’n cyfrif tuag at eich Pensiwn y Wladwriaeth
-
rhif Yswiriant Gwladol ar gyfer eich plentyn heb iddo orfod gwneud cais am un – fel arfer, bydd yn cael y rhif ychydig cyn iddo gael ei ben blwydd yn 16 mlwydd oed
Dysgwch ragor am optio allan o gael taliadau Budd-dal Plant.