Rhyddhad ardrethi busnes
Rhyddhad ardrethi busnesau bach
Gallwch gael rhyddhad ardrethi busnesau bach os yw’r canlynol yn wir:
-
mae gwerth ardrethol eich eiddo yn llai na £15,000
-
mae’ch busnes dim ond yn defnyddio un eiddo – fodd bynnag, mae’n bosibl y byddwch yn gallu cael rhyddhad o hyd os ydych yn defnyddio mwy nag un eiddo
Ni allwch gael rhyddhad ardrethi busnes bach a rhyddhad ardrethi elusennol ar yr un pryd. Bydd eich cyngor lleol yn penderfynu pa fath o ryddhad yr ydych yn gymwys i gael.
Yr hyn y byddwch yn ei gael
Mae faint o ryddhad ardrethi busnesau bach a gewch yn dibynnu ar werth ardrethol eich eiddo.
Ni fyddwch yn talu ardrethi busnes ar eiddo sydd â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai, os mai dyna’r unig eiddo y mae’ch busnes yn ei ddefnyddio.
Ar gyfer eiddo sydd â gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £15,000, bydd cyfradd y rhyddhad yn gostwng yn raddol o 100% i 0%.
Enghraifft
Os yw’ch gwerth ardrethol yn £13,500, byddwch yn cael 50% oddi ar eich bil. Os yw’ch gwerth ardrethol yn £14,000, byddwch yn cael 33% oddi ar eich bil.
Os ydych yn defnyddio mwy nag un eiddo
Pan fyddwch yn cael ail eiddo, byddwch yn parhau i gael rhyddhad ar eich prif eiddo am:
- 12 mis os cawsoch yr ail eiddo cyn 27 Tachwedd 2025
- 36 mis os cawsoch yr ail eiddo ar neu ar ôl 27 Tachwedd 2025
Byddwch yn dal i allu cael rhyddhad ardrethi busnesau bach ar eich prif eiddo ar ôl y cyfnod hwnnw os yw’r ddau beth canlynol yn wir:
-
nid oes gan yr un o’ch eiddo eraill werth ardrethol dros £2,899
-
mae cyfanswm gwerth ardrethol eich holl eiddo yn llai na £20,000 (£28,000 yn Llundain)
Sut i gael rhyddhad ardrethi busnesau bach
Cysylltwch â’ch cyngor lleol (yn agor tudalen Saesneg) i wneud y canlynol:
-
gwirio a ydych yn gymwys
-
cael gwybod sut i gael rhyddhad ardrethi busnesau bach
-
gwirio a allwch gael unrhyw fathau eraill o ryddhad ardrethi busnes yn ogystal â rhyddhad ardrethi busnesau bach
Os bydd newid yn eich amgylchiadau
Rhowch wybod am newidiadau er mwyn sicrhau eich bod yn talu’r swm cywir. Bydd rhoi gwybod am newidiadau hefyd yn sicrhau nad ydych yn talu gormod nac yn cael cynnydd wedi’i ôl-ddyddio yn eich bil.
Cysylltwch â’ch cyngor lleol (yn agor tudalen Saesneg) os:
-
yw’ch eiddo yn dod yn wag
-
ydych yn cael eiddo arall
-
ydych yn gwneud unrhyw newidiadau i’ch eiddo a fyddai’n cynyddu ei werth – er enghraifft, adeiladu estyniad neu gynnal gwaith adnewyddu
-
yw natur eich busnes yn newid, neu os yw’n symud i safle gwahanol
Gall swm y rhyddhad ardrethi busnesau bach yr ydych yn gymwys i’w gael newid. Er enghraifft, gallai leihau os yw gwerth ardrethol eich eiddo wedi cynyddu.
Fel arfer, bydd angen i chi dalu’ch cyfradd newydd ar gyfer ardrethi o’r diwrnod y gwnaeth eich amgylchiadau newid.
Os nad ydych yn cael rhyddhad ardrethi busnesau bach, a’ch bod o’r farn eich bod yn gymwys i’w gael
Cysylltwch â’ch cyngor lleol (yn agor tudalen Saesneg) os nad ydych yn cael rhyddhad ardrethi busnesau bach, a’ch bod o’r farn eich bod yn gymwys i’w gael.
Os ydych o’r farn bod eich gwerth ardrethol yn anghywir
Gallwch herio gwerth ardrethol eich eiddo gyda’r VO. Defnyddiwch eich cyfrif prisio ardrethi busnes i wneud hyn.
Os ydych yn cael llai o ryddhad ardrethi busnesau bach ers 1 Ebrill 2026
Efallai y byddwch yn gymwys i gael rhyddhad ategol i fusnesau bach os gwnaethoch golli rhywfaint neu’r cyfan o’ch rhyddhad ardrethi busnes bach oherwydd yr ailbrisiad ar 1 Ebrill 2026.
Dysgwch ragor am y cynllun rhyddhad cefnogi busnesau bach.
Os ydych yn fusnes bach, ond nad ydych yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi busnesau bach
Cyfrifir eich bil ardrethi busnes gan ddefnyddio ‘lluosydd’ – caiff eich gwerth ardrethol ei luosi â’r rhif hwn i gyfrifo’ch bil terfynol.
Os yw gwerth ardrethol eich eiddo yn llai na £51,000, cyfrifir eich bil gan ddefnyddio’r lluosydd busnesau bach, sy’n is na’r lluosydd safonol. Dyma’r achos hyd yn oed os nad ydych yn cael rhyddhad ardrethi busnesau bach.
Y lluosydd busnesau bach yw 43.2c a’r lluosydd safonol yw 48c o 1 Ebrill 2026 hyd at 31 Mawrth 2027.
Mae busnesau manwerthu, lletygarwch neu hamdden sydd â gwerth ardrethol o dan £51,000 yn defnyddio’r lluosydd busnesau bach ar gyfer manwerthu, lletygarwch a hamdden. Y lluosydd ar gyfer manwerthu, lletygarwch a hamdden ar gyfer busnesau bach yw 38.2c o 1 Ebrill hyd at 31 Mawrth 2027.
Mae’n bosibl y bydd y lluosyddion yn wahanol yn Ninas Llundain.
Dysgwch sut i amcangyfrif eich bil ardrethi busnes.
Mae’n bosibl eich bod yn gymwys i gael math arall o ryddhad ardrethi busnes. Er enghraifft, os yw’r canlynol yn wir:
-
rydych yn rhedeg elusen
-
rydych yn wynebu trafferthion ariannol
Gwiriwch pa ryddhadau eraill y gallech fod yn gymwys i’w cael.