Skip to main content

Ailbrisiad

Wrth ailbrisio, mae’r Swyddfa Brisio (VO) yn diweddaru gwerth ardrethol eiddo busnes i adlewyrchu newidiadau yn y farchnad eiddo.

Daeth yr ailbrisiad diweddaraf i rym yng Nghymru a Lloegr ar 1 Ebrill 2026. Mae’n seiliedig ar werthoedd rhent ar y farchnad agored ar 1 Ebrill 2024.

Gallwch ddefnyddio gwasanaeth ar-lein y VO i ddod o hyd i’ch gwerth ardrethol presennol a’ch gwerthoedd ardrethol blaenorol.

Mae ardrethi busnes yn cael eu trin yn wahanol os yw’ch eiddo yn yr Alban neu os yw’ch eiddo yng Ngogledd Iwerddon.

Yr hyn sy’n digwydd yn ystod ailbrisiad

Wrth ailbrisio:

Mae hyn yn golygu nad yw newid yn eich gwerth ardrethol bob amser yn golygu y bydd newid yn eich bil.

Er mwyn sicrhau bod eich prisiadau yn gywir, mae’n bosibl y bydd y VO yn gofyn i chi am fanylion rhent a phrydles ar gyfer eich eiddo.

Os ydych o’r farn bod eich gwerth ardrethol yn anghywir, gallwch roi gwybod am newidiadau i’ch eiddo neu wneud her yn erbyn eich gwerth ardrethol.

Cael rhyddhad ardrethi busnes

Mae’n bosibl y gallwch gael disgownt gan eich cyngor lleol os ydych yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi busnes.

Er enghraifft, mae’n bosibl y gallech gael y canlynol: