Amcangyfrif eich trethi busnes
Mae ardrethi busnes yn seiliedig ar ‘werth ardrethol’ eich eiddo a ‘lluosydd’ ar gyfer pob blwyddyn dreth. Gallwch amcangyfrif y swm y byddwch yn ei dalu mewn ardrethi busnes.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Mae ffordd wahanol o gyfrifo ardrethi busnes os yw’r canlynol yn berthnasol:
Sut i amcangyfrif eich ardrethi busnes
-
Gwiriwch isod pa luosydd i’w ddefnyddio.
-
Lluoswch eich gwerth ardrethol â’ch lluosydd. Mae hyn yn dangos y swm y bydd yn rhaid i chi ei dalu mewn ardrethi busnes (cyn dynnu unrhyw ryddhad).
-
Tynnwch unrhyw ryddhad ardrethi busnes yr ydych yn gymwys i’w cael. Os yw’ch ardrethi busnes yn cynyddu o ganlyniad i ailbrisiad, gall hyn gynnwys rhyddhad trosiannol fel bod newidiadau i’ch bil yn cael eu cyflwyno’n raddol. Mae’n bosibl y byddwch hefyd yn gymwys i gael rhyddhad cefnogi busnesau bach os ydych wedi colli eich rhyddhad ardrethi busnesau bach, rhyddhad ardrethi gwledig, rhyddhad manwerthu, lletygarwch a hamdden neu ryddhad cefnogi busnesau bach 2023, naill ai’n rhannol neu’n gyfan gwbl.
Lluosyddion ar gyfer blwyddyn dreth 2026 i 2027
Os yw’ch eiddo yn Lloegr, mae’r lluosydd a ddefnyddiwch yn dibynnu ar y canlynol:
- eich gwerth ardrethol
- y math o fusnes rydych yn ei redeg os yw’ch gwerth ardrethol yn llai na £500,000
Mae gwahanol luosyddion os yw’r canlynol yn berthnasol:
Os yw’ch gwerth ardrethol yn is na £500,000
Os nad ydych yn rhedeg busnes manwerthu, hamdden neu letygarwch, defnyddiwch luosydd o:
- 48 ceiniog os yw’ch gwerth ardrethol yn £51,000 neu fwy (hyd at £499,999)
- 43.2 ceiniog os yw’ch gwerth ardrethol yn is na £51,000
Mae’n bosibl y bydd eich cyngor yn defnyddio lluosydd gwahanol i gyfrifo’ch ardrethi os ydych yn rhedeg busnes manwerthu, lletygarwch neu hamdden – er enghraifft, siop, bwyty, caffi, bar, tafarn, sinema, lleoliad cerddoriaeth, campfa, sba neu westy. Mae’r lluosyddion hyn yn cymryd lle’r rhyddhad ardrethi manwerthu, lletygarwch a hamdden a gynigir ar gyfer blwyddyn filio 2025 i 2026.
Os cawsoch y rhyddhad ardrethi manwerthu, lletygarwch a hamdden, byddwch fel arfer yn gymwys ar gyfer y lluosyddion hyn. Gallwch hefyd gysylltu â’ch cyngor lleol (yn Saesneg) i wirio a yw’ch eiddo’n gymwys.
Os yw’ch eiddo’n gymwys, defnyddiwch luosyddion manwerthu, lletygarwch a hamdden o:
- 43 ceiniog os yw’ch gwerth ardrethol yn £51,000 neu fwy (hyd at £499,999)
- 38.2 ceiniog os yw’ch gwerth ardrethol yn is na £51,000
Enghraifft 1
Mae gan Ben ddeintyddfa yn Lloegr. Gwerth ardrethol ei eiddo busnes yw £60,000.
Nid yw’r eiddo’n gymwys i ddefnyddio lluosydd is ar gyfer busnesau manwerthu, lletygarwch a hamdden.
Mae’r gwerth ardrethol rhwng £51,000 a £499,999. Felly mae’n defnyddio lluosydd o 48 ceiniog i amcangyfrif ei ardrethi busnes fel a ganlyn:
£60,000 (gwerth ardrethol) x £0.48 (lluosydd) = £28,800 (ardrethi busnes sylfaenol ar gyfer y flwyddyn)
Enghraifft 2
Mae gan Barbara dafarn yn Lloegr. Gwerth ardrethol yr eiddo busnes yw £110,000.
Mae’r eiddo’n gymwys i ddefnyddio lluosydd is ar gyfer busnesau manwerthu, lletygarwch a hamdden ar gyfer blwyddyn dreth 2026 i 2027.
Mae’r gwerth ardrethol yn fwy na £51,000. Felly mae’n defnyddio lluosydd o 43 ceiniog i amcangyfrif ei hardrethi busnes fel a ganlyn:
£110,000 (gwerth ardrethol) x £ 0.43 (lluosydd) = £47,300 (ardrethi busnes sylfaenol ar gyfer y flwyddyn)
Gwnaeth eiddo Barbara gael rhyddhad manwerthu, lletygarwch a hamdden ym mlwyddyn dreth 2025 i 2026. Mae’n bosibl ei bod hi’n gymwys i gael rhyddhad cefnogi busnesau bach, sy’n cyfyngu faint y bydd ei biliau’n cynyddu.
Os yw’ch gwerth ardrethol yn £500,000 neu fwy
Defnyddiwch luosydd o 50.8 ceiniog.
Lluosyddion ar gyfer blynyddoedd treth blaenorol
Defnyddiwch:
- y lluosydd safonol os yw’ch gwerth ardrethol yn £51,000 neu fwy
- y lluosydd busnesau bach os yw’ch gwerth ardrethol yn is na £51,000
| Blwyddyn | Lluosydd safonol | Lluosydd busnesau bach |
|---|---|---|
| 2025 i 2026 | 55.5 ceiniog | 49.9 ceiniog |
| 2024 i 2025 | 54.6 ceiniog | 49.9 ceiniog |
| 2023 i 2024 | 51.2 ceiniog | 49.9 ceiniog |
| 2022 i 2023 | 51.2 ceiniog | 49.9 ceiniog |
| 2021 i 2022 | 51.2 ceiniog | 49.9 ceiniog |
| 2020 i 2021 | 51.2 ceiniog | 49.9 ceiniog |
| 2019 i 2020 | 50.4 ceiniog | 49.1 ceiniog |
| 2018 i 2019 | 49.3 ceiniog | 48.0 ceiniog |
| 2017 i 2018 | 47.9 ceiniog | 46.6 ceiniog |