Rhyddhad ardrethi busnes
Mathau o ryddhad ardrethi busnes
Mae rhai busnesau yn Lloegr yn gymwys i gael gostyngiad yn eu biliau ardrethi busnes. Gelwir hyn yn ‘rhyddhad ardrethi busnes’.
Mae’r rheolau ar gyfer rhyddhad ardrethi busnes yn wahanol os yw’ch eiddo yng Nghymru, yn yr Alban, neu yng Ngogledd Iwerddon.
Darganfyddwch pwy i gysylltu ag ef gael help gyda rhyddhad ardrethi busnes.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Pryd y gallwch gael rhyddhad ardrethi busnes
Mae’n bosibl eich bod yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi busnes os yw’r canlynol yn wir am eich busnes:
- mae’ch busnes yn fusnes bach
- eich busnes chi yw’r unig fusnes mewn ardal wledig
- mae’ch busnes yn elusen neu glwb chwaraeon amatur cymunedol
Mae’n bosibl eich bod hefyd yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi busnes os yw’r canlynol yn wir:
- rydych yn berchen ar eiddo sy’n wag, yn rhannol wag, neu’n cael ei adnewyddu
- rydych yn gwneud gwelliannau penodol i’ch eiddo
- mae’r newid yn eich ardrethi yn fwy na swm penodol yn ystod ailbrisiad
- byddwch yn colli rhyddhad ardrethi busnes penodol, naill ai’n rhannol neu’n gyfan gwbl, o 1 Ebrill 2026 ymlaen
- rydych yn wynebu trafferthion ariannol
- mae’ch eiddo mewn ‘ardal fenter’
- mae’ch eiddo mewn ‘porthladd rhydd’
- mae’ch eiddo yn rhwydwaith gwres
- mae’ch eiddo yn dafarn neu leoliad cerddoriaeth fyw
Gall cynghorau lleol hefyd ddewis cynnig rhyddhad ardrethi busnes i fusnesau sydd o fudd i’r gymuned neu’r economi leol. Cysylltwch â’ch cyngor lleol (yn agor tudalen Saesneg) i gael gwybod a yw hyn ar gael yn eich ardal chi, ac i wirio a ydych yn gymwys neu beidio.
Pan nad oes angen i chi dalu ardrethi busnes
Mae ambell eiddo wedi’u heithrio rhag ardrethi busnes
Efallai na fydd angen i chi dalu ardrethi busnes ar gyfer y canlynol:
- tir ac adeiladau amaethyddol, gan gynnwys ffermydd pysgod
- adeiladau a ddefnyddir er lles pobl anabl, neu ar gyfer hyfforddiant
- neuaddau eglwys neu adeiladau sydd wedi’u cofrestru ar gyfer addoli crefyddol cyhoeddus
Dysgwch ragor am adeiladau sydd wedi’u heithrio.
Os nad ydych yn siŵr pa ryddhad ardrethi busnes yr ydych yn gymwys i’w gael
Cynghorau lleol sy’n gyfrifol am anfon biliau ardrethi busnes, casglu taliadau a gwneud penderfyniadau ynghylch a yw busnes yn gymwys i gael rhyddhad neu beidio.
Cysylltwch â’ch cyngor lleol (yn agor tudalen Saesneg) i gael gwybod pa fathau o ryddhad y gallwch eu cael, a sut i wneud cais.
Os yw’ch safle yn cael ei heffeithio gan darfu lleol
Mae’n bosibl y byddwch yn cael gostyngiad dros dro yn eich ardrethi busnes os bydd digwyddiad lleol difrifol yn effeithio ar eich safle (megis llifogydd, gwaith adeiladu neu waith ffordd).
Rhowch wybod i’r Swyddfa Brisio (VO) os ydych o’r farn bod tarfu lleol wedi effeithio ar werth eich eiddo. Rhowch wybod i’r VO gan ddefnyddio’ch cyfrif prisio ardrethi busnes.
Bydd y VO yn penderfynu a allwch gael gostyngiad dros dro yn eich ardrethi busnes.