Skip to main content

Rhyddhad manwerthu, lletygarwch a hamdden

Ni allwch wneud cais newydd am ryddhad ardrethi ar gyfer manwerthu, lletygarwch a hamdden. O 1 Ebrill 2026, bydd angen i chi ddefnyddio lluosyddion ardrethi i gyfrifo eich bil ardrethi busnes.

Dysgwch sut i defnyddio lluosyddion i amcangyfrif eich bil ardrethi busnes.

Efallai y byddwch yn dal yn gymwys ar gyfer rhyddhad ar gyfer tafarndai a lleoliadau cerddoriaeth fyw.

Os ydych yn hawlio rhyddhad ar gyfer blynyddoedd blaenorol

Efallai y gallwch hawlio rhyddhad ardrethi ar gyfer manwerthu, lletygarwch a hamdden o flynyddoedd blaenorol Cysylltwch â’ch cyngor lleol (yn agor tudalen Saesneg) i gael gwybod.

Os ydych yn cael llai o ryddhad ardrethi ar gyfer manwerthu, lletygarwch a hamdden ers 1 Ebrill 2026

Efallai y byddwch yn gymwys i gael rhyddhad ategol i fusnesau bach os gwnaethoch golli rhywfaint neu’r cyfan o’ch rhyddhad ardrethi busnes ar gyfer manwerthu, lletygarwch a hamdden oherwydd y ailbrisiad ar 1 Ebrill 2026.