Rhyddhad ardrethi busnes
Rhyddhad cefnogi busnesau bach
Gallwch gael rhyddhad cefnogi busnesau bach os yw’r naill a’r llall o’r canlynol yn wir:
- bydd bil eich eiddo busnes yn cynyddu pan fydd yr ailbrisiad nesaf yn digwydd ar 1 Ebrill 2026
- rydych wedi colli eich rhyddhad ardrethi busnesau bach, rhyddhad ardrethi gwledig, rhyddhad manwerthu, lletygarwch a hamdden neu ryddhad cefnogi busnesau bach 2023, yn rhannol neu’n gyfan gwbl
Yr hyn y byddwch yn ei gael
Os ydych yn gymwys, ni fydd eich biliau yn codi o fwy na £800 neu’r capiau canrannol sydd wedi’u rhestru yn y tabl (pa un bynnag sy’n fwy) ar gyfer blwyddyn dreth 2026 i 2027.
| Gwerth ardrethol | 2026 i 2027 |
|---|---|
| Hyd at £20,000 (£28,000 yn Llundain) | 5% |
| £20,001 (£28,001 yn Llundain) i £100,000 | 15% |
| Dros £100,000 | 30% |
Mae hyn o’i gymharu â’ch bil yn 2025 i 2026 ac yn cynnwys y canlynol:
- unrhyw ryddhad ardrethi busnesau bach
- rhyddhad ardrethi gwledig
- rhyddhad manwerthu, lletygarwch a hamdden
- rhyddhad cefnogi busnesau bach 2023
Bydd eich cyngor yn addasu’ch bil os ydych yn gymwys.
Enghraifft 1
Mae gan Barbara dafarn yn Lloegr.
Yn ystod blwyddyn filio 2025 i 2026, gwerth ardrethol ei busnes oedd £50,000. £24,950 oedd ei bil ardrethi busnes cyn unrhyw ryddhad.
Cafodd hi 40% i ffwrdd ar ei bil ardrethi busnes o ganlyniad i ryddhad manwerthu, lletygarwch a hamdden. Felly ei bil terfynol oedd £14,970.
Yn ystod blwyddyn filio 2026 i 2027, gwerth ardrethol ei busnes yw £110,000.
Mae hyn yn golygu na fyddai ei bil yn cynyddu gan ddim mwy na £800 neu 30% (pa bynnag un sydd fwyaf) o ganlyniad i ryddhad cefnogi busnesau bach.
30% o £14,970 (ei bil terfynol ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026) = £4,491
Mae hyn yn fwy na £800 felly bil Barbara fydd:
£14,970 (ei bil terfynol ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026) + £4,491 (30% o’i bil terfynol) = £19,461
Enghraifft 2
Mae gan Ramesh siop anrhegion yn Lloegr.
Yn ystod blwyddyn filio 2025 i 2026, gwerth ardrethol ei fusnes oedd £15,000. £7,485 oedd ei fil ardrethi busnes cyn unrhyw ryddhad.
Cafodd e 40% i ffwrdd ar ei fil ardrethi busnes o ganlyniad i ryddhad manwerthu, lletygarwch a hamdden. Felly ei fil terfynol oedd £4,491.
Yn ystod blwyddyn filio 2026 i 2027, gwerth ardrethol ei fusnes yw £20,000.
Mae hyn yn golygu na fyddai ei fil yn cynyddu gan ddim mwy na £800 neu 5% (pa bynnag un sydd fwyaf) o ganlyniad i ryddhad cefnogi busnesau bach.
5% o £4,491 (ei fil terfynol ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026) = £225
Mae hyn yn llai na £800 felly bil Ramesh fydd:
£4,491 (ei fil terfynol ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026) + £800 = £5,291