Skip to main content

Rhyddhad rhwydweithiau gwres

Gallwch gael rhyddhad rhwydweithiau gwres os yw’ch eiddo’n cael ei ddefnyddio’n gyfan gwbl, neu’n bennaf, fel ‘rhwydwaith gwres’.

Mae rhwydwaith gwres yn defnyddio ffynhonnell ganolog i wresogi neu oeri eiddo eraill. I fod yn gymwys, mae’n rhaid bod y canlynol yn wir am y rhwydwaith gwres:

  • mae’n cymryd ei egni o ffynhonnell garbon isel

  • mae’n gwresogi neu oeri eiddo eraill – er enghraifft, cartrefi, siopau, adeiladau cyhoeddus, ysbytai a swyddfeydd

Yr hyn y byddwch yn ei gael

Ni fyddwch yn talu ardrethi busnes os yw’ch eiddo yn gymwys i gael rhyddhad rhwydweithiau gwres.

Sut i gael rhyddhad rhwydweithiau gwres

Cysylltwch â’ch awdurdod lleol (yn agor tudalen Saesneg) i wirio a yw’ch eiddo yn gymwys ar gyfer rhyddhad rhwydweithiau gwres.

Os bydd newid yn eich amgylchiadau

Rhowch wybod am newidiadau er mwyn sicrhau eich bod yn talu’r swm cywir. Bydd rhoi gwybod am newidiadau hefyd yn sicrhau nad ydych yn talu gormod nac yn cael cynnydd wedi’i ôl-ddyddio yn eich bil.

Cysylltwch â’r Swyddfa Brisio (VO) os nad yw’r eiddo bellach yn cael ei ddefnyddio’n unig neu’n bennaf fel rhwydwaith gwres.