Rhyddhad ardrethi busnes
Rhyddhad i dafarnau a lleoliadau cerddoriaeth fyw
Os ydych yn rhedeg tafarn neu leoliad cerddoriaeth fyw, efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer rhyddhad i dafarnau a lleoliadau cerddoriaeth fyw. Mae’n rhaid bod yr eiddo wedi’i feddiannu er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y rhyddhad.
Dim ond hyd at ddiwedd blwyddyn filio 2026 i 2027 y gallwch gael rhyddhad i dafarnau a lleoliadau cerddoriaeth fyw. O 1 Ebrill 2026, efallai y byddwch hefyd yn gymwys ar gyfer rhyddhad i gefnogi busnesau bach neu rhyddhad trosiannol.
Tafarndai
Efallai y gallwch gael rhyddhad os yw eich tafarn yn gwneud pob un o’r canlynol. Mae’n rhaid iddi:
- fod ar agor i’r cyhoedd yn gyffredinol
- caniatáu mynediad am ddim ac eithrio pan ddarperir adloniant o bryd i’w gilydd
- caniatáu yfed heb ei gwneud yn ofynnol i fwyd gael ei fwyta
- caniatáu i ddiodydd gael eu prynu wrth far
Lleoliadau cerddoriaeth fyw
Mae lleoliadau cerddoriaeth fyw yn eiddo sy’n cael eu defnyddio’n bennaf ar gyfer perfformio cerddoriaeth fyw i ddiddanu cynulleidfa.
Gellir ei ddefnyddio ar gyfer gweithgareddau eraill, ond dim ond os yw’r gweithgareddau hynny:
- yn ychwanegol at berfformio cerddoriaeth fyw, megis gwerthu bwyd a diod
- ddim yn newid prif ddefnydd yr eiddo sef ar gyfer cerddoriaeth fyw, er enghraifft os defnyddir y lleoliad o bryd i’w gilydd fel gorsaf bleidleisio
Ni allwch gael rhyddhad i dafarnau a lleoliadau cerddoriaeth fyw os yw’r eiddo yn cael ei ddefnyddio’n bennaf fel clwb nos neu theatr.
Gwiriwch y canllawiau (yn agor tudalen Saesneg) i weld a all eich lleoliad gael ei ystyried yn leoliad cerddoriaeth fyw.
Yr hyn y byddwch yn ei gael
Os ydych yn gymwys, byddwch yn cael gostyngiad o 15% ar eich biliau ardrethi busnes ar gyfer blwyddyn filio 2026 i 2027 (1 Ebrill 2026 i 31 Mawrth 2027).
Ni fydd eich bil ardrethi busnes yn cynyddu mwy na chyfradd chwyddiant o 1 Ebrill 2027 hyd at 31 Mawrth 2029.
Nid oes terfyn ar faint o ryddhad y gallwch ei gael.
Gallwch barhau i gael y rhyddhad hwn os ydych eisoes yn cael rhyddhad trosiannol neu rhyddhad i gefnogi busnesau bach.
Sut i gael rhyddhad i dafarnau a lleoliadau cerddoriaeth fyw
Cynghorau lleol sy’n rheoli’r rhyddhad ardrethi busnes yn eu hardal.
Cysylltwch â’ch cyngor lleol (yn agor tudalen Saesneg) i wneud y canlynol:
-
gwirio a ydych yn gymwys
-
darganfod sut i gael rhyddhad i dafarnau a lleoliadau cerddoriaeth fyw
-
gwirio a allwch gael unrhyw fathau eraill o ryddhad ardrethi busnes yn ogystal â rhyddhad i dafarnau a lleoliadau cerddoriaeth fyw
Os bydd newid yn eich amgylchiadau
Rhowch wybod am newidiadau er mwyn sicrhau eich bod yn talu’r swm cywir. Bydd rhoi gwybod am newidiadau hefyd yn sicrhau nad ydych yn talu gormod nac yn cael cynnydd wedi’i ôl-ddyddio yn eich bil.
Cysylltwch â’ch cyngor lleol (yn agor tudalen Saesneg) os:
- yw’ch eiddo yn dod yn wag
- ydych yn cael eiddo arall
- ydych yn gwneud unrhyw newidiadau i’ch eiddo a fyddai’n cynyddu ei werth – er enghraifft, adeiladu estyniad neu gynnal gwaith adnewyddu
- yw natur eich busnes yn newid, neu os yw’n symud i safle gwahanol
Os bydd swm y rhyddhad i dafarnau a lleoliadau cerddoriaeth fyw yr ydych yn gymwys ar ei gyfer yn newid, fel arfer bydd angen i chi dalu eich cyfradd newydd o’r diwrnod y newidiodd eich amgylchiadau.
Os ydych o’r farn y dylech fod yn cael rhyddhad i dafarnau a lleoliadau cerddoriaeth fyw ond nad ydych
Cysylltwch â’ch cyngor lleol (yn agor tudalen Saesneg) os nad ydych yn cael rhyddhad ar gyfer tafarndai a lleoliadau cerddoriaeth byw ac os ydych yn credu eich bod yn gymwys ar ei gyfer.
Os nad ydych yn gymwys ar gyfer rhyddhad ar gyfer tafarndai a lleoliadau cerddoriaeth byw
Mae’n bosibl eich bod yn gymwys i gael math arall o ryddhad ardrethi busnes. Er enghraifft, os yw’r canlynol yn wir:
-
mae gennych fusnes bach
-
rydych yn wynebu trafferthion ariannol
Gwiriwch pa ryddhadau eraill y gallech fod yn gymwys i’w cael.