Skip to main content

Os yw’ch busnes neu safle yn newid

Gallai’ch ardrethi busnes newid os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn symud neu’n gwneud newidiadau i’ch safle
  • mae natur eich busnes yn newid
  • rydych yn rhoi rhan o’ch eiddo ar is-osod
  • rydych yn cyfuno 2 eiddo neu fwy yn 1

Rhowch wybod i’r Swyddfa Brisio (VO) am unrhyw newidiadau er mwyn sicrhau eich bod yn talu’r swm cywir a ddim yn cael bil uwch yn y dyfodol sy’n codi treth arnoch am y gorffennnol.

Os bydd nifer y bobl sy’n byw yn eich eiddo yn newid, mae’n rhaid i chi roi gwybod i’ch cyngor lleol (yn agor tudalen Saesneg).

Mae ardrethi busnes yn cael eu trin yn wahanol os yw’ch eiddo yn yr Alban neu os yw’ch eiddo yng Ngogledd Iwerddon.

Os yw digwyddiad lleol yn effeithio ar eich safle

Mae’n bosibl y gallwch gael gostyngiad dros dro yn eich ardrethi busnes os bydd digwyddiad lleol difrifol yn effeithio ar eich safle (megis llifogydd, gwaith adeiladu neu waith ffordd).

Rhowch wybod i’r VO am unrhyw newidiadau.

Sut i roi gwybod am newidiadau

Gallwch roi gwybod am newidiadau gan ddefnyddio’ch cyfrif prisio ardrethi busnes.