Cyfrif prisio ardrethi busnes: mewngofnodi neu gofrestru
Defnyddiwch eich cyfrif prisio ardrethi busnes er mwyn:
- rhoi gwybod am newidiadau a allai effeithio ar werth ardrethol eich eiddo i Swyddfa Brisio (VO)
- herio gwerth ardrethol eich eiddo
- penodi asiant i ddelio â’r VO ar eich rhan
Mae’r cyfrif hwn ar gyfer eiddo yng Nghymru a Lloegr.
Mae gwasanaeth gwahanol ar gael i ddod o hyd i werth ardrethol unrhyw eiddo busnes yng Nghymru neu Loegr heb fewngofnodi.
Bydd angen i chi fewngofnodi i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, bydd modd i chi eu creu.
Mae’r dudalen hon ar gael hefyd yn Saesneg (English).