Ardrethi busnes
Llety hunangynhaliol a llety gwyliau ar osod
Bydd a ydych yn talu ardrethi busnes yn dibynnu ar y canlynol:
- faint o nosweithiau mae’ch eiddo ar gael i’w osod bob blwyddyn
- faint o nosweithiau y cafodd ei roi ar osod mewn gwirionedd
Mae’n rhaid i chi wneud cais i’r Swyddfa Brisio (VO) os yw’ch eiddo yn bodloni’r meini prawf ar gyfer ardrethi busnes. Bydd y Swyddfa Brisio yn cyfrifo gwerth trethiannol eich eiddo yn seiliedig ar y math o eiddo sydd dan sylw, ei faint, lleoliad, ansawdd, a faint o incwm rydych yn debygol o’i gael o’i osod.
Mae rheolau gwahanol ar waith os yw’ch eiddo yn yr Alban neu os yw’ch eiddo yng Ngogledd Iwerddon.
Os yw’ch eiddo yn Lloegr
Bydd eich eiddo’n cael ei brisio ar gyfer ardrethi busnes fel llety hunanarlwyo os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol:
- rydych yn ei osod am gyfnodau byr yn fasnachol am 28 noson neu lai
- roedd eich eiddo ar gael i’w roi ar osod am gyfnodau byr, at ddibenion masnachol, am o leiaf 140 noson yn ystod y 12 mis diwethaf
- cafodd ei roi ar osod mewn gwirionedd am o leiaf 70 diwrnod yn ystod y 12 mis diwethaf
- rydych yn bwriadu ei wneud ar gael i’w osod am gyfnodau byr yn fasnachol am o leiaf 140 noson yn y 12 mis nesaf
Os mai dim ond un eiddo rydych yn ei roi ar osod yn Lloegr, a bod ei werth ardrethol yn llai na £15,000, efallai y byddwch yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi ar gyfer busnesau bach.
Os yw’ch eiddo yng Nghymru
Bydd eich eiddo’n cael ei brisio ar gyfer ardrethi busnes fel llety hunanarlwyo os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol:
- rydych yn ei osod am gyfnodau byr yn fasnachol am 28 noson neu lai
- roedd eich eiddo ar gael i’w roi ar osod am o leiaf 252 noson yn ystod y 12 mis diwethaf
- cafodd ei roi ar osod mewn gwirionedd am o leiaf 182 diwrnod yn ystod y 12 mis diwethaf
- rydych yn bwriadu bod eich eiddo ar gael i’w roi ar osod am o leiaf 252 noson yn ystod y 12 mis nesaf
Os na chafodd eich eiddo ei roi ar osod am 182 noson yn ystod y 12 mis diwethaf
Mae’n bosibl y byddwch yn dal yn gymwys i gael ardethi busnes os na chafodd eich eiddo ei roi ar osod am 182 noson yn ystod y 12 mis diwethaf.
Os daw’r cyfnod rhentu 12 mis rydych yn adrodd arno i ben ar neu ar ôl 1 Ebrill 2026, gallwch ddefnyddio nifer cyfartalog y nosweithiau y cafodd eich eiddo ei roi ar osod dros y 24 neu 36 mis blaenorol. Gallai hyn ddod â’ch eiddo o fewn y gofyniad i gael ei osod am 182 noson.
Bydd angen i chi gyfrifo nifer cyfartalog y nosweithiau y cafodd eich eiddo ei roi ar osod a darparu manylion y nosweithiau a osodwyd yn ystod y cyfnod hwnnw pan fyddwch yn gwneud cais am ardrethi busnes.
Os ydych wedi rhoi nosweithiau y gellir eu gosod i elusen gofrestredig
Os ydych yn rhoi’r eiddo ar osod i elusen gofrestredig ar neu ar ôl 1 Ebrill 2026, gallwch gynnwys hyd at 14 noson o’r nosweithiau hynny. Gallwch gyfrif y nosweithiau hyn tuag at y canlynol:
- y 252 noson yr oedd yr eiddo ar gael i’w roi ar osod
- y 182 noson yr oedd yr eiddo wedi’i roi ar osod mewn gwirionedd
Gwiriwch a ydych yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi busnesau bach yng Nghymru.
Gwneud cais am ardrethi busnes
Os yw’ch eiddo’n bodloni’r meini prawf, bydd angen i chi wneud cais am ardrethi busnes drwy lenwi ffurflen.
Mae ffurflenni gwahanol ar gyfer:
Ar ôl i chi ddechrau talu ardrethi busnes, byddwch yn cael ffurflen bob blwyddyn i gadarnhau eich bod yn dal i fodloni’r meini prawf. Os nad ydych yn bodloni’r meini prawf mwyach, byddwch yn cael eich symud o ardrethi busnes i Dreth Gyngor.