Gwneud cais am ardrethi busnes ar gyfer eiddo hunanddarpar yng Nghymru
Llenwch y ffurflen hon os oes gennych lety gwyliau hunanddarpar yng Nghymru sy’n gymwys ar gyfer ardrethi busnes
Yn berthnasol i Gymru
Pryd y gallwch wneud cais
O 1 Ebrill 2023, rhaid i’r holl amodau canlynol fod yn wir er mwyn i’ch eiddo fod yn gymwys ar gyfer ardrethi busnes:
- roedd ar gael i’w osod yn fasnachol (gyda’r bwriad o wneud elw) am 252 noson yn ystod y 12 mis blaenorol
- roedd wedi cael ei osod yn fasnachol am 182 noson yn ystod y 12 mis blaenorol
- bydd ar gael i’w osod yn fasnachol am o leiaf 252 noson yn ystod y 12 mis nesaf
Efallai y caiff eich eiddo ei symud o ardrethi busnes i’r Dreth Gyngor os bydd yn peidio â bodloni’r meini prawf.
Nosweithiau dydych chi ddim yn cael eu cynnwys
Wrth gyfrifo’r nosweithiau roedd eich eiddo ar gael i’w osod neu wedi’i osod yn wirioneddol, dydych chi ddim yn cael cynnwys:
- nosweithiau pan oedd eich eiddo ar gau ar gyfer atgyweirio neu adnewyddu
- nosweithiau pan oedd y safle lle mae’r eiddo wedi’i leoli ar gau
- nosweithiau pan oeddech yn defnyddio’r eiddo’n breifat, gan gynnwys ei osod i ffrindiau neu deulu am gyfradd ostyngol
- archebion yn y dyfodol nad ydynt wedi digwydd eto
Nid yw arhosiadau dros 28 noson yn cael eu hystyried yn osodiadau tymor byr. Dydych chi ddim yn cael cynnwys y rhain fel nosweithiau pan gafodd eich eiddo ei osod. Gallwch eu cynnwys fel nosweithiau pan oedd eich eiddo ar gael, ond dim ond os oedd modd archebu’r eiddo am 28 noson neu lai.
Sut i lenwi’r ffurflen
Gallwch lenwi’r ffurflen ar y sgrin, neu argraffu’r ffurflen a’i llenwi â llaw.
Llenwch un ffurflen ar gyfer pob eiddo hunanddarpar cymwys.
Efallai na fydd y ffurflen yn gweithio os ydych yn ceisio ei hagor yn eich porwr. I agor y ffurflen mae angen i chi:
-
Lawrlwytho ac arbed y ffurflen ar eich cyfrifiadur.
-
Agor y ffurflen gan ddefnyddio’r fersiwn ddiweddaraf am ddim o Adobe Reader.
Ble i anfon y ffurflen hon
Atodwch y ffurflen wedi’i chwblhau at e-bost. Anfonwch hi at specialist.rating@voa.gov.uk gan ddefnyddio’r pennawd pwnc ‘Ffurflen ddychwelyd hunanddarpar wedi’i chwblhau’.
Os yw’n well gennych, gallwch anfon y ffurflen wedi’i chwblhau drwy’r post i:
Valuation Officer
Wycliffe House
Green Lane
Durham
DH1 3UW