Skip to main content

Sut y cyfrifir eich ardrethi

Mae ardrethi busnes yn seiliedig ar ‘werth ardrethol’ eich eiddo.

Dyma’i werth rhent ar y farchnad agored ar 1 Ebrill 2024, yn seiliedig ar amcangyfrif gan y Swyddfa Brisio (VO).

Gallwch ddod o hyd i’ch gwerth ardrethol a gwirio sut y cafodd ei gyfrifo.

Mae ardrethi busnes yn cael eu trin yn wahanol os yw’ch eiddo yn yr Alban neu os yw’ch eiddo yng Ngogledd Iwerddon.

Amcangyfrifo’ch ardrethi busnes

Bydd eich cyngor lleol yn cyfrifo’ch bil ardrethi busnes gan ddefnyddio lluosydd. Bydd eich gwerth ardrethol yn cael ei luosi â’r rhif hwn er mwyn cyfrifo’ch bil terfynol.

Sut i amcangyfrif eich bil ardrethi busnes.

Mae’n bosibl y gall eich bil gael ei ostwng os yw’ch eiddo yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi busnes.

Os ydych o’r farn bod eich gwerth ardrethol yn anghywir

Gallwch ddefnyddio’ch cyfrif prisio ardrethi busnes i wneud y canlynol:

  • rhoi gwybod am unrhyw newidiadau i’ch eiddo (megis arwynebedd y lloriau a mannau parcio)
  • herio’ch gwerth ardrethol

Gallwch roi gwybod am newidiadau i’ch eiddo ar unrhyw adeg.

Gallwch ddarllen yr arweiniad ynghylch sut i herio eich prisiad ardrethi busnes.

Os gofynnir i chi ddarparu gwybodaeth o ran rhentu

Efallai y bydd y Swyddfa Brisio yn gofyn i chi roi gwybodaeth o ran rhentu mewn perthynas â’ch eiddo, a hynny er mwyn cyfrifo gwerth ardrethol yr eiddo.

Cysylltwch â’r Swyddfa Brisio os oes angen rhagor o amser arnoch i anfon eich gwybodaeth o ran rhentu.