Sut i herio eich prisiad ardrethi busnes
Dysgwch sut i sefydlu eich cyfrif prisio ardrethi busnes, codi achos gwirio a herio eich prisiad.
Mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i Gymru a Lloegr. Caiff heriau i brisiadau eu trin yn wahanol ar gyfer eiddo yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Mae’r casgliad hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Os ydych chi’n anghytuno â’ch prisiad ardrethi busnes, gallwch ei herio gydag Asiantaeth Swyddfa Brisio (VOA). Cyn i chi gyflwyno achos herio, mae angen i chi:
- sefydlu cyfrif prisio ardrethi busnes
- ychwanegu eiddo at eich cyfrif
- cadarnhau manylion eich eiddo, a elwir yn achos ‘gwirio’
Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu dirwy (yn agor tudalen Saesneg) os byddwch chi’n cyflwyno gwybodaeth ffug yn fwriadol i’r VOA.
Os ydych chi’n anghytuno â chanlyniad her, gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad gyda’r Tribiwnlys Prisio.
Gall y VOA roi cefnogaeth ychwanegol i chi os oes gennych chi gyflwr iechyd neu os oes amgylchiadau personol sy’n ei gwneud hi’n anodd defnyddio ein gwasanaeth ar-lein.
Gallwch reoli eich ardrethi busnes eich hun drwy ddilyn y canllawiau isod, neu gallwch benodi asiant i’w rheoli ar eich rhan. Gall eich asiant godi achosion gwirio, herio ac apelio ar eich rhan.
1. Sefydlu eich cyfrif prisio ardrethi busnes
2. Ychwanegu eiddo at eich cyfrif
3. Codi achos gwirio
Gallwch weld manylion eich eiddo yn eich cyfrif prisio ardrethi busnes, fel maint y llawr a nifer yr ystafelloedd. Dylech godi achos gwirio os:
- mae unrhyw un o fanylion eich eiddo yn anghywir
- rydych chi am herio eich prisiad
4. Herio eich prisiad ardrethi busnes
Gallwch herio prisiad eich eiddo os ydych chi’n anghytuno ag ef. Rhaid i chi gwblhau achos gwirio cyn y gallwch anfon achos herio.
5. Apelio yn erbyn canlyniad achos herio
Dylech gysylltu â’r Tribiwnlys Prisio os:
- ydych chi’n anghytuno â phenderfyniad achos herio
- nad yw’r VOA wedi ymateb i chi o fewn 18 mis i chi anfon her