Canllawiau

Gwirio a herio eich prisiad ardrethi busnes: hysbysiad preifatrwydd

Cyfrifoldebau Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) gyda gwybodaeth bersonol a dderbyniwyd drwy’r gwasanaeth gwirio a herio.

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhan o broses herio ardrethi busnes Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA), sy’n cael ei adnabod fel ‘Gwirio, Herio, Apelio’. Mae’r hysbysiad yn cwmpasu gwasanaeth digidol gwirio a herio y VOA. Caiff apeliadau eu trin ar wahân gan Dribiwnlysoedd Prisio annibynnol Cymru a Lloegr.

Mae’r VOA yn Asiantaeth Weithredol i Gyllid a Thollau EF (CThEF). CThEF yw’r Rheolydd Data ar gyfer data personol a brosesir gan y VOA.

Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth

Rydym yn defnyddio’r wybodaeth a ddarperir gennych i:

  • wirio eich hunaniaeth gyda CThEF pan fyddwch yn creu cyfrif ar y gwasanaeth digidol
  • gwirio eich hawl i weld gwybodaeth sydd gennym
  • dangos a derbyn manylion eiddo a phrisio ac ystyried a yw’n briodol gwneud newid i’r rhestr ardrethu

O dan Ddeddf y Comisiynwyr Cyllid a Thollau 2005, pan fyddwn yn derbyn gwybodaeth ar gyfer un o’n swyddogaethau, gallwn ddefnyddio’r wybodaeth honno ar gyfer ein swyddogaethau cyfreithlon eraill.

Sail gyfreithiol ar gyfer prosesu’r wybodaeth

Mae’r VOA yn darparu’r gwasanaeth hwn mewn cysylltiad â’i gyfrifoldebau o dan Rheoliadau Ardrethi Annomestig (Addasiad Rhestrau ac Apeliadau) (Lloegr) 2009 (fel y’u diwygiwyd).

O dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich gwybodaeth yw arfer awdurdod swyddogol o dan Erthygl 6 o’r GDPR.

Rhannu gwybodaeth gyda thrydydd partïon

Nid ydym yn rhannu eich gwybodaeth gyda phartïon eraill oni bai ei bod yn gyfreithlon i wneud hynny.

Rydym yn anfon gwybodaeth am eich her at awdurdodau bilio ac eraill sydd â hawl i’w gweld, megis y perchennog neu’r meddiannydd. O dan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 gall unrhyw berson ofyn i weld copi o’ch her.

Pa mor hir rydym yn cadw eich gwybodaeth

Ein nod yw cadw eich gwybodaeth bersonol dim ond cyhyd ag sy’n angenrheidiol i gyflawni ein swyddogaethau ac yn unol â’n polisi cadw a gwaredu. Rydym hefyd yn cydymffurfio ag unrhyw ofynion cyfreithiol neu reoleiddiol ar gyfer cadw neu ddileu’r wybodaeth.

Eich hawliau

Mae gennych yr hawl i:

  • wneud cais am gopi o’r wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch
  • cywiro unrhyw wallau yn yr wybodaeth bersonol
  • gwneud cais i’ch gwybodaeth bersonol gael ei dileu lle nad oes sail gyfreithiol i ni barhau i’w phrosesu
  • gwrthwynebu prosesu eich gwybodaeth bersonol
  • gwneud cais i gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth bersonol

Mewn rhai amgylchiadau, gallwn gyfyngu ar gymhwyso’r hawliau lle mae eithriadau’n berthnasol. Er enghraifft, lle bydd cydymffurfio ag hawl yn debygol o ragfarnu atal neu ganfod trosedd, arestio neu erlyn troseddwyr, neu asesu neu gasglu toll neu dreth.

Cysylltu â ni

I wneud cais am gopi o’r wybodaeth sydd gennym amdanoch, neu i wneud cwyn, cysylltwch â:

Complaints Resolution Team/Tîm Datrys Cwynion
Valuation Office Agency
Wycliffe House
Green Lane
Durham
DH1 3UW

complaints@voa.gov.uk

Mae CThEF wedi penodi Swyddog Diogelu Data i oruchwylio cydymffurfiaeth â rhwymedigaethau diogelu data. I gysylltu â’r Swyddog Diogelu Data, e-bostiwch advice.dpa@hmrc.gov.uk.

Mae gennych hefyd yr hawl i wneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO). Gallwch gysylltu â’r ICO yma:

The Information Commissioner/Y Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

casework@ico.org.uk

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ddiogelu data a’ch hawliau ar wefan yr ICO.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 24 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf ar 10 Mawrth 2023 show all updates
  1. Complaints investigation team has undergone a name change, address change and have a new email. Their details have been updates.

  2. First published.

Argraffu'r dudalen hon