Canllawiau

Penodi asiant ar gyfer ardrethi busnes

Dysgwch sut i ddefnyddio’ch cyfrif prisio ardrethi busnes i benodi asiant a beth i’w wneud ar ôl i chi benodi asiant.

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Gallwch reoli eich ardrethi busnes eich hun neu benodi asiant i ddelio ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) ar eich rhan.

Os ydych chi’n dewis penodi asiant, gallant:

  • drafod prisiad eich eiddo gyda’r VOA

  • dweud wrth y VOA am fanylion y rhent rydych chi’n ei dalu

  • dweud wrth y VOA bod angen newid manylion eich eiddo

  • dweud wrth y VOA eich bod chi’n credu bod eich gwerth ardrethol yn anghywir

  • herio’r gwerth ardrethol os oes angen

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod unrhyw wybodaeth a gyflwynir i’r VOA ar eich rhan yn gywir. Os nad yw’n gywir, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu dirwy (yn agor tudalen Saesneg) a thalu unrhyw ardrethi ychwanegol sy’n ddyledus gennych chi.

Gall asiantiaid hefyd apelio yn erbyn canlyniad achos herio gyda’r Tribiwnlys Prisio. Bydd angen i chi ddweud wrth y Tribiwnlys Prisio eich bod am i’ch asiant weithredu ar eich rhan.

Cyn i chi benodi asiant

Os ydych chi eisiau cyflogi asiant, gallwch ddarllen canllawiau i’ch helpu i ddewis asiant ardrethi busnes.

Mae angen i chi gael cyfrif prisio ardrethi busnes i benodi asiant. Ni ddylech byth rannu manylion mewngofnodi eich cyfrif prisio ardrethi busnes gydag unrhyw un. Mae hyn yn cynnwys eich asiant, ffrindiau ac aelodau o’ch teulu. Mae angen i’ch asiant gael ei gyfrif prisio ardrethi busnes ei hun. Byddant yn derbyn cod asiant pan fyddant yn cofrestru ar gyfer eu cyfrif.

Gallwch gael cymorth gan y VOA os ydych chi’n cael trafferth i greu cyfrif.

Os na allwch chi greu cyfrif ar ôl cysylltu â’r VOA am gymorth, gallwch benodi cynorthwyydd dibynadwy (yn agor tudalen Saesneg) i wneud hynny i chi. Gallai cynorthwyydd dibynadwy fod yn ffrind, aelod o’r teulu neu sefydliad gwirfoddol. Gall eich cynorthwyydd dibynadwy greu eich cyfrif i chi a’ch helpu i benodi asiant.

Penodi asiant

  1. Gofynnwch i’ch asiant am ei god asiant.

  2. Mewngofnodwch i’ch cyfrif prisio ardrethi busnes.

  3. Dewiswch ‘Penodi asiant’.

  4. Rhowch god eich asiant.

  5. Dewiswch yr eiddo rydych chi eisiau i’ch asiant eu rheoli.

Gallwch benodi mwy nag un asiant i weithredu ar eich rhan. Gallwch neilltuo asiant i gael awdurdod dros nifer o eiddo yn eich cyfrif prisio ardrethi busnes. Gallwch gael nifer o asiantiaid wedi’u neilltuo i eiddo, ond ni all nifer o asiantiaid weithredu ar yr un achos herio.

Ar ôl i chi benodi asiant

Cadwch i fyny gyda’r hyn y mae eich asiant yn ei wneud. Defnyddiwch eich cyfrif prisio ardrethi busnes i weld gohebiaeth rhwng y VOA a’ch asiant.

Bydd y VOA yn anfon neges atoch pan wneir unrhyw newidiadau neu ddiweddariadau yn eich cyfrif, neu pan fydd y VOA yn gwneud penderfyniad. Bydd y negeseuon yn eich cynghori a oes angen i chi neu’ch asiant gymryd unrhyw gamau. Nid oes angen i chi ymateb i’r negeseuon.

Cadwch eich cyfrif prisio ardrethi busnes yn gyfredol

Gwiriwch eich cyfrif yn rheolaidd i wneud yn siŵr bod eich manylion yn gyfredol a bod gan eich asiantiaid yr awdurdod cywir. Dylech wneud hyn o leiaf unwaith y flwyddyn. Os yw eich asiant yn newid neu’n cael ei gwahardd, eich cyfrifoldeb chi yw diweddaru eich cyfrif.

Gallwch ddefnyddio eich cyfrif prisio ardrethi busnes i:

  • newid pa un o’ch eiddo y gall eich asiantiaid weithredu arnynt

  • dileu asiant o’ch cyfrif yn llwyr fel na allant weithredu ar eich rhan mewn unrhyw ffordd

Gwiriwch eich contract bob amser cyn dileu asiant. Efallai y bydd yn rhaid i chi barhau i dalu eu ffioedd ac am unrhyw wybodaeth y maent wedi’i darparu i’r VOA.

Rhoi gwybod am broblemau gydag asiantiaid

Os nad yw enw eich asiant yn ein gwasanaeth ni yn cyfateb i’r enw ar eich contract chi, dylech ddweud wrthym drwy gysylltu â agentstandards@voa.gov.uk. Os ydych chi’n credu bod eich asiant wedi rhoi gwybodaeth ffug neu gamarweiniol i chi, dylech roi wybod amdano i’r VOA.

Ni all y VOA eich cynghori ar broblemau sydd gennych gyda’ch contract. Cysylltwch â’r Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth i drafod materion cytundebol. Gallwch hefyd roi wybod am fusnes i Safonau Masnach drwy Gyngor ar Bopeth os ydych chi’n credu eu bod nhw wedi torri’r gyfraith neu wedi ymddwyn yn annheg.

Gallwch roi wybod i ‘Report Fraud’ os ydych chi’n credu eich bod chi wedi dioddef twyll.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 10 Mai 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 26 Ionawr 2026 show all updates
  1. Updated fraud reporting authority.

  2. The section on choosing a rating agent has been removed. This information can be found on the page 'Choosing a rating agent'. The process of what you should do if you are unable to register for a business rates valuation account has been made clearer. The instructions on how to appoint an agent have been made clearer. Sections on what to do after you appoint an agent and how to report issues with agents have been added to the page.

  3. 'Choosing a rating agent' section has been updated.

  4. A Welsh translation has been added.

  5. Guidance now includes Wales

  6. First published.

Argraffu'r dudalen hon