Dewis asiant ardrethi busnes
Cael help i ddewis asiant i reoli eich ardrethi busnes, ymchwilio i asiantiaid a deall eich contract.
Gallwch reoli eich ardrethi busnes eich hun yn eich cyfrif prisio ardrethi neu benodi asiant i’w rheoli ar eich rhan.
Mae gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) safonau ymddygiad yr ydym yn eu disgwyl gan asiantiaid. Mae’r rhan fwyaf o asiantiaid ardrethi busnes yn dilyn ein safonau ac yn darparu gwasanaeth da, ond nid yw rhai yn gwneud hynny. Cymerwch gamau i’ch amddiffyn eich hun wrth ddewis asiant.
Ymchwilio i Asiantiaid
Bydd asiantiaid sy’n aelodau o gorff proffesiynol yn ddarostyngedig i reolau a rheoliadau’r corff hwnnw. Gall asiant alw ei hun yn ‘syrfëwr’, ‘cynghorydd ardrethu’, ‘ymgynghorydd ardrethu’ neu debyg. Nid yw hyn bob amser yn golygu eu bod yn aelodau o gorff proffesiynol. Gallwch wirio rhestrau aelodaeth ar wefannau’r rhan fwyaf o gyrff proffesiynol, fel:
Mae ffyrdd eraill y gallwch ymchwilio i asiant gan gynnwys:
-
gwirio adolygiadau y mae cwsmeriaid eraill wedi’u postio ar-lein
-
siarad â busnesau lleol eraill fel eich un chi
-
gofyn i’ch rhwydwaith busnes lleol neu gorff masnach am gyngor
Gall rhai asiantiaid newid enw eu busnes yn aml neu brynu cwmnïau segur i osgoi adolygiadau a chwynion gwael. Gallwch chwilio am gwmni yng nghofrestr Tŷ’r Cwmnïau (yn agor tudalen Saesneg) i weld os:
-
mae unrhyw enwau blaenorol wedi’u rhestru yn y tab ‘Overview’
-
mae’r tab ‘Filing history’ yn dangos eu bod wedi bod yn segur yn flaenorol
Rhestr o asiantiaid wedi’u gwahardd
Mae’r VOA wedi gwahardd yr asiantiaid canlynol tra byddwn yn ymchwilio i dorri ein safonau i asiantiaid:
-
Rateable Value Experts
-
Re-Rates UK
-
Rate Masters Limited (yn masnachu fel ‘My Rates’)
Adnabod camliwio
Byddwch yn wyliadwrus o asiantiaid sy’n:
-
honni eu bod yn gweithredu fel rhan o, neu ar ran, y VOA
-
anfon e-byst ymlaen gan honni eu bod o’r VOA
-
cynnig neu awgrymu bod y VOA yn eu cefnogi
-
defnyddio logo y VOA
-
anfon gwybodaeth ffug at y VOA
Nid yw eich bil ardrethi busnes yr un faint â’ch gwerth ardrethol. Gall asiantiaid ddweud wrthych y gallant leihau eich gwerth ardrethol, ond gallai’r arian y byddwch yn ei arbed ar eich bil ardrethi busnes fod yn llai na ffi’r asiant. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall:
-
pa ryddhadau ardrethi busnes rydych chi’n gymwys i’w cael
-
faint o arian fydd yr asiant yn ei godi
-
sut fydd newidiadau i’ch gwerth ardrethol yn effeithio ar eich bil ardrethi busnes a faint o arian y byddwch yn ei arbed
Ni fydd y VOA byth yn dweud wrthych faint rydych yn ei ddyledus mewn ardrethi busnes. Cysylltwch â’ch cyngor lleol os oes gennych gwestiynau am eich bil ardrethi busnes.
Efallai y bydd rhai asiantiaid yn ceisio rhoi pwysau arnoch i’w penodi drwy greu dyddiadau cau ffug. Gallwch ddweud wrth y VOA fod manylion eich eiddo yn anghywir drwy godi achos gwirio yn eich cyfrif prisio ardrethi busnes. Mae gennych o nawr tan 31 Mawrth 2026 i godi achos gwirio ar gyfer eich gwerth ardrethol cyfredol. Mae unrhyw honiad o derfyn amser cynharach yn ffug.
Os byddwch yn adnabod camliwio posibl, dylech roi gwybod i’r VOA
Deall eich contract
Cyn llofnodi contract:
-
darllenwch yr argraff mân a thelerau’r contract yn ofalus a gwnewch yn siŵr eich bod yn deall yr holl wybodaeth
-
gwiriwch hyd y contract rydych yn ei gofrestru ar ei gyfer
-
gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod faint rydych chi’n cytuno i’w dalu i’r asiant a phryd mae’n rhaid i chi dalu
Efallai y bydd rhai asiantiaid yn rhoi pwysau arnoch i lofnodi contract. Peidiwch â llofnodi’r contract na thalu unrhyw ffioedd os oes gennych amheuon.
Penodi asiant
Cyn penodi asiant, bydd angen i chi gofrestru ar gyfer eich cyfrif prisio ardrethi busnes eich hun ac ychwanegu eich eiddo at eich cyfrif. Peidiwch â gadael i asiantiaid ddefnyddio manylion mewngofnodi eich cyfrif prisio ardrethi busnes. Rhaid iddynt gael eu cyfrif eu hunain. Darganfyddwch sut i benodi asiant.