Y VOA yn gwrthod delio â grŵp o asiantiaid ardrethi busnes
Daw’r camau yn dilyn ymchwiliadau i achosion difrifol o dorri safonau i asiantiaid.
Ni fydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn delio mwyach ag unigolyn a 5 cwmni sy’n cynnig gwasanaethau i gwsmeriaid ardrethi busnes.
Ni all Murtada Abady a’r cwmnïau sy’n gysylltiedig ag ef ddefnyddio ein gwasanaeth Gwirio a Herio mwyach i reoli ardrethi busnes ar ran cwsmeriaid.
Mae Murtada Abady hefyd yn cael ei adnabod fel Jack Abady a Rico Banks.
Y cwmnïau na fydd y VOA yn delio â nhw mwyach yw:
-
Metro World Limited (yn masnachu fel ‘Optimise Business Rates’)
-
Overratted Rates Limited (yn masnachu fel ‘Re-Rates UK’)
-
Rainbow Finance Limited (hefyd yn masnachu fel ‘Optimise Business Rates’)
-
Rateable Value Experts
-
Rate Masters Limited (yn masnachu fel ‘My Rates’).
Mae Mr Abady wedi defnyddio enwau cwmnïau newydd ac enwau ffug yn y gorffennol i guddio ei weithgareddau. Mae penderfyniad y VOA yn berthnasol i unrhyw enwau ffug neu gwmnïau mae Mr Abady yn gysylltiedig â nhw nawr neu yn y dyfodol.
Rydym wedi ysgrifennu at gwsmeriaid yr effeithir arnynt.
Dywedodd Jonathan Russell, Prif Weithredwr y VOA:
Rydym yn cymryd torri ein safonau i asiantiaid o ddifrif. Rydym yn gweithredu pan fyddwn yn cadarnhau torri safonau ac yn cyfeirio achosion at awdurdodau eraill os yw’n briodol. Ond rwy’n annog cwsmeriaid i barhau i fod yn wyliadwrus a diogelu eu hunain rhag asiantiaid anonest.
Gwnewch eich ymchwil, dilynwch ein canllawiau a chofiwch, os yw bargen yn swnio’n rhy dda i fod yn wir, mae’n debyg ei bod.
Sut i ddewis asiant ardrethi busnes
Dilynwch ein canllawiau ar ddewis asiant ardrethi busnes.
Nid oes angen asiant arnoch i reoli eich ardrethi busnes. Gallwch ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein am ddim i wirio a herio prisiad eich eiddo.
Mae gennym hefyd ganllawiau ar sut i gadw’n ddiogel rhag sgamwyr.
Ni allwn roi cyngor ar faterion cytundebol. Am gymorth, cysylltwch â llinell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133, neu ffoniwch 0808 223 1144 os hoffech siarad gyda chynghorydd yn y Gymraeg (Dydd Llun i Dydd Gwener, 9am i 5pm).
Rhoi gwybod am bryderon
Os ydych yn pryderu am ymddygiad gwael gan asiantiaid, anfonwch unrhyw dystiolaeth i agentstandards@voa.gov.uk.
Mae safonau i asiantiaid y VOA yn nodi disgwyliadau clir ar gyfer asiantiaid ardrethi busnes.
Rydym yn ymwybodol o fusnes arall o’r enw ‘Rerate by Form’, sydd wedi’i leoli yn Suite 1, Bonded Warehouse, 18 Lower Byrom Street, Manchester, M3 4AP. Nid oes unrhyw gysylltiad rhwng y busnes hwn a’r unigolyn a’r cwmnïau sy’n cael eu rhestru uchod. Nid yw ‘Rerate by Form’ yn cael ei effeithio gan y camau hyn.