Canllawiau

Ychwanegu eich eiddo at eich cyfrif

Ar ôl i chi gofrestru ar gyfer Asiantaeth y Swyddfa Brisio, bydd angen i chi hawlio eiddo cyn i chi allu cyflwyno gwiriad neu her.

Applies to England and Wales

Mae angen i chi ddarparu tystiolaeth o’ch perthynas â’r eiddo (fel copi o’r bil ardrethi busnes neu gyfleustodau) gan fod rhywfaint o’r wybodaeth brisio yn gyfrinachol ac mae’n rhaid iddi fod dim ond ar gael i’r rhai sydd â’r hawl i’w gweld.

Biliau ardrethi busnes

Mae’ch awdurdod lleol yn anfon biliau ardrethi busnes unwaith y flwyddyn fel arfer, ond efallai y bydd yn anfon biliau wedi’u diweddaru os bydd angen ailgyfrifo’ch ardrethi busnes (er enghraifft, os bydd eich gwerth ardrethol yn newid). Yn ogystal â phrofi eich cysylltiad â’ch eiddo, mae biliau ardrethi yn cynnwys gwybodaeth bwysig megis cyfeiriad eich eiddo a chyfeirnod yr awdurdod bilio.

Os nad oes gennych fil ardrethi busnes

Os nad ydych yn talu ardrethi busnes am eiddo (er enghraifft, os ydych yn berchen ar yr eiddo ond bod tenant yn talu’r biliau) gallwch ddefnyddio tystiolaeth arall i ddangos eich cysylltiad â’r eiddo. Mae tystiolaeth arall yn cynnwys cytundebau prydles a biliau cyfleustodau.

Ar ôl i chi hawlio’ch eiddo

Gall gymryd hyd at 15 diwrnod gwaith i’ch hawliad eiddo gael ei gymeradwyo. Wedyn, bydd eich eiddo yn cael ei ychwanegu at eich cyfrif a byddwch yn gallu gwirio’r manylion.

Os nad yw’ch prisiad ar gael ar-lein

Nid yw manylion ar gyfer pob eiddo ar gael ar-lein ar hyn o bryd. Gallwch ofyn am i fanylion prisio ar gyfer yr eiddo hyn gael eu hanfon atoch. Dylech gael y prisiad o fewn 20 diwrnod gwaith.

Cyhoeddwyd ar 30 November 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 30 October 2023 + show all updates
  1. A Welsh translation has been added.

  2. Updated information for Wales

  3. Updated for the 2023 rating list

  4. First published.