Canllawiau

Herio’r prisiad

Unwaith y byddwch wedi cytuno ar ffeithiau’r eiddo gydag Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA), gallwch herio’r prisiad os credwch ei fod yn anghywir.

Applies to England and Wales

Pryd y gallwch gyflwyno her

Unwaith y byddwch wedi cwblhau gwiriad, gallwch herio unrhyw brisiad sy’n gysylltiedig â’r un eiddo:

  • cyn pen 4 mis i’r penderfyniad am y gwiriad
  • cyn pen 16 mis ar ôl cyflwyno’ch achos gwirio os yw’r her yn ymwneud â newid yn yr ardal gyfagos (fel gwaith ffordd)
  • os nad yw’r VOA wedi gwneud penderfyniad ar eich achos gwirio ar ôl 12 mis

Mae’n bosibl bod gan eiddo lawer o brisiadau o ddyddiadau gwahanol oherwydd newidiadau i’r ffeithiau ffisegol yn ystod cyfnod y rhestr ardrethi busnes.

Dim ond os ydych wedi cwblhau gwiriad yn gyntaf y gallwch ddechrau her.

Pryd na allwch herio

Ni allwch gyflwyno her yn erbyn yr un prisiad, am yr un rheswm, fwy nag unwaith. Er enghraifft, os gwnaethoch geisio cyflwyno her ddwywaith oherwydd yr un mater o waith ffordd, ni fyddai eich ail her yn ddilys.

Hefyd, ni allwch gyflwyno her bellach yn erbyn canlyniad her flaenorol rydych wedi’i gwneud.

Cyn i chi gyflwyno her

Mae her yn broses gyfreithiol gyda rheolau llym felly bydd angen i chi fod yn gwbl barod. Cyn cyflwyno her, bydd angen ychydig o bethau arnoch:

  • y rheswm dros herio (a elwir hefyd yn ‘sail’)
  • y dystiolaeth sydd gennych fod y prisiad yn anghywir
  • datganiad sy’n cefnogi’ch her
  • gwerth ardrethol newydd arfaethedig, a’r dyddiad pan ddylai hwn ddechrau
  • manylion rhentu’r eiddo, os yw wedi’i rentu (hyd yn oed os mai chi yw’r landlord)

Mae’r VOA yn argymell eich bod yn adolygu’ch prisiad a’i gymharu ag eiddo yn eich ardal sydd tua’r un oedran, maint a chymeriad. Bydd hyn yn eich helpu i benderfynu a yw’ch eiddo wedi cael ei brisio’n deg. Dylech ystyried y tebygrwydd a’r gwahaniaethau rhwng eich eiddo chi a’r eiddo sy’n rhan o’ch cymhariaeth.

Gallwch ddefnyddio gwasanaeth ar-lein y VOA i gymharu’ch eiddo ag eiddo eraill yn yr un ‘cynllun prisio’. Gallwch ddysgu rhagor am gynlluniau prisio a sut mae’r VOA yn prisio eiddo annomestig.

Rhesymau dros herio (seiliau)

Mae’r seiliau dros wneud her yn cynnwys:

  • roedd y prisiad yn anghywir pan gafodd y rhestr ardrethu ei chreu
  • mae newid wedi bod i’r eiddo neu’r ardal gyfagos y dylid ei gydnabod yn y gwerth ardrethol (er enghraifft, gwaith hirdymor ar y ffyrdd)
  • mae newid a wnaed i’r prisiad gan y VOA yn anghywir, neu nid yw’r newid wedi’i wneud
  • mae’r dyddiad ar gyfer newid a wnaed gan y VOA yn anghywir
  • dylid rhannu’r eiddo yn fwy nag un eiddo, neu dylid ei gyfuno ag eiddo arall i ffurfio un eiddo
  • dylid tynnu eiddo oddi ar y rhestr ardrethu, neu dylid ychwanegu eiddo ati
  • mae’r prisiad yn anghywir oherwydd penderfyniad cyfreithiol ar eiddo arall
  • mae manylion yr eiddo yn anghywir neu’n anghyflawn

Fel arfer, nid oes modd herio ar yr un sail fwy nag unwaith. Os ydych am wneud her yn y dyfodol ar sail rhesymau rydych wedi’u defnyddio o’r blaen, gallwch ond gwneud hyn os yw’r dyddiad dod i rym yn wahanol. Er enghraifft, gallwch ond cyflwyno un her oherwydd gwaith ar y ffyrdd a ddechreuodd ar 1 Ionawr 2018, ond gallwch gyflwyno her newydd ar gyfer gwaith ar y ffyrdd a ddechreuodd ar ddyddiad gwahanol.

Tystiolaeth ategol

Yn wahanol i wiriad, sy’n ymwneud â’r manylion ffeithiol, mae her yn erbyn prisiad eiddo. Mae’n rhaid i’ch tystiolaeth esbonio pam yr ydych yn credu bod y prisiad presennol yn anghywir, ac mae’n rhaid iddi ategu’n llawn y newidiadau rydych wedi gofyn amdanynt.

Gallai tystiolaeth yr hoffech ei chyflwyno gynnwys:

  • prisiadau o eiddo lleol tebyg
  • penderfyniadau cyfreithiol
  • unrhyw ddogfennau eraill sy’n ategu’ch her, megis ffotograffau o’r tir neu’r eiddo a’r amgylchedd lleol

Os na fyddwch yn anfon tystiolaeth o’r newidiadau rydych yn gofyn i’r VOA eu gwneud, bydd yn rhoi gwybod i chi fod eich her yn anghyflawn. Os nad yw’n cael ei chywiro o fewn y terfyn amser a roddir, caiff yr her ei hystyried yn annilys ac ni fydd yn arwain at benderfyniad. Os bydd hyn yn digwydd, bydd angen i chi gyflwyno her arall i’r un prisiad, ac efallai y bydd angen i chi wneud gwiriad arall hefyd.

Mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod yn cyflwyno’ch holl dystiolaeth gyda’i gilydd, gan y byddwch ond yn gallu cyflwyno tystiolaeth ychwanegol yn nes ymlaen o dan amgylchiadau eithriadol (er enghraifft, os nad oedd y dystiolaeth yn bodoli tan i chi gyrraedd hanner ffordd drwy her).

Datganiad ategol

Bydd angen i chi sicrhau bod eich datganiad ategol yn dangos yn glir pam eich bod yn gwneud her. Bydd yn rhaid i chi esbonio sut mae’ch tystiolaeth yn ategu’ch her, a pham mae’ch gwerth ardrethol arfaethedig yn gywir.

Mae’n syniad da defnyddio’ch datganiad ategol i sicrhau eich bod wedi cynnwys popeth yn eich her sydd ei angen er mwyn ei gwneud yn ddilys.

Ar ôl i chi gyflwyno her

Bydd y VOA yn adolygu’ch tystiolaeth ac efallai y bydd yn cysylltu â chi i drafod eich her. Os bydd yn cytuno â’ch achos, bydd yn diwygio’r prisiad ac yn anfon cadarnhad ysgrifenedig atoch. Os bydd yn cytuno’n rhannol â’ch achos, bydd yn anfon ffurflen gytundeb atoch i chi ei llenwi, ac yna’n diwygio’r prisiad ar ôl i chi ddychwelyd y ffurflen.

Os nad oes modd i’r VOA a chithau gytuno ar ganlyniad, bydd yn cyhoeddi ei phenderfyniad gan esbonio’i barn ac unrhyw ddiwygiadau i’r prisiad y mae’n bwriadu eu gwneud. Caiff hwn ei anfon at y person a gyflwynodd yr her (ynghyd â’r talwr ardrethi os nad yr un person yw hwn).

Os bydd angen rhagor o wybodaeth ar y VOA, bydd yn cysylltu â chi. Dylech ymateb i hyn o fewn y terfyn amser mae’n ei roi, neu fel arall efallai y bydd y VOA yn gwneud penderfyniad heb yr wybodaeth ychwanegol.

Efallai y bydd gwerthoedd ardrethol ac ardrethi busnes yn mynd i fyny neu i lawr ar ôl her, neu efallai y byddant yn aros yr un peth. Mae hyn oherwydd efallai y bydd y VOA yn adolygu’r prisiad er mwyn cymryd unrhyw wybodaeth newydd i ystyriaeth, megis gwybodaeth fasnachu newydd.

Rhannu gwybodaeth am eich her gyda phobl eraill

Bydd y VOA yn anfon gwybodaeth am eich her i’r awdurdod bilio, gan gynnwys:

  • manylion adnabod eich eiddo
  • y dyddiad y cyflwynwyd yr her
  • gwerth ardrethol presennol
  • gwerth ardrethol arfaethedig, a’r dyddiad pan ddylai hwn ddod i rym
  • canlyniad yr her, a’ch tystiolaeth ategol os yw’n rhesymol ei hanfon

Bydd y VOA hefyd yn anfon canlyniad eich her a thystiolaeth ategol at y rhai sydd â hawl i’w gweld, gan gynnwys y deiliad.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am wybodaeth sy’n cael ei rhannu dylech gysylltu â’r VOA drwy e-bostio ccaservice@voa.gov.uk.

Pan fydd rhywun arall yn cyflwyno her ar gyfer eich eiddo

Os nad ydych yn talu’r ardrethi busnes ond chi yw’r perchennog neu’r meddiannydd, gallwch ofyn i gael eich diweddaru ynghylch hynt yr her. I wneud hyn, cofrestrwch am y gwasanaeth ar-lein a hawliwch yr eiddo, ac yna anfonwch e-bost at ccaservice@voa.gov.uk. Bydd y VOA yn rhoi gwybod i chi beth yw canlyniad yr her a beth y mae hynny’n ei olygu ar gyfer eich eiddo. Bydd modd i chi roi gwybodaeth sy’n ymwneud â’r her, os ydych am wneud hynny.

Cyhoeddwyd ar 30 November 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 30 October 2023 + show all updates
  1. A Welsh translation has been added.

  2. Updated information for Wales

  3. Updated for the 2023 rating list

  4. First published.