Anfonwch eich manylion rhent, prydles neu berchenogaeth at Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Mae’n rhaid i chi anfon gwybodaeth am eich eiddo busnes at Asiantaeth y Swyddfa Brisio os ydynt wedi gofyn i chi wneud hynny. Mae angen i chi wneud hyn hyd yn oed os nad ydych bellach yn berchen ar yr eiddo nac yn ei rentu.
Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael Saesneg (English).
Os na fyddwch yn anfon yr wybodaeth o fewn 56 diwrnod o gael y llythyr a anfonwyd gan y VOA atoch, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosb.
Bydd yr wybodaeth a roddwch yn cael ei defnyddio gan yr awdurdod lleol i helpu i gyfrifo ardrethi busnes yn eich ardal.
Gellid mynd â chi i’r llys os byddwch yn cyflwyno gwybodaeth ffug.
Cyn i chi ddechrau
Bydd angen:
- y cyfeirnod o’r llythyr a anfonodd y VOA atoch
- eich prydles neu gytundeb, gan gynnwys y rhent cyfredol rydych yn ei dalu neu fanylion unrhyw denantiaid os mai chi yw’r perchennog
- gwybodaeth am unrhyw newidiadau diweddar i’ch rhent neu unrhyw gyfnodau di-rent
- manylion unrhyw is-osodiadau
- gwybodaeth am unrhyw newidiadau rydych wedi’u gwneud i’r eiddo, gan gynnwys costau
Anfonwch eich manylion ar-lein
Nid oes rhaid i chi lenwi’r ffurflen mewn un cam. Gallwch arbed yr hyn rydych wedi’i wneud a dychwelyd i’w orffen yn nes ymlaen.
Cysylltwch â thîm y VOA am help i ddefnyddio’r gwasanaeth. Gallwch ddod o hyd i’w manylion cyswllt ar y llythyr a anfonwyd atoch.
Ffyrdd eraill o wneud cais
Os ydych yn berchen neu’n meddiannu mwy nag 20 eiddo
Efallai y byddwch yn gallu anfon eich manylion prydles neu berchnogaeth mewn swmp, yn hytrach na llenwi ffurflenni ar-lein ar wahân.
Cysylltwch â chynllun cyswllt ardrethu’r Swyddfa Brisio i weld a yw’n addas i chi.
Cynllun cyswllt ardrethu’r Swyddfa Brisio
vorc@voa.gov.uk
Os gofynnwyd i chi ddarparu manylion drwy e-bost neu drwy’r post
Mae’n bosibl y gofynnwyd i chi ddarparu gwybodaeth drwy lenwi ffurflen a’i dychwelyd drwy e-bost neu drwy’r post.
Bydd y VOA yn cynnwys y ffurflen gyda’u llythyr. Os byddwch yn colli’r ffurflen, gallwch lawrlwytho’r ffurflen gywir ar gyfer y math o fusnes sydd gennych.
Llenwch y ffurflen a’i hanfon ar e-bost at y tîm Ardrethu Arbenigol.
Ardrethu Arbenigol
specialist.rating@voa.gov.uk
Fel arall, gallwch gysylltu â’r VOA i ofyn am ffurflen newydd.