Skip to main content

Tafarndai a masnach drwyddedig

Os ydych yng Nghymru a Lloegr, bydd y Swyddfa Brisio (VO) yn cyfrifo’ch gwerth ardrethol gan ddefnyddio ‘trosiant cynaliadwy teg’ (‘fair maintainable turnover’). Dyma’r lefel flynyddol o fasnach (heb gynnwys TAW) y mae disgwyl i’ch tafarn ei chyflawni os yw’n cael ei rhedeg mewn ffordd resymol o effeithlon. Mae’n seiliedig ar y canlynol:

  • y math o dafarn neu safle trwyddedig
  • yr ardal y mae ynddi
  • gwybodaeth a phatrymau mewn perthynas â’ch masnach
  • y gwasanaethau y mae’n eu cynnig, er enghraifft bwyd, gemau neu ddangos chwaraeon ar sgrîn
  • faint o rent rydych yn ei dalu
  • unrhyw incwm a wnewch o letya
  • rhenti a throsiant tafarndai eraill

Yna, mae’r VO yn defnyddio canran i gyfrifo’r gwerth ardrethol. Cytunir ar y canrannau â grwpiau’r diwydiant, gan gynnwys Cymdeithas Gwrw a Thafarndai Prydain. Gallwch ddod o hyd i’r canrannau yng nghanllaw cymeradwy prisio tafarndai (yn agor tudalen Saesneg) y VO.

Gallwch ddod o hyd i’ch prisiad ardrethi busnes ar-lein. Os ydych am wirio’r ffigurau y mae’r VO yn eu defnyddio, neu os nad ydych yn cytuno â’r prisiad, gallwch gofrestru neu sefydlu cyfrif prisio ardrethi busnes neu gysylltu â’r VO.

Rhyddhad ardrethi busnes i dafarndai a masnach drwyddedig

Mae’n bosibl eich bod yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi busnes os yw’r canlynol yn wir am eich busnes:

Mae’r rhyddhad manwerthu, lletygarwch a hamdden wedi’i ddisodli gan ddau luosydd ardrethi newydd. Dysgwch ragor am y newidiadau i’r rhyddhad manwerthu, lletygarwch a hamdden.

Os yw’ch safle trwyddedig yn yr Alban

Yn yr Alban, eich asesydd lleol sy’n cyfrifo’ch gwerth ardrethol. Cysylltwch â’ch asesydd lleol os ydych am wirio’r ffigurau mae’n eu defnyddio, neu os nad ydych yn cytuno â’r ffigurau sy’n cael eu defnyddio.

Os yw’ch eiddo trwyddedig yng Ngogledd Iwerddon

Yng Ngogledd Iwerddon, mae’r Gwasanaethau Tir ac Eiddo (LPS) yn cyfrifo’ch ardrethi busnes. Darllenwch ragor am y ffordd y mae LPS yn prisio tafarndai a safleoedd trwyddedig eraill yng Ngogledd Iwerddon.