Ardrethi busnes
Help gydag ardrethi busnes
Mae’n bosibl y gallwch gael disgownt gan eich cyngor lleol ar eich ardrethi busnes os ydych yn gymwys i gael o leiaf un cynllun rhyddhad ardrethi busnes.
I gael help gyda gwerth ardrethol eich eiddo, cysylltwch â’r Swyddfa Brisio (VO).
I gael help gyda’ch bil ardrethi busnes (er enghraifft, i dalu fesul rhandaliad) neu ryddhad ardrethi, cysylltwch â’ch cyngor (yn agor tudalen Saesneg).
Cael cyngor proffesiynol
Gallwch reoli’ch ardrethi busnes eich hun. Ond os bydd angen help arnoch, gallwch ddefnyddio asiant neu syrfëwr ardrethu. Dysgwch sut i benodi asiant.
Mae’n rhaid i bob asiant ddilyn safonau i asiantiaid y VO. Mae’r safonau yn nodi’r hyn y dylech ei ddisgwyl gan eich asiant.
Bydd asiant sy’n aelod o sefydliad proffesiynol hefyd wedi’i rwymo i reolau a rheoliadau’r sefydliad hwnnw. Gallwch ddod o hyd i asiant drwy ddefnyddio’r sefydliadau proffesiynol canlynol:
- Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS)
- Y Sefydliad Ardrethu a Phrisio Refeniw (IRRV)
- Cymdeithas y Syrfewyr Ardrethu
Mae’n bosibl y codir tâl arnoch am unrhyw gyngor a gewch gan syrfëwr ardrethu o’r cychwyn cyntaf.
Gallwch gael cyngor gan sefydliad sy’n rhan o gynllun llinell gymorth RICS. Mae 30 munud cyntaf yr alwad ymgynghorol yn rhad ac am ddim.