Rhyddhad ardrethi busnes
Rhyddhad ardrethi gwledig
Gallech gael rhyddhad ardrethi gwledig os yw’ch busnes mewn ardal wledig gymwys sydd â phoblogaeth o dan 3,000. Mae’n rhaid bod y canlynol hefyd yn wir am eich busnes:
-
dyma’r unig siop gyffredinol, siop fwyd neu swyddfa bost yn y pentref, gyda gwerth ardrethol o hyd at £8,500
-
dyma’r unig dafarndy neu orsaf betrol yn y pentref, gyda gwerth ardrethol o hyd at £12,500
Os oes mwy nag un busnes yn yr ardal, gall y ddau ohonynt wneud cais ar yr amod eu bod yn wahanol fathau o fusnes – er enghraifft, tafarndy a siop fwyd.
Mae’n rhaid bod yr eiddo wedi’i feddiannu.
Yr hyn y byddwch yn ei gael
Ni fyddwch yn talu ardrethi busnes os yw’ch busnes yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi gwledig.
Sut i gael rhyddhad ardrethi gwledig
Cynghorau lleol sy’n rheoli’r rhyddhad ardrethi busnes yn eu hardal.
Cysylltwch â’ch cyngor lleol (yn agor tudalen Saesneg) i wneud y canlynol:
-
gwirio a ydych mewn ardal wledig gymwys – bydd gan y cyngor restr o ardaloedd cymwys a mapiau o’r ardaloedd hynny
-
gwirio a yw’ch math o fusnes yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi gwledig
-
cael gwybod sut i gael rhyddhad ardrethi gwledig
Os bydd newid yn eich amgylchiadau
Rhowch wybod am newidiadau er mwyn sicrhau eich bod yn talu’r swm cywir. Bydd rhoi gwybod am newidiadau hefyd yn sicrhau nad ydych yn talu gormod nac yn cael cynnydd wedi’i ôl-ddyddio yn eich bil.
Cysylltwch â’ch cyngor lleol (yn agor tudalen Saesneg) os:
-
yw’ch eiddo yn dod yn wag
-
ydych yn cael eiddo arall
-
ydych yn gwneud unrhyw newidiadau i’ch eiddo a fyddai’n cynyddu ei werth – er enghraifft, adeiladu estyniad neu gynnal gwaith adnewyddu
-
yw natur eich busnes yn newid, neu os yw’n symud i safle gwahanol
Os nad ydych bellach yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi gwledig, fel arfer bydd angen i chi dalu’ch cyfradd newydd ar gyfer ardrethi o’r diwrnod y gwnaeth eich amgylchiadau newid ymlaen.
Os nad ydych yn cael rhyddhad ardrethi gwledig, a’ch bod o’r farn eich bod yn gymwys i’w gael
Cysylltwch â’ch cyngor lleol (yn agor tudalen Saesneg) os nad ydych yn cael rhyddhad ardrethi gwledig, a’ch bod o’r farn eich bod yn gymwys i’w gael.
Os ydych o’r farn bod eich gwerth ardrethol yn anghywir
Gallwch herio gwerth ardrethol eich eiddo gyda’r VO. Defnyddiwch eich cyfrif prisio ardrethi busnes i wneud hyn.
If you get less rural rate relief since 1 April 2026
Mae’n bosibl y byddwch yn gymwys ar gyfer rhyddhad cefnogi busnesau bach os byddwch yn colli eich rhyddhad ardrethi gwledig, naill ai’n rhannol neu’n gyfan gwbl, oherwydd yr ailbrisiad ar 1 Ebrill 2026.
Dysgwch ragor am y cynllun rhyddhad cefnogi busnesau bach.
Os nad ydych yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi gwledig
Mae’n bosibl eich bod yn gymwys i gael math arall o ryddhad ardrethi busnes. Er enghraifft, os yw’r canlynol yn wir:
-
mae gennych fusnes bach
-
rydych yn wynebu trafferthion ariannol
Efallai y byddwch hefyd yn eithriedig rhag talu ardrethi busnes ar dir ac adeiladau amaethyddol.
Gwiriwch pa ryddhadau eraill y gallech fod yn gymwys i’w cael.