Skip to main content

Rhyddhad gwelliannau

Efallai y byddwch yn cael rhyddhad gwelliannau os byddwch yn gwneud rhai gwelliannau i’ch eiddo. Os ydych yn gymwys, byddwch yn cael y rhyddhad am flwyddyn. Mae’n dechrau pan fyddwch wedi cwblhau eich gwelliannau.

Cymhwysedd

Dylai unrhyw welliannau rydych yn eu gwneud:

Hefyd, mae’n rhaid iddyn nhw naill ai:

  • gynyddu maint eich eiddo

  • ychwanegu nodweddion neu offer newydd i’ch eiddo, fel gwresogi, aerdymheru neu TCC

Nid yw unrhyw welliannau i nodweddion neu offer presennol yn gymwys.

Mae’n rhaid eich bod wedi meddiannu’r eiddo yn ystod ac ar ôl y gwaith gwella i gael rhyddhad gwelliannau. Ni allwch drosglwyddo’ch rhyddhad gwelliannau i unrhyw un arall.

Yr hyn y byddwch yn ei gael

Bydd eich cyngor lleol yn penderfynu faint o ryddhad a gewch ar sail ‘gwerth ardrethol’ eich eiddo a’r math o welliannau rydych wedi’u gwneud.

Sut i gael rhyddhad gwelliannau

Gallwch roi gwybod am newidiadau i’ch eiddo gan ddefnyddio eich cyfrif prisio ardrethi busnes.

Bydd y VO yn penderfynu a ellid ystyried y newidiadau ar gyfer rhyddhad gwelliannau. Byddant yn anfon tystysgrif atoch chi a’ch cyngor yn dangos:

  • sut mae’r gwelliant yn effeithio ar werth ardrethol yr eiddo

  • pryd y daw’r rhyddhad i ben

Unwaith y bydd eich cyngor lleol wedi cadarnhau eich bod wedi meddiannu’r eiddo drwy gydol y gwelliannau, byddant yn:

  • penderfynu faint o ryddhad gwelliannau y mae gennych hawl iddo

  • anfon bil ardrethi is atoch

Os nad ydych yn cael rhyddhad gwelliannau, a’ch bod o’r farn eich bod yn gymwys i’w gael

Cysylltwch â’ch cyngor lleol (yn Saesneg) os nad ydych yn cael rhyddhad gwelliannau a’ch bod o’r farn eich bod yn gymwys i’w gael.