Rhyddhad trosiannol

Mae rhyddhad trosiannol yn cyfyngu ar faint y gall eich bil newid bob blwyddyn o ganlyniad i ailbrisiad ardrethi busnes.

Byddwch yn cael rhyddhad trosiannol os bydd eich ardrethi’n codi neu’n gostwng gan fwy na swm penodol. Mae hyn yn golygu y bydd newidiadau i’ch bil yn cael eu cyflwyno’n raddol.

Bydd eich cyngor yn addasu’ch bil yn awtomatig os ydych yn gymwys.

Faint y gall eich bil newid

Mae faint y gall eich bil newid o un flwyddyn i’r llall yn dibynnu ar ddau beth, sef:

  • gwerth ardrethol eich eiddo

  • p’un a yw’ch bil yn cynyddu neu’n gostwng o ganlyniad i ailbrisiad

Bydd eich rhyddhad trosiannol yn dod i ben pan fydd eich bil yn cyrraedd y swm llawn a bennir gan ailbrisiad.

Mae’r flwyddyn ardrethi busnes rhwng 1 Ebrill a 31 Mawrth y flwyddyn ganlynol.

Ni fydd eich ardrethi busnes yn newid o fwy na’r capiau canrannol sydd wedi’u rhestru yn y tabl o un flwyddyn i’r nesaf.

Os yw’ch bil yn cynyddu o 1 Ebrill 2026 i 31 Mawrth 2029

Gwerth ardrethol 2026 i 2027 2027 i 2028 2028 i 2029
Hyd at £20,000 (£28,000 yn Llundain) 5% 10% yn ogystal â chwyddiant 25% yn ogystal â chwyddiant
£20,001 (£28,001 yn Llundain) i £100,000 15% 25% yn ogystal â chwyddiant 40% yn ogystal â chwyddiant
Dros £100,000 30% 25% yn ogystal â chwyddiant 25% yn ogystal â chwyddiant

Os gwnaeth eich bil gynyddu o 1 Ebrill 2023 i 31 Mawrth 2026

Gwerth ardrethol 2023 i 2024 2024 i 2025 2025 i 2026
Hyd at £20,000 (£28,000 yn Llundain) 5% 10% yn ogystal â chwyddiant 25% yn ogystal â chwyddiant
£20,001 (£28,001 yn Llundain) i £100,000 15% 25% yn ogystal â chwyddiant 40% yn ogystal â chwyddiant
Dros £100,000 30% 40% yn ogystal â chwyddiant 55% yn ogystal â chwyddiant

Os cawsoch dystysgrif drosiannol

Bydd gwerth y dystysgrif drosiannol yn cael ei ddefnyddio wrth gyfrifo ardrethi busnes ar gyfer eich eiddo, yn hytrach na’r gwerth ardrethol arferol.

Os ydych yn anghytuno â gwerth y dystysgrif, cysylltwch ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA).

Os oes angen help arnoch

Cysylltwch â’ch cyngor lleol (yn Saesneg) os oes gennych gwestiynau am ryddhad trosiannol.