Canllawiau

Credyd Cynhwysol os ydych yn derbyn llythyr Hysbysiad Trosglwyddo

Mae angen i chi symud i Gredyd Cynhwysol os ydych wedi derbyn Hysbysiad Trosglwyddo, gan y bydd un neu fwy o'ch budd-daliadau yn dod i ben yn fuan.

Applies to England, Scotland and Wales

Dylech ond darllen y canllaw hwn os ydych yn derbyn llythyr Hysbysiad Trosglwyddo

Os nad ydych yn derbyn llythyr Hysbysiad Trosglwyddo, ewch i’r canllaw Credyd Cynhwysol.

I barhau i gael cymorth ariannol, mae’n rhaid i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol erbyn y terfyn amser ar eich llythyr.

Budd-daliadau sy’n dod i ben

Mae’r budd-daliadau canlynol yn dod i ben ac yn cael eu disodli gan Gredyd Cynhwysol:

  • Credydau treth: Credyd Treth Gwaith a Chredyd Treth Plant
  • Budd-dal Tai
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (JSA)
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA)

Bydd budd-daliadau eraill, fel Taliad Annibyniaeth Personol (PIP), yn aros yr un fath.

Pryd fydd angen i chi wneud cais

Er mwyn parhau i gael cymorth ariannol, mae’n rhaid i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol erbyn y terfyn amser a roddir yn eich llythyr. Mae hyn yn 3 mis o’r dyddiad y cafodd y llythyr ei anfon allan.

Os nad ydych yn  gallu gwneud cais am Gredyd Cynhwysol erbyn y terfyn amser, dylech gysylltu â’r llinell gymorth Hysbysiad Trosglwyddo i Gredyd Cynhwysol cyn gynted â phosibl.

Efallai y gallwn roi mwy o amser i chi wneud cais os oes gennych reswm da. Mae’n rhaid i chi ofyn am hyn cyn y terfyn amser ar eich llythyr.

Ar gyfer pwy mae Credyd Cynhwysol

Mae Credyd Cynhwysol ar gyfer pobl sydd:

  • ar incwm isel
  • angen help gyda chostau byw
  • yn gweithio (gan gynnwys yr hunangyflogedig neu ran amser)
  • yn ddi-waith   
  • gyda chyflwr iechyd sy’n effeithio ar eu gallu i weithio

Rheolau cymhwysedd ar gyfer gwneud cais

Gan fod eich budd-daliadau yn dod i ben a bod angen i chi symud i Gredyd Cynhwysol mae rhai o’r rheolau cymhwysedd arferol ar gyfer gwneud cais yn wahanol. Gelwir hyn yn ‘diogelwch trosiannol’. I gael diogelwch trosiannol rhaid i chi wneud cais erbyn y terfyn amser ar eich llythyr.

Os ydych yn cael credydau treth

Os ydych yn cael credydau treth, gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol hyd yn oed os oes gennych arian, cynilion a buddsoddiadau o fwy na £16,000.

Ar ôl 12 mis, bydd y rheolau cymhwysedd arferol yn berthnasol. Ni fyddwch yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol os oes gennych fwy na £16,000 o hyd mewn arian, cynilion a buddsoddiadau.

Os ydych yn gwneud cais ar ôl y dyddiad cau a bod gennych arian, cynilion a buddsoddiadau o fwy na £16,000, ni fyddwch yn gallu gwneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Os ydych yn fyfyriwr

Gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol os ydych chi neu’ch partner mewn addysg uwch llawn amser (fel prifysgol) am gyfnod eich cwrs. Darganfyddwch fwy am Gredyd Cynhwysol a myfyrwyr

Asesiadau Gallu i Weithio

Os oes gennych gyflwr iechyd neu anabledd, ni fyddwch angen Asesiad Gallu i Weithio (WCA) arall pan fyddwch yn symud i Gredyd Cynhwysol os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol:

  •  roeddech yn hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) y diwrnod cyn i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol
  • rydych eisoes wedi cwblhau WCA
  • rydych wedi cael eich asesu bod gennych ‘allu cyfyngedig i weithio’ (LCW) neu ‘allu cyfyngedig i weithio a gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith’ (LCWRA)

Efallai y bydd angen i chi gael asesiad arall yn y dyfodol fel rhan o’ch cais am Gredyd Cynhwysol.

Darganfyddwch fwy am cyflyrau iechyd, anabledd a Chredyd Cynhwysol.

Beth fyddwch chi’n ei gael

Ar Gredyd Cynhwysol, bydd gan y rhan fwyaf o bobl hawl i’r un swm a gawsant o’u budd-daliadau blaenorol, neu fwy.

Os bydd eich amgylchiadau’n newid cyn i chi wneud eich cais, gallai hyn effeithio ar y swm a gewch.

Mae eich taliad Credyd Cynhwysol yn cynnwys lwfans safonol ac unrhyw symiau ychwanegol sy’n berthnasol i chi, er enghraifft os:

  • mae gennych blant
  • mae gennych anabledd neu gyflwr iechyd sy’n eich atal rhag gweithio
  • rydych angen help i dalu eich rhent

Darganfyddwch fwy am beth fyddwch chi’n ei gael.

Taliadau ychwanegol ‘Diogelwch trosiannol’

Os yw’r swm y mae gennych hawl iddo ar eich budd-daliadau presennol yn fwy nag y byddwch yn ei gael ar Gredyd Cynhwysol, mae ychwanegiad ar gael. Gelwir hyn yn daliad ‘diogelwch trosiannol’

Dim ond os ydych wedi derbyn Hysbysiad Trosglwyddo ac yn gwneud cais erbyn y terfyn amser ar eich llythyr y gallwch gael y swm ychwanegol hwn.

Os bydd eich amgylchiadau’n newid ar ôl i chi wneud eich cais, gall unrhyw amddiffyniad trosiannol a gewch ddod i ben.

Cyfrifianellau budd-daliadau

Defnyddiwch gyfrifiannell budd-daliadau i weld amcangyfrif o faint y gallech ei gael ar Gredyd Cynhwysol.

Mae’r rhain yn rhad ac am ddim i’w defnyddio ac yn ddienw.

Nid yw cyfrifianellau budd-daliadau yn dangos diogelwch trosiannol (taliadau ychwanegol) nac unrhyw ddidyniadau am ddyled, felly efallai na fyddant yn gywir.

Os ydych yn cael credydau treth a bod gennych arian, cynilion a buddsoddiadau dros £16,000, defnyddiwch gyfrifianell entitledto neu  Better Off.

Gweld faint allech chi ei gael drwy ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau.

Cymorth a chefnogaeth ariannol arall 

Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol, gallech fod yn gymwys i gael budd-daliadau neu gymorth ariannol eraill. Dylech wirio beth y gallwch ei gael

Efallai y byddwch yn gallu cael cefnogaeth wahanol yn yr Alban.

Cyfnodau asesu misol

Cyfrifir Credyd Cynhwysol yn seiliedig ar eich amgylchiadau bob mis. Gelwir y rhain yn ‘gyfnodau asesu’.

Didyniadau

Gellir cymryd arian o’ch taliadau Credyd Cynhwysol i dalu am bethau fel:

  • dirwyon llys
  • ôl-ddyledion rhent
  • gordaliadau neu ôl-ddyledion o gredydau treth, Treth Cyngor, Budd-dal Tai, ESA a JSA
  • dyledion cyfleustodau, fel trydan, nwy, dŵr

Ni ellir didynnu arian o bethau fel eich lwfans plant, gofal plant a chostau tai.

Darganfyddwch fwy am arian sy’n cael ei dynnu o’ch taliad Credyd Cynhwysol.

Enillion

Os ydych yn gweithio, bydd faint o Gredyd Cynhwysol a gewch yn dibynnu ar eich enillion. Mae hyn yn cynnwys incwm o weithio’n llawn amser, rhan amser, yn gyflogedig neu hunangyflogedig.

Mae eich amgylchiadau’n cael eu hasesu bob mis. Gall newidiadau yn eich amgylchiadau effeithio ar faint rydych yn cael eich talu am y cyfnod asesu cyfan - nid o’r dyddiad y byddwch yn rhoi gwybod amdanynt.

Darganfyddwch sut mae enillion yn effeithio eich taliadau .

Beth fyddwch yn ei gael os ydych yn byw gyda’ch partner

Bydd faint y gallwch ei gael yn dibynnu ar incwm a chynilion eich partner, yn ogystal â’ch un chi.

Sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol

Gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol ar-lein.

Mae angen i chi greu cyfrif i wneud cais. Mae’n rhaid i chi gwblhau eich cais o fewn 28 diwrnod o greu eich cyfrif neu bydd yn rhaid i chi ddechrau eto.

Pan fyddwch chi neu’ch partner yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol bydd eich budd-daliadau presennol sy’n cael eu disodli gan Gredyd Cynhwysol yn dod i ben. Ni allwch fynd yn ôl i’r budd-daliadau hynny, oherwydd eu bod yn dod i ben.

Os na allwch wneud cais ar-lein, ffoniwch llinell gymorth Hysbysiad Trosglwyddo i Gredyd Cynhwysol.

Sut i wneud cais os ydych yn byw gyda phartner

Bydd angen i’r ddau ohonoch wneud cais am Gredyd Cynhwysol os ydych yn byw gyda’ch partner yn yr un cartref ac rydych yn:

  • briod i’ch gilydd
  • partneriaid sifil i’ch gilydd
  • yn byw gyda’ch gilydd fel petaech yn briod

Mae’n rhaid i chi wneud cais ar y cyd ar gyfer eich cartref, hyd yn oed os nad yw’ch partner yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol. Ni allwch wneud cais amdano ar eich pen eich hun.

I ddechrau, mae angen i’r ddau ohonoch greu eich cyfrifon Credyd Cynhwysol ar-lein eich hun. Bydd y person cyntaf i greu eu cyfrif yn derbyn cod partner, a fydd yn cael ei arddangos ar y sgrin.

Yna bydd angen i’ch partner ddefnyddio’r cod hwn pan fyddant yn creu eu cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein. Mae hyn yn sicrhau bod y cyfrifon wedi’u cydgysylltu a’ch bod yn gwneud cais yn gywir fel cwpl.

Ar ôl i chi greu eich cyfrif gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Beth fyddwch ei angen i wneud cais

I wneud cais ar-lein, byddwch angen:

  • manylion eich cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd
  • cyfeiriad e-bost
  • mynediad i ffôn

I brofi pwy ydych chi, byddwch angen rhai dogfennau fel eich:

  • trwydded yrru
  • pasbort
  • cerdyn debyd neu gredyd
  • slip cyflog neu P60

I gwblhau eich cais bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth am:

  • eich tai, er enghraifft faint o rent rydych yn ei dalu
  • eich enillion, er enghraifft slipiau cyflog
  • unrhyw anabledd neu gyflwr iechyd sy’n effeithio ar eich gwaith
  • faint rydych yn ei dalu am ofal plant os ydych eisiau help gyda chostau gofal plant
  • eich cynilion ac unrhyw fuddsoddiadau, fel cyfranddaliadau neu eiddo rydych yn ei rentu allan

Efallai y byddwch angen apwyntiad gyda’r tîm Credyd Cynhwysol os:

  • maent angen mwy o wybodaeth
  • ni allwch ddilysu eich hunaniaeth ar-lein

Byddwch yn cael gwybod a fydd yr apwyntiad hwn mewn canolfan gwaith neu dros y ffôn.

Gwneud cais am Gredyd Cynhwysol ar-lein

Camau i wneud cais

  1. Sefydlu cyfrif Credyd Cynhwysol Ar-lein.

  2. Cwblhau a chyflwyno cais ar-lein.

  3. Profi eich hunaniaeth.

  4. Darparu dogfennau a thystiolaeth i gefnogi’ch cais.

Dechrau nawr

Sut rydych yn cael eich talu

Caiff Credyd Cynhwysol ei dalu unwaith y mis, fel arfer i’ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd.

Os nad ydych yn gallu agor cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd, ffoniwch y llinell gymorth Hysbysiad Trosglwyddo i Gredyd Cynhwysol i drefnu ffordd wahanol o gael eich talu.

Gall eich taliad gynnwys swm ar gyfer costau tai, y bydd angen i chi ei dalu i’ch landlord fel arfer. Os oedd costau tai yn cael eu talu’n uniongyrchol i’ch landlord, bydd angen i chi drafod y newid trefniadau talu gyda nhw.

Trefniadau Talu Amgen (APA) a thaliadau i landlordiaid

Os ydych yn cael anawsterau ariannol neu os ydych ar ei hôl hi gyda’ch rhent, efallai y byddwch chi neu’ch landlord yn gallu gwneud cais am Drefniant Talu Amgen (APA).

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, gallech gael APA i:

  • gael eich rhent wedi’i dalu’n uniongyrchol i’ch landlord
  • cael eich talu’n amlach nag unwaith y mis
  • cael taliadau wedi’u rhannu , os ydych yn rhan o gwpl

Gallwch wneud cais am APA drwy eich cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein ar ôl i chi wneud eich cais.

Taliadau terfynol ar gyfer budd-daliadau presennol

Mae dyddiad eich taliadau terfynol o’ch budd-daliadau presennol yn dibynnu ar ba un bynnag sydd gyntaf:

  • y dyddiad cau ar eich llythyr
  • pa bryd y byddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol

Os oes unrhyw daliadau ychwanegol yn ddyledus, byddant yn cael eu gwneud yn fuan ar ôl i’ch hawl ddod i ben.

Symud o gredydau treth

Os ydych yn hawlio credydau treth, bydd eich hawl yn dod i ben cyn gynted ag y byddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Os na fyddwch yn gwneud cais erbyn y dyddiad cau, bydd eich hawl i Gredyd Treth yn dod i ben ar y diwrnod cyn y dyddiad cau.

Symud o fudd-daliadau eraill

Os ydych wedi gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, byddwn yn parhau i gael eich budd-dal presennol wedi’i dalu am 2 wythnos arall. Mae’n rhaid i chi fod yn gymwys am eich budd-dal presennol. Ni fydd angen i chi ad-dalu’r taliadau ychwanegol hyn ac ni fyddant yn effeithio ar y Credyd Cynhwysol y gallech ei gael.

Mae hyn ond yn berthnasol os ydych yn cael:

  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (JSA)
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA)
  • Cymhorthdal Incwm
  • Budd-dal Tai

Os na fyddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol erbyn y dyddiad cau, eich diwrnod olaf o hawl i’ch budd-daliadau presennol fydd 2 wythnos ar ôl y dyddiad cau.

Eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf

Fel arfer mae’n cymryd tua 5 wythnos i gael eich taliad cyntaf.

Os ydych angen help gyda’ch costau byw tra byddwch yn aros am eich taliad cyntaf, gallwch wneud cais am daliad ymlaen llaw o fewn eich cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein.

Bydd angen i chi ad-dalu eich taliad ymlaen llaw mewn rhandaliadau o’ch taliadau Credyd Cynhwysol yn y dyfodol.

Dyddiadau talu

Ar ôl y taliad cyntaf, byddwch yn cael eich talu ar yr un dyddiad bob mis.

Os ydych yn byw yn yr Alban, gallwch gael eich talu unwaith neu ddwywaith y mis. Darganfyddwch fwy am ddyddiadau talu os ydych yn byw yn yr Alban

Os yw’ch dyddiad talu ar benwythnos neu wyl y banc, byddwch yn cael eich talu ar y diwrnod gwaith o’i flaen.

Byddwch yn cael datganiad misol sy’n dweud wrthych faint o Gredyd Cynhwysol rydych chi’n mynd i’w gael. Gallwch weld hyn yn eich cyfrif ar-lein.

Os nad yw’ch taliad yn cyrraedd ar amser, anfonwch neges atom gan ddefnyddio’ch cyfrif ar-lein neu ffoniwch llinell gymorth Credyd Cynhwysol.

Os ydych yn byw gyda phartner

Os yw’r ddau ohonoch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, byddwch yn cael un taliad bob mis ar gyfer eich cartref.

Ffoniwch y llinell gymorth Hysbysiad Trosglwyddo i Gredyd Cynhwysol os ydych yn poeni am gael mynediad i’r arian hwn.

Eich cyfrifoldebau

Bydd eich cyfrifoldebau’n dibynnu ar eich amgylchiadau.

Pan fyddwch wedi gwneud eich cais am Gredyd Cynhwysol bydd angen i chi reoli eich cyllid eich hun a chynnal eich cais ar-lein. Mae hyn yn cynnwys:

  • diweddaru eich cyfrif, a elwir yn ‘ddyddlyfr’
  • mynychu apwyntiadau yn y ganolfan gwaith, os yw’n briodol
  • rheoli eich rhent eich hun a chostau tai eraill, oni bai bod gennych drefniant talu arall mewn lle
  • rhoi gwybod am newidiadau mewn amgylchiadau

Newidiadau mewn amgylchiadau mae’n rhaid i chi ddweud wrthym amdanynt

Newidiadau i’ch manylion personol, yn cynnwys:

  • symud i gyfeiriad arall
  • newid eich cyfeiriad e-bost neu rif ffôn
  • newid eich manylion banc

Newidiadau gwaith ac arian, yn cynnwys:

  • eich enillion yn mynd i fyny neu i lawr
  • eich rhent yn mynd i fyny neu i lawr
  • dod o hyd i neu orffen swydd
  • newidiadau i’ch arian, cynilion a buddsoddiadau

Newidiadau iechyd, yn cynnwys:

  • newidiadau i’ch cyflwr iechyd
  • mynd yn rhy sâl i weithio neu gwrdd â’ch anogwr gwaith

Newidiadau i’ch cartref, yn cynnwys:

  • cael plentyn
  • dechrau gofalu am blentyn neu berson anabl
  • symud i mewn gyda’ch partner
  • newidiadau i’ch statws mewnfudo, os nad ydych yn ddinesydd Prydeinig

Gallech gael eich cymryd i’r llys neu orfod talu cosb os ydych yn fwriadol yn rhoi gwybodaeth anghywir neu os nad ydych yn rhoi gwybod am newid yn eich amgylchiadau.

Cymorth

Llinell gymorth Hysbysiad Trosglwyddo i Gredyd Cynhwysol 

Ffôn: 0800 169 0328  

Relay UK (os na allwch glywed na siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 169 0328

Gwasanaeth ‘video relay’ ar gyfer defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL). Gwyliwch y fideo i ddarganfod sut i ddefnyddio’r gwasanaeth video relay ar ffôn symudol neu dabled

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm 

Mae rhifau ffôn 0800 yn rhad ac am ddim i’w ffonio o ffonau symudol a llinellau daear.

Help i Hawlio

Gallwch hefyd gael cymorth am ddim gan y Gwasanaeth Help i Hawlio Cyngor ar Bopeth.

Cymorth ariannol

Os ydych mewn anawsterau ariannol, gallwch gael help a chyngor gan y llywodraeth, cynghorau lleol, a sefydliadau eraill, fel advicelocal.uk.

Cyhoeddwyd ar 9 May 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 20 February 2024 + show all updates
  1. If you’re not able to open a bank, building society or credit union account, call the Universal Credit Migration Notice helpline for advice about how to arrange a different way of getting paid. If your payment does not arrive on time, send us a message using your online account or phone the Universal Credit helpline.

  2. Added links to the new transitional protection guidance.

  3. You can now use the 'entitledto' benefits calculator if you receive tax credits and have more than £16,000 in money, savings and investments.

  4. Added translation

  5. This guidance also applies to Scotland from 31 July 2023.

  6. Money can also be taken from your Universal Credit payment to pay for tax credits overpayments.

  7. First published.