Canllawiau

Cael help i wneud eich cais am Gredyd Cynhwysol

Sut i gael help i ddeall a gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, a chael help i reoli eich cais.

Yn berthnasol i Loegr, yr Alban a Chymru

Gallwch:

  • gael help i ddeall a gwneud eich cais am Gredyd Cynhwysol

  • mynd â rhywun gyda chi i fynychu apwyntiad canolfan gwaith

  • rhoi caniatâd penodol i rwyun i gael cyngor a gwybodaeth am eich cais

Cael help i ddeall a gwneud cais am Gredyd Cynhwysol

Gallwch gael cyngor am ddim gan gynghorwyr hyfforddedig Cyngor ar Bopeth i ddeall a gwneud cais am Gredyd Cynhwysol. Gelwir hyn yn ‘Help i Hawlio’.

Gallent eich helpu i:

  • weithio allan os gallwch gael Credyd Cynhwysol

  • llenwi’r cais am Gredyd Cynhwysol

  • paratoi am eich apwyntiad canolfan gwaith cyntaf

  • gwirio bod eich taliad cyntaf yn gywir

Mae cymorth Help i Hawlio yn gyfrinachol. Ni fyddant yn rhannu eich gwybodaeth bersonol oni bai eich bod yn cytuno.

Mynd â rhywun gyda chi i fynychu apwyntiad canolfan gwaith

Gallwch fynd â rhywun gyda chi, fel ffrind neu berthynas, i’ch apwyntiad canolfan gwaith os ydych angen cymorth.

Mae’n rhaid i chi ddweud wrth Gredyd Cynhwysol ymlaen llaw ac esbonio pam fod angen cymorth arnoch.

I ddweud wrth Gredyd Cynhwysol, gallwch:

Rhoi ‘caniatâd penodol’ i rywun cael cyngor a gwybodaeth am eich cais

Gallwch roi caniatâd i alluogi i rywun:

  • gael gwybodaeth a chyngor am eich cais

  • cael mynediad i wybodaeth berthnasol amdanoch chi

Gelwir y caniatâd hwn yn ‘ganiatâd penodol’. Nid yw caniatâd penodol yn para am byth. Mae eich caniatâd penodol fel arfer yn para y dyddiad a nodir gennych, neu hyd at 6 mis –  pa bynnag un sy’n dod yn gyntaf.

Gallwch roi caniatâd penodol ar unrhyw adeg yn ystod eich cais.

Gallwch roi caniatâd pendodol i rywun:

  • sydd â phertynas gwirioneddol i chi, er enghraifft aelod o’r teulu, ffrind neu gymydog

  • o sefydliad a’i swydd nhw yw helpu

Os nad ydych eisiau rhoi caniatâd penodol, gallwch ofyn i rywun ffonio Llinell Gymorth Credyd Cynhwysol ar eich rhan. Bydd angen i chi fod gyda nhw er mwyn ateb cwestiynau diogelwch a chytuno i unrhyw benderfyniadau.

Sut i roi caniatâd penodol

I roi caniatâd penodol i berson arall neu sefydliad i gael cyngor neu wybodaeth am eich cais gallwch:

Rhaid i chi:

  • roi caniatâd i’ch gwybodaeth bersonol gael ei rhannu gyda hwy

  • amlinellu pa wybodaeth rydych am ei rannu 

  • egluro pam fod angen y wybodaeth

  • os ydynt yn aelod o’r teulu, ffrind neu gymydog, esbonio perthynas y person â chi

  • os ydynt o sefydliad, rhoi ei henw, sefydliad a changen, os yw’n berthnasol. Os na allwch ddarparu ei henw, byddwch mor benodol â phosibl, er enghraifft rhowch ei rôl swydd neu enw’r tîm o fewn y sefydliad

Gallwch dynnu eich caniatâd ar unrhyw adeg.  

Os oes unrhyw amheuaeth ynghylch pwy yw’r cynrychiolydd sy’n gwneud y cais, ni ddatgelir unrhyw wybodaeth.

Gwybodaeth na fydd byth yn cael ei roi gan DWP

Ni fydd y wybodaeth ganlynol byth yn cael ei roi i gynrychiolydd, hyd yn oed os ydych wedi rhoi caniatâd penodol:

  • eich cyfeiriad

  • eich dyddiad geni

  • eich rhif Yswiriant Gwladol

  • eich manylion banc (cod didoli, rhif y cyfrif, enw deilydd cyfrif)

  • eich rhifau ffôn

  • enwau aelodau eich cartref

  • enwau eich cyflogwyr neu gyn-gyflogwyr

Gwybodaeth y gellir ei roi i landlordiaid cymdeithasol

Mae landlordiaid cymdeithasol yn ddarparwyr cartrefi cymdeithasol. Fel arfer maent yn gynghorau neu gymdeithasau tai ‘nid er elw’.

Os ydych yn methu â rheoli’ch arian neu mae gennych ôl-ddyledion rhent, gallwch chi neu eich landlord ofyn i’ch costau rent gael ei dalu’n uniongyrchol iddynt. Gelwir hyn yn daliad wedi’i roli i landlord.

Gellir rhannu’r wybodaeth ganlynol gyda landlordiaid cymdeithasol heb fod angen rhoi caniatâd penodol:

  • gwybodaeth am drefniadau talu amgen yr hawlydd

  • unrhyw hanes o droseddau perthnasol y gallai fod gennych, er enghraifft ymddygiad gwrth cymdeithasol neu ymddygiad sy’n effeithio’n andwyol ar yr ardal leol

Ni fydd gan landlordiaid cymdeithasol hawl i gael unrhyw ddata personol amdanoch chi. Bydd bob cais am wybodaeth yn cael ei ystyried o dan y Ddeddf Diogelu Data.

Gall landlordiaid cymdeithasol dderbyn y wybodaeth ganlynol:

  • dyddiad dechrau’r taliadau tai sy’n cael eu talu i’r landlord

  • pryd gall y landlord ddisgwyl gael y taliad cyntaf

  • swm y taliad nesaf o daliad tai Credyd Cynhwysol tuag at eich rhent

  • os oes unrhyw newidiadau wedi bod i’r swm o gostau tau i’w talu (ni ddarperir na drafodir y rhesymau dros y newidiadau)

Gwybodaeth y gellir ei rhoi i landlordiaid preifat

Mae landlordiaid preifat fel arfer yn berchen ar yr eiddo maent yn ei rentu allan.

Gallant fod yn:

  • gwmni sy’n berchen ar lawer o eiddo

  • person neu deulu sy’n berchen ar un neu fwy o eiddo

Os ydych yn methu â rheoli’ch arian neu mae gennych ôl-ddyledion rhent, gallwch chi neu eich landlord ofyn i’ch costau rent gael ei dalu’n uniongyrchol iddynt. Gelwir hyn yn daliad wedi’i roli i landlord.

Unwaith mae’r taliad uniongyrchol i’r landlord preifat wedi cael ei sefydlu, gellir datgelu’r wybodaeth ganlynol i’r landlord

  • dyddiad dechrau’r taliadau tai sy’n cael eu talu i’r landlord

  • pryd gall y landlord ddisgwyl derbyn eu taliad cyntaf

  • swm taliad nesaf eich costau tai Credyd Cynhwysol

  • os oes unrhyw newidiadau wedi bod i gostau tai Credyd Cynhwysol. Ni ddarperir na drafodir y rhesymau dros y newidiadau

Gall landlord preifat weithredu fel cynrychiolydd i hawlydd ond byddant bob amser angen eich caniatâd penodol i wneud hynny, oni bai ei fod i’r diben penodol o wneud cais am drefniadau talu amgen.

Pryd gall DWP rannu eich gwybodaeth heb ganiatâd

Mae amgylchiadau pryd gall DWP rannu eich gwybodaeth heb ganiatâd penodol. Y rhain yw:

  • gorchmynion llys

  • pyrth cyfreithiol

  • AS yn ymgysylltu â Chredyd Cynhwysol ar ran eu hetholwyr

  • diddordeb cyhoeddus

Gorchmynion llys

Os oes gorchymyn llys mewn lle, nid oes angen i DWP gael eich caniatâd i ddatgelu’r wybodaeth y gofynnwyd amdano.

Pyrth cyfreithiol

Mae yna gyfraith sy’n caniatáu i’ch gwybodaeth bersonol gael ei rhannu â sefydliad os ydynt yn gweithredu mewn swyddogaeth les.

AS yn ymgysylltu â Chredyd Cynhwysol ar ran eu hetholwyr

Bydd unrhyw ohebiaeth, (ymholiadau llythyr, e-bost neu ffôn) am eich Credyd Cynhwysol yn cael eu hateb yn uniongyrchol i’r AS heb fod angen eich caniatâd. Fodd bynnag, mae’n arfer cyffredin i AS gynnwys caniatâd penodol gennych wrth gysylltu â’r adran yn ysgrifenedig.

Diddordeb cyhoeddus

Pan fydd er budd gorau’r cyhoedd, gellir datgelu heb eich caniatâd, er enghraifft, os oes gennych anghenion cymhleth. Bydd y ceisiadau hyn am ddatgeliad fel arfer yn dod gan yr heddlu neu’r gwasanaethau cymdeithasol.

Os ydych wedi cael caniatâd penodol

Pan fyddwch yn cysylltu â Chredyd Cynhwysol i gael cyngor neu wybodaeth am gais rhywun, bydd angen i chi gadarnhau:

  • enw llawn yr hawlydd

  • cyfeiriad neu ddyddiad geni’r hawlydd

  • pa wybodaeth mae’r hawlydd wedi cytuno i’w rhannu

  • pwrpas rhannu’r wybodaeth

  • eich enw chi neu enw’r sefydliad rydych yn perthyn iddo (lle y bo’n berthnasol)

Os oes unrhyw amheuaeth am eich hunaniaeth, ni fydd Credyd Cynhwysol yn rhoi unrhyw wybodaeth am y cais.

Gwneud cais am yr hawl gyfreithiol i wneud a rheoli cais ar gyfer rhywun

Gallwch wneud cais am yr hawl i wneud a rheoli Credyd Cynhwysol ar gyfer rhywun sydd ddim yn gallu rheoli eu materion eu hunain oherwydd eu bod yn analluog yn feddyliol neu’n ddifrifol anabl. I wneud hyn, mae’n rhaid i chi gael ‘awdurdod ysgrifenedig’.

Darganfyddwch fwy am reoli cais rhwyun ar eu rhan.

Penodai corfforaethol sy’n rheoli ceisiadau lluosog am Gredyd Cynhwysol

Fel arfer mae angen i chi ddarparu cyfeiriad e-bost unigryw i sefydlu cais Credyd Cynhwysol. Os ydych yn benodai corfforaethol, gallwch gofrestru cyfeiriad e-bost un sefydliad i’w ddefnyddio ar draws nifer o geisiadau.

Rhaid iddo fod yn gyfeiriad e-bost tîm, nid unigolyn. Anfonwch y cyfeiriad at universalcredit.corporateappointeeengagementteam@dwp.gov.uk.  

Peidiwch ag anfon ymholiadau cyffredinol i’r cyfeiriad hwn - yn hytrach cysylltwch â Chredyd Cynhwysol.)

Ar ôl 2 wythnos, gallwch ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost tîm pan fyddwch yn sefydlu pob cais.

Neu, os ydych eisoes yn rheoli nifer o geisiadau, rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau i newid cyfeiriad e-bost pob hawlydd. 

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 3 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf ar 3 Rhagfyr 2025 show all updates
  1. Content about managed payments to landlords was removed and replaced a short description and an updated link to content that describes the process.

  2. Added translation

Argraffu'r dudalen hon