Canllawiau

Trefniadau Talu Amgen

Diweddarwyd 17 January 2024

Mae Credyd Cynhwysol yn paratoi hawlwyr ar gyfer byd gwaith lle caiff 75% o weithwyr eu talu’n fisol. Mae hefyd yn annog hawlwyr i gymryd cyfrifoldeb am eu materion ariannol eu hunain. I’r perwyl hwnnw, telir Credyd Cynhwysol mewn un swm misol i gartrefi ble y disgwylir iddynt reoli eu cyllidebau eu hunain.

Mae’n bwysig bod hawlwyr yn gallu gwneud yr un math o benderfyniadau â’r sawl sydd mewn gwaith a datblygu’r gallu ariannol i wneud hynny. Diben y canllaw hwn yw nodi dull yr adran o roi Trefniadau Talu Amgen (APA) lle y bo’n briodol i hawlwyr Credyd Cynhwysol sy’n methu a rheoli eu taliad misol sengl. 

1. 1. Mathau o Drefniadau Talu Amgen (APA)

Mae APA ar gyfer hawlwyr sy’n methu rheoli eu taliad misol sengl ac mae perygl o niwed ariannol i’r hawlydd neu eu teulu.

Bydd y symud i daliad misol sengl i’r cartref yn newid sylweddol i’r ffordd y caiff y rhan fwyaf o fudd-daliadau eu talu ar hyn o bryd.

Mae’r APA canlynol ar gael i helpu hawlwyr sydd angen cymorth ychwanegol:

  • talu rhent yn uniongyrchol i’w landlord, a elwir yn ‘taliad wedi’i reoli’

  • taliadau mwy aml: dwywaith y mis – neu mewn amgylchiadau eithriadol 4 gwaith y mis - yn hytrach nag unwaith y mis

  • taliad o ddyfarniad wedi’i rannu rhwng partneriaid mewn cwpwl

1.1 Pryd y gellir ystyried APA?

Gellir ystyried APA ar unrhyw bwynt yn ystod y cais Credyd Cynhwysol. Gellir eu nodi o’r dechrau gan anogwr gwaith, neu reolwr achos, neu unrhyw bryd yn ystod y cais fel pan mae hawlydd yn cael trafferth gyda’r taliad misol sengl.

Gallant gael eu hysgogi hefyd gan wybodaeth gan yr hawlydd, eu cynrychiolydd neu eu landlord.

Bydd APA yn cael ei ystyried fesul achos. Gall hawlydd gael un neu fwy APA yn seiliedig ar eu hamgylchiadau unigol.

Bydd staff Credyd Cynhwysol yn gwneud y penderfyniad i ddyfarnu APA gan gymryd nifer o ffactorau i ystyriaeth a drwy ddefnyddio’r canllaw haen 1 a haen 2 fel a nodir yn Atodiad A. Mae’r rhain yn cael eu defnyddio fel dangosydd i benderfynu os yw’r trefniadau hyn yn addas i unigolyn.

Er engraifft:

  • a yw’r hawlydd yn llwyddo i dalu eu biliau ar amser, yn benodol eu rhent, ac a ydynt wedi disgyn i ôl-ddyledion yn y gorffennol, neu a ydynt mewn ôl-ddyledion ar hyn o bryd?

  • a ydynt yn credu y byddant yn gallu reoli cyllideb misol, gan ystyried eu hincwm a’u gwariant dros fis calendr?

  • os yw’r hawlydd yn rhan o gwpl, a ydynt wedi arfer rheoli eu harian gyda’i gilydd ac a ydynt yn meddwl y gallant reoli’r taliad Credyd Cynhwysol sengl i’r cartref?

  • ydy’r hawlydd yn fregus (efallai bod ganddynt broblemau dibyniaeth neu digartrefedd blaenorol)?

Mae ffactorau APA yn cynnwys y canlynol:

  • problemau dibyniaeth

  • ôl-ddyledion rhent

  • materion iechyd meddwl

  • anhawsterau dysgu

  • digartrefedd blaenorol

Nid oes angen i hawlydd fod mewn ôl-ddyledion rhent i gael eu hystyried am APA.

1.2 Trefn blaenoriaeth

Caiff APA ei hystyried yn y drefn flaenoriaeth ganlynol:

  1. Talu costau tai Credyd Cynhwysol i’r landlord fydd y flaenoriaeth gyntaf lle mae’n rhan o ddyfarniad Credyd Cynhwysol, er mwyn diogelu cartref yr hawlydd.

Byddai’r taliad wedi’i reoli o’r elfen costau tai i’r landlord bob amser yn cael ei ddidynnu a’i dalu gyntaf fel yr APA â blaenoriaeth.

  1. Yn ail, a lle y bo’n briodol, bydd staff UC yn ystyried a oes angen taliad mwy aml.

  2. Yn drydydd, dylid ond ystyried taliad wedi’i rannu o ddyfarniad rhwng partneriaid mewn rhai amgylchiadau, er enghraifft:

  • camddefnydd ariannol lle mae un partner yn camreoli’r taliad Credyd Cynhwysol

  • lle mae trais domestig yn broblem ac mae’r cwpwl yn parhau i gyd-fyw, ond dim ond un cais am Gredyd Cynhwysol sy’n cael ei wneud

Mwy o wybodaeth am daliadau wedi’u rhannu.

Os bydd yr hawlydd yn bodloni’r meini prawf ar gyfer naill ai (2) neu (3) uchod, os ydynt yn atebol am rent, bydd taliad wedi’i reoli i landlord yn cael ei ystyried. Telir y Credyd Cynhwysol sy’n weddill fel y bo’n briodol.

Mewn crynodeb, gallai hawlydd felly gael unrhyw un o’r cyfuniadau canlynol:

  • taliad wedi’i reoli yn unig

  • taliadau mwy aml (ar gyfer y sawl nad yw’n ddeiliad tŷ)

  • taliad wedi’i rannu yn unig

  • taliad wedi’i reoli a thaliadau mwy aml

  • taliad wedi’i reoli a thaliadau wedi’u rhannu

  • taliadau mwy aml a thaliadau wedi’u rhannu (ar gyfer cyplau nad ydynt yn ddeiliaid tai lle y bo’n briodol)  

  • taliad wedi’i reoli, taliadau mwy aml a thaliadau wedi’u rhannu

Nod yr uchod yw cefnogi’r hawlwyr hynny dros amser i ddatblygu eu gallu i gyllidebu ac ar yr un pryd diogelu eu cartref.

2. 2. Taliad wedi’i reoli i iandlord

Rydym yn disgwyll y bydd y rhan fwyaf o hawlwyr Credyd Cynhwysol yn derbyn taliad misol sengl ac yn cymryd cyfrifoldeb am dalu eu biliau cartref ar amser, yn cynnwys eu rhent.

Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y bydd rhai hawlwyr angen cefnogaeth ychwanegol i reoli’r taliad hwn. Felly, mewn rhai achosion gallai taliad wedi’i reoli fod yn briodol.

2.1 Pryd gellir gwneud cais am daliad wedi’i reoli

Gellir gwneud taliad wedi’i reoli pan:

  • mae hawlydd mewn ôl-ddyledion gyda’u rhent am swm sy’n cyfateb i, neu sy’n fwy na, 2 fis o’u rhent

  • mae hawlydd heb dalu digon o’u rhent yn barhaus am fwy na 2 fis ac maent wedi cronni ôl-ddyled o swm sy’n cyfateb i, neu sy’n fwy na un mis o rent

  • mae unrhyw un o’r factorau APA Haen 1 a Haen 2 yn berthnasol

  • roedd hawlydd yn flaenorol yn cael Budd-dal Tai ac roedd yn cael ei dalu i’w landlord, gellir ystyried taliad wedi’i reoli cyn belled bod yr hawlydd yn parhau i gwrdd a ffactorau APA Haen 1 a Haen 2

Mae hwn yn rhan o’r sgwrs bydd staff Credyd Cynhwysol yn gael gyda’r hawlydd ar ddechrau eu cais.

Bydd landlordiaid cymdeithasol sy’n cael eu penodi o dan y Cynllun Partner dibynadwy, hefyd yn cael sgyrsiau gyda’u tenantiaid ar ddechrau eu cais Credyd Cynhwysol.

Mae ôl-ddyledion rhent a thaliadau gwasanaeth ar gyfer yr eiddo y mae’r tenant yn byw ynddo ar hyn o bryd yn cael eu cynnwys yn y rhestr o ddidyniadau y gellir eu gwneud o daliad Credyd Cynhwysol.

Os yw tenant wedi cronni ôl-ddyledion rhent hyd at 2 fis neu fwy o rent, gall eu landlord presennol ofyn am ddidyniad ôl-ddyledion rhent.

2.2 Pwy all wneud cais am daliad wedi’i reoli i landlor

Gall naill ai’r hawlydd neu eu landlord wneud y cais hwn.

Os yw’r hawlydd yn gwneud y cais, gall hyn fod trwy:

  • ddefnyddio eu cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein

  • siarad gyda’u hanogwr gwaith neu reolwr achos

  • ffonio Credyd Cynhwysol ar 0800 328 1744

Darganfyddwch am gostau galwadau

Os yw’r landlord yn gwneud y cais, gellir gwneud hyn drwy ddefnyddio’r Gwneud Cais am Daliad Rhent Uniongyrchol sy’n wasanaeth ar-lein i landlordiaid ofyn am daliadau uniongyrchol o rent neu ôl-ddyledion rhent.

2.3 Beth sy’n digwydd nesaf

Yn dilyn cais am daliad wedi’i reoli bydd penderfyniad yn cael ei wneud os yw taliad wedi’i reoli yn briodol a bydd y landlord a’r hawlydd yn cael eu hysbysu o’r penderfyniad.

Ble mae taliad wedi’i reoli yn cael ei wrthod, ni fydd yr hysbysiad a anfonir i’r landlord yn dweud wrthynt os yw eu tenant yn cael Credyd Cynhwysol ar hyn o bryd, nac ychwaith yn dweud wrthynt y rheswm pam fod y cais wedi cael ei wrthod.

Mae hyn oherwydd rheolau rhannu data a chyfrinachedd hawlydd.

3. 3. Taliadau mwy aml

Telir Credyd Cynhwysol yn fisol. Fodd bynnag, mewn achosion lle y nodir bod hawlydd yn ei chael hi’n anodd cyllidebu’n fisol, gellir rhannu eu Credyd Cynhwysol dros y mis i’w dalu’n fwy aml - dwywaith y mis neu, mewn amgylchiadau eithriadol, 4 gwaith y mis.

Gall y rhain dim ond dechrau o ddiwedd eu cyfnod asesu cyntaf ac, yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, byddent yn hanner eu dyfarniad Credyd Cynhwysol, gyda’r hanner arall yn cael ei dalu 14 i 15 o ddiwrnodau’n ddiweddarach.

Mewn achosion eithriadol iawn gallent gael eu talu 4 gwaith y mis er enghraifft, chwarter o’u taliad Credyd Cynhwysol ar ôl diwedd y cyfnod asesu cyntaf a’r gweddill i’w dalu fesul 7 i 8 diwrnod.

Mewn achosion lle mae eu Credyd Cynhwysol yn cynnwys costau tai, dylai hyn gyd-fynd â thaliad wedi’i reoli er mwyn diogelu eu cartref.

3.1 Pwy all wneud cais am daliad mwy aml

Os yw’r hawlydd yn gwneud y cais, gall hyn fod trwy:

  • ddefnyddio eu cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein

  • siarad gyda’u hanogwr gwaith neu reolwr achos

  • ffonio Credyd Cynhwysol ar 0800 328 1744

Darganfyddwch am gostau galwadau

4. Taliadau wedi’u rhannu

Mewn amgylchiadau eithriadol iawn, gellir rhannu’r taliad o Gredyd Cynhwysol rhwng 2 aelod o’r cartref.

Gelwir hyn yn daliad wedi’i rannu. Nod taliadau wedi’u rhannu yw atal yr hawlydd a’u teulu rhag wynebu caledi. Dim ond mewn rhai amgylchiadau penodol y dylid eu hystyried, fel trais domestig neu lle ceir achos o gam-drin ariannol ac mae un partner yn camreoli’r taliad Credyd Cynhwysol.

Taliad wedi’i rannu yw pan fydd dyfarniad Credyd Cynhwysol y cartref (a fyddai’n cael ei dalu i mewn i gyfrif a enwebwyd fel arfer) yn cael ei rannu rhwng 2 hawlydd yn y cartref.

Gyda thaliad wedi’i rannu, mae hawlwyr yn cadw eu cyfrifoldeb am eu cais ac am unrhyw weithgaredd cysylltiedig (fel gweithgaredd rhaglen waith).

Gellir talu taliad wedi’i rannu i ddau aelod ar wahân o’r cartref, gyda’r ganran fwyaf yn cael ei dyrannu i’r sawl â’r prif gyfrifoldebau gofalu, mewn geiriau eraill y sawl sydd â gofal plant.

Mae hyn er mwyn sicrhau iechyd a lles y mwyafrif o’r cartref.

Os gwneir taliad wedi’i rannu, mae’n rhaid i’r swyddog penderfyniadau hefyd ystyried taliad wedi’i reoli lle mae atebolrwydd rhent.

4.1 Pryd y caiff taliadau wedi’u rhannu eu hystyried

Fel arfer, caiff taliadau wedi’u rhannu eu hystyried er mwyn atal yr hawlydd a’u teulu wynebu caledi, er enghraifft os nad yw’r hawlydd Credyd Cynhwysol yn rheoli eu materion ariannol ac nad ydynt yn diwallu anghenion eu teulu o ddydd i ddydd.

Dylid ystyried taliadau wedi’u rhannu pan mae:

  • y naill aelod neu’r llall o’r cartref yn hysbysu DWP am achos o gamreoli ariannol neu gamddefnydd ariannol

  • y naill aelod neu’r llall o’r cartref yn hysbysu DWP bod problemau trais domestig

  • y naill aelod neu’r llall o’r cartref yn methu neu’n gwrthod cylliedbu ar gyfer eu hangenion eu hunain neu’r teulu o ddydd i ddydd

4.2 Pwy all wneud cais am daliad wedi’i rannu

Gall y naill aelod neu’r llall o’r cartref wneud cais am daliad wedi’i rannu.

Gall hyn naill a’i fod trwy:

  • ddefnyddio eu cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein

  • siarad gyda’u hanogwr gwaith neu reolwr achos

  • ffonio Credyd Cynhwysol ar 0800 328 1744

Darganfyddwch am gostau galwadau

4.3 Hawlydd yn apelio yn erbyn Trefniant Talu Amgen

Gwneir y penderfyniad i ddyfarnu APA ar ddisgresiwn gan Asiant Credyd Cynhwysol, swyddog penderfyniadau, anogwr gwaith neu rheolwr achos sy’n gweithredu ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol.

Nid oes hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad, ond gall gael ei adolygu gan yr un asiant Credyd Cynhwysol neu un arall os bydd mwy o wybodaeth yn cael ei ddarparu.

4.4 Adolygiadau Trefniant Talu Amgen

Caiff APA eu hadolygu i ystyried amgylchiadau a nodweddion newidiol hawlydd.

Bydd staff Credyd Cynhwysol yn penderfynu ar y cyfnod adolygu a bydd pob achos yn amrywio oherwydd bydd gan hawlwyr y dyfernir APA iddynt nodweddion gwahanol, ac felly nid ystyrir bod un dull sy’n addas i bawb yn briodol.

Defnyddir disgresiwn i benderfynu ar y cyfnod adolygu gorau i’w osod gan ddefnyddio gwybodaeth a ddarparwyd gan yr hawlydd, eu cynrychiolydd neu landlord, er mwyn helpu i lywio’r cyfnod adolygu APA.

Fel canllaw, rydym yn disgwyl y caiff adolygiadau eu trefnu ar gyfer cyfnodau o 3, 6, 9, 12, 15, 18 a 24 mis.

Os bydd gan hawlydd fwy nag un APA mewn lle, gall y cyfnod adolygu fod ychydig yn fwy na phe bai ganddynt dim ond un.

Ar gyfer rhai hawlwyr sy’n arbennig o fregus, fel y rhai sydd â chyflwr iechyd meddwl hirdymor heb neb i’w cefnogi, gall fod yn fwy priodol cael cyfnod adolygu hirach.

4.5 Ffactorau allweddol ar gyfer adolygu Trefniant Talu Amgen

Yn yr adolygiad, bydd staff Credyd Cynhwysol yn penderfynu a yw’r hawlydd bellach yn gallu rheoli’r taliad misol sengl.

Byddant yn ystyried os yw’r hawlydd bellach yn teimlo bod ganddynt y gallu ariannol i reoli eu Credyd Cynhwysol heb yr angen am APA.

Os oes gan yr hawlydd 2 APA neu fwy, gall fod yn briodol ystyried symud yn raddol i’r taliad misol sengl er enghraifft rheoli taliadau misol i ddechrau, wedi’i ddilyn gan dalu eu rhent yn ddiweddarach.

Nod y dull ‘fesul cam’ hwn yw helpu i wneud y broses o drosglwyddo i’r taliad misol sengl yn haws. Bydd canlyniad yr adolygiad yn cael ei gofnodi yng nghyfrif ar-lein yr hawlydd os penderfynir y dylai’r APA barhau a bydd dyddiad adolygiad newydd yn cael ei osod.

4.6 Adolygu taliad wedi’i reoli oherwydd newid mewn amgylchiadau

Os yw’r hawlydd yn rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau, fel newid cyfeiriad neu newid mewn incwm, bydd staff Credyd Cynhwysol yn penderfynu os y dylai’r taliad wedi’i reoli barhau.

5. 5. Cymorth arall

5.1 Help i Hawlio

Ar gyfer hawlwyr sydd angen help i sefydlu eu cais Credyd Cynhwysol, mae’r gwasanaeth Help i Hawlio Cyngor ar Bopeth yn cynnig cymorth ymarferol wedi’i deilwra i helpu pobl i wneud cais Credyd Cynhwysol a derbyn eu taliad llawn cyntaf ar amser.

5.2 Cefnogaeth ariannol arall

Pan gytunir ar APA, efallai y gofynnir i hawlydd hefyd gymryd camau i helpu i reoli eu harian, fel cael cyllidebu neu gyngor ariannol.

Gall pobl sydd mewn trafferthion ariannol, gael help a chyngor gan y llywodraeth, cynghorau lleol, a sefydliadau eraill, fel advicelocal.uk.

Efallai y bydd hawlwyr Credyd Cynhwysol hefyd yn gallu cael cymorth ariannol arall yn dibynnu ar eu hamgylchiadau.

6. Atodiad A - ffactorau i’w hystyried ar gyfer Trefniadau Talu Amgen

6.1 Ffactorau Haen 1 – Angen tebygol iawn neu debygol am Drefniadau Talu Amgen

1.1 Problemau cyffuriau, alcohol neu broblemau dibyniaeth eraill, fel gamblo

  • mae’r hawlydd yn datgan, neu wedi datgan ar gais blaenorol, problem gyda camddefnyddio sylweddau

  • mae’r hawlydd yn ystyried eu bod yn gaeth i neu yn ddefnyddiwr rheolaidd

  • mae camddefnyddio sylweddau yn cynnwys problemau gydag alcohol, unrhyw fath o gyffur anghyfreithlon neu ddefnydd amhriodol o sylweddau nad ydynt yn anghyfreithlon fel glud

  • dylid hefyd ystyried adborth gan drydydd partïon ynghylch dibyniaeth yr unigolyn, fel staff asiantaeth cymorth

1.2 Anawsterau dysgu yn cynnwys problemau â llythrennedd neu rifedd

  • mae’r hawlydd yn cael anhawster darllen, ysgrifennu neu gyflawni tasgau mathemategol syml

  • gall cyflawniad addysgol isel neu ddim cyflawniad addysgol fod yn arwydd o hyn

  • gall hefyd fod yn gysylltiedig â chyflwr meddygol (er enghraifft awtistiaeth, Syndrom Down)

1.3 Problemau dyledion difrifol neu luosog

  • ni all hawlwyr fodloni ymrwymiadau credyd o’r incwm sydd ar gael, o ystyried yr isafswm gwariant sy’n angenrheidiol. Gall hyn gynnwys benthyciadau personol, ad-daliadau morgais, ôl-ddyledion cyfleustodau a dyledion eraill

  • gallai arwydd o broblemau dyledion difrifol gael eu gweld trwy ddyledion lluosog neu beidio â thalu dyledion lluosog dros gyfnod o ddau fis neu fwy, ac efallai defnydd helaeth o’r cynlluniau cymorth lles lleol newydd

  • y prif ffactor yw nad yw’r hawlydd wedi gwneud cynllun ad-dalu neu nad ydynt yn glynu at delerau cynllun ad-dalu ac maent yn ddi-drefn iawn wrth reoli ei arian

1.4 Mewn llety dros dro

  • ar gyfer achosion llety dros dro gweddilliol sy’n dal i gael eu talu gan Credyd Cynhwysol oherwydd na fu unrhyw newid mewn atebolrwydd rhent ers 11 Ebrill 2018

  • ystyried dim ond os yw statws yr hawlwyr yn y llety hwn yn rhwystro eu gallu i reoli eu materion ariannol yn effeithiol gan y bydd rhai mathau o lety yn arhosiad byr, ond bydd gan eraill leoliadau hirach o 2 flynedd neu fwy a bydd llawer o hawlwyr yn gallu rheoli’r taliad misol Credyd Cynhwysol sengl.

1.5 Digartref

  • yn unol â Deddf Tai (Cymru) 2014 a Deddf Tai (Yr Alban) 1987, mae hawlydd yn ddigartref os nad oes ganddynt unrhyw lety sy’n ddiogel neu’n rhesymol iddynt ei feddiannu, neu os disgwylir iddynt beidio â gallu cael llety o fewn 28 diwrnod

  • yn ymarferol, mae hyn yn cynnwys pobl sy’n cysgu ar y stryd, pobl sy’n syrffio soffa gyda ffrindiau neu berthnasau, pobl mewn hosteli, pobl sydd ar fin cael eu troi allan a phobl mewn llety anniogel ac anaddas fel sgwatiau

1.6 Trais a cham-drin domestig

  • hawlwyr sy’n dioddef camdriniaeth domestig ar hyn o bryd, neu sydd wedi dioddef camdriniaeth

  • mae hyn yn cynnwys unrhyw achos o ymddygiad bygythiol, trais neu gamdriniaeth (seicolegol, corfforol, rhywiol, ariannol neu emosiynol) rhwng oedolion sydd yn, neu sydd wedi bod yn, bartneriaid agos neu aelodau o deulu waeth beth fo’u rhyw na’u rhywioldeb. Gall hyn hefyd gynnwys priodas dan orfod a “throseddau er anrhydedd” fel y’u gelwir

  • camdriniaeth sy’n ffurfio patrwm o ymddygiad sy’n gorfodi a rheoli, fel rheoli’r unigolyn arall drwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau ariannol

1.7 Cyflwr iechyd meddwl

  • mae gan yr hawlydd gyflwr iechyd meddwl (fel ffobia, anhwylder deubegynnol, iselder a phryder) sy’n amharu ar eu gallu i reoli eu materion ei hunan yn effeithiol

  • dylid ystyried adborth gan drydydd parti ynghylch y symptomau sydd gan yr unigolyn, yn cynnwys unrhyw dystiolaeth o wybodaeth a etifeddwyd

1.8 Ar hyn o bryd mewn ôl-ddyledion rhent nei o dan fygythiad o gael eu troi allan neu adfeddiannu

  • mae gan yr hawlydd ôl-ddyledion rhent ar hyn o bryd am swm sy’n cyfateb i 2 fis neu fwy o rent

  • mae’r hawlydd wedi tan-dalu eu rhent yn barhaus dros gyfnod o fwy na 2 fis, ac wedi cronni ôl-ddyledion sy’n cyfateb i un mis o rent neu fwy

  • mae’r hawlydd wedi cael eu troi allan oherwydd eu hôl-ddyledion rhent o fewn y 12 mis diwethaf

  • mae’r hawlydd yn destun i gael neu wedi cael bygwth eu troi allan neu adfeddiannu

1.9 Mae’r hawlydd yn berson ifanc 16/17 oed neu’n gadael gofal

  • pobl ifanc 16/17 oed – ni fydd gan lawer ohonynt lawer o allu ariannol os o gwbl ac er mwyn gwneud cais Credyd Cynhwysol bydd angen iddynt fod yn wynebu rhyw fath o galedi yn barod (fel wedi gwahanu oddi wrth eu rhieni, gyda phlentyn, bod yn sâl neu anabl)

  • pobl sy’n gadael gofal – hawlwyr sydd wedi derbyn gofal awdurdod lleol yn ddiweddar ac yn cynnwys y sawl sydd dros 17 oed. Mae’r rhan fwyaf o hawlwyr yn gadael gofal pan fyddant yn 18 oed, ond bydd rhai yn gadael mor gynnar â 16 oed

1.10 Teuluoedd ag anghenion cymhleth a lluosog

  • mae’r hawlydd yn rhan o deulu sy’n rhan o’r Rhaglen Teuluoedd Cythryblus

  • gallai teuluoedd eraill sydd ag anghenion lluosog a chymhleth gynnwys cyfuniad o ymddygiad troseddol parhaus, ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus, problemau iechyd meddwl, problemau cyffuriau ac alcohol, trais domestig, problemau diogelwch a dyledion

  • dylid ystyried adborth gan drydydd partïon, fel gweithiwr achos ymyriad teuluol, ynghylch natur gymhleth sy’n gorgyffwrdd problemau yn nheulu’r hawlydd

7. Ffactorau Haen 2 – Angen llai tebygol o bosib angen Trefniadau Talu Amgen 

2.1 Didyniadau trydydd parti mewn lle (fel ar gyfer dirwyon neu ôl-ddyledion cyfleustodau)

  • mae’r hawlydd ar hyn o bryd yn gwneud taliadau o’u budd-daliadau er mwyn ad-dalu ôl-ddyledion cyfleustodau (fel nwy, dŵr, trydan)

2.2 Mae’r hawlydd yn ffoadur neu’n geisiwr lloches

  • mae’r diffiniad hwn yn berthnasol i’r hawlwyr hynny sydd wedi cael statws ffoadur, gyda chaniatâd amhenodol i aros a chaniatâd i dderbyn arian cyhoeddus o fewn y 12 mis diwethaf

  • mae’r hawlydd yn geisiwr lloches sy’n gymwys i wneud cais am fudd-daliadau DWP tra bydd eu cais yn cael ei brosesu

  • mae eu statws yn amharu ar eu gallu i reoli eu materion ariannol eu hunain yn effeithiol

2.3 Hanes o ôl-ddyledion rhent

  • nid oes gan yr hawlydd ôl-ddyledion ond mae’n bosibl eu bod wedi cael ôl-ddyledion yn ystod y 12 mis diwethaf ac wedi bod yn destun i, neu wedi cael bygwth gyda eu troi allan neu adfeddiannu

  • dylid ystyried y ffaith y gall fod gan yr hawlydd nawr y gallu ariannol ac y gallant reoli eu materion ariannol eu hunain yn effeithiol

2.4 Yn flaenorol yn ddigartref neu mewn llety dros dro neu lety â chymorth:

  • roedd yr hawlydd yn ddigartref (fel y diffiniwyd uchod) o fewn y 12 mis diwethaf ond maent nawr mewn llety addas

  • mae’r hawlydd wedi symud o lety dros dro neu lety â chymorth i lety annibynnol o fewn y 12 mis diwethaf

  • dylid ystyried y ffaith y gall fod gan yr hawlydd nawr y gallu ariannol ac y gallant reoli eu materion ariannol eu hunain yn effeithiol

2.5 Anabledd arall (fel anabledd corfforol neu nam ar y synhwyrau)

  • mae gan yr hawlydd anabledd/nam nad yw’r adran ‘cyflwr iechyd meddwl’ yn ei gwmpasu sy’n amharu ar eu gallu i reoli eu materion ariannol eu hunain yn effeithiol

2.6 Mae’r hawlydd newydd adael y carchar

  • mae’r hawlydd wedi gadael y carchar o fewn 3 mis i wneud eu cais am Gredyd Cynhwysol

  • dylid ei ystyried ond os bydd eu statws yn amharu ar eu gallu i reoli eu materion ariannol mewn perthynas â Chredyd Cynhwysol yn effeithiol – efallai mai cymorth cyllidebu yw’r ateb yn hytrach na APA

2.7 Mae’r hawlydd newydd adael yr ysbyty

  • mae’r hawlydd wedi gadael yr ysbyty o fewn 3 mis i wneud cais am Credyd Cynhwysol

  • dylid ei ystyried dim ond os bydd eu statws yn amharu ar eu gallu i reoli eu materion ariannol mewn perthynas â Chredyd Cynhwysol yn effeithiol – efallai mai cymorth cyllidebu yw’r ateb yn hytrach na APA

2.8 Newydd gael profedigaeth

  • mae’r hawlydd wedi colli aelod agos o’r teulu (fel y disgrifir yng nghanllawiau’r gronfa gymdeithasol) o fewn y tri mis diwethaf

  • dylid ei ystyried ond os bydd eu statws yn amharu ar eu gallu i reoli eu materion ariannol mewn perthynas â Chredyd Cynhwysol yn effeithiol – efallai mai cymorth cyllidebu yw’r ateb yn hytrach na APA 

2.9 Sgiliau iaith (y Gymraeg na’r Saesneg ddim yn cael eu siarad fel yr iaith gyntaf)

  • nid yw’r hawlydd yn siarad neu ddeall Cymraeg na Saesneg neu nid ydynt yn siarad neu ddeall Cymraeg na Saesneg fel ei iaith gyntaf

  • dylid ei ystyried dim ond os bydd eu statws yn amharu ar eu gallu i reoli eu materion ariannol mewn perthynas â Chredyd Cynhwysol yn effeithiol – efallai mai cymorth cyllidebu yw’r ateb yn hytrach na APA

2.10 Cyn-filwr

  • roedd yr hawlydd yn aelod o Luoedd EF ac maent wedi gadael o fewn y 18 mis diwethaf. Nid yw hyn yn cynnwys swyddi sifil gyda Lluoedd EF nac unrhyw sefydliadau gwarchod fel y Fyddin Diriogaethol

  • dylid ei ystyried ond os bydd eu statws yn amharu ar eu gallu i reoli eu materion ariannol mewn perthynas â Chredyd Cynhwysol yn effeithiol – efallai mai cymorth cyllidebu yw’r ateb yn hytrach na APA

2.11 Person sydd ‘Ddim mewn Addysg, Cyflogaeth neu Hyfforddiant’ (NEET)

  • mae’r hawlydd rhwng 18 a 24 oed a ddim mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant

  • dylid ei ystyried dim ond os bydd eu statws yn amharu ar eu gallu i reoli eu materion ariannol mewn perthynas â Chredyd Cynhwysol yn effeithiol – efallai mai cymorth cyllidebu yw’r ateb yn hytrach na APA

8. Atodiad B - enghreifftiau o astudiaethau achos

Mae’r enghreifftiau canlynol o astudiaethau achos yn dangos sut mae sawl un o’r ffactorau uchod yn berthnasol wrth ystyried APA.

8.1 Enghraifft 1

Mae Lucy yn 26 oed ac mae’n gwneud cais am Gredyd Cynhwysol ac ar ôl cael sgwrs gyda’i hanogwr gwaith, daw i’r amlwg bod ganddi broblem dibyniaeth ar gyffuriau. Mae’n defnyddio canabis yn rheolaidd ar hyn o bryd ac nid yw’n cael triniaeth (dywed mai dim ond defnyddwyr dosbarth A y gall ei gwasanaeth cymorth lleol eu trin ar hyn o bryd), ond mae am gael triniaeth a dywed na all roi’r gorau i ‘ddefnyddio’ hebddo.

Felly, caiff ei hystyried ar gyfer APA gan ei bod mewn perygl o wario cyfran fawr o’i hincwm Credyd Cynhwysol ar gyffuriau. Gwneir penderfyniad i dalu ei rhent yn uniongyrchol i’w landlord ac iddi gael ei thalu’n amlach nag unwaith y mis. Caiff ei chyfeirio am driniaeth. Caiff ei hamgylchiadau eu hadolygu ymhen 9 mis.

8.2 Enghraifft 2

Mae Gary yn 22 oed ac nid yw mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant ac mae’n gwneud cais am Gredyd Cynhwysol. Ar ôl sgwrs gyda’i reolwr achos, daw i’r amlwg fod ganddo ddyslecsia, a’i fod yn cael trafferth darllen: nid yw’n deall dogfennau ysgrifenedig sylfaenol ac mae’n cael trafferth rheoli ei arian.

Yn ystod y sgwrs, rydym yn canfod bod ganddo ddyledion hefyd. Er bod ganddo rhai cytundebau mewn lle i ad-dalu ei ôl-ddyledion, nid yw’n glynu wrth y telerau ac felly mae mewn perygl o wynebu camau pellach os bydd yn parhau i fethu â thalu.

Mae hefyd mewn dyled i aelodau’r teulu ac mae’n talu symiau bach mewn ffyrdd afreolus sydd yn llawer llai na’r hyn y cytunwyd arno. 

Mae’n parhau i fenthyca mwy o arian gan ffrindiau er mwyn ymdopi â thaliadau ei ddyledion. Mae hyn yn peri cryn bryder iddo.

Cytunir i dalu costau tai ei Gredyd Cynhwysol fel taliad wedi’i reoli. Caiff ei amgylchiadau eu hadolygu ymhen 6 mis.

8.3 Enghraifft 3

Mae Naveed yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol ar ôl cael ei ryddhau o’r ysbyty ar ôl cyfnod hir yno.

Er bod ei iechyd yn wael mae bellach yn gwella. Yn ystod ei gyfnod yn yr ysbyty aeth i rywfaint o ddyled ac nid yw ei Saesneg yn dda iawn.

Yn ystod y cyfweliad â Naveed a’i weithiwr iechyd, daw i’r amlwg ei fod yn ystyried bod ganddo allu ariannol, mae’n egluro bod ganddo gyfrif banc gweithredol gyda chyfleusterau debyd uniongyrchol, ond y byddai’n croesawu cael cymorth i roi trefn ar y dyledion sydd ganddo.

Felly, nid ystyrir bod APA yn briodol ac mae’n cael ei Gredyd Cynhwysol drwy’r taliad misol sengl.

8.4 Enghraifft 4

Mae Susan yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol ac yn ystod ei chyfarfod gyda’i hanogwr gwaith daw i’r amlwg bod ganddi dros 2 fis o ôl-ddyledion rhent. Mae’r anogwr gwaith yn penderfynu bod angen taliad wedi’i reoli o ddechrau’r cais.

Mae Susan yn croesawu hyn oherwydd bydd yn ei helpu i reoli beth mae’n ei thalu allan tra mae hi’n chwilio am swydd arall.

Mae’r anogwr gwaith yn penderfynu bydd ei APA yn cael ei adolygu mewn 12 mis.