Canllawiau

Diogelwch trosiannol os ydych yn derbyn llythyr Hysbysiad Trosglwyddo

Cymorth a chefnogaeth ariannol pan fyddwch yn symud i Gredyd Cynhwysol o'ch budd-daliadau neu gredydau treth cyfredol am y tro cyntaf.

Applies to England, Scotland and Wales

Dim ond ar gyfer pobl sydd wedi derbyn Hysbysiad Trosglwyddo mae’r canllaw hwn 

Darganfyddwch am Gredyd Cynhwysol os ydych yn derbyn llythyr Hysbysiad Trosglwyddo.  

I bawb arall ewch i’r canllawiau Credyd Cynhwysol

Beth yw diogelwch trosiannol 

Mae diogelwch trosiannol yn helpu gyda’ch symud i Gredyd Cynhwysol.   

Os ydych yn gymwys, mae’r diogelwch hwn yn golygu y gallwch:   

  • gael taliad diogelwch trosiannol wedi’i ychwanegu at eich hawl Credyd Cynhwysol os ydych yn derbyn mwy o’ch credydau treth neu fudd-daliadau blaenorol   

  • gwneud cais am Gredyd Cynhwysol a chael arian, cynilion a buddsoddiadau dros £16,000 am 12 cyfnod asesu, os ydych yn cael credydau treth   

  • gwneud cais am Gredyd Cynhwysol os ydych yn fyfyriwr amser llawn mewn addysg uwch nes i chi neu’ch partner orffen y cwrs 

Darganfyddwch am bobl ar gredydau treth a myfyrwyr sy’n symud i Gredyd Cynhwysol

Cymhwyster   

Nid oes angen i chi wneud cais am ddiogelwch trosiannol.   

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn anfon llythyr atoch o’r enw Hysbysiad Trosglwyddo yn gofyn i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol.   

I fod yn gymwys i gael diogelwch trosiannol, rhaid i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol erbyn y dyddiad cau ar eich llythyr Hysbysiad Trosglwyddo.%. 

Os na allwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol erbyn y dyddiad cau a roddir ar eich llythyr, dylech gysylltu â’r llinell gymorth Hysbysiad Trosglwyddo i Gredyd Cynhwysol cyn gynted â phosibl.

Dim ond os oes gennych reswm da y gallwn roi mwy o amser i chi wneud cais. Mae’n rhaid i chi ofyn am hyn cyn y dyddiad cau ar eich llythyr.

Darganfyddwch sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Newidiadau i’ch amgylchiadau cyn i chi wneud cais   

Os oes gennych newid mewn amgylchiadau cyn i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol, efallai na fydd gennych hawl i ddiogelwch trosiannol. 

Darganfyddwch am eich cyfrifoldebau a rhoi gwybod am newid yn eich amgylchiadau

Taliadau diogelwch trosiannol 

Mae taliadau diogelwch trosiannol yn swm ychwanegol i’ch helpu gyda’ch symud i Gredyd Cynhwysol. Bydd y taliad yn gwneud i fyny’r gwahaniaeth os yw eich hawl i Gredyd Cynhwysol yn llai na’ch credydau treth neu fudd-daliadau blaenorol. 

Enghraifft  

Mae gan Jane hawl i £800 ar ei chredydau treth neu fudd-daliadau presennol.  

Ei hawl i Gredyd Cynhwysol yw £600.   

Mae hyn yn golygu y bydd swm diogelwch trosiannol Jane yn £200.   

Mae cyfanswm ei hawl i Gredyd Cynhwysol nawr yn £800. 

Am faint o amser mae taliadau diogelwch trosiannol yn parhau   

Nid yw taliadau diogelwch trosiannol yn barhaol. Gallant leihau neu ddod i ben os bydd eich hawl i Gredyd Cynhwysol yn cynyddu.  

Os ydych yn gymwys, bydd eich taliadau diogelwch trosiannol yn parhau nes y bydd: 

  • eich hawl i Gredyd Cynhwysol yr un fath neu’n fwy na’ch credydau treth neu fudd-daliadau blaenorol   

  • rydych yn cael newid sylweddol mewn amgylchiadau  

Newidiadau a all leihau eich taliadau diogelwch trosiannol  

Gall eich taliadau diogelwch trosiannol leihau dros amser yn dilyn newid yn eich amgylchiadau. Gall newidiadau gynnwys: 

  • cael plentyn   

  • dechrau gofalu am blentyn neu berson anabl   

  • cynnydd mewn costau tai (rhent)   

  • cyflwr iechyd yn gwaethygu   

  • newidiadau i gyfraddau budd-daliadau’r llywodraeth 

Mae hyn oherwydd bod y newidiadau hyn yn debygol o gynyddu swm eich Credyd Cynhwysol. 

Enghraifft  

Taliad Credyd Cynhwysol presennol Jane yw £800, sy’n cynnwys swm diogelwch trosiannol o £200. 

Mae Jane yn cael ail blentyn wedi’i ychwanegu at ei chais. Mae hyn yn cynyddu ei swm Credyd Cynhwysol o £50.   

Mae hyn yn golygu y bydd swm diogelwch trosiannol Jane yn gostwng £50.  

Fodd bynnag, mae cyfanswm ei thaliad Credyd Cynhwysol yn dal yn £800. 

Sut mae eich hawl i Gredyd Cynhwysol yn effeithio ar eich taliadau diogelwch trosiannol 

Os bydd eich hawl i Gredyd Cynhwysol yn cynyddu, bydd eich taliad diogelwch trosiannol yn gostwng yr un swm. Costau gofal plant yw’r unig eithriad. 

Gall cynnydd pellach i’ch swm o Gredyd Cynhwysol ddod â’ch taliadau diogelwch trosiannol i ben yn y pen draw. Bydd hyn ond yn digwydd os yw’ch hawl yr un fath neu’n fwy ar Gredyd Cynhwysol. 

Newidiadau sy’n dod â diogelwch trosiannol i ben   

Bydd newidiadau sylweddol i’ch amgylchiadau yn dod â’ch diogelwch trosiannol i ben. Mae’r canlynol yn cael eu hystyried yn newidiadau sylweddol:  

  • partner yn symud i mewn i’ch cartref   

  • partner gwahanol yn symud i mewn i’ch cartref   

  • partner yn gadael eich cartref   

  • mae eich enillion yn gostwng o dan swm y cytunwyd arno am 3 mis yn olynol   

  • mae eich cais Credyd Cynhwysol yn dod i ben  

Cymorth 

Llinell gymorth Hysbysiad Trosglwyddo i Gredyd Cynhwysol  

Ffôn: 0800 169 0328    

Relay UK (os na allwch glywed na siarad ar y ffôn): 18001 yna 0800 169 0328  

Gwasanaeth video relay ar gyfer defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL). Gwyliwch y fideo i ddarganfod sut i ddefnyddio’r gwasanaeth Video relay ar ffôn symudol neu dabled 

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm   

Mae rhifau ffôn 0800 yn rhad ac am ddim i’w ffonio o ffonau symudol a llinellau daear. 

Help i Hawlio 

Gallwch hefyd gael cefnogaeth am ddim gan Wasanaeth Help i Hawlio Cyngor ar Bopeth

Cymorth ariannol eraill

Os ydych mewn anawsterau ariannol, gallwch gael help a chyngor gan y llywodraeth, cynghorau lleol a sefydliadau eraill, fel advicelocal.uk.

Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol, efallai y byddwch hefyd yn gallu cael cymorth ariannol arall yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Cyhoeddwyd ar 1 December 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 25 March 2024 + show all updates
  1. Added: If you cannot claim Universal Credit by the deadline date, you should contact the Universal Credit Migration Notice helpline as soon as possible. We can only give you more time to make a claim if you have a good reason. You must request this before the deadline date on your letter.

  2. Added links to: how to apply for Universal Credit and other financial support you could be eligible for if you claim Universal Credit.

  3. First published.