Canllawiau

Credyd Cynhwysol os ydych o oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac yn derbyn llythyr Hysbysiad Trosglwyddo

Mae angen i chi symud i Gredyd Cynhwysol os ydych yn derbyn llythyr Hysbysiad Trosglwyddo ac rydych o oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gan fod Credydau Treth wedi dod i ben.

Yn berthnasol i Gymru, Loegr a Scotland

Dylech ond darllen y canllaw hwn os ydych yn derbyn llythyr Hysbysiad Trosglwyddo

I barhau i gael cymorth ariannol, mae’n rhaid i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol erbyn eich terfyn amser.

Os nad ydych yn derbyn llythyr Hysbysiad Trosglwyddo, ewch i’r canllaw Credyd Cynhwysol.

Os nad ydych chi neu’ch partner o oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac yn derbyn llythyr Hysbysiad Trosglwyddo  

Mae yna wahanol reolau cymhwyster a chanllawiau os ydych chi’n cael llythyr Hysbysiad Trosglwyddo a’ch bod chi:  

Budd-daliadau sydd wedi neu sy’n dod i ben

Mae Credyd Treth Gwaith a Chredyd Treth Plant (a elwir yn ‘gredydau treth’) wedi dod i ben ac wedi cael eu disodli gan Gredyd Cynhwysol.

Mae Budd-dal Tai hefyd yn dod i ben ac yn cael ei ddisodli gan Gredyd Cynhywsol (ac eithrio mewn rhai amgylchiadau).

Bydd Budd-dal Tai yn dod i ben hyd yn oed os penderfynwch beidio â gwneud cais am Gredyd Cynhwysol.% 

Efallai y byddwch yn gymwys i gael Budd-dal Tai

Bydd Budd-dal Tai yn dod i ben, ac eithrio yn yr amgylchiadau canlynol:

Rydych mewn llety â chymorth neu lety dros dro 

 Os ydych yn byw mewn llety â chymorth neu lety dros dro, bydd eich Budd-dal Tai yn parhau i gael ei dalu gan eich cyngor lleol. 

Os penderfynwch beidio â gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, byddwch yn parhau i gael Budd-dal Tai. 

Gan eich bod yn cael Budd-dal Tai, ni allwch gael y swm ychwanegol o Gredyd Cynhwysol i helpu gyda chostau tai. 

Os ydych yn cael Budd-dal Tai ac nad ydych yn siŵr a ydych yn byw mewn llety â chymorth neu lety dros dro, siaradwch gyda eich cyngor lleol

Ail hawlio Budd-dal Tai

Bydd eich Budd-dal Tai yn dod i ben 2 wythnos ar ôl eich dyddiad terfyn amser. Fodd bynnag, efallai y byddwch yn gymwys i ail hawlio Budd-dal Tai o fewn 3 mis os:

  • mae eich Budd-dal Tai yn cael ei stopio ac nad ydych yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol

  • rydych yn gwneud cais cyn eich dyddiad terfyn amser ond nid oes gennych hawl i Gredyd Cynhwysol

  • rydych yn stopio derbyn Credyd Cynhwysol. 

Gallwch gael cyngor gan eich cyngor lleol am ôl-ddyddio eich cais am Fudd-dal Tai. Dim ond am hyd at 3 mis y gellir ôl-ddyddio eich cais. 

Darganfyddwch fwy am Gymhwyster am Fudd-dal Tai.

Pryd fydd angen i chi wneud cais

Er mwyn parhau i gael cymorth ariannol, mae’n rhaid i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol erbyn eich terfyn amser.

Cymhwysedd

Gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol hyd yn oed os ydych yn gweithio neu os oes gennych bensiwn i helpu gyda’ch costau byw.  

Gan eich bod wedi derbyn llythyr Hysbysiad Trosglwyddo mae rhai o’r rheolau arferol i wneud cais yn wahanol. Mae hyn yn rhan o ‘ddiogelwch trosiannol’.

I gael diogelwch trosiannol mae’n rhaid i chi wneud cais erbyn eich terfyn amser.

Ni fyddwch yn cael diogelwch trosiannol os ydych yn gwneud cais cyn i chi gael llythyr Hysbysiad Trosglwyddo.

Os oes gennych newid mewn amgylchiadau, fel rhoi’r gorau i weithio cyn i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol, efallai na fyddwch yn gymwys i gael diogelwch trosiannol

Os oeddech yn cael credydau treth

Gallwch wneud cais hyd yn oed os mae gennych arian, cynilion a buddsoddiadau dros £16,000.

Ni fyddwch yn gymwys am Gredyd Cynhwysol os oes gennych dal fwy na £16,000 mewn arian, cynilion a buddsoddiadau ar ôl 12 cyfnod asesu  Mae pob cyfnod asesu yn fis.

Gwneud cais am Gredyd Pensiwn yn hytrach na Chredyd Cynhwysol

Gallwch ddewis gwneud cais am Gredyd Pensiwn yn hytrach na Chredyd Cynhwysol. Os bydd eich cais am Gredyd Pensiwn yn cael ei dderbyn:

  • ni allwch yna wneud cais am Gredyd Cynhwysol

  • ni fyddwch yn cael diogelwch trosiannol Credyd Pensiwn

  • efallai y byddwch yn derbyn llai o gymorth ariannol.

Os byddwch yn tynnu’ch cais am Gredyd Pensiwn yn ôl cyn iddo gael ei dderbyn ac yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol erbyn eich terfyn amser, byddwch yn dal yn gymwys i gael diogelwch trosiannol.

Darganfyddwch fwy am Gredyd Pensiwn. Gallwch hefyd ddefnyddio’r Cyfrifiannell Credyd Pensiwn i weithio allan faint y gallech ei gael.

Beth fyddwch chi’n ei gael

Ar Gredyd Cynhwysol, bydd gan y rhan fwyaf o bobl hawl i’r un swm a gawsant o’u budd-daliadau blaenorol, neu fwy.

Mae eich taliad Credyd Cynhwysol yn cynnwys lwfans safonol ac unrhyw symiau ychwanegol sy’n berthnasol i chi, er enghraifft os:

  • mae gennych blant

  • rydych angen help i dalu eich rhent

  • mae gennych anabledd neu gyflwr iechyd sy’n eich atal rhag gweithio

Anableddau neu gyflyrau iechyd

Os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd sy’n golygu eich bod yn cael budd-dal anabledd, efallai y bydd gennych hawl i swm ychwanegol o Gredyd Cynhwysol. Ni fydd angen i chi ddarparu nodyn ffitrwydd na chael Asesiad Gallu i Weithio (WCA).

Os nad ydych yn cael budd-dal anabledd, bydd angen i chi ddarparu nodyn ffitrwydd neu fod â WCA i fod â hawl i swm ychwanegol o Gredyd Cynhwysol.

Darganfyddwch fwy am beth fyddwch ei gael.

Taliadau ychwanegol diogelwch trosiannol

Os yw’r swm y roedd gennych hawl iddo ar gredydau treth yn fwy nag y byddwch yn ei gael ar Gredyd Cynhwysol, mae ychwanegiad ar gael. 

Nid oes angen i chi wneud cais am ddiogelwch trosiannol. Bydd yn cael ei dalu i chi yn awtomatig os ydych wedi cael llythyr Hysbysiad Trosglwyddo ac yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol erbyn eich terfyn amser.

Cyfrifianellau budd-daliadau

Gallwch ddefnyddio gyfrifiannell budd-daliadau annibynnol am ddim a dienw i amcangyfrif faint o Gredyd Cynhwysol y gallech ei gael.

Mae cyfrifianellau budd-daliadau yn rhoi amcangyfrifon, felly efallai na fyddant yn gywir.

Mae cyfrifianellau entitledto a Policy in Practice Better Off yn:

  • cyfrifo diogelwch trosiannol (taliadau atodol) sydd ar gael

  • cymryd i ystyriaeth os ydych o oedran Pensiwn y Wladwriaeth

  • gallu cael eu defnyddio os ydych yn derbyn credydau treth a bod gennych arian, cynilion a buddsoddiadau o £16,000 neu fwy

Nid yw cyfrifiadau yn cynnwys unrhyw ddidyniadau y gellir eu cymryd o’ch swm Credyd Cynhwysol.

Nid yw DWP yn gyfrifol am wybodaeth a roddir gan y cyfrifianellau.

Tynnu’r cap ar fudd-daliadau

Mae’r cap ar fudd-daliadau fel arfer yn cael ei gymhwyso i Gredyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill. Mae hyn yn derfyn ar gyfanswm y budd-dal y gallwch ei gael. Fodd bynnag, ni fydd y cap ar fudd-daliadau yn berthnasol os:

  • rydych o oedran Pensiwn y Wladwriaeth

  • rydych yn dal i weithio

  • rydych yn derbyn Hysbysiad Trosglwyddo

Sut mae eich Credyd Cynhwysol yn cael ei gyfrifo

Cyfrifir Credyd Cynhwysol yn seiliedig ar eich amgylchiadau bob mis. Gelwir y rhain yn ‘gyfnodau asesu’. Mae hyn yn wahanol i gredydau treth oedd yn cael eu cyfrifo’n flynyddol.

Gall newidiadau yn eich amgylchiadau effeithio ar faint rydych yn cael eich talu am y cyfnod asesu cyfan - nid o’r dyddiad y byddwch yn rhoi gwybod amdanynt.

Mae amgylchiadau a allai effeithio ar y swm a gewch yn cynnwys: 

  • newidiadau cyn i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol

  • newidiadau ar ôl i chi wneud eich cais  

  • y wybodaeth sydd gennym sy’n wahanol i’r hyn rydym yn ei wybod o’ch budd-dal blaenorol

Enillion

Bydd faint o Gredyd Cynhwysol a gewch yn dibynnu ar eich enillion. Mae hyn yn cynnwys incwm o

Mae’r ffordd y mae Credyd Cynhwysol yn cael ei weithio allan yn wahanol i sut oedd credydau treth.  

Darganfyddwch sut mae eich cyflog yn effeithio eich taliadau.

Didyniadau

Gellir cymryd arian o’ch taliadau Credyd Cynhwysol i dalu am bethau fel:

  • dirwyon llys

  • ôl-ddyledion rhent

  • gordaliadau neu ôl-ddyledion o gredydau treth, Treth Cyngor, Budd-dal Tai, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) a Lwfans Ceisio Gwaith (JSA)

  • dyledion cyfleustodau, fel trydan, nwy a dŵr

Ni ellir didynnu arian o bethau fel eich lwfans plant, gofal plant a chostau tai.

Darganfyddwch fwy am arian sy’n cael ei dynnu o’ch taliad Credyd Cynhwysol.

Os ydych yn hawlio pensiwn 

Gallwch barhau i wneud cais am Gredyd Cynhwysol os ydych yn derbyn eich pensiwn. Fodd bynnag, bydd swm y pensiwn a gewch yn cael ei ddidynnu o’ch swm Credyd Cynhwysol a’i drin fel incwm.

Os ydych wedi oedi (‘gohirio’) eich Pensiwn y Wladwriaeth 

Os ydych wedi oedi cymryd eich pensiwn cyn i chi dderbyn eich Hysbysiad Trosglwyddo, ni fyddwn yn trin eich pensiwn gohiriedig fel incwm am 12 cyfnod asesu.

Os byddwch wedyn yn penderfynu cymryd eich pensiwn o fewn y cyfnod hwn, caiff ei drin fel incwm.

Ar ôl 12 cyfnod asesu, mae swm y pensiwn y mae gennych hawl iddo yn cael ei gyfrif fel incwm, hyd yn oed os ydych wedi penderfynu peidio â’i gymryd. Gelwir hyn yn incwm ‘tybiannol’. Gall hyn effeithio ar faint o Gredyd Cynhwysol a gewch.

Unwaith y byddwch yn symud i Gredyd Cynhwysol, ni fyddwch yn gallu parhau i gronni unrhyw: 

  • Bensiwn y Wladwriaeth ychwanegol

  • cyfandaliad Pensiwn y Wladwriaeth (os cyrhaeddoch oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016)

Beth fyddwch yn ei gael os ydych yn byw gyda phartner

Bydd faint y gallwch ei gael yn dibynnu ar incwm a chynilion eich partner, yn ogystal â’ch un chi.

Sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol

Gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol ar-lein. Os ydych yn byw yng Nghymru, gallwch hefyd wneud cais yn y Gymraeg.

Mae angen i chi greu cyfrif i wneud cais. Mae’n rhaid i chi gwblhau eich cais o fewn 28 diwrnod o greu eich cyfrif neu bydd yn rhaid i chi ddechrau eto.

Os na allwch wneud cais ar-lein, ffoniwch linell gymorth Hysbysiad Trosglwyddo i Gredyd Cynhwysol.

Cyplau sy’n byw gyda’i gilydd

Mae Credyd Cynhwysol yn cyfrif 2 berson fel cwpl os ydynt yn byw yn yr un cartref ac yn:

  • briod â’i gilydd 

  • partneriaid sifil ei gilydd 

  • byw gyda’i gilydd fel pe baent yn briod 

Os ydych yn byw gyda’ch partner mae’n rhaid i chi wneud cais ar y cyd, hyd yn oed os nad yw’ch partner yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol. Ni allwch wneud cais ar eich pen eich hun.

Mae’n rhaid i’r ddau ohonoch greu cyfrifon Credyd Cynhwysol ar-lein. Bydd y person cyntaf i greu eu cyfrif yn derbyn cod cysylltu partner. Mae angen i chi roi’r cod hwn i’ch partner ei ddefnyddio wrth greu eu cyfrif ar-lein. Mae hyn yn cysylltu’r cyfrifon gyda’i gilydd i wneud eich cyfrif yn un ar y cyd.

Unwaith y byddwch wedi creu eich cyfrif gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Cyplau sy’n byw ar wahân

Os ydych mewn cwpl sy’n byw ar wahân ac mae’r ddau ohonoch yn cael Hysbysiadau Trosglwyddo, bydd angen i’r ddau ohonoch wneud ceisiadau sengl ar wahân.

Os ydych yn symud o gredydau treth, bydd gennych hawl i wneud cais hyd yn oed os oes gennych arian, cynilion a buddsoddiadau o fwy na £16,000.

Ni fyddwch yn gymwys i gael y taliad ychwanegol diogelwch trosiannol.

Rhywun yn helpu gyda’ch cais

I ddarganfod sut all cynrychiolydd neu benodai sy’n gweithredu ar eich rhan eich helpu chi, ewch i Credyd Cynhwysol: caniatâd a datgelu gwybodaeth. 

Os oes gennych benodai sy’n gyfrifol am wneud a chynnal eich ceisiadau budd-dal, bydd eich llythyr Hysbysiad Trosglwyddo yn cael ei anfon yn uniongyrchol iddynt hwy. Bydd angen iddynt wneud y cais Credyd Cynhwysol ar eich rhan.

Beth fyddwch ei angen i wneud cais

I wneud cais ar-lein, byddwch angen:

  • manylion eich cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd

  • cyfeiriad e-bost

  • mynediad i ffôn

I brofi pwy ydych chi, byddwch angen rhai dogfennau fel eich:

  • trwydded yrru

  • pasbort

  • cerdyn debyd neu gredyd

  • slip cyflog neu P60

Mae profi pwy ydych chi ar-lein yn ffordd ddiogel o gadarnhau pwy ydych chi. Rhaid i chi brofi pwy ydych cyn y gallwch gwblhau gweddill eich cais Credyd Cynhwysol.

I gwblhau eich cais bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth am:

  • eich tai, er enghraifft faint o rent rydych yn ei dalu

  • eich enillion, er enghraifft slipiau cyflog

  • unrhyw anabledd neu gyflwr iechyd sy’n effeithio ar eich gwaith

  • faint rydych yn ei dalu am ofal plant os ydych eisiau help gyda chostau gofal plant

  • eich cynilion ac unrhyw fuddsoddiadau, fel cyfranddaliadau neu eiddo rydych yn ei rentu allan

Efallai y byddwch angen apwyntiad gyda’r tîm Credyd Cynhwysol os:

  • maent angen mwy o wybodaeth

  • ni allwch ddilysu eich hunaniaeth ar-lein

Byddwch yn cael gwybod a fydd yr apwyntiad hwn mewn canolfan gwaith neu dros y ffôn.

Gwneud cais am Gredyd Cynhwysol ar-lein

Camau i gael Credyd Cynhwysol

  1. Sefydlu cyfrif Credyd Cynhwysol Ar-lein.

  2. Cwblhau a chyflwyno cais ar-lein.

  3. Profi pwy ydych chi.

  4. Darparu dogfennau a thystiolaeth i gefnogi’ch cais.

  5. Cytuno ar y gweithgareddau yn eich ymrwymiad hawlydd.

Pan fyddwch yn profi pwy ydych byddwn yn gwybod eich bod wedi derbyn llythyr Hysbysiad Trosglwyddo a bydd eich gwybodaeth yn cael ei chysylltu’n awtomatig.

Dechrau nawr

Os ydych angen help i wneud cais, gallwch gael cymorth am ddim gan wasanaeth Help i Hawlio Cyngor ar Bopeth:

Sut rydych yn cael eich talu

Caiff Credyd Cynhwysol ei dalu unwaith y mis, fel arfer i’ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd.

Os nad ydych yn gallu agor cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd, ffoniwch y llinell gymorth Hysbysiad Trosglwyddo i Gredyd Cynhwysol i drefnu ffordd wahanol o gael eich talu.

Gall eich taliad gynnwys swm ar gyfer costau tai, y bydd angen i chi ei dalu i’ch landlord fel arfer. Os oedd costau tai yn cael eu talu’n uniongyrchol i’ch landlord, bydd angen i chi drafod y newid trefniadau talu gyda nhw.

Taliadau terfynol ar gyfer budd-daliadau presennol

Mae dyddiad eich taliadau terfynol o’ch budd-daliadau presennol yn dibynnu ar ba un bynnag sydd gyntaf:

  • y terfyn amser ar eich llythyr

  • pa bryd y byddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol

Os oes unrhyw daliadau pellach yn ddyledus, byddant yn cael eu gwneud yn fuan ar ôl i’ch hawl ddod i ben.

Symud o gredydau treth

Mae credydau treth wedi dod i ben a daeth taliadau i ben ar 5 Ebrill 2025.

Symud o Fudd-dal Tai

Os ydych wedi gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, byddwch yn parhau i gael eich Budd-dal Tai wedi’i dalu am 2 wythnos arall. Mae’n rhaid i chi ddal i fod yn gymwys am eich Budd-dal Tai i gael y taliadau ychwanegol. Ni fydd angen i chi ad-dalu’r taliadau ychwanegol hyn ac ni fyddant yn effeithio ar y Credyd Cynhwysol y gallech ei gael.

Os na fyddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol erbyn eich terfyn amser, eich diwrnod olaf o hawl i Fudd-dal Tai fydd 2 wythnos ar ôl y terfyn amser.

Help wrth aros am eich taliad cyntaf

Mae eich cais yn dechrau ar y diwrnod y byddwch yn ei gyflwyno yn eich cyfrif, ond fel arfer mae’n cymryd tua 5 wythnos i gael eich taliad cyntaf.

Os ydych angen help gyda’ch costau byw wrth i chi aros am eich taliad cyntaf, gallwch wneud cais am daliad ymlaen llaw o fewn eich cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein.

Bydd angen i chi ad-dalu eich taliadau ymlaen llaw mewn rhandaliadau o’ch taliadau Credyd Cynhwysol yn y dyfodol.

Darganfyddwch fwy am sut rydych yn cael eich talu gan gynnwys dyddiadau talu, os ydych yn byw gyda phartner, a threfniadau talu amgen.

Eich cyfrifoldebau

Bydd eich cyfrifoldebau yn dibynnu ar eich amgylchiadau.   

Pan fyddwch wedi gwneud eich cais am Gredyd Cynhwysol bydd angen i chi reoli eich cyllid eich hun a chynnal eich cais ar-lein. Mae hyn yn cynnwys:

  • diweddaru eich cyfrif

-  rheoli eich rhent eich hun a chostau tai eraill, oni bai bod gennych drefniant talu arall mewn lle

  • rhoi gwybod am newidiadau mewn amgylchiadau

  • os ydych yn hunangyflogedig, bydd angen i chi roi gwybod am eich enillion bob mis

I gael taliadau Credyd Cynhwysol, bydd angen i chi dderbyn cytundeb o’r enw ‘ymrwymiad hawlydd’. Bydd yr hyn y bydd angen i chi ymrwymo iddo yn dibynnu ar eich oedran a’ch amgylchiadau. Darganfyddwch fwy am ymrwymiadau hawlydd.

Os ydych yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig, ni fydd disgwyl i chi chwilio am waith yn ystod eich 12 cyfnod asesu cyntaf.

Newidiadau mewn amgylchiadau mae’n rhaid i chi ddweud wrthym amdanynt

Mae’n rhaid i chi ddweud wrthym am newidiadau i’ch amgylchiadau fel eich bod yn parhau i gael y swm cywir bob mis.

Gallai newidiadau gynnwys:

  • newid eich manylion banc

  • newidiadau i waith ac arian, fel enillion, incwm o bensiwn, swyddi, rhent a chynilion

  • newid i’ch iechyd

  • newidiadau i’ch cartref, gan gynnwys plant, gofal, partner a statws mewnfudo

Darganfyddwch fwy am newidiadau mewn amgylchiadau y mae’n rhaid i chi ddweud wrthym amdanynt.

Gallech gael eich cymryd i’r llys neu orfod talu cosb os ydych yn fwriadol yn rhoi gwybodaeth anghywir neu os nad ydych yn rhoi gwybod am newid yn eich amgylchiadau.

Amodau sy’n gysylltiedig â gwaith ac asesiadau

Gallwch barhau i weithio heb unrhyw ‘amodau gwaith’ am 12 cyfnod assesu.

Mae hyn yn golygu ni fydd rhaid i chi:  

  • gynyddu eich oriau

  • dod o hyd i waith ychwanegol  

  • mynychu cyfarfodydd yn gysylltiedig â gwaith yn eich canolfan gwaith lleol

Fodd bynnag, os ydych yn hunangyflogedig ac yn symud i Gredyd Cynhwysol bydd angen i chi ddatgan eich enillion bob mis.

Ar ôl 12 cyfnod asesu

Os byddwch yn penderfynu aros ar Gredyd Cynhwysol ar ôl 12 cyfnod asesu a pharhau i weithio, bydd isafswm trothwy enillion (MET) yn berthnasol i’ch enillion.

O’r pwynt hwn, byddwn yn edrych ar eich enillion am y 3 mis diwethaf i weld a wnaethant ostwng o dan y MET. Ar unrhyw adeg yn ystod eich cais, os bydd eich enillion yn gostwng o dan y MET am 3 mis yn olynol, bydd eich cais Credyd Cynhwysol yn cael ei gau. 

Cymorth

Llinell gymorth Hysbysiad Trosglwyddo i Gredyd Cynhwysol 

Ffôn: 0800 169 0328  

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm

Mae rhifau ffôn 0800 yn rhad ac am ddim i’w ffonio o ffonau symudol a llinellau daear.

Os na allwch siarad neu glywed dros y ffôn

Defnyddiwch ein gwasanaeth Relay UK i wneud galwad am ddim, a gefnogir gan destun i’r Llinell Gymorth Hysbysiad Trosglwyddo Credyd Cynhwysol. Deialwch 18001 ac yna 0800 169 0328.

Os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL)

Defnyddiwch ein gwasanaeth ‘video relay’ i wneud galwad wedi’i ddehongli gan BSL i’r Llinell Gymorth Hysbysiad Trosglwyddo.

Os ydych ar gyfrifiadur, ewch i’r gwasanaeth ‘video relay’

  1. Dewiswch Company to contact: ‘DWP (DA Languages)’.

  2. Dewiswch Department: ‘Universal Credit - if you have a Migration Notice letter’.

Os ydych ar ffôn symudol neu dabled, defnyddiwch yr ap InterpretersLive!

O’r ap:

  1. Dewiswch ‘Directory’, chwiliwch am ‘Universal Credit’

  2. Dewiswch ‘Universal Credit - I have a Migration Notice letter’

  3. Dewiswch ‘Call Now’, dewiswch Company to contact: ‘DWP (DA Languages)’

  4. Dewiswch Department: ‘Universal Credit - if you have a Migration Notice letter’

  5. Dewiswch ‘Connect Now’.

Os ydych angen help, edrychwch ar fideo YouTube

Help a chymorth ariannol arall

Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol, gallech fod yn gymwys i gael budd-daliadau neu gymorth ariannol eraill. Dylech wirio beth allwch chi ei gael

Efallai y byddwch yn gallu cael cymorth gwahanol yn yr Alban.

Os ydych mewn anawsterau ariannol, gallwch gael help a chyngor gan y llywodraeth, cynghorau lleol, a sefydliadau eraill, fel advicelocal.uk.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 29 Awst 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 Ebrill 2025 show all updates
  1. Page updated to reflect tax credits ending on 5 April.

  2. Confirmed that you may be may be eligible to reclaim Housing Benefit within 3 months, if your Housing Benefit is stopped and you do not claim Universal Credit.

  3. Confirmed that you may only be able to reclaim Housing Benefit within 3 months of your Universal Credit stopping, or finding out you're ineligible for Universal Credit.

  4. Added details of the Migration Notice Helpline video relay service for British Sign Language users. Added information about appointees in the ‘How to claim Universal Credit’ section. Added 'If you live in Wales, you can also claim in Welsh.' If you live in temporary or supported housing, your Housing Benefit will continue to be paid by your local council, even if you decide not to claim Universal Credit.

  5. Added a link to the new page on how money, savings and investments affect Universal Credit.

  6. Added translation

  7. Added guidance on how to claim and what transitional protection you're eligible for, if you're in a couple who live apart and you both get Migration Notice letters.

  8. Content added to confirm that if you're state pension age and getting a disability benefit, you will not need to provide a fit note or have a Work Capability Assessment (WCA) when you move to Universal Credit.

  9. First published.

Argraffu'r dudalen hon