Canllawiau

Cyfraddau a throthwyon ar gyf-er cyflogwyr am 2024 i 2025

Defnyddiwch y cyfraddau a’r trothwyon hyn pan fyddwch yn gweithredu’ch cyflogres neu’n darparu treuliau a buddiannau i’ch cyflogeion.

Oni nodir yn wahanol, mae’r ffigurau canlynol yn berthnasol rhwng 6 Ebrill 2024 a 5 Ebrill 2025.

Treth TWE a chyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1

Fel arfer rydych yn gweithredu TWE fel rhan o’ch cyflogres (yn Saesneg) er mwyn i CThEF allu casglu Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol oddi wrth eich cyflogeion.

Bydd eich meddalwedd gyflogres yn cyfrifo faint o dreth ac Yswiriant Gwladol i’w didynnu oddi wrth gyflog eich cyflogeion. Os byddwch yn dewis rhedeg y gyflogres eich hun, mae angen i chi ddod o hyd i feddalwedd gyflogres (yn Saesneg) i wneud hyn.

Trothwyon, cyfraddau a chodau treth

Mae swm y Dreth Incwm a ddidynnwch o’ch cyflogeion yn dibynnu ar eu cod treth a faint o’u hincwm trethadwy sy’n uwch na’u Lwfans Personol.

Lloegr a Gogledd Iwerddon

Y lwfans personol safonol i gyflogeion ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025 yw:

  • £242 yr wythnos
  • £1,048 y mis
  • £12,570 y flwyddyn
Cyfanswm TWE Cyfradd dreth Enillion blynyddol y mae’r gyfradd yn berthnasol iddynt (uwchben y trothwy TWE)
Cyfradd treth sylfaenol 20% Hyd at £37,700
Cyfradd treth uwch 40% O £37,701 i £125,140
Cyfradd treth ychwanegol 45% Mwy na £125,140

Yr Alban

Y lwfans personol safonol i gyflogeion ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025 yw:

  • £242 yr wythnos
  • £1,048 y mis
  • £12,570 y flwyddyn
Cyfanswm TWE Cyfradd dreth Enillion blynyddol y mae’r gyfradd yn gymwys iddynt (uwchlaw’r trothwy TWE)
Cyfradd dreth cychwyn 19% Hyd at £2,306
Cyfradd treth sylfaenol 20% O £2,307 i £13,991
Cyfradd dreth ganolradd 21% O £13,992 i £31,092
Cyfradd treth uwch 42% O £31,093 i £62,430
Cyfradd dreth uwch 45% O £62,431 i £125,140
Cyfradd dreth uchaf 48% Mwy na £125,140

Cymru

Y lwfans personol safonol i gyflogeion ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025 yw:

  • £242 yr wythnos
  • £1,048 y mis
  • £12,570 y flwyddyn
Cyfanswm TWE Cyfradd dreth Enillion blynyddol y mae’r gyfradd yn berthnasol iddynt (uwchben y trothwy TWE)
Cyfradd treth sylfaenol 20% Hyd at £37,700
Cyfradd treth uwch 40% O £37,701 i £125,140
Cyfradd treth ychwanegol 45% Mwy na £125,140

Codau treth dros dro

Dyma’r codau treth dros dro o 6 Ebrill 2024 ymlaen:

  • 1257L W1
  • 1257L M1
  • 1257L X

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am godau treth dros dro (yn Saesneg).

Trothwyon cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1

Dim ond ar enillion sy’n uwch na’r terfyn enillion isaf y cewch wneud didyniadau Yswiriant Gwladol.

Trothwyon cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 2024 i 2025
Terfyn Enillion Isaf £123 yr wythnos
£533 y mis
£6,396 y flwyddyn
Prif Drothwy £242 yr wythnos
£1,048 y mis
£12,570 y flwyddyn
Trothwy Eilaidd £175 yr wythnos
£758 y mis
£9,100 y flwyddyn
Trothwy eilaidd uchaf porthladdoedd rhydd £481 yr wythnos
£2,083 y mis
£25,000 y flwyddyn
Trothwy eilaidd uchaf Parth Buddsoddi £481 yr wythnos
£2,083 y mis
£25,000 y flwyddyn
Trothwy eilaidd uchaf (dan 21) £967 yr wythnos
£4,189 y mis
£50,270 y flwyddyn
Trothwy eilaidd uchaf i brentis (prentis dan 25) £967 yr wythnos
£4,189 y mis
£50,270 y flwyddyn
Trothwy Eilaidd Uchaf i gyn-filwyr £967 yr wythnos
£4,189 y mis
£50,270 y flwyddyn
Terfyn Enillion Uchaf £967 yr wythnos
£4,189 y mis
£50,270 y flwyddyn

Cyfraddau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1

Cyfraddau cyfraniadau’r cyflogai (prif gyfraniadau)

Didynnwch brif gyfraniadau (Yswiriant Gwladol y cyflogai) oddi wrth gyflog eich cyflogeion drwy’r system TWE.

Llythyren gategori Yswiriant Gwladol Enillion sy’n cyrraedd y Terfyn Enillion Isaf, neu sy’n uwch na’r terfyn, hyd at a chan gynnwys y Prif Drothwy Enillion sy’n uwch na’r Prif Drothwy, hyd at a chan gynnwys y Terfyn Enillion Uchaf Balans yr enillion sy’n uwch na’r Terfyn Enillion Uchaf
A 0% 8% 2%
B 0% 1.85% 2%
C dim dim dim
D (Parth Buddsoddi — gohirio) 0% 2% 2%
E (Parth Buddsoddi — cyfradd is menywod priod a gweddwon) 0% 1.85% 2%
F (Porthladd Rhydd) 0% 8% 2%
H (prentis dan 25) 0% 8% 2%
I (Porthladd Rhydd — cyfradd is menywod priod a gweddwon) 0% 1.85% 2%
J 0% 2% 2%
K (Parth Buddsoddi — pensiynwr y wladwriaeth) dim dim dim
L (Porthladd Rhydd — gohirio) 0% 2% 2%
M (dan 21) 0% 8% 2%
N (Porthladd Rhydd) 0% 8% 2%
S (Porthladd Rhydd — pensiynwr y wladwriaeth) dim dim dim
V (cyn-filwr) 0% 8% 2%
Z (dan 21 — gohirio) 0% 2% 2%

Cyfraddau cyfraniadau’r cyflogwr (cyfraniadau eilaidd)

Rydych yn talu cyfraniadau eilaidd (Yswiriant Gwladol y cyflogwr) i CThEF fel rhan o’ch bil TWE. Dysgwch ragor am redeg y gyflogres a thalu CThEF (yn Saesneg).

Talu treth TWE ac Yswiriant Gwladol y cyflogwr.

Llythyren gategori Yswiriant Gwladol Enillion sy’n cyrraedd y Terfyn Enillion Isaf, neu sy’n uwch na’r terfyn, hyd at a chan gynnwys y trothwy eilaidd Enillion uwch na’r trothwy eilaidd hyd at a chan gynnwys trothwyon eilaidd uchaf Porthladd Rhydd a Pharth Buddsoddi Enillion uwchben trothwyon eilaidd uchaf Porthladd Rhydd a Pharth Buddsoddi hyd at a chan gynnwys terfyn enillion uchaf, trothwyon eilaidd uchaf ar gyfer pobl dan 21 oed, prentisiaid a chyn-filwyr Cydbwysedd enillion uwch na’r terfyn enillion uchaf, trothwyon eilaidd uchaf ar gyfer pobl dan 21 oed, prentisiaid a chyn-filwyr
A 0% 13.8% 13.8% 13.8%
B 0% 13.8% 13.8% 13.8%
C 0% 13.8% 13.8% 13.8%
D (Parth Buddsoddi — gohirio) 0% 0% 13.8% 13.8%
E (Parth Buddsoddi — cyfradd is menywod priod agweddwon) 0% 0% 13.8% 13.8%
F (Porthladd Rhydd) 0% 0% 13.8% 13.8%
H (prentis dan 25) 0% 0% 0% 13.8%
I (Porthladd Rhydd — cyfradd is menywod priod agweddwon) 0% 0% 13.8% 13.8%
J 0% 13.8% 13.8% 13.8%
K (Parth Buddsoddi — pensiynwr y wladwriaeth) 0% 0% 13.8% 13.8%
L (Porthladd Rhydd — gohirio) 0% 0% 13.8% 13.8%
M (dan 21) 0% 0% 0% 13.8%
N (Porthladd Rhydd) 0% 0% 13.8% 13.8%
S (Porthladd Rhydd — pensiynwr y wladwriaeth) 0% 0% 13.8% 13.8%
V (cyn-filwr) 0% 0% 0% 13.8%
Z (dan 21 — gohirio) 0% 0% 0% 13.8%

Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A: treuliau a buddiannau

Mae’n rhaid i chi dalu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ar fuddiannau gwaith rydych yn eu rhoi i’ch cyflogeion — er enghraifft, ffôn symudol y cwmni. Rydych yn rhoi gwybod am, a thalu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ar, dreuliau a buddiannau ar ddiwedd pob blwyddyn dreth.

Y gyfradd cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ar gyfer 2024 i 2025 yw 13.8%.

Dysgwch ragor am dreuliau a buddiannau ar gyfer cyflogwyr (yn Saesneg).

Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A: dyfarniadau terfynu a thaliadau tystebau chwaraeon

Mae cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A yn ddyledus ar swm y dyfarniadau terfynu (yn Saesneg) a delir i gyflogeion sydd dros £30,000 ac ar swm y taliadau tystebau chwaraeon a delir gan bwyllgorau annibynnol sydd dros £100,000. Rydych yn rhoi gwybod am ac yn talu Dosbarth 1A ar y mathau hyn o daliadau yn ystod y flwyddyn dreth fel rhan o’ch cyflogres.

Y gyfradd cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ar gyfer dyfarniadau terfynu a thaliadau tystebau chwaraeon ar gyfer 2024 i 2025 yw 13.8%.

Talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A y cyflogwr.

Yswiriant Gwladol Dosbarth 1B: Cytundebau Setliad TWE (PSAs)

Rydych yn talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1B os oes gennych Gytundeb Setliad TWE. Mae hyn yn caniatáu i chi wneud taliad blynyddol ar gyfer yr holl dreth a’r Yswiriant Gwladol sy’n ddyledus ar dreuliau neu fuddiannau trethadwy bach neu afreolaidd ar gyfer eich cyflogeion.

Y gyfradd cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1B ar gyfer 2024 i 2025 yw 13.8%

Talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1B.

Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol yw’r cyflog isaf yr awr y mae gan bron pob gweithiwr yr hawl iddo yn ôl y gyfraith. Dysgwch ragor am bwy all gael yr isafswm cyflog (yn Saesneg).

Defnyddiwch y gyfrifiannell Isafswm Cyflog Cenedlaethol (yn Saesneg) i wirio a ydych yn talu’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol i weithwyr neu a oes arnoch daliadau iddynt o flynyddoedd blaenorol.

Mae’r cyfraddau hyn yn gymwys o 1 Ebrill 2024 ymlaen.

Categori’r gweithiwr Cyfradd gyflog fesul awr
21 oed neuʼn hŷn (Cyfradd gyflog byw cenedlaethol) £11.44
18 – 20 yn gynwysedig £8.60
O dan 18 (ond dros yr oedran gadael ysgol orfodol) £6.40
Prentisiaid dan 19 oed £6.40
Prentisiad 19 a throsodd ond yn y flwyddyn gyntaf o’u prentisiaeth £6.40

Gwiriwch gyfraddau Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer y blynyddoedd blaenorol.

Tâl Mamolaeth Statudol, Tâl Tadolaeth Statudol, Tâl Mabwysiadu Statudol, Tâl Statudol ar y Cyd i Rieni a Thâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth

Defnyddiwch y gyfrifiannell mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth i gyflogwyr (yn Saesneg) i gyfrifo’r canlynol ar gyfer eich cyflogeion:

  • Tâl Mamolaeth Statudol (SMP)
  • tâl tadolaeth neu fabwysiadu
  • wythnos gymhwysol
  • enillion wythnosol cyfartalog
  • cyfnod absenoldeb

Mae’r cyfraddau hyn yn gymwys o 7 Ebrill 2024 ymlaen.

Math o daliad neu adferiad Cyfradd 2024 i 2025
Tâl Statudol Mamolaeth Statudol — cyfradd wythnosol ar gyfer y chwe wythnos cyntaf 90% o enillion wythnosol y cyflogai ar gyfartaledd
Tâl Mamolaeth Statudol — y gyfradd wythnosol ar gyfer yr wythnosau sy’n weddilliol £184.03 neu 90% o enillion wythnosol ar gyfartaledd y cyflogai  pa run bynnag sydd is yw’r isaf
Tâl Tadolaeth Statudol (SPP) — cyfradd wythnosol £184.03 neu 90% o enillion wythnosol ar gyfartaledd y cyflogai  pa’r un bynnag sydd is yw’r isaf
Tâl Mabwysiadu Statudol (SAP) — cyfradd wythnosol ar gyfer y chwe wythnos gyntaf 90% o enillion wythnosol y cyflogai ar gyfartaledd
SAP — y gyfradd wythnosol ar gyfer yr wythnosau sy’n weddilliol £184.03 neu 90% o enillionwythnosol cyfartalog y cyflogai, pa un bynnag sydd leiaf
Tâl Statudol ar y cyd i Rieni (ShPP) (yn Saesneg) — cyfradd wythnosol £184.03 neu 90% o enillion wythnosol ar gyfartaledd y cyflogai  pa’r un bynnag sydd is yw’r isaf
Tâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth (SPBP) — cyfradd wythnosol £184.03 neu 90% o enillion wythnosol ar gyfartaledd y cyflogai  pa’r un bynnag sydd is yw’r isaf
SMPSPPShPPSAP neu SPBP — canran cyfran o’ch taliadau y gallwch eu hadennill o CThEF (yn Saesneg) 92% os yw cyfanswm eich Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 (cyfraniadau cyflogeion a chyflogwyr) yn uwch na £45,000 ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol

103% os yw cyfanswm eich Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol yn £45,000 neu’n is

Tâl Salwch Statudol (SSP)

Mae’r un gyfradd wythnosol o Dâl Salwch Statudol yn gymwys i bob cyflogai. Fodd bynnag, mae’r swm y mae’n rhaid i chi ei dalu mewn gwirionedd i’r cyflogai am bob diwrnod y mae’n absennol o’r gwaith oherwydd salwch (y gyfradd ddyddiol) yn dibynnu ar nifer y ‘diwrnodau cymhwysol’ y mae’n gweithio bob wythnos.

Defnyddiwch y cyfrifiannell Tâl Salwch Statudol (yn Saesneg) i gyfrifo tâl salwch eich cyflogai, neu ddarllen sut i gyfrifo Tâl Salwch Statudol eich cyflogai â llaw (yn Saesneg) gan ddefnyddio’r cyfraddau hyn.

Cyfraddau dyddiol heb eu talgrynnu Nifer y diwrnodau cymhwysol yn yr wythnos
£16.6785 7
£19.4583 6
£23.35 5
£29.1875 4
£38.9166 3
£58.375 2
£116.75 1

7 diwrnod cymhwysol mewn wythnos

Defnyddiwch y cyfraddau hyn i gyfrifo faint o Dâl Salwch Statudol y mae angen i chi ei dalu i gyflogai sy’n gweithio 7 ddiwrnod cymhwysol mewn wythnos.

Nifer y diwrnodau sydd i’w talu Swm i’w dalu
1 £16.68
2 £33.36
3 £50.04
4 £66.72
5 £83.40
6 £100.08
7 £116.75

6 diwrnod cymhwysol mewn wythnos

Defnyddiwch y cyfraddau hyn i gyfrifo faint o Dâl Salwch Statudol y mae angen i chi ei dalu i gyflogai sy’n gweithio 6 ddiwrnod cymhwysol mewn wythnos.

Nifer y diwrnodau sydd i’w talu Swm i’w dalu
1 £19.46
2 £38.92
3 £58.38
4 £77.84
5 £97.30
6 £116.75

5 diwrnod cymhwysol mewn wythnos

Defnyddiwch y cyfraddau hyn i gyfrifo faint o Dâl Salwch Statudol y mae angen i chi ei dalu i gyflogai sy’n gweithio 5 ddiwrnod cymhwysol mewn wythnos.

Nifer y diwrnodau sydd i’w talu Swm i’w dalu
1 £23.35
2 £46.70
3 £70.05
4 £93.40
5 £116.75

4 diwrnod cymhwysol mewn wythnos

Defnyddiwch y cyfraddau hyn i gyfrifo faint o Dâl Salwch Statudol y mae angen i chi ei dalu i gyflogai sy’n gweithio 4 ddiwrnod cymhwysol mewn wythnos.

Nifer y diwrnodau sydd i’w talu Swm i’w dalu
1 £29.19
2 £58.38
3 £87.57
4 £116.75

3 diwrnod cymhwysol mewn wythnos

Defnyddiwch y cyfraddau hyn i gyfrifo faint o Dâl Salwch Statudol y mae angen i chi ei dalu i gyflogai sy’n gweithio 3 ddiwrnod cymhwysol mewn wythnos.

Nifer y diwrnodau sydd i’w talu Swm i’w dalu
1 £38.92
2 £77.84
3 £116.75

2 diwrnod cymhwysol mewn wythnos

Defnyddiwch y cyfraddau hyn i gyfrifo faint o Dâl Salwch Statudol y mae angen i chi ei dalu i gyflogai sy’n gweithio 2 ddiwrnod cymhwysol mewn wythnos.

Nifer y diwrnodau sydd i’w talu Swm i’w dalu
1 £58.38
2 £116.75

1 diwrnod cymhwysol mewn wythnos

Defnyddiwch y cyfraddau hyn i gyfrifo faint o Dâl Salwch Statudol y mae angen i chi ei dalu i gyflogai sy’n gweithio 1 diwrnod cymhwysol mewn wythnos.

Nifer y diwrnodau sydd i’w talu Swm i’w dalu
1 £116.75

Ad-daliadau Benthyciad Myfyriwr a Benthyciad Ôl-raddedig

Os yw enillion eich cyflogeion uwchlaw’r trothwy enillion, cofnodwch eu didyniadau benthyciad myfyriwr a’u didyniadau benthyciad ôl-raddedig (yn Saesneg) yn eich meddalwedd gyflogres. Bydd yn cyfrifo ac yn didynnu ad-daliadau o’u cyflog yn awtomatig.

Trothwy neu gyfradd Cyfradd 2024 i 2025
Trothwy enillion cyflogai ar gyfer benthyciad myfyriwr cynllun 1 £24,990 y flwyddyn
£2,082.50 y mis
£480.57 y flwyddyn
Trothwy enillion cyflogai ar gyfer benthyciad myfyriwr cynllun 2 £27,295 y flwyddyn
£2,274.58 y mis
£524.90 y flwyddyn
Trothwy enillion cyflogai ar gyfer benthyciad myfyriwr cynllun 4 £31,395 y flwyddyn
£2,616.25 y mis
£603.75 y flwyddyn
Didyniadau Benthyciad Myfyrwyr 9%
Trothwy enillion cyflogai ar gyfer benthyciad ôl-raddedig £21,000 y flwyddyn
£1,750 y mis
£403.84 yr wythnos
Didyniad Benthyciad Ôl-raddedig 6%

Ceir cwmni: cyfraddau tanwydd ymgynghorol

Defnyddiwch gyfraddau tanwydd ymgynghorol i gyfrifo costau milltiroedd os ydych yn darparu ceir cwmni i’ch cyflogeion.

Mae’r cyfraddau hyn yn gymwys o 1 Mawrth 2024 ymlaen.

Maint yr injan Petrol — swm y filltir LPG — swm y filltir
1400cc neu lai 13 ceiniog 11 ceiniog
1401cc a 2000cc 15 ceiniog 13 ceiniog
Dros 2000cc 24 ceiniog 21 ceiniog
Maint yr injan Diesel — swm y filltir
1600cc neu lai 12 ceiniog
1601cc a 2000cc 14 ceiniog
Dros 2000cc 19 ceiniog

Caiff ceir hybrid eu trin fel ceir petrol neu diesel at y diben hwn.

Gwiriwch gyfraddau tanwydd ymgynghorol am gyfnodau blaenorol (yn Saesneg).

Cyfradd drydanol ymgynghorol ar gyfer ceir sy’n gwbl drydanol o 1 Mawrth 2024 ymlaen

Swm y filltir: 9 ceiniog.

Nid yw trydan yn danwydd at ddibenion buddiant tanwydd ceir.

Cerbydau cyflogeion: taliadau lwfans milltiroedd

Taliadau lwfans milltiroedd yw’r hyn rydych yn ei dalu i’ch cyflogeion am ddefnyddio eu cerbyd eu hunain ar gyfer teithiau busnes.

Gallwch dalu swm cymeradwy o daliadau lwfans milltiroedd i’ch cyflogeion bob blwyddyn heb orfod rhoi gwybod i CThEF amdanynt. I gyfrifo’r swm cymeradwy, lluoswch filltiroedd teithio busnes eich cyflogai am y flwyddyn â chyfradd y filltir ar gyfer ei gerbyd.

Dysgwch ragor am adrodd a thalu taliadau lwfans milltiroedd (yn Saesneg).

Math o gerbyd Cyfradd pob milltir busnes 2024 i 2025
Car At ddibenion treth — 45 ceiniog ar gyfer y 10,000 cyntaf o filltiroedd busnes yn ystod blwyddyn dreth, yna 25 ceiniog am bob milltir ddilynol

At ddibenion Yswiriant Gwladol — 45 ceiniog ar gyfer yr holl filltiroedd busnes
Beic modur 24 ceiniog at ddibenion treth ac Yswiriant Gwladol ac ar gyfer yr holl filltiroedd busnes
Beic 20 ceiniog at ddibenion treth ac Yswiriant Gwladol ac ar gyfer yr holl filltiroedd busnes

Lwfans Cyflogaeth

Mae’r Lwfans Cyflogaeth yn caniatáu i gyflogwyr cymwys (yn Saesneg) ostwng eu rhwymedigaeth Yswiriant Gwladol flynyddol hyd at swm y lwfans blynyddol.

Lwfans Cyfradd 2024 i 2025
Lwfans Cyflogaeth £5,000

Ardoll Brentisiaethau

Mae cyflogwyr a chwmnïau cysylltiedig sydd â chyfanswm bil cyflogau blynyddol o dros £3 miliwn yn agored i dalu’r Ardoll Brentisiaethau, sy’n daladwy bob mis. Bydd gan gyflogwyr nad ydynt yn gysylltiedig â chwmni neu elusen arall lwfans blynyddol sy’n gostwng y swm o Ardoll Brentisiaethau y mae’n rhaid i chi ei thalu. Codir yr Ardoll Brentisiaethau ar sail canran o’ch bil cyflog blynyddol.

Lwfans neu dâl Cyfradd 2024 i 2025
Lwfans Ardoll Brentisiaethau £15,000
Tâl Ardoll Brentisiaethau 0.5%
Cyhoeddwyd ar 6 February 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 12 March 2024 + show all updates
  1. Class 1 National Insurance contribution rates and advisory fuel rates for company cars have been updated.

  2. Added translation