Y ffordd mae treth yn gweithio os oes gennych fwy nag un swydd
Dysgwch y ffordd y caiff eich Lwfans Personol ei ddyrannu, a’r ffordd mae Treth Incwm a chodau treth yn gweithio os oes gennych fwy nag un swydd neu ffynhonnell incwm.
Cyfraddau Treth Incwm a’ch Lwfans Personol
Mae’n bosibl y bydd angen i chi dalu Treth Incwm os yw cyfanswm eich holl incwm trethadwy ar gyfer y flwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill) yn fwy na’ch Lwfans Personol.
Eich Lwfans Personol yw’r swm o incwm trethadwy y cewch ei ennill pob blwyddyn dreth, a hynny heb orfod talu treth arno. Dim ond un Lwfans Personol y byddwch yn ei gael ar gyfer pob blwyddyn dreth, hyd yn oed os oes gennych incwm o fwy nag un swydd, pensiwn, neu ffynhonnell arall.
Y Lwfans Personol safonol yw £12,570. Er hynny, nid yw’r swm yr un maint i bawb bob tro. Mae’n dibynnu ar eich sefyllfa.
Fel arfer, caiff eich Lwfans Personol ei rannu yn symiau hafal wythnosol neu fisol, a gânt eu defnyddio ar draws y flwyddyn.
Dysgwch ynglŷn â’ch Lwfans Personol a lwfansau eraill sy’n rhydd o dreth.
Ar ddiwedd y flwyddyn dreth, byddwn yn gwirio cyfanswm eich treth er mwyn sicrhau eich bod wedi talu’r swm cywir.
Codau treth pan mae gennych fwy nag un swydd neu bensiwn
Mae eich cyflogwr neu’ch darparwr pensiwn yn defnyddio’ch cod treth er mwyn cyfrifo swm y dreth i’w gymryd oddi ar eich cyflog neu’ch pensiwn. Os oes gennych fwy nag un swydd neu bensiwn, fel arfer, bydd gan bob un god treth gwahanol.
Er enghraifft:
- gall un swydd fod yn defnyddio eich Lwfans Personol, a chanddo’r cod treth 1257L
- gall un arall fod â chod fel BR (cyfradd sylfaenol) neu D0 (cyfradd uwch)
Ar gyfer eich ail swydd neu bensiwn, byddwch, fel arfer, ar un o’r codau treth canlynol:
- BR — caiff yr holl incwm ei drethu ar y gyfradd sylfaenol (20%)
- D0 — caiff yr holl incwm ei drethu ar y gyfradd uwch (40%)
- D1 — caiff yr holl incwm ei drethu ar y gyfradd ychwanegol (45%)
Mae eich codau treth yn dibynnu ar beth yw cyfanswm eich incwm ar draws eich holl ffynonellau incwm ar gyfer y flwyddyn dreth.
Os ydych yn byw neu’n gweithio yng Nghymru neu’r Alban, mae’n bosibl bydd y codau treth yn wahanol.
Dysgwch ragor ynghylch yr hyn mae’ch cod treth yn ei olygu (yn agor tudalen Saesneg).
Dechrau a darfod swyddi
Os ydych yn dechrau mewn swydd newydd a bod gennych swydd neu swyddi eisoes, ni fyddwch yn cael ffurflen P45 (yn agor tudalen Saesneg) gan eich cyflogwr gan eich bod yn parhau i weithio iddynt. Yn lle hynny, bydd angen i chi lenwi rhestr wirio ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn a’i roi i’ch cyflogwr newydd.
Pan fyddwch yn llenwi’r rhestr wirio, dylech sicrhau eich bod yn nodi bod gennych swydd arall eisoes. Mae hyn yn rhoi’r manylion sydd eu hangen ar eich cyflogwr newydd, ac yn ei helpu i roi’r cod treth cywir ar waith o’ch cyflog cyntaf. Os byddwch yn llenwi’r rhestr wirio yn anghywir, mae’n bosibl na fyddwch yn talu’r swm cywir o dreth.
Os byddwch yn gadael swydd, defnyddiwch eich Cyfrif Treth Personol neu ap CThEF er mwyn rhoi gwybod i ni eich bod wedi gadael y swydd. Mae hyn yn help i sicrhau bod unrhyw swyddi eraill sydd gennych yn defnyddio’r cod treth cywir.
Os oes gennych fwy nag un swydd yn gweithio fel cyflogai
Pan mae gennych fwy nag un swydd yn gweithio fel cyflogai (yn agor tudalen Saesneg), bydd eich Lwfans Personol, fel arfer, yn cael ei ddyrannu i’r swydd sy’n talu’r swm mwyaf i chi.
Byddwch ond yn talu treth ar y swm sydd dros eich Lwfans Personol.
Mae cyflog eich prif swydd yn fwy na’ch Lwfans Personol
Byddwch yn talu treth ar y canlynol:
- eich prif swydd, dim ond ar y swm o’ch cyflog sydd dros eich Lwfans Personol
- eich holl incwm rydych yn ei ennill yn eich swydd neu swyddi eraill, hyd yn oed os byddwch yn ennill swm bychan ynddynt
Mae cyflog eich prif swydd yn llai na’ch Lwfans Personol
Fel arfer, os yw swm eich cyflog yn eich prif swydd yn llai na’ch Lwfans Personol, ni fyddwch yn talu treth arno. Gall unrhyw Lwfans sydd heb ei ddefnyddio gan eich prif swydd ei ddyrannu i’ch swydd neu swyddi eraill, yn dibynnu ar eich amgylchiadau.
Golyga hyn y byddwch ond talu treth:
- os yw cyfanswm eich incwm o’ch holl swyddi yn fwy na’ch Lwfans Personol
- ar y swm sydd dros eich Lwfans Personol
Enghraifft
Eich Lwfans Personol yw £12,570 ac mae gennych 2 swydd:
- mae swydd 1 yn talu £8,000 yn y flwyddyn dreth
- mae swydd 2 yn talu £7,000 yn y flwyddyn dreth
Cyfanswm eich incwm ar gyfer y flwyddyn dreth yw £15,000 (£8,000 + £7,000).
Nid ydych yn talu treth ar gyfer swydd 1 gan fod cyfanswm incwm swydd 1 yn llai na’ch Lwfans Personol.
Mae gennych £4,570 yn weddill o’ch Lwfans Personol (£12,570 – £8,000).
Os caiff y Lwfans Personol sy’n weddill ei ddyrannu i swydd 2, bydd £2,430 (£7,000 – £4,570) o’ch incwm o swydd 2 yn drethadwy gan fod cyfanswm eich incwm o’r ddwy swydd yn fwy na’ch Lwfans Personol.
Byddwch yn talu £486 o dreth ar £2,430 (£2,430 × 20% cyfradd dreth sylfaenol) ar gyfer y flwyddyn dreth.
Cysylltwch â CThEF i wirio a all eich Lwfans Personol gael ei rannu rhwng eich swyddi.
Gall hyn leihau swm y dreth sy’n cael ei dynnu o swyddi eraill yn ystod y flwyddyn dreth.
Os yw’ch Lwfans Personol wedi’i rannu, a bod eich incwm yn amrywio neu’n afreolaidd, mae’n bosibl nad ydych yn talu’r swm cywir o dreth.
Mae cyfanswm cyflog eich holl swyddi, gan gynnwys eich prif swydd, yn llai na’ch Lwfans Personol
Os yw pob un o’ch swyddi cyflogedig yn talu llai na swm eich Lwfans Personol, bydd angen i chi eu hadio at ei gilydd er mwyn cael cyfanswm eich incwm cyflogedig. Os yw cyfanswm eich incwm o’ch holl swyddi ar ddiwedd y flwyddyn dreth yn llai na’ch Lwfans Personol, fel arfer, ni fydd rhaid i chi dalu treth am y swyddi hyn.
Mae’ch Lwfans Personol yn cael ei rannu yn hafal ar draws y flwyddyn dreth. Golyga hyn y gallwch fod yn talu treth yn ystod wythnosau neu fisoedd penodol os yw’ch incwm ar gyfer y cyfnod penodol yn fwy na’ch lwfans rhydd o dreth wythnosol neu fisol, hyd yn oed os yw cyfanswm eich incwm ar gyfer y flwyddyn dreth yn llai na’ch Lwfans Personol.
Os oes gennych symiau gwahanol o incwm pob wythnos neu fis, ac rydych yn meddwl y gallwch fod yn mynd dros eich swm rhydd o dreth ar adegau, cysylltwch â CThEF er mwyn dysgu a all eich Lwfans Personol gael ei rannu rhwng eich holl swyddi.
Ar ddiwedd y flwyddyn dreth, byddwn yn gwirio’r dreth rydych wedi’i thalu ar draws eich holl swyddi. Os ydych wedi talu’r swm anghywir o dreth, byddwn fel arfer yn anfon llythyr cyfrifiad treth P800 i chi sy’n dangos a oes ad-daliad yn ddyledus i chi, neu a oes arnoch arian.
Gwaith tymhorol, achlysurol, dros dro, neu dymor byr fel cyflogai
Os yw’ch swydd yn gweithio fel cyflogai (yn agor tudalen Saesneg) tymhorol, achlysurol, dros dro, neu dymor byr, bydd angen i chi dalu treth o hyd ar unrhyw incwm sydd dros eich Lwfans Personol.
Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd eich cyflogwr yn didynnu’r dreth cyn eich talu, p’run ai ydych yn gweithio am ychydig o oriau, dyddiau, wythnosau neu fisoedd.
Pan fyddwch yn dechrau eich swydd, dylai’ch cyflogwr ofyn i chi lenwi rhestr wirio ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn. Mae’n bwysig llenwi’r rhestr wirio yn gywir. Os na fyddwch yn gwneud hynny, mae’n bosibl y cewch eich rhoi ar god treth dros dro (yn agor tudalen Saesneg) sy’n golygu y gallwch fod yn talu gormod o dreth i ddechrau.
Os oes gennych fwy nag un swydd am dymor byr yn yr un flwyddyn dreth
Bydd eich Lwfans Personol yn cael ei roi ar waith gyda chyfanswm eich incwm ar draws y flwyddyn dreth gyfan, nid ar gyfer pob swydd ar wahân. Os byddwch yn gweithio sawl swydd am dymor byr yn ystod y flwyddyn dreth, byddwn yn edrych ar gyfanswm eich incwm dros yr holl swyddi.
Os yw pob swydd yn defnyddio cod treth, a hynny heb wybod am eich ffynhonnell arall o incwm, mae’n bosibl y byddwch yn gordalu neu’n tandalu treth yn ystod y flwyddyn dreth.
Ar ddiwedd y flwyddyn dreth, byddwn yn anfon ad-daliad i chi os oedd cyfanswm eich incwm ar gyfer y flwyddyn dreth yn golygu eich bod chi wedi talu gormod o dreth yn gyffredinol.
Enghraifft
Eich Lwfans Personol yw £12,570.
Mae gennych swydd barhaol sy’n talu £22,000 i chi ym mlwyddyn dreth 2025 i 2026. Ym mis Rhagfyr, rydych yn ymgymryd â swydd dymhorol ychwanegol am 6 wythnos, sy’n talu £1,800.
Mae cyfanswm eich incwm yn llai na’r trothwy ar gyfer cyfradd uwch, felly rydych yn talu treth ar y gyfradd sylfaenol o 20%.
Mae eich swydd barhaol yn defnyddio’ch Lwfans Personol yn llawn. Golyga hyn bod £9,430 (£22,000 – £12,570) o’r incwm hwn yn drethadwy gan ei fod dros y Lwfans Personol.
Byddwch yn talu £1,886 o dreth ar gyflog eich swydd barhaol (£9,430 × 20% cyfradd dreth sylfaenol) ar gyfer y flwyddyn dreth.
Gan fod eich Lwfans Personol eisoes wedi’i ddefnyddio, mae eich cyflogwr tymhorol yn defnyddio cod treth BR ac yn didynnu 20% (cyfradd dreth sylfaenol) o’r £1,800 yn llawn.
Felly, rydych yn talu £360 (£1,800 × 20% cyfradd dreth sylfaenol) o dreth ar yr incwm hwn.
Cyfanswm y dreth y byddwch yn ei thalu yn y flwyddyn dreth yw £2,246 (£1,886 + £360).
Gwaith hunangyflogedig achlysurol neu brosiectau pres poced, a gweithio fel cyflogai
Os ydych yn gyflogedig ac yn gweithio’n achlysurol ar sail hunangyflogaeth (gan gynnwys prosiectau pres poced), mae rheolau gwahanol yn berthnasol. Er enghraifft, os ydych yn gweithio fel cyflogai a hefyd yn hunangyflogedig.
Gwiriwch a oes angen i chi roi gwybod i CThEF am incwm ychwanegol sydd ddim yn dod gan eich cyflogwr.
Caiff unrhyw dreth sy’n ddyledus ar incwm o hunangyflogaeth ei chyfrifo ar wahân i’r dreth sy’n cael ei didynnu drwy eich swydd gyflogedig.
Fel arfer, caiff eich Lwfans Personol llawn ei ddefnyddio gyda’ch prif swydd gyflogedig. Dyma’r un sydd fel rheol yn talu’r mwyaf i chi. Os yw’ch Lwfans Personol yn fwy na’r incwm hwn, caiff gweddill y Lwfans Personol ei ddyrannu i’ch swydd neu swyddi cyflogedig eraill. Os oes Lwfans Personol yn weddill, mae’n bosibl y byddwch yn gallu ei ddefnyddio gyda’ch incwm o hunangyflogaeth.
Cysylltwch â CThEF i wirio a all eich Lwfans Personol gael ei ddyrannu i’ch incwm o hunangyflogaeth. Mae’n bosibl y gall hyn leihau’r swm o dreth sydd angen i chi ei thalu.
Os yw’ch Lwfans Personol wedi’i rannu, a bod eich incwm yn amrywio neu’n afreolaidd, mae’n bosibl nad ydych yn talu’r swm cywir o dreth.
Mae cyfanswm eich incwm cyflogedig yn fwy na’ch Lwfans Personol
Os yw cyfanswm eich incwm cyflogedig yn fwy na’ch Lwfans Personol, mae’n bosibl y bydd angen i chi dalu treth ar eich incwm o hunangyflogaeth drwy Hunanasesiad os yw’n fwy na £1,000.
Dysgwch am y canlynol:
Os yw cyfanswm eich incwm o hunangyflogaeth yn £1,000 neu lai, efallai nad oes angen i chi roi gwybod i ni amdano, na datgan yr incwm ar Ffurflen Dreth.
Enghraifft
Eich Lwfans Personol yw £12,570.
Rydych yn gweithio fel cyflogai, ac mae’ch incwm ar gyfer y flwyddyn dreth yn £22,000. Yn ogystal, rydych yn gwneud £3,500 yn ychwanegol yn ystod y flwyddyn dreth drwy fynd â chŵn am dro yn ystod y penwythnosau a chyda’r nosau.
Cyfanswm eich incwm ar gyfer y flwyddyn dreth yw £25,500 (£22,000 + £3,500). Rydych yn talu treth ar y gyfradd sylfaenol o 20% gan fod cyfanswm eich incwm yn is na’r trothwy cyfradd uwch.
Caiff eich Lwfans Personol ei ddefnyddio gyda’ch swydd gyflogedig yn gyntaf. Golyga hyn bod £9,430 o’ch incwm o gyflogaeth (£22,000 – £12,570) yn drethadwy.
Byddwch yn talu £1,886 o dreth ar yr incwm hwn (£9,430 × 20% cyfradd dreth sylfaenol) ar gyfer y flwyddyn dreth. Bydd eich cyflogwr yn didynnu’r dreth oddi ar eich cyflog cyn eich talu.
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni am yr incwm o fynd â chŵn am dro gan ei fod yn fwy na £1,000. Mae’r £1,000 cyntaf yn rhydd o dreth, felly mae £2,500 (£3,500 – £1,000) yn drethadwy.
Felly, rydych yn talu £500 (£2,500 × 20% cyfradd dreth sylfaenol) drwy Hunanasesiad.
Cyfanswm y dreth y byddwch yn ei thalu yn y flwyddyn dreth yw £2,386 (£1,886 + £500).
Mae cyfanswm eich incwm cyflogedig yn llai na’ch Lwfans Personol
Os yw cyfanswm eich incwm cyflogedig yn llai na’ch Lwfans Personol, mae angen i chi adio symiau’r holl ffynonellau incwm canlynol at ei gilydd:
- eich holl swyddi cyflogedig
- eich holl swyddi hunangyflogedig
Dyma gyfanswm eich incwm.
Os yw cyfanswm eich incwm yn llai na’ch Lwfans Personol, fel arfer, nid oes angen i chi dalu unrhyw dreth.
Os yw cyfanswm eich incwm yn fwy na’ch Lwfans Personol, mae’n bosibl bydd angen i chi dalu treth. Fel arfer, byddwch ond yn talu treth ar y swm sydd dros eich lwfans. Os yw cyfanswm eich incwm o hunangyflogaeth yn £1,000 neu lai, efallai nad oes angen i chi roi gwybod i ni amdano, na datgan yr incwm ar Ffurflen Dreth.
Enghraifft
Eich Lwfans Personol yw £12,570. Mae gennych 2 swydd gyflogedig:
- mae swydd 1 yn talu £6,000 yn y flwyddyn dreth
- mae swydd 2 yn talu £5,000 yn y flwyddyn dreth
Yn ogystal, rydych yn gwneud £950 yn ychwanegol yn ystod y flwyddyn dreth drwy greu cynnwys ar-lein fel prosiect pres poced.
Cyfanswm eich incwm ar gyfer y flwyddyn dreth yw £11,950 (£6,000 + £5,000 + £950).
Nid ydych yn talu treth gan fod cyfanswm eich incwm yn llai na’ch Lwfans Personol.
Dylech gadw cofnod o’ch incwm o greu cynnwys ar-lein. Os byddwch yn cael mwy na £1,000 o incwm o’r ffynhonnell hon, efallai y bydd angen i chi gofrestru ar gyfer Hunanasesiad.
Cael pensiwn a gweithio
Os ydych yn cael pensiwn ac yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig:
- darllenwch ynghylch treth a’ch pensiwn (yn agor tudalen Saesneg)
- gwiriwch a oes angen i chi dalu treth ar eich pensiwn
Gwirio eich manylion
Mae bod â mwy nag un swydd, neu gyfres o swyddi tymor byr, yn ei gallu gwneud hi’n anodd cadw trefn ar eich incwm drwy gydol y flwyddyn dreth.
Gallwch ddefnyddio’r adran TWE yn eich Cyfrif Treth Personol neu ap CThEF i wirio’r canlynol:
- manylion eich cyflogaeth er mwyn sicrhau bod pob swydd yn cael ei rhestru yn gywir
- pa gyflogaeth sy’n defnyddio eich Lwfans Personol
- eich incwm, treth a’ch codau treth
- bod ein hamcangyfrif o gyfanswm eich incwm ar gyfer y flwyddyn dreth yn ymddangos yn gywir
Os yw’n cofnodion yn anghywir ac yn dangos bod gennych fwy nag un swydd
Rydym yn defnyddio gwybodaeth gan eich cyflogwyr a’ch darparwyr pensiwn er mwyn diweddaru eich cofnodion treth. Os yw darn o wybodaeth sydd gennym yn anghywir neu ar goll, mae’n bosibl bydd ein cofnodion yn dangos bod gennych fwy nag un swydd, pan nad oes gennych mewn gwirionedd. Er enghraifft, gall hyn ddigwydd os na wnaeth cyflogwr roi gwybod eich bod chi wedi gadael swydd.
Os yw hyn yn digwydd, efallai bod eich cod treth yn anghywir, ac efallai na fyddwch yn talu’r swm cywir o dreth.
Gallwch ddefnyddio’r adran TWE yn eich Cyfrif Treth Personol neu ap CThEF i wirio a diweddaru eich manylion.
Diweddaru eich manylion
Os oes rhywbeth yn edrych yn anghywir, gallwch ddiweddaru eich manylion ar-lein. Mae hyn yn lleihau’r risg o dalu’r swm anghywir o dreth.
Mewngofnodwch i’ch Cyfrif Treth Personol neu ap CThEF. Gallwch ddefnyddio’r adran TWE i ychwanegu at eich cofnodion cyflogaeth, neu eu cywiro, gan gynnwys y canlynol:
- rhoi gwybod i ni eich bod wedi rhoi’r gorau i weithio i gyflogwr
- ychwanegu cyflogwyr sydd ar goll
- diweddaru eich incwm amcangyfrifedig