Skip to main content
Canllawiau

Gwirio a allwch hawlio cyflogau eich cyflogeion drwy’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws

Cael gwybod a ydych yn gymwys, a faint y gallwch ei hawlio, er mwyn talu cyflog cyflogeion sydd ar absenoldeb dros dro (‘ar ffyrlo’) oherwydd coronafeirws (COVID-19).

This guidance was withdrawn on

The Coronavirus Job Retention Scheme ended on 30 September 2021.

You can:

Er mwyn defnyddio’r cynllun, dyma’r camau y bydd angen i chi eu cymryd:

  1. Gwiriwch a allwch hawlio.

  2. Gwiriwch pa gyflogeion y gallwch eu rhoi ar ffyrlo.

  3. Camau i’w cymryd cyn cyfrifo’ch hawliad.

  4. Cyfrifwch faint y dylech ei hawlio.

  5. Hawliwch gyflog eich cyflogeion ar-lein.

  6. Rhowch wybod am daliad drwy’r system Gwybodaeth Amser Real TWE.

Ar gyfer cyfnodau sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Mai 2021, gallwch hawlio ar gyfer cyflogeion a oedd wedi’u cyflogi ar 2 Mawrth 2021, cyn belled â’ch bod wedi gwneud cyflwyniad Gwybodaeth Amser Real (RTI) TWE i CThEM rhwng 20 Mawrth 2020 a 2 Mawrth 2021, sy’n rhoi gwybod am daliad o enillion ar gyfer y cyflogai hwnnw. Nid oes angen i chi fod wedi hawlio’n flaenorol ar gyfer cyflogai cyn 2 Mawrth 2021 er mwyn hawlio ar gyfer cyfnodau o 1 Mai 2021 ymlaen.

O 1 Gorffennaf 2021 ymlaen, bydd lefel y grant yn cael ei gostwng bob mis a gofynnir i chi gyfrannu tuag at gostau cyflog eich cyflogeion sydd ar ffyrlo.

Nid oes angen i chi fod wedi hawlio ar ran cyflogai o’r blaen cyn 2 Mawrth 2021 er mwyn hawlio.

Gall cyflogwyr roi cyflogeion ar ffyrlo am unrhyw faint o amser ac unrhyw batrwm gwaith, wrth barhau i allu hawlio’r grant am yr oriau na chawsant eu gweithio.

Bydd angen i chi dalu’r holl gyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYG) a chostau pensiwn y cyflogwr. Dysgwch ragor am gyfraniadau’r cyflogwr at y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws.

Os ydych eisoes wedi cyfrifo faint y gallwch ei hawlio, gallwch hawlio cyflog ar-lein drwy’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws.

Bydd CThEM yn gwirio hawliadau. Mae’n bosibl y caiff taliadau eu hatal, neu y bydd angen eu had-dalu, os canfyddir bod hawliad yn dwyllodrus neu’n seiliedig ar wybodaeth anghywir. Gallwch roi gwybod am achosion tybiedig o dwyll mewn perthynas â’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws.

Nid yw grantiau drwy’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws yn cael eu hystyried yn gymorth gwladwriaethol.

Pwy all hawlio

Mae’n rhaid i’r canlynol fod yn wir:

  • gwnaethoch greu a dechrau cynllun cyflogres TWE ar neu cyn 2 Mawrth 2021 ar gyfer cyfnodau sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Mai 2021
  • rydych wedi ymrestru ar gyfer TWE ar-lein
  • mae gennych gyfrif banc yn y DU, Ynys Manaw neu Ynysoedd y Sianel

Gall unrhyw endid sydd â chyflogres yn y DU wneud cais, gan gynnwys busnesau, elusennau, asiantaethau recriwtio ac awdurdodau cyhoeddus.

Os ydych yn cael arian cyhoeddus

Os oes gennych gostau staff a ariennir yn gyhoeddus (hyd yn oed oes nad ydych yn y sector cyhoeddus), dylech ddefnyddio’r arian hwnnw i barhau i dalu’ch staff, ac ni ddylech roi’ch staff ar ffyrlo.

Gall sefydliadau ddefnyddio’r cynllun os nad ydynt yn cael eu hariannu’n llawn gan grantiau cyhoeddus, a dylai’r rhain gysylltu â’r adran sy’n eu noddi, neu â’r weinyddiaeth berthnasol, ar gyfer arweiniad pellach.

Os ydych yn weinyddwr

Pan fo gweinyddwr yn cymryd rheolaeth dros gwmni, bydd y gweinyddwr yn gallu rhoi staff ar ffyrlo a hawlio ar eu cyfer.

Dim ond os oes tebygolrwydd rhesymol o gadw’r cyflogeion y dylai gweinyddwyr ddefnyddio’r cynllun. Er enghraifft, gallai hyn fod o ganlyniad i roi busnes yn nwylo gweinyddwr a cheisio gwerthu’r busnes.

Cyflogeion y gallwch hawlio ar eu cyfer

Cael gwybod pa gyflogeion y gallwch eu rhoi ar ffyrlo a hawlio amdanynt.

Cytuno i roi cyflogeion ar ffyrlo

Dylai cyflogwyr drafod â’u staff a gwneud unrhyw newidiadau i’r contract cyflogaeth drwy gytundeb. Pan fydd cyflogwyr yn gwneud penderfyniadau mewn perthynas â’r broses, gan gynnwys penderfynu i bwy y dylid cynnig ffyrlo, bydd deddfau cydraddoldeb a gwahaniaethu yn berthnasol yn y ffordd arferol.

Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y grant, mae’n rhaid i gyflogwr fod wedi cadarnhau i’w gyflogai (neu fod wedi dod i gytundeb ar y cyd ag undeb llafur), ar bapur, ei fod wedi cael ei roi ar ffyrlo. Mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:

  • sicrhau bod y cytundeb yn cydymffurfio â deddfau cyflogaeth, cydraddoldeb a gwahaniaethu
  • cadw cofnod ysgrifenedig o’r cytundeb am bum mlynedd
  • cadw cofnodion o faint o oriau y mae’ch cyflogeion yn eu gweithio, a faint o oriau y maent ar ffyrlo (h.y. faint o oriau nad ydynt yn eu gweithio)

Does dim rhaid i’ch cyflogai ymateb ar bapur, a does dim rhaid i chi roi eich holl gyflogeion ar ffyrlo.

Gallwch wneud y canlynol:

  • rhoi cyflogeion ar ffyrlo llawn – ni allant wneud unrhyw waith ar eich cyfer tra ydynt ar ffyrlo llawn
  • rhoi cyflogeion ar ffyrlo hyblyg – gallant weithio am unrhyw faint o amser, ac ar unrhyw batrwm gwaith, ond ni allant wneud unrhyw waith ar eich cyfer yn ystod yr oriau rydych yn nodi eu bod ar ffyrlo

Os byddwch yn rhoi cyflogeion ar ffyrlo hyblyg, bydd yn rhaid i chi gytuno ar hyn gyda’r cyflogai (neu ddod i gytundeb ar y cyd ag undeb llafur) a chadw cytundeb ysgrifenedig newydd sy’n cadarnhau’r trefniadau ffyrlo newydd.

Does dim rhaid i chi roi eich holl gyflogeion ar ffyrlo, a gallwch barhau i roi cyflogeion ar ffyrlo llawn, os ydych yn dymuno gwneud hynny. Does dim modd i gyflogeion ymgymryd ag unrhyw waith i chi yn ystod yr amser y maent ar ffyrlo yn ôl eich cofnodion.

Cytundebau ffyrlo hyblyg

Does dim isafswm o ran hyd y cyfnod ffyrlo - gall cytundebau ffyrlo hyblyg, y cytunwyd arnynt, bara am unrhyw faint o amser. Gall cyflogeion ymrwymo i gytundeb ffyrlo hyblyg fwy nag unwaith.

Er bod modd i gytundebau ffyrlo hyblyg bara am unrhyw faint o amser, mae’n rhaid i chi hawlio ar gyfer cyfnod o 7 diwrnod calendr o leiaf, oni nodir yn wahanol.

Tra bo’ch cyflogeion ar ffyrlo

Yn ystod yr oriau y mae’ch cyflogeion ar ffyrlo yn ôl eich cofnodion, ni allwch ofyn iddynt wneud unrhyw waith i chi:

  • sy’n gwneud arian i’ch sefydliad neu unrhyw sefydliad sy’n gysylltiedig â’ch sefydliad
  • sy’n darparu gwasanaethau ar gyfer eich sefydliad neu unrhyw sefydliad sy’n gysylltiedig â’ch sefydliad

Gall eich cyflogai:

  • ymgymryd â hyfforddiant
  • gwirfoddoli i gyflogwr neu sefydliad arall
  • gweithio i gyflogwr arall (os caniateir hynny drwy gontract)

Talu trethi a chyfraniadau pensiwn y cyflogeion

Bydd eich cyflogeion yn dal i dalu’r trethi y maent fel arfer yn eu talu o’u cyflog.

Mae’n rhaid i chi ddidynnu a thalu treth incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyflogai i CThEM ar y swm llawn yr ydych yn ei dalu i’r cyflogai, gan gynnwys unrhyw grant drwy’r cynllun.

Mae’n rhaid i chi hefyd dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyflogwr i CThEM ar y swm llawn yr ydych yn ei dalu i’r cyflogai, gan gynnwys unrhyw grant drwy’r cynllun.

Mae’n rhaid i chi roi gwybod am y taliadau hyn drwy Gyflwyniad Taliadau Llawn i CThEM ar y dyddiad cyflog neu cyn hynny.

Hefyd, bydd eich cyflogai’n dal i dalu cyfraniadau pensiwn (cyfraniadau’r cyflogwr a chyfraniadau awtomatig gan y cyflogai, fel ei gilydd), oni bai bod y cyflogai wedi optio allan neu wedi rhoi’r gorau i gynilo i’w bensiwn. Ni allwch hawlio ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol na chyfraniadau pensiwn y cyflogwr.

Cadw hawliau’r cyflogeion

Mae gan gyflogeion yr un hawliau yn y gwaith o hyd, gan gynnwys:

  • Tâl Salwch Statudol (SSP)
  • gwyliau blynyddol
  • hawliau mamolaeth a hawliau eraill sydd ar gael i rieni
  • hawliau yn erbyn diswyddo annheg
  • taliadau diswyddo

Ni ellir defnyddio grantiau i ddisodli taliadau diswyddo. Bydd CThEM yn parhau i fonitro busnesau ar ôl i’r cynllun ddod i ben.

Tâl gwyliau

Mae cyflogeion ar ffyrlo yn parhau i gronni gwyliau, yn unol â’u contract cyflogaeth.

Gallwch ond roi cyflogeion ar ffyrlo os yw coronafeirws yn effeithio ar eich gweithrediadau.

Ni ddylech roi cyflogeion ar ffyrlo dim ond oherwydd eu bod yn mynd i fod ar wyliau â thâl.

Gall y cyflogwr a’r cyflogai gytuno i amrywio’r hawl i wyliau fel rhan o’r cytundeb ffyrlo. Fodd bynnag, mae gan bron i bob gweithiwr hawl i 5.6 wythnos o wyliau blynyddol statudol â thâl bob blwyddyn, ac nid oes modd cymryd llai o wyliau na hyn.

Gall cyflogeion fynd ar wyliau pan fyddant ar ffyrlo. Os byddant yn cael eu rhoi ar ffyrlo hyblyg, yna dylai unrhyw oriau a gymerir fel gwyliau yn ystod y cyfnod hawlio gael eu cyfrif fel oriau ffyrlo yn hytrach nag oriau gwaith. Ni ddylech roi eich cyflogeion ar ffyrlo am gyfnod dim ond am eu bod ar wyliau yn ystod y cyfnod hwnnw. Golyga hyn mai dim ond oherwydd bod coronafeirws wedi effeithio ar eich gweithrediadau y dylai cyflogeion gael eu rhoi ar ffyrlo, ac nid dim ond am eu bod ar absenoldeb â thâl. Mae hyn yr un mor berthnasol yn ystod unrhyw gyfnodau brig o wyliau.

Mae Rheoliadau Amser Gwaith yn mynnu bod tâl gwyliau yn cael ei dalu ar gyfradd cyflog arferol y cyflogai neu, os yw’r gyfradd cyflog yn amrywio, yn cael ei gyfrifo ar sail y cyflog cyfartalog a gafodd y cyflogai yn ystod y 52 wythnos waith diwethaf (12 wythnos yng Ngogledd Iwerddon). Felly, os bydd cyflogai sydd ar ffyrlo yn mynd ar wyliau, dylai’r cyflogwr dalu ei dâl gwyliau arferol yn unol â’r Rheoliadau Amser Gwaith.

Mae’n ofynnol i gyflogwyr dalu symiau ychwanegol ar ben y grant i gyflogeion sydd ar wyliau, er y bydd ganddynt yr hyblygrwydd i osod cyfyngiadau o ran pryd y gall gwyliau gael eu cymryd, yn ôl anghenion y busnes a chyhyd â bod y rhybudd cywir yn cael ei roi. Mae hyn yn berthnasol i’r cyfnod ffyrlo a’r cyfnod adfer, fel ei gilydd.

Os yw cyflogai fel arfer yn gweithio ar wyliau banc, gall y cyflogwr gytuno bod hyn yn cael ei gynnwys yn y taliad grant. Os yw’r cyflogai fel arfer yn cymryd gwyliau banc fel absenoldeb, byddai’n rhaid i’r cyflogwr naill ai ychwanegu at ei dâl gwyliau arferol, neu roi diwrnod o wyliau i’r cyflogai yn lle hynny.

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am dâl gwyliau yn ystod cyfnod ffyrlo.

Cyflogeion sy’n gweithio i gyflogwr gwahanol

Os caniateir hynny drwy gontract, caniateir i’ch cyflogeion weithio i gyflogwr arall tra’ch bod wedi eu rhoi ar ffyrlo.

O ran unrhyw gyflogwr sy’n hurio cyflogai newydd, dylai’r cyflogwr newydd sicrhau ei fod yn llenwi’r rhestr wirio ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn yn gywir. Os caiff y cyflogai ei roi ar ffyrlo gan gyflogwr arall, dylai lenwi ‘datganiad C’ ar y rhestr.

Os yw’ch cyflogai’n gwneud gwaith gwirfoddol

Gall cyflogai sydd ar ffyrlo ymgymryd â gwaith gwirfoddol yn ystod oriau yr ydych yn cofnodi ei fod ar ffyrlo, ar yr amod bod y gwaith gwirfoddol hwnnw ar gyfer cyflogwr neu sefydliad arall.

Os yw’ch cyflogai’n ymgymryd â hyfforddiant

Gall cyflogeion sydd ar ffyrlo ymgymryd â hyfforddiant yn ystod oriau yr ydych yn cofnodi eu bod ar ffyrlo, ar yr amod nad ydynt, wrth ymgymryd â’r hyfforddiant, yn darparu gwasanaethau i’w sefydliad nac yn cynhyrchu refeniw ar ei gyfer, nac ar ran eu sefydliad neu sefydliad cysylltiedig. Dylid annog cyflogeion ar ffyrlo i ymgymryd â hyfforddiant.

Ni fyddai unrhyw gyflogai yn cael ei ystyried fel pe bai’n ymwneud yn uniongyrchol neu’n weithredol ag ymchwil a datblygiad perthnasol yn ystod y cyfnod hyfforddi hwn, ac ni ddylid ei gynnwys mewn unrhyw hawliadau a wneir am Gredyd Gwariant Ymchwil a Datblygu (RDEC) nac unrhyw hawliadau eraill cysylltiedig ag ymchwil a datblygiad.

Rhagor o wybodaeth am hyfforddiant sydd ar gael.

Pan fydd cyflogeion sydd ar ffyrlo yn ymgymryd â hyfforddiant yn ystod oriau yr ydych yn cofnodi eu bod ar ffyrlo, ar gais eu cyflogwr, mae ganddynt hawl i gael eu talu o leiaf eu hisafswm cyflog cenedlaethol priodol am yr amser hwn. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y taliad ffyrlo, sef 80% o gyflog arferol y cyflogai, hyd at £2,500, yn rhoi digon o arian i dalu am yr oriau hyfforddi hyn. Fodd bynnag, pan fydd yr amser a dreulir ar hyfforddiant yn golygu hawl i isafswm cyflog sy’n fwy na’r taliad ffyrlo, bydd angen i gyflogwyr dalu’r cyflog ychwanegol (gweler yr Adran Isafswm Cyflog Cenedlaethol am ragor o fanylion).

Cyflogeion ar ffyrlo sy’n gweithio fel cynrychiolwyr undeb neu gynrychiolwyr nad ydynt yn aelod o undeb neu fel ymddiriedolwyr pensiwn

Yn ystod oriau yr ydych yn cofnodi bod eich cyflogai ar ffyrlo, gall cyflogeion sy’n gynrychiolwyr undeb – neu’n gynrychiolwyr nad ydynt yn aelod o undeb – gyflawni dyletswyddau a gweithgareddau at ddibenion cynrychioli cyflogeion neu weithwyr eraill ar sail unigol neu gyfunol. Fodd bynnag, wrth wneud hyn, rhaid iddynt beidio â darparu gwasanaethau i neu ar ran eich sefydliad neu sefydliad cysylltiedig, na chynhyrchu refeniw ar eu cyfer.

Yn ystod oriau yr ydych yn cofnodi bod eich cyflogai ar ffyrlo, gall cyflogeion sy’n ymddiriedolwyr cynlluniau pensiwn neu sy’n gyfarwyddwyr ymddiriedol i ymddiriedolwyr corfforaethol ymgymryd â dyletswyddau ymddiriedolwr mewn perthynas â’r cynllun pensiwn. Fodd bynnag, ni all ymddiriedolwr cynllun pensiwn proffesiynol ac annibynnol, sydd wedi’i roi ar ffyrlo gan y cwmni ymddiriedol annibynnol, ymgymryd â gwaith ymddiriedolwr a fyddai’n darparu gwasanaethau i neu ar ran y cwmni ymddiriedol annibynnol, neu unrhyw sefydliad sy’n gysylltiedig â’r cwmni ymddiriedol annibynnol, na chynhyrchu refeniw ar eu cyfer, yn ystod oriau yr ydych yn cofnodi eu bod ar ffyrlo.

Cyn i chi hawlio

Bydd angen i chi gyfrifo faint y gallwch ei hawlio drwy’r cynllun. Bydd CThEM yn cadw’r hawl i archwilio pob agwedd ar eich hawliad yn ôl-weithredol.

Dylai cyflogwyr drafod â’u staff a gwneud unrhyw newidiadau i’r contract cyflogaeth drwy gytundeb.

Mae’n bosibl y bydd angen i gyflogwyr geisio cyngor cyfreithiol ar y broses. Os oes digon o staff ynghlwm, efallai y bydd angen defnyddio prosesau ymgynghori ar y cyd er mwyn sicrhau bod pawb yn cytuno ar newidiadau i delerau cyflogaeth.

Ni all CThEM roi manylion hawliadau a wnewch ar ran eich cyflogeion iddynt. Helpwch ni drwy sicrhau bod eich cyflogeion yn gyfarwydd â hyn oll, gan ateb unrhyw gwestiynau a allai fod ganddynt. Gofynnwch iddynt beidio â chysylltu â CThEM.

Manylion eich hawliad a fydd ar gael i’r cyhoedd

Os byddwch yn hawlio am gyfnodau sy’n dechrau ar 1 Rhagfyr 2020 neu ar ôl hynny, bydd CThEM yn cyhoeddi manylion eich hawliad ar GOV.UK. Rydym yn gwneud hyn er mwyn:

  • bodloni ein hymrwymiadau o ran tryloywder
  • atal hawliadau twyllodrus

Byddwn yn cyhoeddi’r wybodaeth hon bob mis, gan ddiweddaru gwybodaeth y mis blaenorol gydag unrhyw newidiadau. Gallwch wneud y canlynol:

Gall cyflogeion sydd ar ffyrlo weld a gawsant eu cynnwys mewn grant ar gyfer cyfnodau hawlio blaenorol yn eu cyfrif treth personol.

Os ydych wedi ad-dalu swm llawn eich grant ar gyfer y misoedd cyhoeddedig, ni fyddant yn gallu gweld yr wybodaeth honno mwyach.

Caiff yr wybodaeth hon ei diweddaru yn fisol gyda’r data diweddaraf sydd ar gael.

Rhoi gwybod i CThEM am dwyll

Bydd CThEM yn gwirio hawliadau, ac mae’n bosibl y caiff taliadau eu hatal, neu y bydd angen eu had-dalu, os canfyddir bod hawliad yn dwyllodrus neu’n seiliedig ar wybodaeth anghywir.

Gall y cyhoedd roi gwybod i CThEM am dwyll os oes ganddynt dystiolaeth sy’n awgrymu bod cyflogwr ar y rhestr yn camddefnyddio’r cynllun.

Cysylltu â CThEM

Defnyddiwch gynorthwyydd digidol CThEM i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y cynlluniau cymorth yn sgil coronafeirws.

Gallwch hefyd gysylltu â CThEM os nad oes modd i chi gael yr help sydd ei angen arnoch ar-lein. Rydym yn derbyn nifer fawr iawn o alwadau ar hyn o bryd. Peidiwch â chysylltu â CThEM yn ddiangen. Bydd hyn yn ein helpu i reoli ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol yn ystod y cyfnod heriol hwn.

Nid oes hawl i apelio os nad ydych yn gymwys ar gyfer y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws.

Dylech hefyd gysylltu â ni os ydych yn credu nad ydych yn bodloni’r meini prawf cymhwystra oherwydd:

  • gwall gan CThEM
  • oedi afresymol a achoswyd gan CThEM

Gallwch ddefnyddio ein gwasanaeth cwynion os nad ydych yn fodlon â’r ffordd rydym wedi ymdrin â’ch hawliad.

Help a chymorth arall

Gallwch wylio fideos a chofrestru ar gyfer gweminarau rhad ac am ddim er mwyn dysgu rhagor am y cymorth sydd ar gael i’ch helpu i fynd i’r afael ag effeithiau economaidd coronafeirws.

Gallwch ddarllen fersiynau blaenorol o’r arweiniad hwn yn yr Archifau Cenedlaethol.

Argraffu'r dudalen hon